Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau'r Cynllun Iechyd Dofednod (Ffioedd) (Cymru) 2011

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 2378 (Cy.251)

ANIFEILIAID, CYMRU

Rheoliadau'r Cynllun Iechyd Dofednod (Ffioedd) (Cymru) 2011

Gwnaed

28 Medi 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

28 Medi 2011

Yn dod i rym

19 Hydref 2011

Mae Gweinidogion Cymru, gyda chydsyniad y Trysorlys, yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 56(1) o Ddeddf Cyllid 1973(1) ac a freinir bellach ynddynt hwy.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Cynllun Iechyd Dofednod (Ffioedd) (Cymru) 2011. Maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 19 Hydref 2011.

Ffioedd mewn perthynas â'r cynllun iechyd dofednod

2.—(1Y ffi am gymeradwyaeth at ddibenion y cynllun iechyd dofednod a sefydlwyd o dan baragraff 4 o Atodlen 2 i Reoliadau'r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011(2) yw £60 am gymeradwyaeth ddechreuol, ynghyd â ffi flynyddol o—

(a)£62 ar gyfer haid neu ddeorfa; neu

(b)£70 ar gyfer cyfuniad o haid a deorfa ar un safle.

(2Os cyflawnir yr arolygiad blynyddol o dan y paragraff hwnnw gan swyddog Gweinidogion Cymru, y ffi am bob arolygiad (yn ychwanegol at y ffi flynyddol) yw—

(a)£97 ar gyfer haid neu ddeorfa; neu

(b)£143 ar gyfer cyfuniad o haid a deorfa ar un safle.

(3Y ffi am gymeradwyo, o dan y paragraff hwnnw, labordy sy'n cynnal profion diagnostig ar gyfer aelodau o'r cynllun iechyd dofednod yw—

(a)£13 am brosesu cais am gymeradwyaeth; a

(b)£31 am brosesu dogfennaeth gofrestru flynyddol.

Ffi am brofi hyfedredd labordy

3.  Mae'r ffi sy'n daladwy gan labordy cymeradwy am y profion hyfedredd canlynol a gynhelir gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a'r Labordai Milfeddygol o dan baragraff 2 o Atodiad I i Gyfarwyddeb y Cyngor 2009/158/EC (ar amodau iechyd anifeiliaid, sy'n llywodraethu'r fasnach mewn dofednod ac wyau deor o fewn y Gymuned, a mewnforion dofednod ac wyau deor o drydydd gwledydd(3)) fel a ganlyn.

Tabl 1

Prawf hyfedreddFfi(£)
Bacterioleg Salmonella (pullorum, gallinarum, arizonae)131
Seroleg Salmonella (pullorum, gallinarum)336
Seroleg ieir Mycoplasma (gallisepticum)336
Meithriniad Mycoplasma (gallisepticum a meleagridis)281
Seroleg tyrcïod Mycoplasma (gallisepticum a meleagridis)336

Amser talu

4.  Mae'r ffioedd yn daladwy i Weinidogion Cymru pan ofynnir am y tâl.

John Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru

28 Medi 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gosod y ffioedd am gymeradwyaethau at ddibenion y cynllun iechyd dofednod a sefydlwyd o dan Gyfarwyddeb y Cyngor 2009/158/EC ar 30 Tachwedd 2009 ar amodau iechyd anifeiliaid, sy'n llywodraethu'r fasnach mewn dofednod ac wyau deor o fewn y Gymuned a mewnforion dofednod ac wyau deor o drydydd gwledydd (OJ Rhif L 343, 22.12.2009, t.74) a Rheoliadau'r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011.

Ni pharatowyd asesiad effaith rheoleiddiol ar gyfer yr offeryn hwn, oherwydd na ragwelir unrhyw effaith newydd ar y sectorau preifat, gwirfoddol na chyhoeddus.

(1)

1973 p.51. Caiff Gweinidogion Cymru arfer y pŵer hwn yn rhinwedd adran 59(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(3)

OJ Rhif L 343, 22.12.2009, t. 74.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill