Gorchymyn Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Drosiannol) 2009

Offerynnau Statudol Cymru

2009 Rhif 3174 (Cy.276) (C.141)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Drosiannol) 2009

Gwnaed

2 Rhagfyr 2009

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 48(2) a 49(2) o Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Drosiannol) 2009.

(2Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002(2);

  • ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009.

Diwrnodau Penodedig

2.—(1Daw darpariaethau canlynol y Mesur i rym ar 7 Rhagfyr 2009 —

(a)adran 1 (dehongli);

(b)adran 4 (llunio cwricwla lleol ar gyfer disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4) at y diben o wneud y gwaith paratoi angenrheidiol i lunio cwricwlwm lleol yn unol â darpariaethau adran 4 pan ddaw i rym yn llawn ac at ddibenion gwneud rheoliadau o dan adran 116A(5) o Ddeddf 2002 a rhoi cyfarwyddiadau o dan adran 116A(6) o Ddeddf 2002;

(c)adran 7 (dewisiadau disgyblion o gyrsiau cwricwlwm lleol) at y diben o wneud rheoliadau o dan adran 116D(2) o Ddeddf 2002;

(ch)adran 9 (penderfyniad pennaeth ysgol ynghylch hawlogaeth) at y diben o wneud rheoliadau o dan adran 116F(3) o Ddeddf 2002;

(d)adran 11 (penderfyniad pennaeth ysgol i ddileu hawlogaeth) at y diben o wneud rheoliadau o dan adran 116H(3) o Ddeddf 2002;

(dd)adran 12 (cynllunio'r cwricwlwm lleol);

(e)adran 13 (cyflawni hawolgaethau'r cwricwlwm lleol: cydweithio);

(f)adran 14 (cydweithio: canllawiau a chyfarwyddiadau);

(ff)adran 18 (cwricwlwm lleol: cyfarwyddiadau);

(g)adran 20 (rheoliadau a gorchmynion: y weithdrefn);

(ng)adran 40 (gwasanaethau a ddarperir gan ysgolion a gynhelir a sefydliadau addysg bellach);

(h)adran 41 (dyletswyddau cyrff llywodraethu);

(i)adran 42 (diwygiadau i Ddeddf Dysgu a Medrau 2000);

(j)adran 43 (y ddogfen llwybr dysgu);

(l)adran 44 (llwybrau dysgu: dehongli);

(ll)adran 45 (darparu gwybodaeth am y cwricwlwm);

(m)adran 47 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau'r Atodlen a bennir ym mharagraff (n);

(n)paragraffau 11 i 22 o'r Atodlen (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol).

(2Daw darpariaethau canlynol y Mesur i rym ar 1 Ionawr 2010—

(a)adran 2 (dyletswydd i weithredu gofynion cyffredinol);

(b)adran 3 (y cwricwlwm sylfaenol ar gyfer pob ysgol a gynhelir yng Nghymru);

(c)adran 4 (llunio cwricwla lleol ar gyfer disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4) yn llawn;

(ch)adran 5 (cwricwla lleol: yr Iaith Gymraeg);

(d)adran 6 (awdurdodau â mwy nag un cwricwlwm lleol);

(dd)adran 7 (dewisiadau disgyblion o gyrsiau cwricwlwm lleol) yn llawn;

(e)adran 8 (hawlogaethau disgyblion o ran y cwricwlwm lleol);

(f)adran 9 (penderfyniad pennaeth ysgol ynghylch hawlogaeth) yn llawn;

(ff)adran 10 (cyflawni hawlogaethau'r cwricwlwm lleol);

(g)adran 11 (penderfyniad pennaeth ysgol i ddileu hawlogaeth) yn llawn.

(ng)adran 15 (pŵer i ddiwygio meysydd dysgu);

(h)adran 16 (cymhwyso darpariaethau cwricwlwm lleol i blant nad ydynt yn ddisgyblion cofrestredig);

(i)adran 17 (cymhwyso darpariaethau cwricwlwm lleol i blant sy'n ddisgyblion cofrestredig mewn ysgolion arbennig);

(j)adran 19 (pwerau i newid neu ddileu gofynion ar gyfer y pedwerydd cyfnod allweddol).

Darpariaeth drosiannol

3.  Er bod adran 5 o'r Mesur yn dod i rym ar 1 Ionawr 2010 nid yw'r gofyniad ar awdurdod addysg lleol i ddarparu adroddiad o dan adran 116B o Ddeddf 2002 yn gymwys mewn perthynas â diwedd y flwyddyn academaidd 2009 i 2010.

John Griffiths

Y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau, o dan awdurdod y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

2 Rhagfyr 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Hwn yw'r Gorchymyn Cychwyn cyntaf a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009. Mae'n dod ag amryfal ddarpariaethau'r Mesur a bennir yn erthygl 2 o'r Gorchymyn i rym ar 7 Rhagfyr 2009 ac 1 Ionawr 2010.

Dyma ddarpariaethau'r Mesur sy'n dod i rym ar 7 Rhagfyr 2009:

  • Mae adran 1 yn cynnwys diffiniadau.

  • Mae adran 4 (a gychwynnir at y diben o wneud gwaith paratoi, gwneud rheoliadau a dyroddi cyfarwyddiadau) yn mewnosod adran 116A yn Neddf Addysg 2002 (“Deddf 2002”) sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol lunio un neu fwy o gwricwla lleol ar gyfer rhai sydd rhwng 14-16 blwydd oed.

  • Mae adran 7 (a gychwynnir at y diben o wneud rheoliadau) yn mewnosod adran 116D yn Neddf 2002 sy'n rhoi i ddisgyblion yr hawl i ddewis dilyn cwrs penodol o astudiaeth.

  • Mae adran 9 (a gychwynnir at y diben o wneud rheoliadau) yn mewnosod adran 116F yn Neddf 2002 sy'n gwneud darpariaeth i bennaeth ysgol benderfynu nad oes gan ddisgybl yr hawl i ddilyn cwrs neu gyrsiau penodol o astudiaeth.

  • Mae adran 11 (a gychwynnir at y diben o wneud rheoliadau) yn mewnosod adran 116H yn Neddf 2002 sy'n gwneud darpariaeth i bennaeth benderfynu nad oes gan ddisgybl hawl mwyach i ddilyn cwrs o astudiaeth.

  • Mae adran 12 yn mewnosod adran 116I yn Neddf 2002. Mae'r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu ysgolion uwchradd, penaethiaid ysgolion, cyrff llywodraethu sefydliadau addysg bellach a'u penaethiaid i gynorthwyo awdurdodau addysg lleol wrth iddynt gynllunio'u cwricwla lleol.

  • Mae adran 13 yn mewnosod adran 116J yn Neddf 2002 sy'n gwneud darpariaeth ynghylch sicrhau cynnwys y nifer uchaf posibl o gyrsiau o astudiaeth mewn cwricwlwm lleol.

  • Mae adran 14 yn mewnosod adran 116K yn Neddf 2002 sy'n gwneud darpariaeth ynghylch y rhwymedigaethau i gydweithio a osodir gan adran 116J.

  • Mae adran 18 yn mewnosod adran 116O yn Neddf 2002 ac yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfarwyddiadau.

  • Mae adran 20 yn diwygio adran 210 o Ddeddf 2002 o ran y weithdrefn ar gyfer gwneud rheoliadau a gorchmynion.

  • Mae adran 40 yn gwneud darpariaeth o ran gwasanaethau cymorth i ddysgwyr a ddarperir gan gyrff llywodraethu ysgolion a sefydliadau addysg bellach.

  • Mae adran 41 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir o dan adran 40.

  • Mae adran 42 yn diwygio adran 126 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 fel ei bod yn gymwys o ran gwasanaethau cymorth i ddysgwyr ac adran 127 o'r Ddeddf honno fel y gall Estyn drefnu arolygiadau o'r ddarpariaeth o wasanaethau cymorth i ddysgwyr.

  • Mae adran 43 yn darparu bod pob “disgybl perthnasol” neu “fyfyriwr perthnasol” yn cael dogfen sy'n cofnodi ei lwybr dysgu.

  • Mae adran 44 yn diffinio termau a ddefnyddir yn adran 43.

  • Mae adran 45 yn mewnosod adran 45B newydd yn Neddf Addysg 1997 sy'n caniatáu i ddarparwyr gwasanaethau gyrfa fynnu bod ysgolion a sefydliadau addysg bellach yn rhoi iddynt wybodaeth am eu cwricwlwm.

  • Mae adran 47 a pharagraffau 11 i 22 o'r Atodlen yn cynnwys mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol.

Dyma ddarpariaethau'r Mesur sy'n dod i rym ar 1 Ionawr 2010:

  • Mae adran 2 yn diwygio adran 100 o Ddeddf 2002 o ran y gofynion cyffredinol ar gyfer cwricwlwm ysgol a gynhelir.

  • Mae adran 3 yn diwygio adran 101 o Ddeddf 2002 o ran y cwricwlwm sylfaenol i ysgolion.

  • Mae adran 5 yn mewnosod adran 116B yn Neddf 2002 i'w gwneud yn ofynnol i awdurdodau addysg lleol hybu mynediad at gyrsiau o astudiaeth a addysgir yn yr iaith Gymraeg, a pheri eu bod ar gael.

  • Mae adran 6 yn mewnosod adran 116C yn Neddf 2002 sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer awdurdod addysg lleol sy'n llunio mwy nag un cwricwlwm lleol.

  • Cychwynnir adran 7 yn llawn.

  • Mae adran 8 yn mewnosod adran 116E yn Neddf 2002 sy'n gwneud darpariaeth o ran hawl disgybl i ddilyn cwrs o astudiaeth o'i ddewis.

  • Cychwynnir adran 9 yn llawn.

  • Mae adran 10 yn mewnosod adran 116G yn Neddf 2002 sy'n gosod dyletswydd ar gorff llywodraethu ysgol i gyflenwi hawlogaethau cwricwlwm lleol yn ystod y pedwerydd cyfnod allweddol.

  • Cychwynnir adran 11 yn llawn.

  • Mae adran 15 yn mewnosod adran 116L yn Neddf 2002 sy'n caniatáu i Weinidogion Cymru ddiwygio adran 116A(3) o'r Ddeddf honno.

  • Mae adran 16 yn mewnosod adran 116M yn Neddf 2002 sy'n darparu ar gyfer gwneud rheoliadau i gymhwyso darpariaethau'r cwricwlwm lleol i blant nad ydynt yn ddisgyblion cofrestredig mewn ysgolion a gynhelir.

  • Mae adran 17 yn mewnosod adran 116N yn Neddf 2002 sy'n darparu ar gyfer gwneud rheoliadau i gymhwyso darpariaethau'r cwricwlwm lleol mewn perthynas â disgyblion cofrestredig ysgolion arbennig.

  • Mae adran 19 yn diwygio adran 107 o Ddeddf 2002 o ran y pŵer i newid neu i ddileu gofynion ar gyfer y pedwerydd cyfnod allweddol.

Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn yn gwneud darpariaeth drosiannol o ran yr adroddiad y mae'n ofynnol ei gyhoeddi o dan adran 116B o Ddeddf 2002 ar gyrsiau cyfrwng Cymraeg.