- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Gwnaed
20 Medi 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
22 Medi 2011
Yn dod i rym
14 Hydref 2011
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) (Diwygio) 2011 a deuant i rym ar 14 Hydref 2011.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2007(3) fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3—
(a)ar ôl y diffiniad o “cyfnod allweddol” yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—
“ystyr “cylchlythyr iaith gyntaf” (“first language circular”) yw'r cylchlythyr “Casglu a chofnodi data am iaith gyntaf disgyblion”(4) a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru o dan y rhif cylchlythyr 001/2011;”;
(b)ar ôl y diffiniad o “blwyddyn ysgol” mewnosoder—
“ystyr “cod iaith” (“language code”) yw'r prif godau ac is-godau ar gyfer y categorïau iaith safonol a bennir yn Atodiad A i'r cylchlythyr iaith gyntaf;”;
(c)ar ôl y diffiniad o “cyfnod allweddol” yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—
“mae i “cymhwyster perthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant qualification” yn adran 30(5) o Ddeddf Addysg 1997;”; ac
(ch)ar ôl y diffiniad o “Rhif unigryw disgybl” mewnosoder —
“ystyr “rhif unigryw dysgwr” (“unique learner number”), mewn perthynas â disgybl cofrestredig mewn ysgol, yw'r cyfuniad penodol o lythrennau a rhifau a ddyrannwyd i'r disgybl gan Brif Weithredwr yr Asiantaeth Ariannu Sgiliau fel rhif unigryw dysgwr y disgybl hwnnw;”.
(3) Yn rheoliad 5—
(a)ar ddiwedd paragraff (2) mewnosoder—
“(d)yr Asiantaeth Ariannu Sgiliau(5);
(dd)unrhyw gorff a gydnabyddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 30(1)(e) o Ddeddf Addysg 1997 mewn perthynas â dyfarnu neu ddilysu cymhwyster penodedig neu ddisgrifiad o gymhwyster perthnasol;
(e)y Swyddfa Rheoleiddio Cymwysterau ac Arholiadau; ac
(f)unrhyw gorff a gydnabyddir gan y Swyddfa Rheoleiddio Cymwysterau ac Arholiadau o dan adran 132 o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 mewn perthynas â dyfarnu neu ddilysu cymhwyster penodedig neu ddisgrifiad o gymhwyster y mae Rhan 7 o'r Ddeddf honno'n gymwys iddo.”.
(4) Yn Rhan 1 o Atodlen 2—
(a)ar ddiwedd paragraff 1(g) mewnosoder—
“(ng)y rhif unigryw dysgwr, os yw'n hysbys.”; a
(b)ar ddiwedd paragraff 16 mewnosoder—
“17. Pan fo'r disgybl yn dysgu Saesneg neu Gymraeg fel iaith ychwanegol, datganiad pa un a yw lefel datblygiad y disgybl hwnnw mewn Saesneg o fewn—
(a)categori A: newydd i'r Saesneg;
(b)categori B: caffael cynnar;
(c)categori C: datblygu cymhwysedd;
(ch)categori CH: cymwys; neu
(d)categori D: rhugl.
18. Y cod iaith sy'n disgrifio orau iaith gyntaf y disgybl.”.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
20 Medi 2011
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2007 (“Rheoliadau 2007”). Mae Rheoliadau 2007 yn ei gwneud yn ofynnol bod corff llywodraethu unrhyw ysgol a gynhelir, o fewn pedwar diwrnod ar ddeg wedi i gais ysgrifenedig ddod i'w law oddi wrth yr awdurdod lleol sy'n cynnal yr ysgol, yn cyflenwi pa bynnag wybodaeth y gofynnir amdani gan yr awdurdod mewn cysylltiad â disgyblion yn yr ysgol.
Mae rheoliad 4 o Reoliadau 2007, a Rhan 1 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hynny, yn rhagnodi'r wybodaeth y caniateir ei rhannu â phersonau a ragnodir o dan reoliad 5(2) o Reoliadau 2007. Mae'r Rheoliadau hyn yn ychwanegu paragraffau 17 ac 18 newydd at Ran 1 o Atodlen 2 i Reoliadau 2007, a thrwy hynny'n ychwanegu at y rhestr ragnodedig o'r wybodaeth am ddisgyblion unigol y caniateir ei rhannu (rheoliadau 2(2) a 2(4)).
Mae rheoliad 5 o Reoliadau 2007 yn rhagnodi personau y caiff Gweinidogion Cymru ddarparu gwybodaeth am ddisgyblion unigol iddynt o dan adran 537A(4) o Ddeddf Addysg 1996. Mae'r Rheoliadau hyn yn mewnosod is-baragraffau (d) i (f) newydd yn rheoliad 5(2), a thrwy hynny'n ychwanegu at y rhestr ragnodedig o gyrff y caniateir darparu gwybodaeth iddynt am ddisgyblion unigol (rheoliad 2(3)).
1996 p.56. Mewnosodwyd adran 537A gan adran 20 o Ddeddf Addysg 1997 (p.44) ac fe'i hamnewidiwyd gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31), Atodlen 30, paragraff 153 a diwygiwyd is-adran 1(a)(i) ymhellach gan O.S. 2010/1158.
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac wedyn i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
Rhif ISBN 978 0 7504 5907 5.
Asiantaeth yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau yw'r Asiantaeth Ariannu Sgiliau.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys