xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 5GWEITHGAREDDAU PERSONAU A GOFRESTRIR O DAN RAN 2 O'R MESUR

Diogelu a hyrwyddo lles

20.—(1Rhaid i berson cofrestredig weithredu fel gwarchodwr plant neu ddarparu gofal dydd, yn ôl fel y digwydd, mewn ffordd sy'n—

(a)hyrwyddo ac yn darparu'n briodol ar gyfer lles plant perthnasol; a

(b)yn darparu'n briodol ar gyfer gofal, addysg , goruchwyliaeth, a phan fo'n briodol, triniaeth i blant perthnasol.

(2Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod pob person sydd wedi cyrraedd 16 mlwydd oed ac—

(a)yn byw yn y fangre berthnasol;

(b)yn gweithio yn y fangre berthnasol (ac eithrio person a grybwyllir yn rheoliad 28); neu

(c)sydd fel arall yn bresennol yn y fangre berthnasol ac yn dod, neu'n debygol o ddod, i gysylltiad yn rheolaidd â phlant perthnasol,

yn addas i gael cyswllt o'r fath.

(3At ddibenion paragraff (2), mae person sy'n gweithio yn y fangre berthnasol yn cynnwys person sy'n gweithio ar sail wirfoddol.

(4Rhaid i'r person cofrestredig gadarnhau wrth Weinidogion Cymru, mewn perthynas â phob person a grybwyllir ym mharagraff (2)—

(a)bod tystysgrif cofnod troseddol fanylach wedi ei dyroddi; a

(b)pan fo'n briodol(1), y person wedi ei gofrestru gydag ADA ac wedi darparu ei rif cofrestru ADA i'r person cofrestredig.

(5Os nad oes hawl gan y person cofrestredig i gael, mewn perthynas â pherson y cyfeirir ato ym mharagraff (2), yr wybodaeth neu'r ddogfennaeth y gellir seilio'r cadarnhad sy'n ofynnol gan baragraff (4) arni, rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod unrhyw berson o'r fath yn cael ei oruchwylio'n briodol ar bob achlysur pan fo mewn cysylltiad â phlentyn neu blant perthnasol.

(6Rhaid i'r person cofrestredig, at y diben o ddarparu gofal i blant perthnasol a gwneud darpariaeth briodol ar gyfer eu lles ac i'r graddau y bo'n ymarferol, ganfod a chymryd i ystyriaeth eu dymuniadau a'u teimladau.

(7Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas i sicrhau, tra bo plant perthnasol yng ngofal y person cofrestredig—

(a)bod eu preifatrwydd a'u hurddas yn cael eu parchu;

(b)y rhoddir sylw dyladwy i'w rhyw, argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol a chefndir diwylliannol ac ieithyddol ac unrhyw anabledd sy'n effeithio arnynt.

Y bwyd a ddarperir i'r plant

21.—(1Os darperir bwyd gan y person cofrestredig i blant perthnasol, rhaid i'r person cofrestredig sicrhau–

(a)y darperir bwyd iddynt—

(i)a weinir mewn meintiau digonol ar adegau priodol;

(ii)sydd wedi ei baratoi'n briodol ac yn iachus a maethlon;

(iii)sy'n addas ar gyfer eu hanghenion ac yn bodloni eu hoffterau rhesymol; a

(iv)sy'n cynnwys amrywiaeth ddigonol; a

(b)y bodlonir unrhyw angen dietegol arbennig plentyn perthnasol, sy'n deillio o gyflwr iechyd, argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol neu gefndir diwylliannol y plentyn.

(2Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod dŵr yfed ffres ar gael i blant perthnasol drwy gydol yr amser a dreuliant dan ofal y person cofrestredig.

Trefniadau ar gyfer amddiffyn plant

22.—(1Rhaid i'r person cofrestredig lunio a gweithredu polisi ysgrifenedig—

(a)sydd â'r bwriad o ddiogelu plant perthnasol rhag eu cam-drin neu'u hesgeuluso; a

(b)sy'n pennu'r weithdrefn sydd i'w dilyn os gwneir unrhyw honiad o gam-drin neu esgeuluso.

(2Yn benodol, rhaid i'r weithdrefn o dan baragraff (1)(b) ddarparu ar gyfer—

(a)cysylltu a chydweithredu ag unrhyw awdurdod lleol sy'n gwneud, neu a all fod yn gwneud, ymholiadau amddiffyn plant mewn perthynas â phlentyn perthnasol;

(b)cyfeirio yn ddi-oed unrhyw honiadau o gam-drin neu esgeuluso sy'n effeithio ar blentyn perthnasol, at yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y lleolir y fangre berthnasol ynddi;

(c)cadw cofnodion ysgrifenedig o unrhyw honiad o gam-drin neu esgeuluso, ac o'r camau a gymerwyd wrth ymateb iddynt;

(ch)rhoi ystyriaeth ym mhob achos i'r mesurau a all fod yn angenrheidiol i amddiffyn plant perthnasol yn dilyn honiad o gam-drin neu esgeuluso;

(d)gofyniad bod unrhyw bersonau sy'n gweithio gyda phlant perthnasol yn rhoi gwybod am unrhyw bryderon ynghylch lles neu ddiogelwch plentyn i un o'r canlynol—

(i)y person cofrestredig;

(ii)cwnstabl;

(iii)person sy'n gyfrifol am arfer swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan Ran 2 o'r Mesur;

(iv)un o swyddogion yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y lleolir y fangre berthnasol ynddi; neu

(v)un o swyddogion y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant;

(dd)trefniadau sy'n caniatáu bob amser i bersonau sy'n gweithio gyda phlant perthnasol gael mynediad at wybodaeth ar ffurf briodol a fyddai'n eu galluogi i gysylltu â'r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y lleolir y fangre berthnasol ynddi, neu â'r swyddfa briodol, ynghylch lles neu ddiogelwch y plant hynny.

Rheoli ymddygiad, atal a disgyblu

23.—(1Ni chaniateir defnyddio unrhyw fesur rheoli, atal neu ddisgyblu sy'n ormodol, yn afresymol neu'n groes i baragraff (5) ar blant perthnasol ar unrhyw adeg.

(2Rhaid i'r person cofrestredig, yn unol â'r rheoliad hwn, lunio a gweithredu polisi rheoli ymddygiad ysgrifenedig sy'n rhagnodi—

(a)y mesurau rheoli, atal a disgyblu y caniateir eu defnyddio yn y fangre berthnasol; a

(b)y dull sydd i'w ddefnyddio i hyrwyddo ymddygiad priodol yn y fangre honno.

(3Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6) o'r rheoliad hwn, y mesurau rheoli, atal a disgyblu hynny y darperir ar eu cyfer yn y polisi rheoli ymddygiad dywededig, yn unig, y caniateir eu defnyddio ar blant perthnasol.

(4Rhaid i'r person cofrestredig cadw'r polisi rheoli ymddygiad dan arolwg, a phan fo'n briodol, ei ddiwygio a hysbysu'r swyddfa briodol ynghylch unrhyw ddiwygiad o'r fath o fewn 28 diwrnod ar ôl diwygio.

(5Yn ddarostyngedig i baragraff (6), ni chaniateir defnyddio'r mesurau canlynol, na bygwth defnyddio un neu ragor ohonynt ar blant perthnasol—

(a)unrhyw ffurf o gosb gorfforol;

(b)yn ddarostyngedig i ddarpariaeth mewn unrhyw orchymyn llys sy'n ymwneud â chysylltiadau rhwng y plentyn ac unrhyw berson, unrhyw gyfyngiad ar y plentyn o ran cysylltu neu gyfathrebu â'i rieni;

(c)unrhyw gosb sy'n ymwneud â bwyta neu yfed, neu amddifadu o fwyd neu ddiod;

(ch)unrhyw ofyniad bod plentyn yn gwisgo dillad neilltuol neu amhriodol;

(d)defnyddio neu atal meddyginiaeth neu driniaeth feddygol neu ddeintyddol fel mesur disgyblu;

(dd)atal plentyn yn fwriadol rhag cysgu;

(e)unrhyw archwiliad corfforol agos ar blentyn;

(f)gwrthod unrhyw gymhorthion neu offer y mae eu hangen ar blentyn anabl;

(ff)unrhyw fesur sy'n—

(i)cynnwys plentyn mewn gweithredu unrhyw fesur yn erbyn plentyn arall; neu

(ii)cosbi grŵp o blant am ymddygiad plentyn unigol.

(6Nid oes dim yn y rheoliad hwn sy'n gwahardd—

(a)unrhyw weithred sydd ei hangen i ddiogelu iechyd plentyn, gan ymarferydd meddygol neu ddeintyddol cofrestredig neu'n unol â chyfarwyddiadau ymarferydd o'r fath;

(b)unrhyw weithred sydd ei hangen ar unwaith i atal niwed i unrhyw berson neu ddifrod difrifol i eiddo.

Anghenion iechyd plant

24.—(1Rhaid i'r person cofrestredig hyrwyddo a diogelu iechyd plant perthnasol.

(2Yn benodol, rhaid i'r person cofrestredig sicrhau–

(a)bod pob plentyn yn cael y cymorth unigol sy'n ofynnol yng ngoleuni unrhyw anghenion iechyd neu anabledd penodol sydd gan y plentyn; a

(b)ar bob adeg, bod o leiaf un person sy'n gofalu am blant perthnasol yn meddu ar gymhwyster cymorth cyntaf addas.

Peryglon a diogelwch

25.  Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau—

(a)i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, bod pob rhan o'r fangre berthnasol y gall plant perthnasol fynd iddi yn rhydd o beryglon i'w diogelwch;

(b)i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, bod unrhyw weithgareddau y mae plant perthnasol yn cymryd rhan ynddynt yn rhydd rhag risgiau y gellir eu hosgoi; ac

(c)bod risgiau diangen i iechyd neu ddiogelwch plant perthnasol yn cael eu nodi ac yn cael eu dileu i'r graddau y mae hynny'n bosibl.

Defnyddio a storio meddyginiaethau

26.—(1Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas ar gyfer cadw unrhyw feddyginiaeth yn y fangre berthnasol yn ddiogel.

(2Yn benodol rhaid i'r person cofrestredig sicrhau, yn ddarostyngedig i baragraff (3)—

(a)bod plant perthnasol yn cael eu hatal rhag cael gafael ar unrhyw feddyginiaeth heb oruchwyliaeth;

(b)bod unrhyw feddyginiaeth a bresgripsiynwyd ar gyfer plentyn perthnasol yn cael ei rhoi fel a bresgripsiynwyd i'r plentyn y'i presgripsiynwyd ar ei gyfer, ac nid i unrhyw blentyn arall; ac

(c)bod cofnod ysgrifenedig yn cael ei gadw o unrhyw feddyginiaeth a roddir i blentyn perthnasol.

(3Yn y rheoliad hwn, ystyr “presgripsiynwyd” yw—

(a)archebwyd ar gyfer claf i'w darparu i'r claf hwnnw o dan neu yn rhinwedd adran 80 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (trefniadau ar gyfer gwasanaethau fferyllol)(2); neu

(b)mewn achos nad yw'n dod o fewn is-baragraff (a), presgripsiynwyd ar gyfer claf o dan adran 58 o Ddeddf Meddyginiaethau 1968 (cynhyrchion meddyginiaethol ar bresgripsiwn yn unig)(3).

Staffio

27.  Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod nifer digonol o bersonau medrus a phrofiadol gyda chymwysterau addas yn gofalu am y plant perthnasol bob amser, o ystyried—

(a)y datganiad o ddiben a nifer y plant perthnasol a'u hanghenion (gan gynnwys unrhyw anghenion sy'n deillio o unrhyw anabledd), a

(b)yr angen i ddiogelu a hybu eu hiechyd a'u lles.

Addasrwydd gweithwyr

28.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6), rhaid i'r person cofrestredig beidio ag—

(a)cyflogi o dan gontract cyflogi person i ofalu am blant perthnasol oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny;

(b)caniatáu i wirfoddolwr ofalu am blant perthnasol oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny.

(2At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn addas i ofalu am blant perthnasol oni bai—

(a)pan fo'r person hwnnw'n gweithio i warchodwr plant—

(i)bod y person yn bodloni'r gofynion a ragnodir ym mharagraffau 8 i 12 o Ran 1 o Atodlen 1; a

(ii)bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol ar gael ynglŷn â'r person hwnnw, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraff 11(d) i (e) ac (g) i (h) o Ran 1 of Atodlen 2;

(b)pan fo'r person hwnnw'n gweithio i ddarparydd gofal dydd—

(i)bod y person yn bodloni'r gofynion a ragnodir ym mharagraffau 32 i 36 o Ran 2 o Atodlen 1; a

(ii)bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol ar gael ynglŷn â'r person hwnnw, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraff 34 (d) i (e) ac (g) i (h) o Ran 2 o Atodlen 2.

(3Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif cofnod troseddol fanylach, ond nad yw'r dystysgrif wedi ei dyroddi.

(4Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod—

(a)unrhyw gynnig o gyflogaeth a wneir i berson a ddisgrifir ym mharagraff (1), neu unrhyw drefniant arall ynglŷn â gweithio yn y fangre berthnasol a wneir gyda neu mewn perthynas â pherson o'r fath, yn ddarostyngedig i gydymffurfio â gofynion perthnasol paragraff (2) mewn perthynas â'r person hwnnw; a

(b)oni fydd paragraff (5) neu (6) yn gymwys, na fydd unrhyw berson o'r fath yn cychwyn gweithio yn y fangre berthnasol hyd nes cydymffurfir â gofynion perthnasol paragraff (2) mewn perthynas â'r person hwnnw.

(5Pan fo'r amodau canlynol yn gymwys, caiff y person cofrestredig ganiatáu i berson ddechrau gweithio yn, neu at ddibenion, y fangre berthnasol er gwaethaf y darpariaeth ym mharagraffau (1) a (4)(b)–

(a)bod y person cofrestredig wedi cymryd pob cam rhesymol i gael gwybodaeth lawn mewn perthynas â phob un o'r materion a restrir ym mharagraff (2) fel y mae'n gymwys i'r person hwnnw, ond bod yr ymholiadau mewn perthynas ag unrhyw rai o'r materion a restrir yn—

(i)paragraff 11 (d), (dd) ac (h) o Ran 1 o Atodlen 2, mewn perthynas â pherson y bwriedir iddo weithio neu sy'n gweithio i warchodwr plant, neu

(ii)paragraff 34 (d), (dd) ac (h) o Ran 2 o Atodlen 2, mewn perthynas â pherson y bwriedir iddo weithio neu sy'n gweithio i ddarparydd gofal dydd;

yn anghyflawn;

(b)bod gwybodaeth lawn a boddhaol mewn perthynas â'r person hwnnw wedi ei chael mewn perthynas â'r materion a bennir yn—

(i)paragraff 11 o Ran 1 o Atodlen 1 a pharagraff 11(g) ac (ng) o Ran 1 o Atodlen 2, mewn perthynas â pherson y bwriedir iddo weithio neu sy'n gweithio i warchodwr plant, neu

(ii)paragraff 35 o Ran 2 o Atodlen 1 a pharagraff 34(g) ac (ng) o Ran 2 o Atodlen 2, mewn perthynas â pherson y bwriedir iddo weithio neu sy'n gweithio i ddarparydd gofal dydd;

(c)ym marn resymol y person cofrestredig, bod yr amgylchiadau'n eithriadol; ac

(ch)bod y person cofrestredig, tra'n disgwyl am unrhyw wybodaeth sydd heb ddod i law a chyn bodloni ei hunan mewn perthynas â'r wybodaeth honno, yn sicrhau bod y person yn cael ei oruchwylio'n briodol tra'n cyflawni ei ddyletswyddau.

(6Pan fo'r amodau canlynol yn gymwys, caiff y person cofrestredig ganiatáu i berson ddechrau gweithio yn, neu at ddibenion, y fangre berthnasol er gwaethaf paragraffau (1) a (4)(b)—

(a)bod paragraff (3) o'r rheoliad hwn yn gymwys;

(b)bod gwybodaeth lawn a boddhaol mewn perthynas â'r person hwnnw wedi ei chael mewn perthynas â'r materion a bennir yn—

(i)paragraffau 8 i 10 a 12 o Ran 1 o Atodlen 1 a pharagraff 11(d) i (e) ac (g) i (h) o Ran 1 o Atodlen 2, mewn perthynas â pherson y bwriedir iddo weithio neu sy'n gweithio i warchodwr plant; neu

(ii)paragraffau 32 i 34 a 36 o Ran 2 o Atodlen 1 a pharagraff 34(d) i (e) ac (g) i (h) o Ran 2 o Atodlen 2, mewn perthynas â pherson y bwriedir iddo weithio neu sy'n gweithio i ddarparydd gofal dydd;

(c)bod y person wedi darparu datganiad ysgrifenedig o fanylion unrhyw dramgwyddau troseddol y cafwyd y person yn euog ohonynt, gan gynnwys manylion unrhyw gollfarnau a ddihysbyddwyd, o fewn yr ystyr a roddir i “spent conviction” yn adran 1 o Ddeddf Adsefydlu Tramgwyddwyr 1974(4) ac y ceir eu datgelu yn rhinwedd Gorchymyn Deddf Adsefydlu Tramgwyddwyr 1974 (Eithriadau) 1975(5), neu y rhybuddiwyd y person mewn cysylltiad â hwy;

(ch)bod y person cofrestredig o'r farn, yn rhesymol, na fodlonir buddiannau'r gwasanaeth oni ellir penodi'r person; a

(d)bod y person cofrestredig, tra'n disgwyl am y dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff (3) a chyn bodloni ei hunan mewn perthynas â hi, yn sicrhau bod y person yn cael ei oruchwylio'n briodol tra'n cyflawni ei ddyletswyddau.

Cyflogi staff

29.—(1Rhaid i'r person cofrestredig weithredu gweithdrefn ddisgyblu sydd, yn benodol—

(a)yn darparu ar gyfer atal cyflogai dros dro, a chymryd camau eraill heb fynd mor bell ag atal dros dro, mewn perthynas â chyflogai pan fo hynny'n briodol er lles neu ddiogelwch plant perthnasol; a

(b)yn darparu bod methiant ar ran cyflogai i roi gwybod i berson priodol am ddigwyddiad o gam-drin, neu amheuaeth o gam-drin, plentyn perthnasol, yn sail ar gyfer cychwyn achos disgyblu.

(2At ddibenion paragraff (1)(b), person priodol yw—

(a)y person cofrestredig,

(b)person sy'n gyfrifol am arfer swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan Ran 2 o'r Mesur,

(c)un o swyddogion yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y lleolir y fangre perthnasol ynddi,

(ch)cwnstabl, neu

(d)un o swyddogion y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant.

(3Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod pob cyflogai sy'n gofalu am blant perthnasol—

(a)yn cael ei hyfforddi, ei oruchwylio a'i gwerthuso'n briodol; a

(b)yn cael cyfle o bryd i'w gilydd i sicrhau cymwysterau pellach sy'n briodol i'r gwaith y mae yn ei gyflawni.

Cadw cofnodion

30.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i'r person cofrestredig—

(a)cadw'r cofnodion ynglŷn â'r materion a bennir yn Atodlen 3 a thra bo'r plant perthnasol yn derbyn gofal gan y person cofrestredig, rhaid cadw'r cofnodion hynny yn y fangre berthnasol;

(b)dal gafael ar bob cofnod yn y cofnodion a bennir ym mharagraffau 1 i 9 o'r Atodlen honno am gyfnod o dair blynedd o'r dyddiad pan wnaed y cofnod olaf; ac

(c)rhoi'r cofnodion hynny ar gael i'w harchwilio gan Weinidogion Cymru os gofynnant amdanynt.

(2Nid yw'n ofynnol bod person cofrestredig sy'n darparu gofal dydd drwy gyfrwng darpariaeth chwarae mynediad agored yn cadw'r cofnodion a bennir ym mharagraffau 5, 6 (i'r graddau y mae'n ymwneud ag oriau presenoldeb) a 9 o'r Atodlen honno.

(3Os yw person cofrestredig yn peidio â gweithredu fel gwarchodwr plant neu'n peidio â darparu gofal dydd, rhaid i'r person cofrestredig sicrhau y delir gafael yn ddiogel ar y cofnodion a gedwir yn unol â pharagraff (1) a rhaid iddo drefnu y bydd y cofnodion hynny ar gael i'w harchwilio gan Weinidogion Cymru os gofynnant amdanynt.

Darparu gwybodaeth

31.—(1Rhaid i berson cofrestredig hysbysu'r swyddfa briodol os digwydd unrhyw un o'r digwyddiadau a bennir yn Atodlen 4, a rhaid iddo, yr un pryd, ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth a bennir yn yr Atodlen honno mewn perthynas â'r digwyddiad hwnnw.

(2Rhaid hysbysu—

(a)o flaen llaw'r digwyddiad, pan fo'n rhesymol ymarferol i wneud hynny; a

(b)ym mhob achos arall, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, ond ddim hwyrach na 14 diwrnod ar ôl y digwyddiad.

(3Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu rhiant plentyn perthnasol yn ddi-oed ynghylch unrhyw ddigwyddiad arwyddocaol sy'n effeithio ar les y plentyn a rhaid iddo drefnu bod y cofnodion a gedwir yn unol â rheoliad 18, i'r graddau y maent yn ymwneud â phlentyn perthnasol, ar gael i'w harchwilio gan riant y plentyn hwnnw, ac eithrio pan nad fyddai hynny'n rhesymol ymarferol neu os byddai'n peryglu lles y plentyn.

(4Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth, os gofynnant amdani, y bydd ei hangen arnynt ynglŷn â'r ddarpariaeth o ofal i blant perthnasol, gan gynnwys gwybodaeth ariannol a chadarnhad o'r diogelwch yswiriant a drefnwyd rhag unrhyw atebolrwydd a all ddod i ran y person cofrestredig mewn perthynas â marwolaeth, anaf, atebolrwydd cyhoeddus, difrod neu golled arall.

Cwynion

32.—(1Rhaid i'r person cofrestredig baratoi a dilyn gweithdrefn ysgrifenedig ar gyfer ystyried cwynion (“y weithdrefn gwynion”) a fynegir wrth y person cofrestredig gan blant perthnasol neu ar eu rhan.

(2Rhaid i'r weithdrefn gwynion fod yn addas ar gyfer anghenion plant.

(3Rhaid i'r weithdrefn gwynion gynnwys darpariaeth ar gyfer ystyried cwynion ynghylch y person cofrestredig.

(4Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y personau canlynol yn gwybod am fodolaeth y weithdrefn gwynion, a chymryd pob cam rhesymol i roi copi o'r weithdrefn gwynion mewn fformat priodol, neu ba bynnag fformat y gofynnir amdano, i'r canlynol—

(a)plant perthnasol;

(b)eu rhieni; ac

(c)awdurdod lleol sy'n trefnu ar gyfer gwarchod neu ddarparu gofal dydd i blentyn perthnasol.

(5Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y staff a gyflogir i ofalu am blant perthnasol yn cael gwybod am y weithdrefn gwynion, yn cael copi ohoni ac yn cael hyfforddiant priodol ar gyfer ei gweithredu.

(6Rhaid i'r weithdrefn gwynion gynnwys—

(a)enw, cyfeiriad a rhif teleffon y swyddfa briodol; a

(b)manylion y weithdrefn (os oes un) yr hysbyswyd y person cofrestredig ohoni gan Weinidogion Cymru, ar gyfer mynegi cwynion wrth Weinidogion Cymru.

(7Rhaid i'r weithdrefn gwynion gynnwys darpariaeth ar gyfer datrys cwynion yn lleol yn gynnar, pan fo'n briodol.

(8Pan fo'r weithdrefn gwynion yn cynnwys darpariaeth ar gyfer ystyriaeth ffurfiol, rhaid i'r ddarpariaeth honno gael ei chymeradwyo gan Weinidogion Cymru.

(9Ni roddir cymeradwyaeth gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (8) oni fydd y weithdrefn gwynion yn darparu yr ymgymerir â'r ystyriaeth ffurfiol gan berson sy'n annibynnol o'r ddarpariaeth o ofal i blant perthnasol.

Ymdrin â chwynion

33.—(1Rhaid gweithredu'r weithdrefn gwynion a baratoir yn unol â rheoliad 32 yn unol â'r egwyddor o ddiogelu a hyrwyddo lles y plentyn, a rhaid rhoi sylw i ddymuniadau a theimladau canfyddadwy'r plentyn.

(2Os gwneir cwyn, rhaid i'r person cofrestredig roi gwybod i'r achwynydd bod hawl ganddo, ar unrhyw adeg, i gwyno wrth Weinidogion Cymru neu, pan fo'n berthnasol, wrth yr awdurdod lleol a drefnodd ar gyfer gwarchod neu ddarparu gofal dydd i blentyn perthnasol.

(3Rhaid i'r person cofrestredig roi gwybod i'r achwynydd am argaeledd unrhyw wasanaethau eiriolaeth y tybia'r person cofrestredig y gallent fod o gymorth i'r achwynydd. Pan fo'n berthnasol, a'r achwynydd yn blentyn, rhaid i'r person cofrestredig ddweud wrth yr achwynydd fod rhaid i awdurdod lleol sy'n cael cwyn ddarparu gwybodaeth a chymorth i'r achwynwyr, a bod rhaid iddo, yn benodol, gynnig help i gael eiriolwr.

(4Caiff y person cofrestredig, mewn unrhyw achos pan fo'n briodol gwneud hynny, a chyda chytundeb yr achwynydd, wneud trefniadau ar gyfer cymodi, cyfryngu neu gymorth arall at y diben o ddatrys y gŵyn.

(5Rhaid i'r person cofrestredig gadw cofnod ysgrifenedig o unrhyw gŵyn, canlyniad yr ymchwiliad ac unrhyw weithredu fel ymateb.

(6Os gofynnir amdano gan Weinidogion Cymru, rhaid i'r person cofrestredig gyflenwi datganiad i'r swyddfa briodol, a fydd yn cynnwys crynodeb o'r cwynion a wnaed yn ystod y deuddeng mis blaenorol a'r camau a gymerwyd wrth ymateb i bob cwyn.

Datrys yn lleol

34.—(1Rhaid i gwynion yr ymdrinnir â hwy'n lleol(6) gael eu datrys gan y person cofrestredig cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, a beth bynnag o fewn 14 diwrnod.

(2Os datrysir y gŵyn o gan baragraff (1), rhaid i'r person cofrestredig ddarparu cadarnhad ysgrifenedig i'r achwynydd o'r datrysiad a gytunir.

(3Rhaid i'r person cofrestredig, os gofynnir iddo gan Weinidogion Cymru neu unrhyw awdurdod lleol a drefnodd ar gyfer gwarchod neu ddarparu gofal dydd i blentyn perthnasol, roi cadarnhad bod cwyn wedi ei datrys yn lleol.

(4Ceir estyn y terfyn amser ym mharagraff (1) am hyd at 14 diwrnod ychwanegol os yw'r achwynydd yn cydsynio.

Ystyriaeth ffurfiol

35.—(1Rhaid i gwynion yr ymdrinnir â hwy drwy ystyriaeth ffurfiol(7) gael eu datrys cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, a beth bynnag o fewn 35 diwrnod gwaith ar ôl gwneud cais am ystyriaeth ffurfiol.

(2Rhaid i'r person cofrestredig roi cadarnhad ysgrifenedig o ganlyniad yr ystyriaeth ffurfiol i'r achwynydd, ynghyd â chrynodeb o natur a sylwedd y gŵyn, y casgliadau a'r camau sydd i'w cymryd o ganlyniad.

(3Rhaid i'r person cofrestredig anfon copi o'r ymateb ysgrifenedig i gŵyn i'r swyddfa briodol ac at unrhyw awdurdod lleol a drefnodd ar gyfer gwarchod neu ddarparu gofal dydd i blentyn perthnasol.

(4Ceir estyn y terfyn amser ym mharagraff (1) os yw'r achwynydd yn cydsynio.

(5Os na fydd y gŵyn wedi ei datrys o fewn 35 diwrnod ar ôl gwneud y cais am ystyriaeth ffurfiol, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r swyddfa briodol ynglŷn â'r gŵyn a'r rhesymau dros yr oedi cyn ei datrys.

Cwynion sy'n destun ystyriaeth gydamserol

36.—(1Pan fo cwyn yn ymwneud ag unrhyw fater—

(a)y mae'r achwynydd wedi datgan mewn ysgrifen ei fod yn bwriadu codi achos mewn unrhyw lys neu dribiwnlys yn ei gylch, neu

(b)y mae'r person cofrestredig yn codi, neu'n bwriadu codi achos disgyblu yn ei gylch, neu

(c)yr hysbyswyd y person cofrestredig bod ymchwiliad yn cael ei gynnal yn ei gylch, gan unrhyw berson neu gorff, gan ystyried achos troseddol, neu

(ch)y cynullwyd cyfarfod yn ei gylch sy'n cynnwys cyrff eraill gan gynnwys yr heddlu i drafod materion mewn cysylltiad ag amddiffyn plant neu oedolion hyglwyf, neu

(d)yr hysbyswyd y person cofrestredig yn ei gylch bod ymchwiliadau ar droed gan ystyried dwyn achos o dan adran 59 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (tynnu ymaith etc. o'r gofrestr)(8), neu

(dd)yr hysbyswyd y person cofrestredig yn ei gylch bod awdurdod lleol wedi cychwyn, neu yn cychwyn, ymholiadau amddiffyn plant,

rhaid i'r person cofrestredig ystyried, gan ymgynghori â'r achwynydd, ac unrhyw berson neu gorff arall yr ystyria'n briodol ymgynghori ag ef, sut y dylid ymdrin â'r gŵyn. At ddibenion y rheoliad hwn, cyfeirir at gwynion o'r fath fel “cwynion sy'n destun ystyriaeth gydamserol”.

(2Ceir peidio â pharhau i ystyried cwynion sy'n destun ystyriaeth gydamserol os yw'n ymddangos i'r person cofrestredig, ar unrhyw adeg, y byddai parhau yn peryglu neu'n rhagfarnu'r ystyriaeth arall.

(3Pan fo'r person cofrestredig yn penderfynu peidio â pharhau i ystyried cwyn o dan paragraff (2) rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad o'r penderfyniad hwnnw i'r achwynydd.

(4Pan fo'r person cofrestredig wedi peidio â pharhau i ystyried unrhyw gŵyn o dan baragraff (2), ceir ailddechrau ystyried y gŵyn ar unrhyw adeg.

(5Pan fo ystyriaeth o gŵyn wedi peidio o dan baragraff (2), rhaid i'r person cofrestredig ymgyfarwyddo â hynt yr ystyriaeth gydamserol, a hysbysu'r achwynydd pan ddaw'r ystyriaeth honno i ben.

(6Rhaid i'r person cofrestredig ailddechrau ystyried unrhyw gwyn os peidir â pharhau â'r ystyriaeth gydamserol, neu os cwblheir yr ystyriaeth honno, a'r achwynydd yn gwneud cais am i'r gŵyn gael ei hystyried o dan y Rheoliadau hyn.

Addasrwydd y fangre

37.—(1Rhaid i'r person cofrestredig beidio â defnyddio mangre ar gyfer gwarchod plant neu ddarparu gofal dydd, yn ôl fel y digwydd, oni fydd ei lleoliad, ei dyluniad a'i chynllun ffisegol yn addas ar gyfer cyrraedd y nodau ac amcanion a bennir yn y datganiad o ddiben.

(2Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod pob rhan o'r fangre berthnasol a ddefnyddir gan blant perthnasol—

(a)wedi ei goleuo, ei gwresogi a'i hawyru'n ddigonol;

(b)yn ddiogel rhag mynediad diawdurdod;

(c)wedi ei dodrefnu a'i chyfarparu'n addas;

(ch)o adeiladwaith cadarn, a gedwir mewn cyflwr adeileddol da yn fewnol ac allanol;

(d)yn lân ac wedi ei haddurno a'i chynnal yn rhesymol; ac

(dd)wedi ei chyfarparu â'r hyn sy'n rhesymol angenrheidiol, ac wedi ei haddasu yn ôl yr angen, i ddiwallu'r anghenion sy'n deillio o anabledd unrhyw blentyn perthnasol.

(3Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau y cedwir y fangre berthnasol yn rhydd o arogleuon annymunol a gwneud trefniadau addas ar gyfer gwaredu gwastraff cyffredinol a chlinigol.

(4Pan ddarperir gofal mewn mangre dan do rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod digon o'r cyfleusterau canlynol yn y fangre berthnasol, y gall blant perthnasol eu defnyddio o dan amodau sy'n caniatáu preifatrwydd priodol —

(a)nifer digonol o fasnau ymolchi gyda chyflenwad o ddŵr rhedegog poeth ac oer, a

(b)nifer digonol o doiledau addas sy'n addas i blant perthnasol,

ar gyfer nifer a rhyw'r plant perthnasol.

(5Pan ddarperir bwyd mewn safle dan do, rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod cyfleusterau a chyfarpar addas a digonol ar gyfer paratoi, storio a bwyta bwyd yn y fangre berthnasol.

Rhagofalon tân

38.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) rhaid i'r person cofrestredig, mewn perthynas â mangre berthnasol—

(a)cymryd rhagofalon digonol rhag risg tân, gan gynnwys darparu cyfarpar atal a chanfod tân;

(b)darparu dulliau boddhaol ar gyfer dianc os digwydd tân;

(c)gwneud trefniadau digonol ar gyfer—

(i)canfod, cyfyngu a diffodd tanau;

(ii)rhoi rhybuddion tân;

(iii)gwacáu'r adeilad os digwydd tân;

(iv)cynnal a chadw'r holl offer atal a chanfod tân; a

(v)adolygu'r rhagofalon tân, a phrofi'r offer atal a chanfod tân, fesul cyfnod priodol;

(ch)gwneud trefniadau i'r personau sy'n gweithio gyda phlant perthnasol mewn mangre berthnasol gael hyfforddiant addas mewn atal tân;

(d)sicrhau, drwy gynnal driliau ac ymarferion tân fesul cyfnod priodol, fod y personau sy'n gweithio gyda phlant perthnasol ac, i'r graddau y mae'n ymarferol, y plant perthnasol, yn gyfarwydd â'r weithdrefn sydd i'w dilyn os digwydd tân; ac

(dd)ymgynghori â'r awdurdod tân ac achub ynghylch y materion a ddisgrifir yn is-baragraffau (a) i (d).

(2Pan fo Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 (9) yn gymwys i'r fangre berthnasol—

(a)nid yw paragraff (1) yn gymwys; a

(b)rhaid i'r person cofrestredig sicrhau y cydymffurfir â gofynion y Gorchymyn hwnnw ac unrhyw reoliadau a wneir odano, ac eithrio erthygl 23 (dyletswyddau cyflogeion), mewn perthynas â'r fangre.

(3Yn y rheoliad hwn ystyr “awdurdod tân ac achub” (“fire and rescue authority”) yw'r awdurdod tân ac achub o dan Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004(10), ar gyfer yr ardal y lleolir y fangre berthnasol ynddi.

(1)

Mae'r gofyniad ar i bersonau sy'n ymgymryd â gweithgarwch a reoleiddir mewn lleoliadau gofal plant gofrestru gydag ADA o dan y Cynllun Fetio a Gwahardd yn cael ei weithredu fesul cam, yn unol â Rheoliadau a wnaed o dan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (p.47). Mewn perthynas â hyn, rhaid dehongli'r ymadrodd “pan fo'n briodol” yn unol â'r gofyniad sydd ar y person i gofrestru gydag ADA, fel a esbonnir yn y Vetting and Barring Scheme Guidance (ISBN - 978 - 1 - 84987 - 2020 7) a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref ym Mawrth 2010.

(6)

Rhaid dehongli'r termau “lleol” a “datrys yn lleol” yn unol â'r egwyddorion a bennir yn Gwrando a Dysgu: canllawiau ar ddelio â chwynion a sylwadau yng ngwasanaethau llywodraeth leol yng Nghymru (ISBN 0 - 11- 091240 - 3) a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn 2005.

(7)

Rhaid dehongli “ystyriaeth ffurfiol” yn unol â'r egwyddorion a bennir yn Gwrando a Dysgu: canllawiau ar ddelio â chwynion a sylwadau yng ngwasanaethau llywodraeth leol yng Nghymru (ISBN 0 - 11- 091240 - 3) a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn 2005.

(10)

2004 p.21.