xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
39. Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau, pan fo plentyn yn cael ei drin yn yr ysbyty—
(a)y trinnir y plentyn mewn llety ar wahân i'r llety y trinnir cleifion sy'n oedolion ynddo;
(b)y bodlonir yr anghenion meddygol, corfforol, seicolegol, cymdeithasol ac addysgol penodol a'r anghenion penodol o ran goruchwylio sy'n deillio o oedran y plentyn;
(c)y darperir y driniaeth i'r plentyn gan bersonau sydd â chymwysterau, sgiliau a phrofiad priodol ar gyfer trin plant;
(ch)yr hysbysir rhieni'r plentyn yn llawn ynghylch cyflwr y plentyn ac, i'r graddau y bo'n ymarferol, yr ymgynghorir â hwy ynglŷn â phob agwedd ar y driniaeth a roddir i'r plentyn, ac eithrio pan fo'r plentyn ei hunan yn gymwys i roi cydsyniad i driniaeth ac nad yw'n dymuno i neb hysbysu nac ymgynghori â'i rieni felly.