- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
GARDDWRIAETH, CYMRU
Gwnaed
18 Hydref 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
18 Hydref 2011
Yn dod i rym
8 Tachwedd 2011
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) o ran polisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben a grybwyllir yn yr adran honno o'r Ddeddf honno ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau at ddarpariaethau Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn (EU) Rhif 543/2011(3) yn yr offeryn y mae'r Rheoliadau hyn yn ei ddiwygio i gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y darpariaethau hynny fel y'u diwygiwyd o bryd i'w gilydd.
Mae Gweinidogion Cymru'n gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi(4).
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) (Diwygio) 2011.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 8 Tachwedd 2011.
2. Mae Rheoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) 2009(5) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
3. Yn lle “rheolau marchnata'r Gymuned”, ym mhob man (gan gynnwys pennawd rheoliad 4) lle y mae'n digwydd rhodder “rheolau marchnata'r UE”.
4. Yn rheoliad 2—
(a)ym mharagraff (1), yn lle'r diffiniad o “Rheoliad y Comisiwn 1580/2007”, rhodder—
“ystyr “Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn 543/2011” (“Commission Implementing Regulation 543/2011”) yw Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn (EU) Rhif 543/2011 dyddiedig 7 Mehefin 2011 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 mewn perthynas â'r sectorau ffrwythau a llysiau a ffrwythau a llysiau wedi eu prosesu(6), fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.”;
(b)ym mharagraff (2)—
(i)yn lle'r diffiniad o “rheolau marchnata'r UE” (fel y'i diwygiwyd gan reoliad 3), rhodder—
“ystyr “rheolau marchnata'r UE” (“EU marketing rules”) yw'r safon farchnata gyffredinol a'r safonau marchnata penodol sy'n cwmpasu ffrwythau a llysiau ffres a restrir yn Rhan IX o Atodiad I i Reoliad y Cyngor 1234/2007, ac sy'n cynnwys y rheolau sy'n ymwneud â'r safonau hynny a geir yn Erthyglau 113 ac 113a o Reoliad y Cyngor 1234/2007 ac yn Nheitl II o Reoliad Gweithredu'r Comisiwn 543/2011”;
(ii)yn lle'r diffiniad o “safonau marchnata cyffredinol”, rhodder—
“ystyr “safon farchnata gyffredinol” (“general marketing standard”) yw gofynion Erthygl 113a(1) o Reoliad 1234/2007 fel y'u rhoddir yn Erthygl 3(1) a Rhan A o Atodiad I i Reoliad Gweithredu'r Comisiwn 543/2011”;
(iii)yn y diffiniad o “safonau marchnata penodol”, yn lle “Erthygl 2a(2) a Rhan B o Atodiad I i Reoliad y Comisiwn 1580/2007” rhodder “Erthygl 3(2) a Rhan B o Atodiad I i Reoliad Gweithredu'r Comisiwn 543/2011”;
(c)ym mharagraff (3), yn lle “Rheoliad y Comisiwn 1580/2007”, rhodder “Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn 543/2011”.
5. Yn rheoliad 3(1), yn lle “Erthygl 8(1)(b) o Reoliad y Comisiwn 1580/2007”, rhodder “Erthygl 9(1)(b) o Reoliad Gweithredu'r Comisiwn 543/2011”.
6. Yn rheoliad 4(3), yn lle “Rheoliad y Comisiwn 1580/2007”, rhodder “Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn 543/2011”.
7. Yn rheoliad 8(2), yn lle “Atodiad VI i Reoliad y Comisiwn 1580/2007”, rhodder “Atodiad V i Reoliad Gweithredu'r Comisiwn 543/2011”.
8. Yn lle'r Atodlen, rhodder yr Atodlen ganlynol.
Rheoliad 4(3)
| Colofn 1 | Colofn 2 | Colofn 3 |
|---|---|---|
| Darpariaeth berthnasol Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn 543/2011 | Darpariaeth Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn 543/2011 i'w darllen gyda'r ddarpariaeth yng ngholofn 1 | Y pwnc |
| Erthygl 5(1) | Atodiad I, Erthygl 4(3), Erthygl 5(2) i (4), Erthygl 6, Erthygl 7 | Gofyniad cyffredinol ar gyfer manylion gwybodaeth |
| Erthygl 5(2) | Atodiad I, Erthygl 5(1), (3) a (4), Erthygl 7 | Y gofynion ar gyfer manylion gwybodaeth mewn dogfennau sy'n mynd gyda llwythi swmpus a nwyddau a lwythir yn uniongyrchol ar gyfrwng cludo |
| Erthygl 5(3) | Atodiad I, Erthygl 5(1) a (4), Erthygl 7 | Gofyniad ar gyfer manylion gwybodaeth yn achos contractau o bell sydd i fod ar gael cyn cwblhau'r pryniant |
| Erthygl 5(4) | Atodiad I, Erthygl 5(1) i (3), Erthygl 7 | Gofyniad ar gyfer manylion gwybodaeth ar anfonebau a dogfennau sy'n mynd gyda hwy |
| Erthygl 6 | Atodiad I, Erthygl 4(3), Erthygl 7 | Gofyniad ar gyfer manylion gwybodaeth yn y cyfnod manwerthu |
| Erthygl 7(1) | Atodiad I, Erthygl 4(3), Erthygl 6, Erthygl 7(2) a (3) | Y gofynion ar gyfer gwerthu cymysgeddau o wahanol fathau o ffrwythau a llysiau |
| Erthygl 10(6) | Erthygl 10(1) i (5) | Gofyniad i fasnachwyr ddarparu gwybodaeth a ystyrir gan Aelod-wladwriaethau yn angenrheidiol i'r gronfa ddata |
| Erthygl 11(4) | Erthygl 11(1) i (3), Erthygl 12, Erthygl 14 ac Atodiad III, Erthygl 15 | Gofyniad i fasnachwyr ddarparu i gyrff arolygu bob gwybodaeth sy'n ofynnol ganddynt i drefnu a chyflawni eu gwiriadau cydymffurfio |
| Erthygl 17(3), yr is-baragraff olaf | Erthygl 10, Erthygl 17(1), (2) a gweddill (3), Atodiad V | Gofyniad i fasnachwyr ddarparu pob gwybodaeth y bernir ei bod yn angenrheidiol gan y corff arolygu ar gyfer dull yr arolygiad”. |
Alun Davies
Y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd, o dan awdurdod y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, un o Weinidogion Cymru
18 Hydref 2011
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi effaith, o ran Cymru, i Reoliad Gweithredu'r Comisiwn (EU) Rhif 543/2011 dyddiedig 7 Mehefin 2011 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 mewn perthynas â'r sectorau ffrwythau a llysiau a ffrwythau a llysiau wedi eu prosesu (OJ Rhif L 157, 15.6.2011, t.1) “Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn 543/2011”.
Mae Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn 543/2011 yn cydgrynhoi Rheoliad (EC) Rhif 1580/2007 (OJ Rhif L 350, 31.12.2007, t.1) a oedd wedi ei ddiwygio.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) 2009, O.S. 2009/1551 (Cy. 151) er mwyn diweddaru'r cyfeiriadau angenrheidiol at ddeddfwriaeth berthnasol yr UE.
Nid oes asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei lunio ar gyfer yr offeryn hwn, gan na ragwelir y bydd yn effeithio ar y sectorau preifat, gwirfoddol na chyhoeddus.
Yn rhinwedd erthygl 3 o Orchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 5) 2010, O.S. 2010/2690.
OJ Rhif L 157, 15.6.2011, t.1.
Mewnosodwyd paragraff 1A yn Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p.51).
OJ Rhif L 350, 31.12.2007, t.1.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys