xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Clefyd Pothellog y Moch (Cymru) 2009 (O.S. 2009/1372 (Cy.135) (“y Prif Reoliadau”) sy'n rhoi ar waith yng Nghymru ddarpariaethau Cyfarwyddeb y Cyngor 92/119/EEC sy'n cyflwyno mesurau Cymunedol cyffredinol i reoli rhai clefydau anifeiliaid a mesurau penodol ynghylch clefyd pothellog y moch (OJ Rhif L 62, 15.3.1993, t. 69) i'r graddau y mae'r Gyfarwyddeb honno'n rheoli clefyd pothellog y moch a Chyfarwyddeb y Cyngor 2007/10/EC (OJ Rhif L 63, 1.3.2007, t.24).

Mae rheoliad 3 yn diwygio'r Prif Reoliadau drwy fewnosod y gair “intentionally” yn y fersiwn Saesneg o Reoliad 41(a).

Ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o'r effaith a gaiff yr offeryn hwn ar gostau busnes.