- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Rheoliad 23(1), (3)
Math o glaf | Cyfnod dal gafael lleiaf |
---|---|
(a)Claf a oedd o dan 17 oed ar y dyddiad pan ddaeth y driniaeth y mae'r cofnodion yn cyfeirio ati i ben. | Hyd at ben-blwydd y claf yn 25 |
(b)Claf a oedd yn 17 oed ar y dyddiad pan ddaeth y driniaeth y mae'r cofnodion yn cyfeirio ati i ben. | Hyd at ben-blwydd y claf yn 26 |
(c)Claf a fu farw cyn cyrraedd 18 oed | Cyfnod o 8 mlynedd sy'n dechrau ar ddyddiad marwolaeth y claf |
(ch)Claf a dderbyniodd driniaeth am anhwylder meddwl yn ystod y cyfnod y cyfeirir ato yn y cofnodion | Cyfnod o 20 mlynedd sy'n dechrau ar ddyddiad yr eitem olaf yn y cofnod |
(d)Claf a dderbyniodd driniaeth ar gyfer anhwylder meddwl yn ystod y cyfnod y cyfeirir ato yn y cofnodion ac a fu farw tra'n derbyn y driniaeth honno | Cyfnod o 8 mlynedd sy'n dechrau ar ddyddiad marwolaeth y claf |
(dd)Claf y mae ei gofnodion yn ymwneud â thriniaeth gan ymarferydd cyffredinol | Cyfnod o 10 mlynedd sy'n dechrau ar ddyddiad yr eitem olaf yn y cofnod |
(e)Claf a gafodd drawsblaniad organ | Cyfnod o 11 mlynedd sy'n dechrau ar ddyddiad marwolaeth y claf neu ei ryddhau, pa un bynnag yw'r cynharaf |
(f)Cleifion sy'n cymryd rhan mewn treialon clinigol | Cyfnod o 15 mlynedd sy'n dechrau ar ddyddiad cwblhau'r driniaeth |
(ff)Pob achos arall | Cyfnod o 8 mlynedd sy'n dechrau ar ddyddiad yr eitem olaf yn y cofnod |
1. Cofrestr o'r cleifion, sy'n cynnwys—
(a)enw, cyfeiriad, rhif teleffon, dyddiad geni a statws priodasol neu bartneriaeth sifil pob claf;
(b)enw, cyfeiriad a rhif teleffon perthynas agosaf y claf neu unrhyw berson a awdurdodir gan y claf i weithredu ar ran y claf;
(c)enw, cyfeiriad a rhif teleffon ymarferydd cyffredinol y claf;
(ch)pan fo'r claf yn blentyn, enw a chyfeiriad yr ysgol lle mae'r plentyn yn ddisgybl, neu lle bu'n ddisgybl cyn ei dderbyn i sefydliad;
(d)pan fo claf wedi ei dderbyn i warcheidiaeth o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, enw, cyfeiriad a rhif teleffon y gwarcheidwad;
(dd)enw a chyfeiriad unrhyw gorff a drefnodd bod y claf yn cael ei dderbyn neu a drefnodd ei driniaeth;
(e)y dyddiad y derbyniwyd y claf i sefydliad, neu y cafodd y driniaeth a ddarparwyd at ddibenion sefydliad neu at ddibenion asiantaeth am y tro cyntaf;
(f)natur y driniaeth a gafodd y claf, neu y'i derbyniwyd ar ei chyfer;
(ff)os bu'r claf yn glaf mewnol mewn ysbyty annibynnol, y dyddiad y'i rhyddhawyd;
(g)os trosglwyddwyd y claf i ysbyty (gan gynnwys ysbyty gwasanaeth iechyd), dyddiad y trosglwyddiad, y rhesymau dros y trosglwyddiad ac enw'r ysbyty y trosglwyddwyd y claf iddo;
(h)os bydd farw'r claf tra mewn sefydliad neu yn ystod triniaeth a ddarperir at ddibenion sefydliad neu asiantaeth, dyddiad, amser ac achos ei farwolaeth.
2. Cofrestr o'r holl driniaethau llawfeddygol a gyflawnir mewn sefydliad, sy'n cynnwys—
(a)enw'r claf y cyflawnwyd y llawdriniaeth arno;
(b)natur y weithdrefn lawdriniaethol a'r dyddiad y digwyddodd;
(c)enw'r ymarferydd meddygol neu'r deintydd a gyflawnodd y llawdriniaeth;
(ch)enw'r anesthetydd a oedd yn bresennol;
(d)enw a llofnod y person a oedd yn gyfrifol am wirio bod pob nodwydd, swab a chyfarpar a ddefnyddiwyd yn y llawdriniaeth wedi'u cymryd yn ôl o'r claf;
(dd)manylion pob dyfais feddygol a fewnblannwyd yn y claf, ac eithrio pan olygai hynny ddatgelu gwybodaeth yn groes i ddarpariaethau adran 33A(1)(e), (f) ac (g) o Ddeddf Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg 1990(1) (datgelu gwybodaeth).
3. Cofrestr o bob cyfarpar mecanyddol a thechnegol a ddefnyddir at ddibenion triniaethau a ddarperir gan y sefydliad, sy'n cynnwys—
(a)dyddiad prynu'r cyfarpar;
(b)dyddiad gosod y cyfarpar;
(c)manylion cynnal a chadw'r cyfarpar a'r dyddiadau pan wnaed gwaith cynnal a chadw.
4. Cofrestr o bob digwyddiad y mae'n rhaid hysbysu'r awdurdod cofrestru ohonynt yn unol â rheoliadau 29 a 30.
5. Cofnod o'r shifftiau rota a drefnwyd ar gyfer pob cyflogai a chofnod o'r oriau a weithiodd bob person mewn gwirionedd.
6. Cofnod o bob person a gyflogir yn y sefydliad neu at ddibenion y sefydliad neu at ddiben yr asiantaeth, a rhaid i'r cofnod hwnnw gynnwys y materion canlynol mewn perthynas ag unigolyn a ddisgrifir yn rheoliad 21(1)—
(a)enw a dyddiad geni y person;
(b)manylion swydd y person yn y sefydliad;
(c)dyddiadau ei gyflogaeth; ac
(ch)yn achos proffesiynolyn gofal iechyd, manylion ei gymwysterau proffesiynol perthnasol a chofrestriad y person gyda'r corff rheoleiddiol proffesiynol perthnasol.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys