- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
46. Mae rheoliadau 47 i 50 yn gymwys i ysbytai annibynnol o'r mathau canlynol—
(a)y rhai y mae darparu triniaeth feddygol neu seiciatrig ar gyfer anhwylder meddwl yn brif ddiben iddynt; a
(b)y rhai lle y darperir triniaeth neu nyrsio (neu'r ddau) i bersonau sy'n agored i'w caethiwo o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.
47.—(1) Rhaid i'r datganiad o bolisïau a gweithdrefnau sydd i'w baratoi a'i weithredu gan y person cofrestredig yn unol â rheoliad 9(1)(d) gynnwys polisïau a gweithdrefnau mewn perthynas â'r canlynol—
(a)asesu tueddiad claf tuag at drais a hunan-niwed;
(b)darparu gwybodaeth i gyflogeion ynghylch canlyniad asesiad o'r fath;
(c)asesu effaith cynllun safle mangre'r ysbyty, ei bolisïau a'i weithdrefnau, ar y risg y bydd claf yn niweidio ei hunan neu berson arall; ac
(ch)darparu hyfforddiant i alluogi cyflogeion i leihau'r risg y bydd claf yn niweidio ei hun neu berson arall.
(2) Yn benodol, rhaid i'r person cofrestredig baratoi a gweithredu protocol ar hunanladdiad yn yr ysbyty sy'n ei gwneud yn ofynnol—
(a)cynnal archwiliad cynhwysfawr o gyflwr meddwl pob claf;
(b)gwerthuso hanes anhwylder meddwl y claf, gan gynnwys adnabod tueddiadau hunanladdol;
(c)gwneud asesiad o dueddiad y claf i hunanladdiad; ac
(ch)pan fo angen, cymryd camau priodol i leihau'r risg y gallai'r claf ladd ei hunan.
48. Rhaid i'r person cofrestredig baratoi a gweithredu polisïau a gweithdrefnau ysgrifenedig yn yr ysbyty mewn perthynas â chleifion yn derbyn ymwelwyr.
49. Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau y delir gafael ar unrhyw gofnodion y mae'n ofynnol eu gwneud o dan Reoliadau Iechyd Meddwl (Ysbyty, Gwarcheidiaeth, Triniaeth Gymunedol a Chydsynio i Driniaeth) (Cymru) 2008(1), ac sy'n ymwneud â chadw claf yn gaeth neu roi triniaeth i glaf mewn ysbyty annibynnol, am gyfnod o ddim llai na phum mlynedd sy'n dechrau ar y dyddiad pan fo'r person y mae'r cofnodion yn ymwneud ag ef yn peidio â bod yn glaf yn yr ysbyty.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys