- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gwnaed
27 Medi 2011
Yn dod i rym
1 Chwefror 2012
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a gynhwysir yn adran 40(2)(b) o Ddeddf Iechyd 2009(1).
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd 2009 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2011.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd 2009.
2. 1 Chwefror 2012 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym adran 22 o'r Ddeddf i'r graddau nad yw eisoes mewn grym.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.
27 Medi 2011
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Y Gorchymyn hwn yw'r ail orchymyn cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Iechyd 2009 (“y Ddeddf”).
Mae erthygl 2 yn dwyn i rym, ar 1 Chwefror 2012, adran 22 o'r Ddeddf (pŵer i wahardd gwerthiannau o beiriannau gwerthu) i'r graddau nad yw wedi ei dwyn i rym eisoes.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r darpariaethau o'r Ddeddf a restrir yn y tabl isod wedi eu dwyn i rym o ran Cymru gan y gorchymyn cychwyn O.S. 2010/930 (Cy.95) (C.63).
| Darpariaeth | Dyddiad Cychwyn |
|---|---|
| Adran 19 | 1.4.2010 (i'r graddau y mae'n berthynol i baragraffau 14 i 17 a 18 i 19 o Atodlen 3). |
| Atodlen 3, paragraffau 14 i 17 | 1.4.2010. |
| Atodlen 3, paragraffau 18 a 19 | 1.4.2010. |
Mae'r darpariaethau o'r Ddeddf a restrir yn y tabl isod wedi eu dwyn i rym o ran Cymru gan orchmynion cychwyn a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol.
| Darpariaeth | Dyddiad Cychwyn | Rhif yr O.S. |
|---|---|---|
| Adran 36 | 19.1.2010 | 2010/30 (C.5). |
| Atodlen 6 i'r graddau y mae'n rhoi effaith i'r diddymiad mewn perthynas â Deddf Plant a Phobl Ifanc1933 (c. 12), ac adran 38 i'r graddau y mae'n rhoi effaith i'r ddarpariaeth honno. | 1.10.2011 | 2010/1068 (C.70) fel y'i diwygiwyd gan 2011/1255 (C.49). |
| Atodlen 6 i'r graddau y mae'n rhoi effaith i'r diddymiad mewn perthynas ag adran 14(12) o Ddeddf Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco 2002 (c. 36), ac adran 38 i'r graddau y mae'n rhoi effaith i'r ddarpariaeth honno. | 6.4.2012. | 2010/1068 (C.70) fel y'i diwygiwyd gan 2011/1255 (C.49). |
Mae amryw o ddarpariaethau'r Ddeddf wedi eu dwyn i rym o ran Lloegr gan O.S. 2010/30 (C.5); O.S. 2010/779 (C.52); O.S.2010/1068 (C.70); O.S. 2010/1863 (C.95) ac O.S.2011/1255 (C.49).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys