- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
3. Mae'r disgrifiadau canlynol o gyfarwyddiadau, gorchmynion a phenderfyniadau a wnaed o dan y deddfiadau a ragnodwyd, wedi'u rhagnodi at ddibenion adran 169 o Ddeddf 2002—
(a)gorchymyn o dan adran 100(2)(e)(1) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980 (penderfynu cwynion);
(b)penderfyniad i gynnwys person (mewn modd gwahanol i dros dro) yn y rhestr a gedwir o dan adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999(2) (rhestr o unigolion sy'n anaddas i weithio gyda phlant);
(c)gorchymyn gan y llys o dan adran 28, 29 neu 29A o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000(3) (datgymhwyso rhag gweithio gyda phlant);
(ch)cyfarwyddyd o dan adran 142 o Ddeddf 2002(4) a roddir ar y sail bod y person yn anaddas i weithio gyda phlant neu y mae ei effaith yn gwahardd person mewn modd arall rhag cymryd rhan yng ngwaith rheoli ysgol annibynnol (gwahardd rhag addysgu, etc.);
(d)cyfarwyddyd o dan adran 167A(5) o Ddeddf 2002 (gwahardd cymryd rhan yng ngwaith rheoli ysgolion annibynnol );
(dd)penderfyniad i gynnwys person (mewn modd gwahanol i dros dro) yn y rhestr a gedwir o dan adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant (Yr Alban) 2003(6) (rhestr o unigolion sy'n anaddas i weithio gyda phlant);
(e)penderfyniad i gynnwys person (mewn modd gwahanol i dros dro) yn y rhestr a gedwir o dan erthygl 3 o Orchymyn Amddiffyn Plant ac Oedolion Hyglwyf (Gogledd Iwerddon) 2003(7) (dyletswydd yr Adran i gadw rhestr);
(f)gorchymyn y llys o dan erthygl 23 neu 24 o Orchymyn Amddiffyn Plant ac Oedolion Hyglwyf (Gogledd Iwerddon) 2003 (datgymhwyso oedolion ac ieuaint rhag gweithio gyda phlant);
(ff)penderfyniad i gynnwys person sydd ar restr o bobl waharddedig o fewn ystyr “barred list” yn Neddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(8);
(g)penderfyniad i gynnwys person ar restr a gedwir o dan adran 1(1) o Ddeddf Amddiffyn Grwpiau Hyglwyf (Yr Alban) 2007(9) (dyletswydd Gweinidogion yr Alban i gadw rhestrau);
(ng)penderfyniad i wahardd person rhag addysgu plant neu weithio gyda phlant o dan reoliad 4 o Reoliadau Addysg (Gwahardd rhag Addysgu Plant neu Weithio gyda Phlant) (Gogledd Iwerddon) 2007(10);
(h)penderfyniad i gynnwys y person ar restr o bobl waharddedig o fewn ystyr “barred list” yn erthygl 2(1) o Orchymyn Diogelu Grwpiau Hyglwyf (Gogledd Iwerddon) 2007(11); ac
(i)cyfarwyddyd o dan adran 128 o Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008(12) (gwahardd cymryd rhan mewn gwaith rheoli).
1999 p.14. Cafodd adran 1 ei diwygio gan Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p.14), adrannau 95(2), 96(2), 97(2) a 98(4) a'i diddymu gan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (p.47), Atodlen 9, paragraff 8(2).
2000 p.43. Cafodd adrannau 28, 29 a 29A eu diwygio gan Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol 2005 (p.4), Atodlen 11, paragraff 35(a) a'u diddymu gan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, Atodlen 10. Mewnosodwyd adran 29A gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (p.44), Atodlen 30, paragraff 2.
2002 p.32. Diddymwyd adran 142 gan Atodlen 10 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Mewnosodwyd adran 167A gan Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006, adran 169 (p.4); diwygiwyd is-adran (6) gan baragraff 22 o Atodlen 1 i'r Ddeddf honno.
2003 dsa 5; a ddiddymwyd gan Ddeddf Amddiffyn Grwpiau Hyglwyf (Yr Alban) 2007, Atodlen 4, paragraff 42 (dsa 14).
O.S. 2003/417 (G.I. 4); diddymwyd y Gorchymyn gan Orchymyn Diogelu Grwpiau Hyglwyf (Gogledd Iwerddon) 2007, Atodlen 8.
2006 p.47; gweler adran 60(1) ar gyfer y diffiniad o “barred list”.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys