Swyddogaeth gysylltiedig gyffredinol y Corff
9.—(1) Caiff y Corff wneud unrhyw beth yr ymddengys iddo ei fod yn gydnaws neu'n gysylltiedig â chyflawni ei swyddogaethau.
(2) Yn benodol, caiff y Corff—
(a)ymrwymo i gytundebau;
(b)caffael neu waredu eiddo a gwneud gwaith peirianyddol neu waith adeiladu yn unol â'r hyn y mae'n ei ystyried yn briodol;
(c)yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru, ffurfio cyrff corfforaethol neu gaffael neu waredu buddiannau mewn cyrff corfforaethol;
(d)ffurfio ymddiriedolaethau elusennol;
(e)derbyn rhoddion;
(f)buddsoddi arian.
(3) Yn yr erthygl hon, mae “gwaith peirianyddol neu waith adeiladu” (“engineering or building operations”), heb ragfarnu cyffredinolrwydd yr ymadrodd hwnnw, yn cynnwys—
(a)adeiladu, newid, gwella, cynnal a chadw neu ddymchwel unrhyw adeilad neu strwythur neu unrhyw gronfa ddŵr, cwrs dŵr, argae, cored, ffynnon, twll turio neu waith arall, a
(b)gosod neu addasu unrhyw beiriannau neu gyfarpar neu gael gwared ag unrhyw beiriannau neu gyfarpar.