- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
IECHYD Y CYHOEDD, CYMRU
Gwnaed
6 Tachwedd 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
9 Tachwedd 2011
Yn dod i rym
1 Ionawr 2012
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) (Diwygio) 2011 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2012.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 2008” (“the 2008 Regulations”) yw Rheoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2008(3).
2.—(1) Caiff Rheoliadau 2008 eu diwygio yn unol â darpariaethau'r rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 2 (Dehongli) yn y diffiniad o “y Ddeddf” (“the Act”) ar ôl y geiriau “Deddf Safonau Gofal 2000” mewnosoder y geiriau “fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd”.
(3) Yn rheoliad 3 (Personau rhagnodedig)—
(a)ym mharagraff (1) yn lle “Mae deintydd” rhodder “Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae deintydd”;
(b)ym mharagraff (2) yn lle “addasiad a bennir yn rheoliad 4” rhodder “addasiadau a bennir yn rheoliadau 4 a 4A”;
(c)ar ôl paragraff (2) mewnosoder—
“(3) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i ddeintydd—
(a)sydd ar restr arbenigol y gofrestr deintyddion, ac sy'n cael ei gyflogi i ddarparu gwasanaethau mewn cysylltiad â'r arbenigedd honno yn un o ysbytai'r gwasanaeth iechyd ac sy'n darparu gwasanaethau deintyddol preifat yn yr ysbyty hwnnw'n unig;
(b)sy'n darparu gwasanaethau deintyddol preifat mewn ysbyty ac at ddibenion yr ysbyty hwnnw'n unig y mae person wedi cofrestru mewn perthynas ag ef o dan Ran II o'r Ddeddf; neu
(c)sy'n darparu gwasanaethau deintyddol preifat o dan gontract hyfforddiant galwedigaethol yn unig ac sydd wedi gwneud cais i gofrestru o dan Ran II o'r Ddeddf na chafodd ei dynnu'n ôl na'i waredu'n derfynol o fewn ystyr rheoliad 23(3);
(ch)yn is-baragraff (c) uchod mae i “hyfforddiant galwedigaethol” yr un ystyr ag sydd i “vocational training” yn rheoliad 28 o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestri Perfformwyr) (Cymru) 2004(4).”.
(4) Ar ôl rheoliad 4 mewnosoder—
4A. Mae adran 31(5)(a) yn cael effaith megis petai i'w darllen:
“is a medical practitioner, registered nurse or dentist; and”
(5) Yn y rheoliadau canlynol yn Rheoliadau 2008 yn lle £50 rhodder £75—
(a)5(1)(d);
(b)10(2)(d); ac
(c)17.
(6) Ar ôl rheoliad 16 mewnosoder—
16A.—(1) Rhaid i'r person cofrestredig—
(a)asesu a monitro'n rheolaidd ansawdd y gwasanaethau a ddarperir yn erbyn y gofynion a osodir yn y Rheoliadau hyn; a
(b)nodi, asesu a rheoli risgiau sy'n ymwneud ag iechyd, lles a diogelwch cleifion ac eraill.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig anfon i swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru, pan ofynnir iddo wneud hynny, asesiad blynyddol ysgrifenedig (y cyfeirir ato fel yr “adroddiad blynyddol”) yn gosod ar glawr—
(a)amrediad y gwasanaethau a ddarparwyd yn y cyfnod a gwmpesir gan yr adroddiad blynyddol ac unrhyw newidiadau a ragwelir i'r amrediad hwnnw; a
(b)sut, ac i ba raddau, ym marn y person cofrestredig, y cydymffurfir â gofynion paragraff (1), ynghyd ag unrhyw gynlluniau sydd gan y person cofrestredig i godi safon y gwasanaethau a ddarperir i gleifion gyda golwg ar sicrhau eu hiechyd a'u lles.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig gymryd pob cam rhesymol i sicrhau nad yw'r adroddiad blynyddol yn gamarweiniol nac yn anghywir.
(4) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu'r adroddiad blynyddol i swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru o fewn 28 niwrnod o gael cais i wneud hynny o dan baragraff (2).”.
(7) Yn rheoliad 19 yn lle “9 ac 14 i 16” rhodder “6, 7, 9, 14—16A ac 18”.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
6 Tachwedd 2011
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2008. Mae Atodlen 1 i'r Rheoliadau hynny yn rhagnodi sut y mae darpariaethau Rhan II o Ddeddf Safonau Gofal 2000 i'w cymhwyso i bersonau sy'n darparu gwasanaethau deintyddol preifat. Diwygir rheoliad 2 i wneud yn glir fod darpariaethau'r Ddeddf honno yn cynnwys unrhyw ddarpariaethau a ddichon, o bryd i'w gilydd, gael eu diwygio. Diwygir rheoliad 3 er mwyn neilltuo deintyddion penodol, sy'n gweithio dan amodau cymhwyso, rhag bod yn rhagnodedig ac felly rhag bod Rhan II o'r Ddeddf yn gymwys iddynt. Codir y ffioedd sydd i'w talu o dan y Rheoliadau o £50 i £75. Mae rheoliad 4A yn addasu adran 31 o'r Ddeddf i ddarparu, pan fo'r Ddeddf yn caniatáu i glaf gael ei archwilio gan ymarferydd meddygol neu nyrs gofrestredig, y caiff yr archwiliad gael ei wneud gan ddeintydd yn achos claf deintyddol. Mewnosodir rheoliad 16A i wneud hunan-asesiad, monitro'r ddarpariaeth o wasanaethau ac adroddiad blynyddol yn ofynnol. Diwygir rheoliad 19 i gynyddu'r darpariaethau rheoleiddiol y mae methu â chydymffurfio â hwy yn dramgwydd.
2000 p.14. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
Gweler adran 22(9) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p.14) am y gofyniad i ymgynghori.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys