- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
Gwnaed
2 Medi 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
7 Medi 2011
Yn dod i rym
1 Hydref 2011
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 77(2) a 90(3)(a) o Ddeddf Newid Hinsawdd 2008 a pharagraffau 1, 2, 4, 7, 9 a 10 o Atodlen 6 iddi(1).
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) (Diwygio) 2011.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Hydref 2011 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 2010” (“the 2010 Regulations”) yw Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 2010(2).
2.—(1) Mae Rheoliadau 2010 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 8.
3.—(1) Yn rheoliad 2(1)—
(a)yn lle'r diffiniad o “y tâl” (“the charge”) rhodder—
“ystyr “y tâl” (“the charge”) yw isafswm y gydnabyddiaeth y mae'n rhaid i gwsmer ei thalu yn rhinwedd rheoliad 6(2);”;
(b)mewnosoder yn y mannau priodol—
“(i)mae “cydnabyddiaeth” (“consideration”) yn cynnwys unrhyw TAW y gellir ei godi;”;
“(ii)mae i “TAW” (“VAT”) yr ystyr a roddir i “VAT” yn adran 96 o Ddeddf Treth ar Werth 1994(3).”.
4. Yn lle rheoliad 6 rhodder—
6.—(1) Rhaid i werthwr godi tâl am bob bag siopa untro newydd a gyflenwir—
(a)yn y lle yng Nghymru lle y gwerthir y nwyddau, at ddibenion galluogi'r nwyddau i gael eu cymryd oddi yno;
(b)at ddibenion galluogi'r nwyddau i gael eu cyflenwi i bersonau yng Nghymru.
Mae hyn yn ddarostyngedig i reoliad 7.
(2) Y swm y mae'n rhaid i werthwr ei godi yw'r swm hwnnw sy'n sicrhau bod y gydnabyddiaeth a delir gan gwsmer am bob bag siopa untro ddim llai na 5 ceiniog.”.
5. Yn Rhan 3 (cofnodion a chyhoeddi) o flaen rheoliad 8 (cadw cofnodion) mewnosoder—
7A.—(1) Mae'r Rhan hon yn gymwys i werthwr mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn adrodd y mae'r gwerthwr yn bodloni'r amod ym mharagraff (2) ynddi.
(2) Yr amod yw bod y gwerthwr yn cyflogi staff sy'n cyfateb i ddeg aelod llawnamser neu fwy ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn adrodd.”.
6. Yn lle rheoliad 8, rhodder—
8.—(1) Rhaid i werthwr gadw cofnod o'r wybodaeth a bennir ym mharagraff (3) ar gyfer pob blwyddyn adrodd.
(2) Rhaid i werthwr ddal gafael ar gofnodion am gyfnod o dair blynedd gan gychwyn ar 31 Mai yn y flwyddyn adrodd yn dilyn honno y mae cofnod yn berthnasol iddi.
(3) Dyma'r wybodaeth—
(a)nifer y bagiau siopa untro a gyflenwir sy'n denu'r tâl;
(b) y swm a gafwyd yn gydnabyddiaeth am fagiau siopa untro sy'n denu'r tâl ;
(c)y swm a gafwyd drwy'r tâl a godwyd;
(ch)enillion net y tâl(4);
(d)dadansoddiad o sut y daethpwyd at y swm sy'n cynrychioli'r gwahaniaeth rhwng y swm a gafwyd drwy'r tâl a godwyd ac enillion net y tâl, gan gynnwys—
(i)y dosraniad rhwng unrhyw TAW y gellir ei chodi a chostau rhesymol;
(ii)y dosraniad rhwng pennau gwahanol o gostau rhesymol;
(dd)at ba ddibenion y defnyddiwyd enillion net y tâl.
(4) Y canlynol yw'r symiau penodedig at ddibenion y diffiniad o “net proceeds of the charge” ym mharagraff 7(4) Atodlen 6 i Ddeddf Newid Hinsawdd 2008(5)—
(a)unrhyw swm sy'n fwy na'r tâl a gafwyd yn gydnabyddiaeth am fagiau siopa untro sy'n denu'r tâl;
(b)unrhyw swm o TAW y gellir ei chodi a gafwyd drwy'r tâl;
(c)swm unrhyw gostau rhesymol.
(5) Yn y rheoliad hwn ystyr “costau rhesymol” (“reasonable costs”) yw—
(a)costau y mae gwerthwr yn rhesymol yn mynd iddynt i alluogi'r gwerthwr i gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn;
(b)costau y mae gwerthwr yn rhesymol yn mynd iddynt i alluogi'r gwerthwr i gyfathrebu gwybodaeth am y tâl i gwsmeriaid.
Mae hyn yn ddarostyngedig i baragraff (6).
(6) Mewn perthynas â'r flwyddyn adrodd gyntaf, mae “costau rhesymol” yn cynnwys costau yr aeth gwerthwr iddynt cyn y dyddiad y daeth y Rheoliadau hyn i rym—
(a)i alluogi'r gwerthwr i gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn;
(b)i alluogi'r gwerthwr i gyfathrebu gwybodaeth am y tâl i gwsmeriaid.”.
7. Yn lle rheoliad 13(1) rhodder —
“(1) Ni chaiff gweinyddwr gyflwyno hysbysiad o fwriad sy'n ymwneud â chosb ariannol benodedig i werthwr yn unrhyw un neu ragor o'r amgylchiadau canlynol—
(a)pan fo gofyniad yn ôl disgresiwn wedi cael ei osod ar y gwerthwr hwnnw mewn perthynas â'r un toriad yn y Rheoliadau hyn;
(b)pan fo'r gwerthwr wedi rhyddhau ei hun rhag atebolrwydd i gosb ariannol benodedig mewn perthynas â'r un toriad yn y Rheoliadau hyn drwy dalu swm penodedig;
(c)pan fo cosb ariannol benodedig eisoes wedi ei gosod mewn perthynas â'r un weithred neu anwaith.”.
8.—(1) Ym mharagraff 1(1) o Atodlen 1—
(a)o flaen paragraff (a) mewnosoder—
“(za)bagiau a ddefnyddir yn unig i gynnwys un neu fwy o eitemau o'r mathau canlynol—
(i)bwyd heb ei becynnu ar gyfer ei fwyta gan bobl neu gan anifeiliaid;
(ii)hadau, bylbiau, cormau neu risomau rhydd heb eu pecynnu;
(iii)unrhyw fwyell, cyllell, llafn cyllell neu lafn rasel heb eu pecynnu;
(iv)nwyddau heb eu pecynnu a halogwyd gan bridd;
(v)eitemau o'r categorïau a bennir yn is-baragraff (2);”
(b)hepgorer paragraffau (a) i (ch) ac (dd);
(c)yn lle paragraff (ff) , rhodder—
“(ff)bagiau anfon archeb drwy'r post a bagiau negeseuwyr;”;
(ch)hepgorer is-baragraff (k).
(2) Ym mharagraff 1(2)(b) o Atodlen 1 hepgorer y geiriau “neu pan gyflenwir”.
John Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru
2 Medi 2011
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 2010. Cânt eu gwneud o dan Ddeddf Newid Hinsawdd 2008, ac maent yn gymwys o ran Cymru ac maent yn dod i rym ar 1 Hydref 2011.
Mae Rheoliadau 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i werthwyr godi isafswm tâl am fagiau siopa untro. Maent yn gosod gofynion cadw cofnodion ac adrodd ar werthwyr, penodi awdurdodau lleol i weinyddu'r cynllun codi tâl a gosod pwerau sancsiynu sifil ar awdurdodau lleol i orfodi'r Rheoliadau.
Mae'r prif ddiwygiadau a wneir i Reoliadau 2010 gan y Rheoliadau hyn fel a ganlyn.
Mae Rheoliad 4 yn rhoi rheoliad 6 newydd yn lle'r rheoliad gwreiddiol. Effaith y newid fydd sicrhau, pan fydd cwsmer yn talu 5 ceiniog am fag siopa untro bod y 5 ceiniog yn cynnwys TAW pan delir ef i werthwr sydd wedi ei gofrestru ar gyfer TAW.
Mae rheoliad 5 yn mewnosod rheoliad 7A newydd yn Rheoliadau 2010. Mae'r rheoliad newydd yn datgymhwyso'r gofynion cadw cofnodion ac adrodd ar gyfer blwyddyn adrodd os yw gwerthwr yn cyflogi llai o staff na'r hyn sy'n cyfateb i ddeg aelod llawnamser ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn adrodd honno.
Mae'r rheoliad 6 yn rhoi rheoliad 8 newydd yn lle'r rheoliad gwreiddiol. Un o brif effeithiau'r newid yw ei gwneud yn ofynnol i werthwyr ddiystyru unrhyw swm dros 5 ceiniog y mae cwsmeriaid yn ei dalu am fagiau siopa untro pan fydd gwerthwyr yn cyflwyno adroddiad am yr enillion net a gafwyd drwy'r tâl a godwyd.
Prif effaith arall y newid yw cynnwys y costau yr aed iddynt cyn 1 Hydref 2011 yn “costau rhesymol”. Yn ei dro, effaith hyn fydd pan fo gwerthwyr yn cyflwyno adroddiad am yr enillion net a gafwyd drwy'r tâl a godir yn y flwyddyn gyntaf, na fydd y swm hwnnw'n cynnwys unrhyw gostau y maent yn rhesymol wedi mynd iddynt wrth baratoi at gyflwyno'r tâl .
Mae'r rheoliad 7 yn rhoi rheoliad 13(1) newydd yn lle'r rheoliad gwreiddiol. Effaith hyn yw ychwanegu dau amgylchiad pellach pan na chaniateir cyflwyno hysbysiad o'r bwriad i osod cosb ariannol benodedig. Yr amgylchiadau yw pan fo'r gwerthwr eisoes wedi gwneud taliad rhyddhad rhag atebolrwydd mewn perthynas â'r un toriad o dan Rheoliadau 2010; neu os gosodwyd eisoes gosb ariannol benodedig mewn perthynas â'r un weithred neu anwaith.
Mae rheoliad 8 yn mewnosod paragraff newydd 1(1)(za) yn Atodlen 1. Mae'r paragraff newydd hwn yn dwyn ynghyd yr esemptiadau gwreiddiol a gaed ym mharagraff 1(1)(a) i (ch) a (k) o'r Atodlen honno ac yn diwygio'r ffordd y mae'r esemptiadau hynny'n gweithio. Yr effaith yw y bydd bag siopa untro a ddefnyddir i gynnwys un neu fwy o'r eitemau a restrir yn awr yn y paragraff newydd 1(1)(za) yn esempt rhag y tâl; nid oes angen bellach i fag gael ei ddefnyddio'n unig i gynnwys un o'r eitemau hynny er mwyn cael mantais yr esemptiad.
Mae rheoliad 8 yn tynnu'r esemptiad ar gyfer bagiau wedi eu selio a gyflenwir gan werthwr cyn cyrraedd y man gwerthu. Mae rheoliad 8 hefyd yn rhoi paragraff newydd 1(1)(ff) yn lle'r gwreiddiol. Yr effaith yw esemptio bagiau anfon archeb drwy'r post a bagiau negeseuwyr rhag y gofyniad i godi tâl.
Cafodd yr asesiad effaith rheoleiddiol a luniwyd ar gyfer Rheoliadau 2010 ei ddiweddaru i gynnwys yr effaith a ddaw wrth ddatgymhwyso'r gofynion adrodd i fusnesau micro. Gellir cael copi o'r asesiad effaith hwnnw gan Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
2008 p.27; gweler adran 77(3) o Ddeddf Newid Hinsawdd 2008 i gael y diffiniad o “the relevant national authority”. Mae diwygiadau i adran 77 o'r Ddeddf ac i Atodlen 6 iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
1994 p. 23; mae diwygiadau i adran 96 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
I gael ystyr “enillion net y tâl” gweler y diffiniad o “net proceeds of the charge” ym mharagraff 7(4) o Atodlen 6 i Ddeddf Newid Hinsawdd 2008.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys