- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig)
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Hwn yw'r Gorchymyn Cychwyn cyntaf a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009. Mae'n dod ag amryfal ddarpariaethau'r Mesur a bennir yn erthygl 2 o'r Gorchymyn i rym ar 7 Rhagfyr 2009 ac 1 Ionawr 2010.
Dyma ddarpariaethau'r Mesur sy'n dod i rym ar 7 Rhagfyr 2009:
Mae adran 1 yn cynnwys diffiniadau.
Mae adran 4 (a gychwynnir at y diben o wneud gwaith paratoi, gwneud rheoliadau a dyroddi cyfarwyddiadau) yn mewnosod adran 116A yn Neddf Addysg 2002 (“Deddf 2002”) sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol lunio un neu fwy o gwricwla lleol ar gyfer rhai sydd rhwng 14-16 blwydd oed.
Mae adran 7 (a gychwynnir at y diben o wneud rheoliadau) yn mewnosod adran 116D yn Neddf 2002 sy'n rhoi i ddisgyblion yr hawl i ddewis dilyn cwrs penodol o astudiaeth.
Mae adran 9 (a gychwynnir at y diben o wneud rheoliadau) yn mewnosod adran 116F yn Neddf 2002 sy'n gwneud darpariaeth i bennaeth ysgol benderfynu nad oes gan ddisgybl yr hawl i ddilyn cwrs neu gyrsiau penodol o astudiaeth.
Mae adran 11 (a gychwynnir at y diben o wneud rheoliadau) yn mewnosod adran 116H yn Neddf 2002 sy'n gwneud darpariaeth i bennaeth benderfynu nad oes gan ddisgybl hawl mwyach i ddilyn cwrs o astudiaeth.
Mae adran 12 yn mewnosod adran 116I yn Neddf 2002. Mae'r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu ysgolion uwchradd, penaethiaid ysgolion, cyrff llywodraethu sefydliadau addysg bellach a'u penaethiaid i gynorthwyo awdurdodau addysg lleol wrth iddynt gynllunio'u cwricwla lleol.
Mae adran 13 yn mewnosod adran 116J yn Neddf 2002 sy'n gwneud darpariaeth ynghylch sicrhau cynnwys y nifer uchaf posibl o gyrsiau o astudiaeth mewn cwricwlwm lleol.
Mae adran 14 yn mewnosod adran 116K yn Neddf 2002 sy'n gwneud darpariaeth ynghylch y rhwymedigaethau i gydweithio a osodir gan adran 116J.
Mae adran 18 yn mewnosod adran 116O yn Neddf 2002 ac yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfarwyddiadau.
Mae adran 20 yn diwygio adran 210 o Ddeddf 2002 o ran y weithdrefn ar gyfer gwneud rheoliadau a gorchmynion.
Mae adran 40 yn gwneud darpariaeth o ran gwasanaethau cymorth i ddysgwyr a ddarperir gan gyrff llywodraethu ysgolion a sefydliadau addysg bellach.
Mae adran 41 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir o dan adran 40.
Mae adran 42 yn diwygio adran 126 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 fel ei bod yn gymwys o ran gwasanaethau cymorth i ddysgwyr ac adran 127 o'r Ddeddf honno fel y gall Estyn drefnu arolygiadau o'r ddarpariaeth o wasanaethau cymorth i ddysgwyr.
Mae adran 43 yn darparu bod pob “disgybl perthnasol” neu “fyfyriwr perthnasol” yn cael dogfen sy'n cofnodi ei lwybr dysgu.
Mae adran 44 yn diffinio termau a ddefnyddir yn adran 43.
Mae adran 45 yn mewnosod adran 45B newydd yn Neddf Addysg 1997 sy'n caniatáu i ddarparwyr gwasanaethau gyrfa fynnu bod ysgolion a sefydliadau addysg bellach yn rhoi iddynt wybodaeth am eu cwricwlwm.
Mae adran 47 a pharagraffau 11 i 22 o'r Atodlen yn cynnwys mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol.
Dyma ddarpariaethau'r Mesur sy'n dod i rym ar 1 Ionawr 2010:
Mae adran 2 yn diwygio adran 100 o Ddeddf 2002 o ran y gofynion cyffredinol ar gyfer cwricwlwm ysgol a gynhelir.
Mae adran 3 yn diwygio adran 101 o Ddeddf 2002 o ran y cwricwlwm sylfaenol i ysgolion.
Mae adran 5 yn mewnosod adran 116B yn Neddf 2002 i'w gwneud yn ofynnol i awdurdodau addysg lleol hybu mynediad at gyrsiau o astudiaeth a addysgir yn yr iaith Gymraeg, a pheri eu bod ar gael.
Mae adran 6 yn mewnosod adran 116C yn Neddf 2002 sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer awdurdod addysg lleol sy'n llunio mwy nag un cwricwlwm lleol.
Cychwynnir adran 7 yn llawn.
Mae adran 8 yn mewnosod adran 116E yn Neddf 2002 sy'n gwneud darpariaeth o ran hawl disgybl i ddilyn cwrs o astudiaeth o'i ddewis.
Cychwynnir adran 9 yn llawn.
Mae adran 10 yn mewnosod adran 116G yn Neddf 2002 sy'n gosod dyletswydd ar gorff llywodraethu ysgol i gyflenwi hawlogaethau cwricwlwm lleol yn ystod y pedwerydd cyfnod allweddol.
Cychwynnir adran 11 yn llawn.
Mae adran 15 yn mewnosod adran 116L yn Neddf 2002 sy'n caniatáu i Weinidogion Cymru ddiwygio adran 116A(3) o'r Ddeddf honno.
Mae adran 16 yn mewnosod adran 116M yn Neddf 2002 sy'n darparu ar gyfer gwneud rheoliadau i gymhwyso darpariaethau'r cwricwlwm lleol i blant nad ydynt yn ddisgyblion cofrestredig mewn ysgolion a gynhelir.
Mae adran 17 yn mewnosod adran 116N yn Neddf 2002 sy'n darparu ar gyfer gwneud rheoliadau i gymhwyso darpariaethau'r cwricwlwm lleol mewn perthynas â disgyblion cofrestredig ysgolion arbennig.
Mae adran 19 yn diwygio adran 107 o Ddeddf 2002 o ran y pŵer i newid neu i ddileu gofynion ar gyfer y pedwerydd cyfnod allweddol.
Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn yn gwneud darpariaeth drosiannol o ran yr adroddiad y mae'n ofynnol ei gyhoeddi o dan adran 116B o Ddeddf 2002 ar gyrsiau cyfrwng Cymraeg.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys