Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Ymchwiliadau Lleol, Ymchwiliadau Cymwys a Gweithdrefnau Cymwys (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2011

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 2415 (Cy.261)

TRIBIWNLYSOEDD AC YMCHWILIADAU, CYMRU

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Rheoliadau Ymchwiliadau Lleol, Ymchwiliadau Cymwys a Gweithdrefnau Cymwys (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2011

Gwnaed

3 Hydref 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

4 Hydref 2011

Yn dod i rym

1 Ebrill 2012

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd:

(a)

gan adran 42(4) o Ddeddf Tai a Chynllunio 1986 (“Deddf 1986”)(1) i unrhyw Weinidog a awdurdodwyd, o dan neu yn rhinwedd y darpariaethau statudol hynny a bennir yn adran 42(1)(2) o'r Ddeddf honno neu y cymhwysir yr adran honno iddynt(3), i adennill costau a dynnir gan y Gweinidog mewn perthynas ag ymchwiliad, sef pwerau sy'n arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru(4);

(b)

i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 303A(5) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“Deddf 1990”)(5), ac sy'n arferadwy bellach, o ran ardaloedd awdurdodau cynllunio lleol penodol o fewn Cymru, gan Weinidogion Cymru(6); ac

(c)

i'r Cynulliad Cenedlaethol, fel yr awdurdod priodol, gan adran 303A(5) o Ddeddf 1990(7), sef pwerau sy'n arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru(8).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ymchwiliadau Lleol, Ymchwiliadau Cymwys a Gweithdrefnau Cymwys (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2011 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2012.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “gweithdrefn gymwys” yw gweithdrefn gymwys o fewn yr ystyr sydd i'r term “qualifying procedure” yn adran 303A(1A) o Ddeddf 1990(9), ac a gynhelir mewn perthynas ag ardal awdurdod cynllunio lleol y mae'r diddymiadau a bennir yn Atodlen 1 i Orchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 6, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2005 yn effeithiol mewn cysylltiad ag ef yn unol ag erthygl 2(g) o'r Gorchymyn hwnnw;

ystyr “ymchwiliad cymwys” yw ymchwiliad cymwys o fewn yr ystyr sydd i'r term “qualifying inquiry” yn adran 303A(1) o Ddeddf 1990 (i'r graddau y mae'r adran honno'n parhau i fod ag effaith heb y diwygiad a fewnosodir gan adran 118 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (“Deddf 2004”) a pharagraff 11(2) o Atodlen 6 i'r Ddeddf honno), ac a gynhelir mewn perthynas ag ardal awdurdod cynllunio lleol y mae'r darpariaethau a bennir yn Atodlen 2 i Orchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 6, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2005(10) yn parhau i gael effaith mewn cysylltiad ag ef yn unol ag erthygl 3(3) o'r Gorchymyn hwnnw;

ystyr “ymchwiliad lleol” (“local inquiry”) yw ymchwiliad y mae gan Weinidogion Cymru hawl i adennill eu costau mewn perthynas ag ef o dan neu yn rhinwedd adran 250(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(11) (darpariaeth gyffredinol o ran costau ymchwiliadau) neu adran 69(5) o Ddeddf Draenio Tir 1991(12) (costau ymchwiliad o dan y Ddeddf honno).

Y personau, yr ymchwiliadau a'r gweithdrefnau y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt

3.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran—

(a)ymchwiliad lleol; a

(b)unrhyw berson sydd wedi'i benodi gan Weinidogion Cymru i gynnal ymchwiliad cymwys, neu wedi'i benodi fel un o'r personau a benodwyd felly, ac sydd i gynnal ymchwiliad cymwys; ac

(c)unrhyw berson sydd wedi'i benodi gan Weinidogion Cymru i gynnal gweithdrefn gymwys.

Y swm dyddiol safonol ar gyfer ymchwiliadau lleol

4.  Y swm dyddiol safonol a ragnodir yn unol ag adran 42(4) o Ddeddf 1986 ar gyfer ymchwiliad lleol sy'n agor ar neu ar ôl 1 Ebrill 2012 yw £742.

Y swm dyddiol safonol ar gyfer ymchwiliadau cymwys

5.  Y swm dyddiol safonol a ragnodir yn unol ag adran 303A(5) o Ddeddf 1990 ar gyfer ymchwiliad cymwys sy'n agor ar neu ar ôl 1 Ebrill 2012 yw £679.

Y swm dyddiol safonol ar gyfer gweithdrefnau cymwys

6.  Y swm dyddiol safonol a ragnodir yn unol ag adran 303A(5) o Ddeddf 1990 ar gyfer gweithdrefn gymwys sy'n agor ar neu ar ôl 1 Ebrill 2012 yw £679.

Dirymiadau ac arbedion

7.  Dirymir Rheoliadau Ymchwiliadau Lleol, Ymchwiliadau Cymwys a Gweithdrefnau Cymwys (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2007(13) ac eithrio mewn perthynas ag ymchwiliad yr oedd y Rheoliadau hynny yn gymwys iddo, a agorodd cyn 1 Ebrill 2012 ac sy'n parhau'n agored ar ôl y dyddiad hwnnw ac mewn perthynas â gweithdrefn gymwys a gychwynnodd cyn 1 Ebrill 2012 ac sy'n parhau ar ôl y dyddiad hwnnw.

John Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru

3 Hydref 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu hawdurdodi i adennill oddi wrth awdurdodau lleol gostau a dynnwyd gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad:

(a)ag ymchwiliadau a gynhelir o dan adran 250 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (gan gynnwys ymchwiliadau gorchymyn prynu gorfodol, y cymhwysir darpariaethau perthnasol o'r adran honno iddynt gan adran 5 o Ddeddf Caffael Tir 1981) ac adran 69 o Ddeddf Draenio Tir 1991 (“ymchwiliadau lleol”);

(b)ag ymchwiliadau cymwys fel y'u diffinnir gan adran 303A(1) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (ymchwiliadau a gynhelir mewn perthynas â Chynlluniau Datblygu Unedol ac ystyriaeth o wrthwynebiadau i gynlluniau parth cynllunio syml) (“ymchwiliadau cymwys”); ac

(c)â gweithdrefnau cymwys fel y'u diffinnir gan adran 303A(1A) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (archwiliadau annibynnol a gynhelir mewn perthynas â Chynlluniau Datblygu Lleol ac ymchwiliadau mewn perthynas ag ystyriaeth o wrthwynebiadau i gynlluniau parth cynllunio syml) (“gweithdrefnau cymwys”).

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi'r symiau dyddiol safonol y caiff Gweinidogion Cymru eu hadennill am bob diwrnod—

(a)y bydd ymchwiliad lleol yn eistedd neu y bydd y person a benodwyd i gynnal yr ymchwiliad lleol wrthi rywfodd arall yn gwneud gwaith sy'n gysylltiedig â'r ymchwiliad lleol; neu

(b)y bydd y person a benodwyd i ymgymryd ag ymchwiliad cymwys neu, yn ôl fel y digwydd, gweithdrefn gymwys, wrthi yn gwneud gwaith sy'n gysylltiedig â'r ymchwiliad cymwys neu'r weithdrefn gymwys.

Y swm dyddiol safonol mewn perthynas ag ymchwiliadau lleol sy'n agor ar neu ar ôl 1 Ebrill 2012 yw £742. Mae'r swm hwn yn disodli'r swm o £722, a ragnodwyd gan Reoliadau Ymchwiliadau Lleol, Ymchwiliadau Cymwys a Gweithdrefnau Cymwys (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/728) (Cy.64) (“Rheoliadau 2007”) ar gyfer ymchwiliadau a agorwyd ar neu ar ôl 1 Ebrill 2007.

Y swm dyddiol safonol mewn perthynas ag ymchwiliadau cymwys sy'n agor ar neu ar ôl 1 Ebrill 2012 yw £679. Yr un swm yw hwn ag a ragnodwyd yn flaenorol gan Reoliadau 2007 ar gyfer ymchwiliadau cymwys a agorwyd ar neu ar ôl 1 Ebrill 2007.

Y swm dyddiol safonol mewn perthynas â gweithdrefnau cymwys sy'n agor ar neu ar ôl 1 Ebrill 2012 yw £679. Mae'r swm hwn yn disodli'r swm o £640, a ragnodwyd gan Reoliadau 2007 ar gyfer gweithdrefnau cymwys a agorwyd ar neu ar ôl 1 Ebrill 2007.

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau 2007, ond yn gwneud arbedion mewn perthynas ag ymchwiliadau lleol ac ymchwiliadau cymwys a agorodd cyn 1 Ebrill 2012 ac sy'n parhau'n agored, ac mewn perthynas â gweithdrefnau cymwys a gychwynnodd cyn 1 Ebrill 2012 ac sy'n parhau.

(2)

Diddymwyd adran 42(1)(b) gan Ran I o Atodlen 3 i Ddeddf Cydgyfnerthu Dŵr (Darpariaethau Canlyniadol) 1991 (p.60) a diddymwyd adran 42(1)(d) gan Ran 2 o Atodlen 12 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42). Diddymwyd adran 129(1)(d) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (p.27) (costau ymchwiliad o dan y Ddeddf honno), y cyfeirir ati yn adran 42(1)(c) o Ddeddf 1986, gan Atodlen 3 i Ddeddf Ymchwiliadau 2005 (p.12).

(3)

Mae adran 69(7) o Ddeddf Draenio Tir 1991 (p.59) (“Deddf 1991”) yn darparu bod adran 42 o Ddeddf 1986 yn gymwys pan fo'r naill neu'r llall o “the Ministers” wedi ei awdurdodi gan adran 69(5) o Ddeddf 1991 i adennill costau a dynnwyd gan y Gweinidog hwnnw mewn perthynas ag ymchwiliad a gynhelir gan y Gweinidog, fel y mae'n gymwys pan awdurdodir Gweinidog yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad a bennir yn adran 42(1) o Ddeddf 1986. Gweler adran 72(1) o Ddeddf 1991 a Gorchymyn y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (Diddymu) 2002 (O.S. 2002/794) am diffiniad o “the Ministers” h.y. yr Ysgrifennydd Gwladol neu'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd.

(4)

Trosglwyddwyd y swyddogaethau o dan adran 42 o Ddeddf 1986 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 (O.S. 2000/253 (Cy.5)) ac Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwnnw, i'w harfer mewn perthynas â Chymru yn gydredol ag unrhyw Weinidog y Goron. Trosglwyddwyd y swyddogaethau i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 i'r Ddeddf honno.

(6)

Trosglwyddwyd y swyddogaethau o dan adran 303A(5) o Ddeddf 1990 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i hamrywiwyd gan erthygl 4 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000. Trosglwyddwyd y swyddogaethau i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 i'r Ddeddf honno.

(7)

Diwygiwyd adran 303A(5) mewn perthynas ag ardaloedd awdurdodau cynllunio penodol yng Nghymru gan adran 118(1) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p.5) a pharagraff 11 o Atodlen 6 i'r Ddeddf honno.

(8)

Trosglwyddwyd y swyddogaethau i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 i'r Ddeddf honno.

(9)

Mewnosodwyd adran 303(1A) yn Neddf 1990 gan adran 118 o Ddeddf 2004 a pharagraff 11 o Atodlen 6 i'r Ddeddf honno.

(10)

O.S. 2005/2847 (C.118). Drwy erthygl 2(e) o'r Gorchymyn, daeth y diwygiad i adran 303A o Ddeddf 1990, a wnaed gan Ddeddf 2004, i rym o ran Cymru ar 12 Hydref 2005. Fodd bynnag, drwy erthygl 3(3) o'r Gorchymyn hwnnw, mae darpariaethau adran 303A fel y'u mewnosodwyd gan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref (Costau Ymchwiliadau etc.) 1995 yn parhau i fod mewn grym mewn perthynas â'r ardaloedd awdurdodau cynllunio lleol hynny y mae'r darpariaethau yn Neddf 1990 sy'n ymwneud â pharatoi, newid ac amnewid cynlluniau datblygu unedol yn parhau i fod yn gymwys iddynt. Effaith gyffredinol y darpariaethau niferus y cyfeirir atynt uchod yw, pan fo awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru yn ddarostyngedig i gyfundrefn y cynllun datblygu lleol, cynhelir archwiliad annibynnol a bydd gan Weinidogion Cymru bŵer i ragnodi swm dyddiol safonol mewn perthynas â'r archwiliad annibynnol. Pan fo awdurdod cynllunio lleol yn parhau'n ddarostyngedig i gyfundrefn y cynllun datblygu unedol, fodd bynnag, cynhelir ymchwiliad lleol pan fo'n briodol, a bydd Gweinidogion Cymru yn parhau â phŵer i ragnodi swm dyddiol safonol mewn perthynas â'r ymchwiliad lleol.

(11)

1972 p.70. Trosglwyddwyd y swyddogaethau o dan adran 250(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i hamrywiwyd gan erthygl 4 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000. Trosglwyddwyd y swyddogaethau i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

(12)

1991 p.59.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill