Gorchymyn Pysgota am Gregyn Bylchog (Cymru) (Rhif 2) 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn, sydd yn gymwys o ran Cymru, yn rheoleiddio pysgota am gregyn bylchog yn “nyfroedd Cymru” ac yn dod i rym ar 1 Mawrth 2010. At ddibenion y Gorchymyn hwn diffinnir “dyfroedd Cymru” fel yr ardaloedd morwrol sydd o fewn “Cymru” fel y'i diffinnir gan adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Mae erthygl 3 yn cyfyngu ar faint allbwn peiriant y llongau pysgota Prydeinig y caniateir iddynt ddefnyddio llusgrwydi cregyn bylchog.

Mae erthygl 4 yn darparu ar gyfer tymor caeedig o ran pysgota cregyn bylchog, sef cyfnod a fydd yn cychwyn ar 1 Mehefin 2010, ac ar 1 Mai ym mhob blwyddyn ddilynol, ac yn diweddu ar 31 Hydref.

Mae erthygl 5 yn gwahardd defnyddio llusgrwydi cregyn bylchog ar unrhyw adeg o fewn un filltir forol i'r gwaelodlinau y mesurir lled y môr tiriogaethol ohonynt.

Mae erthygl 6 yn darparu terfynau ar niferoedd y llusgrwydi cregyn bylchog y caniateir eu defnyddio ar unrhyw un adeg yn yr ardaloedd rhwng 1 a 3 milltir forol, 3 i 6 milltir forol a 6 i 12 milltir forol oddi ar arfordir Cymru.

Mae erthygl 7 yn ei gwneud yn ofynnol bod rhaid storio pob llusgrwyd cregyn bylchog, pan nas defnyddir yn gyfreithlon, yn ddiogel ar fwrdd y cwch pysgota.

Mae erthygl 8 yn darparu cyfyngiadau ar faint y bariau tynnu y caniateir eu defnyddio gan gychod pysgota Prydeinig yn yr ardaloedd rhwng 1 a 3 milltir forol, 3 i 6 milltir forol a 6 i 12 milltir forol oddi ar arfordir Cymru.

Mae erthygl 9 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â diamedr allanol mwyaf y bar tynnu y caniateir ei ddefnyddio.

Mae erthygl 10 yn pennu manyleb y llusgrwydi cregyn bylchog y caniateir eu tynnu.

Mae erthygl 11 yn pennu maint lleiaf cragen fylchog y caniateir ei chario ar gwch pysgota Prydeinig, a'r dull a ddefnyddir i fesur cregyn bylchog.

Mae erthygl 12 yn gwahardd pysgota am gregyn bylchog drwy lusgrwydo o fewn ardaloedd dynodedig a bennir yn yr Atodlen.

Mae erthygl 13 yn darparu ar gyfer pwerau penodol i swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig fynd ar fwrdd, chwilio a chadw'n gaeth llongau pysgota Prydeinig, ac archwilio, copïo a chadw dogfennau.

Mae erthygl 14 yn dirymu Gorchymyn Gwahardd Pysgota am Gregyn Bylchog (Cymru) 2009 a Gorchymyn Pysgota am Gregyn Bylchog (Cymru) 2010.

Hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd o'r darpariaethau drafft a gynhwysir yn erthyglau 2, 3, 6, 8, 9, 10 ac 11 o'r Gorchymyn hwn, yn unol â gofynion Erthygl 8 o Gyfarwyddeb 98/34/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n pennu gweithdrefn ar gyfer darparu gwybodaeth ym maes safonau a rheoliadau technegol (OJ Rhif L 204, 21.7.98, t.37) fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb 98/48/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 217, 5.8.98, t.18).

Gwnaed asesiad effaith rheoleiddiol mewn cysylltiad â'r Gorchymyn hwn ac y mae ar gael i'w archwilio yn swyddfeydd Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.