xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2012 Rhif 1903 (Cy.230)

CYRFF CYHOEDDUS, CYMRU

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012

Gwnaed

18 Gorffennaf 2012

Yn dod i rym

gweler erthygl 1

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 13(7) a 15(1) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011(1) (“y Ddeddf”), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Yn unol ag adran 16 o'r Ddeddf, mae Gweinidogion Cymru o'r farn—

(a)wedi iddynt roi sylw i'r ffactorau a nodir yn adran 16(1) o'r Ddeddf, bod y Gorchymyn hwn yn ateb y diben o wella'r broses o arfer swyddogaethau cyhoeddus;

(b)nad yw'r Gorchymyn hwn yn dileu unrhyw ddiogelwch angenrheidiol nac yn atal unrhyw berson rhag parhau i arfer unrhyw hawl neu ryddid y gallai'r person hwnnw ddisgwyl yn rhesymol barhau i'w harfer neu i'w arfer.

Mae Gweinidogion Cymru wedi cynnal ymgynghoriad yn unol ag adran 18 o'r Ddeddf.

Mae drafft o'r Gorchymyn hwn a dogfen esboniadol sy'n cynnwys yr wybodaeth sy'n ofynnol o dan adran 19(2) o'r Ddeddf wedi eu gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 19(1) ar ôl diwedd y cyfnod o ddeuddeng wythnos a grybwyllir yn adran 19(3).

Yn unol ag adran 19(4) o'r Ddeddf, mae'r drafft o'r Gorchymyn hwn fel y'i gosodwyd wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar ôl diwedd y cyfnod o 40 niwrnod y cyfeirir ato yn y ddarpariaeth honno.

RHAN 1 —RHAGARWEINIOL

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012.

(2Daw'r Gorchymyn hwn i rym drannoeth y diwrnod y caiff ei wneud.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn, mae i “y Corff” (“the Body”) yr ystyr a roddir iddo gan erthygl 3(1).

RHAN 2 —SEFYDLU A SWYDDOGAETHAU CYFFREDINOL

Y Corff

3.—(1Bydd corff corfforaethol o'r enw Corff Adnoddau Naturiol Cymru neu Natural Resources Body for Wales (y cyfeirir ato yn y Gorchymyn hwn fel “y Corff”).

(2Mae'r Atodlen yn cynnwys darpariaethau pellach am y Corff.

Diben y Corff

4.—(1Diben y Corff yw sicrhau bod amgylchedd ac adnoddau naturiol Cymru—

(a)yn cael eu cynnal yn gynaliadwy;

(b)yn cael eu gwella yn gynaliadwy; ac

(c)yn cael eu defnyddio yn gynaliadwy.

(2Yn yr erthygl hon—

(a)ystyr “yn gynaliadwy” (“sustainably”) yw—

(i)gyda golwg ar wneud lles, a

(ii)mewn modd sydd wedi ei ddylunio i wneud lles,

i bobl, amgylchedd ac economi Cymru yn awr ac yn y dyfodol;

(b)mae “amgylchedd” (“environment”) yn cynnwys, heb gyfyngiad, organeddau byw ac ecosystemau.

(3Lle bynnag y bo'r Corff yn arfer unrhyw swyddogaeth mewn perthynas â pharth Cymru (fel y diffinnir “Welsh zone” yn adran 158(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(2)), neu unrhyw swyddogaeth sy'n effeithio ar y parth hwnnw, mae'r ddau gyfeiriad at “Cymru” ym mharagraff (1) i'w dehongli fel eu bod yn cynnwys cyfeiriadau at barth Cymru.

(4Lle bynnag y bo'r Corff yn arfer swyddogaeth mewn perthynas ag unrhyw ardal arall y tu allan i Gymru, neu mewn modd sy'n effeithio ar ardal o'r fath, mae'r ddau gyfeiriad at “Cymru” ym mharagraff (1) i'w dehongli fel eu bod yn cynnwys cyfeiriadau at yr ardal o dan sylw.

(5Nid yw paragraff (1) yn rhoi i'r Corff bŵer—

(a)i wneud unrhyw beth na fyddai ganddo'r pŵer i'w wneud fel arall, neu

(b)i arfer unrhyw un o'i swyddogaethau mewn modd sy'n groes i ddarpariaethau unrhyw ddeddfiad arall neu unrhyw rwymedigaeth UE(3).

Canllawiau o ran diben y Corff

5.—(1Caiff Gweinidogion Cymru roi canllawiau i'r Corff o ran y modd y dylai arfer ei swyddogaethau er mwyn rhoi effaith i'w ddiben.

(2Wrth lunio unrhyw ganllawiau o dan baragraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i gyfrifoldebau ac adnoddau'r Corff.

(3Wrth gyflawni ei swyddogaethau, rhaid i'r Corff roi sylw i'r canllawiau a roddir o dan yr erthygl hon.

(4Cyn rhoi canllawiau i'r Corff o dan yr erthygl hon, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Corff ac unrhyw gyrff neu bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn briodol.

(5Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw ganllawiau a roddir o dan yr erthygl hon cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl rhoi'r canllawiau.

(6Mae'r pŵer i roi canllawiau o dan yr erthygl hon yn cynnwys pŵer i'w hamrywio neu i'w dirymu.

Swyddogaeth gychwynnol y Corff

6.—(1Mae gan y Corff y swyddogaethau a nodir yn is-baragraffau (a) a (b)—

(a)y swyddogaeth o hwyluso'r gwaith o weithredu unrhyw un o gynigion Gweinidogion Cymru ar gyfer trosglwyddo unrhyw un o'r canlynol (wedi ei addasu neu beidio) i'r Corff—

(i)unrhyw un o swyddogaethau Cyngor Cefn Gwlad Cymru;

(ii)unrhyw un o swyddogaethau Asiantaeth yr Amgylchedd neu'r Comisiynwyr Coedwigaeth sydd wedi ei datganoli i Gymru(4);

(iii)unrhyw un o swyddogaethau un o Bwyllgorau Llifogydd ac Arfordir Cymru(5);

(iv)unrhyw un o'u swyddogaethau eu hunain sy'n ymwneud â'r amgylchedd; neu

(v)unrhyw swyddogaeth amgylcheddol Gymreig(6) unrhyw berson;

(b)y swyddogaeth o hwyluso'r gwaith o weithredu unrhyw un o gynigion eraill Gweinidogion Cymru a wnaed mewn cysylltiad ag unrhyw gynigion sy'n dod o fewn is-baragraff (a)—

(i)sy'n ymwneud â phwnc y cynigion hynny, neu

(ii)sy'n ganlyniad neu'n atodol i'r cynigion hynny neu sy'n gysylltiedig â hwy, neu sy'n ymwneud â materion trosiannol.

(2Mae paragraff (1) yn gymwys i gynnig gan Weinidogion Cymru ni waeth a yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu unrhyw berson neu gorff arall wedi rhoi unrhyw gydsyniad neu gymeradwyaeth y mae, yn ôl y gyfraith, gweithredu'r cynnig hwnnw yn dibynnu arni, ond nid yw'n dileu'r angen i gael unrhyw gydsyniad neu gymeradwyaeth o'r fath cyn y gellir gweithredu'r cynnig.

7.—(1Rhaid i'r Corff gyflawni ei swyddogaethau o dan erthygl 6(1) yn ôl y meini prawf a nodir yn y paragraffau a ganlyn.

(2Y maen prawf cyntaf yw bod yn rhaid i'r Corff sicrhau, i'r graddau y mae'n bosibl heb gyfaddawdu'r gwaith o gyflawni ei swyddogaethau o dan erthygl 6(1), bod yna gydweithredu effeithiol mewn perthynas â'r gwaith o weithredu unrhyw gynnig rhyngddo ef, Gweinidogion Cymru ac unrhyw berson neu gorff arall—

(a)y cyfeirir ato yn erthygl 6(1)(a), a

(b)yr effeithir arno gan y cynnig perthnasol.

(3Yr ail faen prawf yw na chaniateir i'r Corff ymyrryd ag unrhyw un o'r personau neu'r cyrff a grybwyllir yn erthygl 6(1)(a) wrth iddynt gyflawni unrhyw un o'u swyddogaethau yn effeithiol.

Dyletswydd gyffredinol y Corff i roi sylw i gostau a buddiannau wrth arfer pwerau

8.—(1Wrth ystyried p'un ai arfer unrhyw bŵer a roddwyd iddo gan unrhyw ddeddfiad neu o dano ai peidio, rhaid i'r Corff ystyried y costau a'r buddiannau sy'n debygol o ddeillio o arfer y pŵer hwnnw neu beidio.

(2Wrth benderfynu ar y modd i arfer unrhyw bŵer o'r fath, rhaid i'r Corff ystyried y costau a'r buddiannau sy'n debygol o ddeillio o'i arfer yn y modd o dan sylw.

(3Mae'r dyletswyddau ym mharagraffau (1) a (2) yn gymwys oni bai, neu i'r graddau, ei bod yn afresymol i'r Corff fod yn ddarostyngedig iddynt o ystyried natur neu ddiben y pŵer neu o dan amgylchiadau'r achos penodol.

(4Ond nid yw'r dyletswyddau hynny'n effeithio ar rwymedigaeth y Corff i gyflawni unrhyw ddyletswyddau, cydymffurfio ag unrhyw ofynion, neu fynd ar drywydd unrhyw amcanion, a osodwyd arno neu a roddwyd iddo gan unrhyw ddeddfiad ac eithrio'r erthygl hon.

Swyddogaeth gysylltiedig gyffredinol y Corff

9.—(1Caiff y Corff wneud unrhyw beth yr ymddengys iddo ei fod yn gydnaws neu'n gysylltiedig â chyflawni ei swyddogaethau.

(2Yn benodol, caiff y Corff—

(a)ymrwymo i gytundebau;

(b)caffael neu waredu eiddo a gwneud gwaith peirianyddol neu waith adeiladu yn unol â'r hyn y mae'n ei ystyried yn briodol;

(c)yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru, ffurfio cyrff corfforaethol neu gaffael neu waredu buddiannau mewn cyrff corfforaethol;

(d)ffurfio ymddiriedolaethau elusennol;

(e)derbyn rhoddion;

(f)buddsoddi arian.

(3Yn yr erthygl hon, mae “gwaith peirianyddol neu waith adeiladu” (“engineering or building operations”), heb ragfarnu cyffredinolrwydd yr ymadrodd hwnnw, yn cynnwys—

(a)adeiladu, newid, gwella, cynnal a chadw neu ddymchwel unrhyw adeilad neu strwythur neu unrhyw gronfa ddŵr, cwrs dŵr, argae, cored, ffynnon, twll turio neu waith arall, a

(b)gosod neu addasu unrhyw beiriannau neu gyfarpar neu gael gwared ag unrhyw beiriannau neu gyfarpar.

Cyngor a chymorth i Weinidogion Cymru

10.  Rhaid i'r Corff roi i Weinidogion Cymru unrhyw gyngor a chymorth y byddant yn gofyn amdanynt.

Cyfarwyddiadau

11.—(1Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddiadau cyffredinol neu benodol i'r Corff o ran arfer ei swyddogaethau.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw gyfarwyddiadau a roddir o dan yr erthygl hon cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl rhoi'r cyfarwyddiadau.

(3Mae'r pŵer i roi cyfarwyddiadau o dan yr erthygl hon yn cynnwys pŵer i amrywio neu i ddirymu'r cyfarwyddiadau.

(4Rhaid i'r Corff gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir o dan yr erthygl hon.

RHAN 3 —MATERION ARIANNOL

Grantiau

12.—(1Caiff Gweinidogion Cymru roi grantiau i'r Corff.

(2Gall grant o dan yr erthygl hon gael ei roi yn ddarostyngedig i amodau.

Dyletswyddau ariannol cyffredinol

13.—(1Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu dyletswyddau ariannol y Corff.

(2Gellir gwneud penderfyniadau gwahanol ar gyfer swyddogaethau a gweithgareddau gwahanol y Corff.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)ymgynghori â'r Corff cyn gwneud penderfyniad am ddyletswyddau ariannol y Corff, a

(b)rhoi hysbysiad i'r Corff am bob penderfyniad o'r fath y maent yn ei wneud.

(4Caiff penderfyniad o'r fath—

(a)ymwneud â chyfnod sy'n dechrau cyn y dyddiad y'i gwneir, arno neu ar ei ôl;

(b)cynnwys darpariaethau atodol; ac

(c)cael ei amrywio gan benderfyniad dilynol.

(5Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i'r Corff gan ei gwneud yn ofynnol iddo dalu iddynt swm sy'n gyfartal â'r cyfan o unrhyw swm neu ran ohono a bennir yn y cyfarwyddyd, neu unrhyw swm o ddisgrifiad a bennir felly a hwnnw'n swm sy'n cael neu sydd wedi cael ei dderbyn gan y Corff hwnnw.

(6Lle yr ymddengys i Weinidogion Cymru fod gan y Corff warged, p'un ai ar gyfrif cyfalaf neu refeniw, cânt gyfarwyddo'r Corff i dalu iddynt swm nad yw'n fwy na'r gwarged hwnnw a bennir yn y cyfarwyddyd.

(7Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Corff cyn rhoi cyfarwyddyd o dan baragraff (5) neu (6).

Pwerau benthyca

14.—(1Caiff y Corff fenthyca yn unol â darpariaethau canlynol yr erthygl hon, ond nid fel arall.

(2Caiff y Corff fenthyca symiau o'r fath mewn sterling ag y mae eu hangen arno i gyflawni ei rwymedigaethau a'i swyddogaethau.

(3Caiff y Corff fenthyca—

(a)gan Weinidogion Cymru, neu

(b)gan bersonau ac eithrio Gweinidogion Cymru, ond dim ond gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru.

(4Caniateir i gydsyniad gael ei roi o dan baragraff (3)(b) yn ddarostyngedig i amodau.

Gwarantau Gweinidogion Cymru o ran benthyca gan y Corff

15.—(1Caiff Gweinidogion Cymru warantu, yn y fath fodd ac ar yr amodau sy'n briodol yn eu barn hwy, yr ad-daliad o unrhyw brif swm y mae'r Corff yn ei fenthyca gan unrhyw berson, y taliad o log ar y swm hwnnw a chyflawni unrhyw rwymedigaeth ariannol arall sy'n gysylltiedig ag ef.

(2Os telir unrhyw symiau er mwyn cyflawni gwarant o dan yr erthygl hon, rhaid i'r Corff dalu i Weinidogion Cymru, ar yr adegau ac yn y modd y byddant yn ei gyfarwyddo o bryd i'w gilydd,—

(a)symiau yn ôl eu cyfarwyddyd i ad-dalu neu tuag at ad-dalu'r symiau hynny a dalwyd, a

(b)taliadau llog, ar y gyfradd yn ôl eu cyfarwyddyd, ar yr hyn sy'n weddill ar hyn o bryd mewn cysylltiad â'r symiau hynny a dalwyd.

John Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru

18 Gorffennaf 2012

Erthygl 3

YR ATODLENDarpariaethau pellach am y Corff

Statws

1.—(1Nid yw'r Corff i'w ystyried yn was nac yn asiant i'r Goron neu'n un sy'n mwynhau unrhyw statws, imiwnedd na braint sydd gan y Goron.

(2Nid yw eiddo'r Corff i'w ystyried yn eiddo'r Goron neu'n eiddo sy'n cael ei ddal ar ran y Goron.

Aelodaeth

2.—(1Rhaid i'r Corff gynnwys—

(a)cadeirydd a benodir gan Weinidogion Cymru;

(b)dim llai na 5 na mwy nag 11 o aelodau eraill a benodir gan Weinidogion Cymru;

(c)y prif weithredwr (gweler paragraff 13); a

(d)dim llai na 2 na dim mwy na 4 o aelodau eraill a benodir gan y Corff.

(2Yn achos penodiadau cychwynnol i'r Corff, mae penodiadau o dan is-baragraff (1)(d) i'w gwneud gan yr aelodau a benodir o dan is-baragraff (1)(a) i (c), ac mae'r ymadrodd “y Corff” (“the Body”) i'w ddehongli yn unol â hynny.

(3Ni chaniateir i'r cadeirydd a'r aelodau eraill a benodir gan Weinidogion Cymru o dan is-baragraff (1)(b) fod yn gyflogeion i'r Corff a chyfeirir atynt yn yr Atodlen hon fel “aelodau anweithredol” (“non-executive members”).

(4Mae'r prif weithredwr a'r aelodau eraill a benodir gan y Corff o dan is-baragraff (1)(d) i fod yn gyflogeion i'r Corff a chyfeirir atynt yn yr Atodlen hon fel “aelodau gweithredol” (“executive members”).

(5Caiff Gweinidogion Cymru benodi un o'r aelodau anweithredol yn ddirprwy gadeirydd.

(6Wrth benodi person yn aelod, rhaid i Weinidogion Cymru neu'r Corff (yn ôl y digwydd) roi sylw i'r ffaith ei bod yn ddymunol—

(a)penodi person sydd â phrofiad o ddelio â mater sy'n berthnasol i arfer swyddogaethau'r Corff neu sydd wedi dangos gallu yn hynny o beth, a

(b)sicrhau bod amrywiaeth o sgiliau a phrofiad ar gael ymhlith yr aelodau.

Darpariaethau pellach yn ymwneud ag aelodaeth gychwynnol

3.  Ym mharagraff 2(6), mae'r cyfeiriad at swyddogaethau'r Corff yn cynnwys unrhyw swyddogaethau a fyddai'n cael eu trosglwyddo i'r Corff pe bai cynnig a wnaed gan Weinidogion Cymru ac sy'n dod o fewn erthygl 6(1) yn cael ei weithredu.

4.—(1Caiff Gweinidogion Cymru enwebu un aelod o staff Llywodraeth Cynulliad Cymru yn aelod o'r Corff.

(2Ym mharagraff 2(1), mae'r cyfeiriad at aelodau a benodir gan Weinidogion Cymru yn cynnwys aelod a enwebir o dan y paragraff hwn.

(3Bydd person a enwebir o dan y paragraff hwn yn peidio â bod yn aelod o'r Corff pan fydd yn peidio â bod yn gyflogedig gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, a beth bynnag ar y dyddiad y trosglwyddir unrhyw swyddogaeth i'r Corff o ganlyniad i gynnig gan Weinidogion Cymru sy'n dod o fewn erthygl 6(1).

Deiliadaeth swydd

5.  Yn ddarostyngedig i baragraff 4(3) (pan fo'n gymwys) a pharagraffau 6 i 8—

(a)mae aelod yn dal ac yn gadael ei swydd yn unol â thelerau ei enwebiad neu ei benodiad;

(b)mae dirprwy gadeirydd yn dal ac yn gadael y swydd honno yn unol â thelerau'r penodiad hwnnw.

6.—(1Caiff person ymddiswyddo o'i swydd fel aelod anweithredol, neu fel dirprwy gadeirydd, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.

(2Caiff person ymddiswyddo o'i swydd fel aelod gweithredol drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Corff.

7.—(1Caiff Gweinidogion Cymru ddiswyddo person o'i swydd fel aelod anweithredol, neu fel dirprwy gadeirydd, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig.

(2Caiff y Corff ddiswyddo person o'i swydd fel aelod gweithredol drwy roi hysbysiad ysgrifenedig.

(3Ni chaniateir rhoi hysbysiad o dan y paragraff hwn ond i berson—

(a)a fu'n absennol o gyfarfodydd y Corff am gyfnod o fwy na 3 mis heb ganiatâd y Corff;

(b)sydd wedi methu â chydymffurfio â thelerau'r penodiad;

(c)sydd wedi mynd yn fethdalwr neu wedi gwneud trefniant gyda chredydwyr, y mae ei ystâd wedi ei secwestru yn yr Alban, neu sydd wedi ymuno â rhaglen trefnu dyledion o dan Ran 1 o Ddeddf Trefnu ac Atafaelu Dyledion (yr Alban) 2002 (dsa 17) fel y dyledwr neu sydd, o dan gyfraith yr Alban, wedi gwneud compównd neu drefniant gyda chredydwyr yr aelod, neu wedi rhoi gweithred ymddiriedaeth ar eu cyfer;

(d)sydd, ym marn y person sy'n rhoi'r hysbysiad, yn anaddas i barhau â'r penodiad oherwydd camymddygiad; neu

(e)sydd, ym marn y person sy'n rhoi'r hysbysiad, fel arall yn analluog, yn anaddas neu'n amharod i gyflawni swyddogaethau'r aelod.

8.—(1Bydd person yn peidio â bod yn ddirprwy gadeirydd pan fydd yn peidio â bod yn aelod.

(2Bydd person yn peidio â bod yn aelod anweithredol pan fydd yn dod yn gyflogai i'r Corff.

(3Bydd person yn peidio â bod yn aelod gweithredol pan fydd yn peidio â bod yn gyflogai i'r Corff.

9.—(1Caniateir i berson sy'n peidio â bod yn aelod, ac aelod sy'n peidio â bod yn ddirprwy gadeirydd, gael eu hailbenodi i'r swyddi hynny.

(2Ond ni chaniateir i berson sydd wedi ei ddiswyddo ar sail camymddygiad a nodir ym mharagraff 7(3)(d) gael ei ailbenodi.

Cydnabyddiaeth ariannol a phensiynau etc aelodau

10.—(1Rhaid i'r Corff dalu i'r aelodau anweithredol ac unrhyw ddirprwy gadeirydd y fath gydnabyddiaeth ariannol a'r lwfansau ag a benderfynir gan Weinidogion Cymru.

(2Caiff Gweinidogion Cymru wneud penderfyniadau gwahanol o dan yr erthygl hon mewn achosion gwahanol.

11.  Rhaid i'r Corff—

(a)talu'r fath bensiynau neu arian rhodd ag a benderfynir gan Weinidogion Cymru i unrhyw aelod anweithredol neu gyn-aelod anweithredol, neu mewn cysylltiad ag ef;

(b)talu'r fath symiau ag a benderfynir gan Weinidogion Cymru tuag at ddarpariaeth ar gyfer talu pensiynau neu arian rhodd i unrhyw aelod anweithredol neu gyn-aelod anweithredol, neu mewn cysylltiad ag ef.

12.—(1Bydd yr erthygl hon yn gymwys—

(a)os bydd person yn peidio â bod yn aelod anweithredol, a

(b)os yw'n ymddangos i Weinidogion Cymru fod yna amgylchiadau arbennig sy'n ei gwneud yn briodol i'r person gael ei ddigolledu.

(2Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i'r Corff dalu i'r person y fath swm o ddigollediad ag a benderfynir gan Weinidogion Cymru.

Staff

13.—(1Rhaid i'r Corff benodi person yn brif weithredwr.

(2Rhaid bod y person a benodwyd wedi ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru.

(3Caiff Gweinidogion Cymru benodi'r prif weithredwr cyntaf.

(4Caiff y Corff benodi cyflogeion eraill.

14.—(1Caiff y Corff dalu i'w gyflogeion y fath gydnabyddiaeth ariannol a lwfansau ag a benderfynir ganddo.

(2Dim ond gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru y caiff y Corff wneud penderfyniad o dan y paragraff hwn.

15.—(1Caiff y Corff—

(a)talu'r fath bensiynau neu arian rhodd ag a benderfynir ganddo i unrhyw gyflogai neu gyn-gyflogai, neu mewn cysylltiad ag ef, a

(b)talu'r fath symiau ag a benderfynir ganddo tuag at ddarpariaeth ar gyfer talu pensiynau neu arian rhodd i unrhyw gyflogai neu gyn-gyflogai, neu mewn cysylltiad ag ef.

(2Dim ond gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru y caiff y Corff wneud penderfyniad o dan y paragraff hwn.

Gweithdrefn

16.—(1Caiff y Corff benderfynu ei weithdrefn ei hun (gan gynnwys cworwm) a gweithdrefn ei bwyllgorau a'i is-bwyllgorau.

(2Caiff y Corff awdurdodi ei bwyllgorau a'i is-bwyllgorau i benderfynu eu gweithdrefn eu hunain (gan gynnwys cworwm).

(3Ond os yw penderfyniad o dan y paragraff hwn yn darparu ar gyfer cworwm unrhyw gyfarfod, ni ellir bodloni'r cworwm oni bai bod y rhan fwyaf o'r aelodau sy'n bresennol yn aelodau anweithredol.

17.  Ni chaiff unrhyw drafodyn gan y Corff neu unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor ei annilysu gan—

(a)swydd wag cadeirydd, na

(b)unrhyw ddiffyg ym mhenodiad unrhyw aelod.

Dirprwyo swyddogaethau

18.—(1Caiff y Corff awdurdodi un o'i bwyllgorau, ei is-bwyllgorau, ei aelodau neu ei gyflogeion i arfer unrhyw un o'i swyddogaethau.

(2Oni bai bod y Corff yn penderfynu fel arall, caiff un o bwyllgorau'r Corff awdurdodi un o is-bwyllgorau, aelodau neu gyflogeion y Corff i arfer unrhyw un o swyddogaethau'r pwyllgor hwnnw, gan gynnwys swyddogaethau y mae'r Corff wedi eu dirprwyo iddo.

(3Oni bai bod y Corff neu'r pwyllgor perthnasol yn penderfynu fel arall, caiff un o is-bwyllgorau'r Corff awdurdodi un o aelodau neu gyflogeion y Corff i arfer unrhyw un o swyddogaethau'r is-bwyllgor hwnnw, gan gynnwys swyddogaethau y mae'r Corff neu bwyllgor wedi eu dirprwyo iddo.

(4Caiff awdurdodiad o dan ddarpariaethau blaenorol y paragraff hwn fod yn gyffredinol neu'n benodol, a rhaid ei roi yn ysgrifenedig.

(5Rhaid i'r Corff anfon copi o'r awdurdodiad at Weinidogion Cymru.

(6Nid yw darpariaethau blaenorol y paragraff hwn yn atal y Corff (neu'r pwyllgor neu'r is-bwyllgor, yn ôl y digwydd) rhag arfer y swyddogaeth o dan sylw.

Aelodaeth o bwyllgorau ac is-bwyllgorau

19.—(1Caiff pwyllgor neu is-bwyllgor gynnwys personau nad ydynt yn aelodau o'r Corff.

(2Caiff y Corff dalu'r fath gydnabyddiaeth ariannol a lwfansau ag a benderfynir gan Weinidogion Cymru i unrhyw berson—

(a)sy'n aelod o bwyllgor neu is-bwyllgor, ond

(b)nad yw'n aelod o'r Corff nac yn gyflogai iddo.

Gosod y sêl a phrofi dogfennau

20.—(1Rhaid i'r weithred o osod sêl y Corff gael ei dilysu drwy lofnod—

(a)aelod o'r Corff sydd wedi ei awdurdodi (yn gyffredinol neu'n benodol) at y diben hwnnw, neu

(b)cyflogai sydd wedi ei awdurdodi felly.

(2Mae dogfen sydd i bob golwg wedi ei gweithredu'n briodol o dan sêl y Corff—

(a)i'w derbyn fel tystiolaeth, a

(b)i'w thrin fel pe bai wedi ei gweithredu felly oni ddangosir fel arall.

Cynllun Corfforaethol

21.—(1Cyn dechrau pob blwyddyn ariannol, rhaid i'r Corff—

(a)llunio cynllun gan nodi sut y mae'n bwriadu cyflawni ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn ariannol ganlynol, a

(b)cyflwyno'r cynllun i Weinidogion Cymru ei ystyried.

(2Yn y paragraff hwn—

(a)ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw'r cyfnod o 12 mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth, a

(b)blwyddyn ariannol gyntaf y Corff yw'r cyfnod o 12 mis sy'n dod i ben ar yr ail 31 Mawrth ar ôl i'r Corff gael ei sefydlu.

Adroddiad blynyddol

22.—(1Ar gyfer pob blwyddyn ariannol, rhaid i'r Corff—

(a)llunio adroddiad blynyddol ar sut y mae wedi cyflawni ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn honno, a

(b)anfon copi o'r adroddiad at Weinidogion Cymru cyn gynted â phosibl ar ôl diwedd y flwyddyn honno.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o'r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(3Yn y paragraff hwn a pharagraff 23, ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw cyfnod o 12 mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth, ond blwyddyn ariannol gyntaf y Corff yw'r naill neu'r llall o'r canlynol—

(a)y cyfnod sy'n dechrau ar ddiwrnod sefydlu'r Corff ac sy'n dod i ben ar y 31 Mawrth nesaf, neu

(b)cyfnod arall, heb fod yn fwy na 2 flynedd, yn ôl cyfarwyddyd Gweinidogion Cymru.

Cyfrifon

23.—(1Ar gyfer pob blwyddyn ariannol, rhaid i'r Corff—

(a)cadw cyfrifon priodol a chofnodion priodol mewn perthynas â hwy, a

(b)llunio datganiad o gyfrifon,

yn unol â chyfarwyddiadau Gweinidogion Cymru.

(2Rhaid i'r Corff gyflwyno'r datganiad o gyfrifon a gaiff ei lunio o dan y paragraff hwn i Archwilydd Cyffredinol Cymru a Gweinidogion Cymru.

(3Rhaid cyflwyno'r datganiad o gyfrifon ddim hwyrach na 31 Awst yn y flwyddyn ariannol ar ôl y flwyddyn ariannol y mae'r datganiad yn ymwneud â hi.

(4Rhaid i gyfrifon a datganiadau o gyfrifon y Corff roi darlun gwir a theg o—

(a)amgylchiadau'r Corff ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, a

(b)incwm a gwariant y Corff yn y flwyddyn ariannol.

(5Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—

(a)archwilio ac ardystio'r datganiad o gyfrifon ac adrodd arno;

(b)rhoi copi o'r datganiad ardystiedig o gyfrifon, ynghyd â'i adroddiad arno, i'r Corff; ac

(c)heb fod yn hwyrach na 4 mis ar ôl i'r datganiad o gyfrifon gael ei gyflwyno, gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru gopi o'r datganiad ardystiedig o gyfrifon a'r adroddiad.

Gwybodaeth

24.—(1Rhaid i'r Corff roi i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth y mae ei hangen arnynt yn ymwneud ag eiddo'r Corff neu â chyflawni ei swyddogaethau neu â'r ffordd y mae'n bwriadu cyflawni ei swyddogaethau.

(2Rhaid i'r Corff hefyd—

(a)caniatáu i unrhyw berson a awdurdodir gan Weinidogion Cymru arolygu unrhyw gyfrifon, dogfennau neu gofnodion eraill y Corff (ar unrhyw ffurf), a gwneud copïau ohonynt, a

(b)rhoi unrhyw esboniad arnynt y mae ei angen ar y person hwnnw neu Weinidogion Cymru.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn, a wnaed o dan Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011 (“y Ddeddf”), yn sefydlu corff statudol newydd, Corff Adnoddau Naturiol Cymru (“y Corff”), ac yn darparu ar gyfer ei ffurf, ei ddiben, ei aelodaeth, ei weithdrefn, ei lywodraethu ariannol a'i swyddogaethau cychwynnol.

Prif swyddogaeth y Corff ar y cam hwn yw paratoi i ysgwyddo swyddogaethau rheoleiddio sylweddol a swyddogaethau eraill, sy'n ymwneud ag amgylchedd ac adnoddau naturiol Cymru, yn ddiweddarach. Bydd y gwaith rhagbaratoawl hwn yn cynnwys sefydlu strwythurau mewnol y Corff a pharatoi ar gyfer trosglwyddo'r swyddogaethau hynny, ac ar gyfer trosglwyddo staff, eiddo a hawliau a rhwymedigaethau eraill, mewn deddfwriaeth ddilynol.

Mae'r Corff yn cael ei sefydlu fel hyn oherwydd bod Gweinidogion Cymru yn dal wrthi'n llunio eu cynigion terfynol, o dan y Ddeddf, o ran pa swyddogaethau i'w trosglwyddo i'r Corff o'r sefydliadau presennol, ac a ddylid addasu unrhyw un neu rai o'r swyddogaethau hynny.

Mae erthygl 6 yn rhoi i'r Corff ei swyddogaethau rhagbaratoawl cychwynnol. Mae paragraff (1) o erthygl 6 yn dynodi'r categorïau o gynigion Gweinidogion Cymru y mae'r swyddogaeth ragbaratoawl hon yn ymwneud â hwy. Os oes angen i gynnig gael ei gymeradwyo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (neu unrhyw gorff arall) er mwyn iddo gael ei weithredu, mae paragraff (2) yn ei gwneud yn glir nad oes dim yn y Gorchymyn hwn yn dileu'r angen i gael y gymeradwyaeth honno.

Mae'r Gorchymyn hefyd yn rhoi i'r Corff bwerau eraill y gall fod eu hangen arno er mwyn cyflawni ei swyddogaethau rhagbaratoawl: er enghraifft, y pŵer i ymrwymo i gytundebau (erthygl 9), benthyca arian (erthygl 14) a chyflogi staff (paragraff 13(4) o'r Atodlen). Mae'r Gorchymyn hefyd yn gosod amodau penodol ar arfer swyddogaethau'r Corff (gweler erthyglau 7 ac 8).

Yn y Gorchymyn hwn, ni roddir unrhyw swyddogaethau rheoleiddio sylweddol na swyddogaethau eraill i'r Corff mewn perthynas ag amgylchedd neu adnoddau naturiol Cymru. Oni bai neu hyd nes bod y swyddogaethau hynny'n cael eu trosglwyddo i'r Corff, byddant yn parhau i fod yn swyddogaethau'r cyrff neu'r swydd-ddeiliaid y maent wedi eu breinio ynddynt ar hyn o bryd.

Mae'r Gorchymyn yn breinio nifer o swyddogaethau sy'n ymwneud â'r Corff yng Ngweinidogion Cymru, gan gynnwys y pŵer i benodi a diswyddo nifer o'i aelodau (paragraffau 2, 4 a 7 o'r Atodlen); pwerau o ran ei lywodraethu corfforaethol ac ariannol (paragraffau 10 i 15, 18, 19 ac 21 i 24 o'r Atodlen) a phwerau i roi canllawiau (erthygl 5) a chyfarwyddiadau (erthygl 11) i'r Corff.

(2)

2006 p.32 (adran 158(1)). Mewnosodwyd y diffiniad o “Welsh zone” gan adran 43(2) o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (p.23).

(3)

Diffinnir “EU obligation” yn Atodlen 1 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p.68), fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p.7; gweler adran 3 a'r Atodlen). Mae'r diffiniad hwn yn gymwys i ddeddfwriaeth arall yn rhinwedd adran 5 o Ddeddf Dehongli 1978 (p.30) ac Atodlen 1 iddi.

(4)

Gweler adran 36(1) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011 (p.24).

(5)

Gweler adran 13(8) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011.

(6)

Gweler adran 36(1) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011.