Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2008

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 660 (Cy.70)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2008

Gwnaed

10 Mawrth 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

11 Mawrth 2008

Yn dod i rym

1 Ebrill 2008

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 129 a 203 (9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1).

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2008 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2008.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Rheoliadau Optegol” (“the Optical Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 (2).

Diwygio'r Rheoliadau Optegol

2.  Diwygir rheoliad 19 o'r Rheoliadau Optegol (gwerth adbrynu taleb ar gyfer ailosod neu drwsio) fel a ganlyn —

(a)ym mharagraff (1)(b), yn lle “£50.50” rhodder “£51.90”; a

(b)ym mharagraff (3), yn lle “£13.00” rhodder “£13.40”.

Diwygio'r Atodlenni i'r Rheoliadau Optegol

3.—(1Diwygir Atodlenni 1 i 3 o'r Rheoliadau Optegol yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

(2Yn Atodlen 1 (codau llythrennau talebau a gwerth taleb ar yr wyneb — cyflenwi ac ailosod) yng ngholofn (3) o'r tabl (gwerth taleb ar yr wyneb), yn lle pob swm a bennir yng ngholofn (1) o'r tabl isod rhodder y swm a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn (2) o'r tabl isod:

(1)(2)
Swm blaenorolSwm newydd
£34.60£35.50
£52.60£54.00
£76.90£79.00
£173.70£178.40
£59.80£61.40
£76.00£78.10
£98.50£101.20
£190.90£196.10
£177.90£182.70.
£50.50£51.90

(3Yn Atodlen 2 (prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd, sbectolau bychain ac arbennig, a theclynnau cymhleth)—

(a)ym mharagraff 1(1)(a), yn lle “£11.30” rhodder “£11.60”;

(b)ym mharagraff 1(1)(b) yn lle “£13.50” rhodder “£13.90”;

(c)ym mharagraff 1(1)(c), yn lle “£3.80” rhodder “£3.90”;

(ch)ym mharagraff 1(1)(d), yn lle “£4.30” rhodder “£4.40”;

(d)ym mharagraff 1(1)(e), yn lle “£57.00”, “£50.50” a “£27.30” rhodder “£58.50”, “£51.90” a “£28.00” yn eu trefn;

(dd)ym mharagraff 1(1)(g), yn lle “£57.00” rhodder “£58.50”;

(e)ym mharagraff 2(a), yn lle “£13.00” rhodder “£13.40”; a

(f)ym mharagraff 2(b), yn lle “£33.00” rhodder “£33.90”.

(4Yn lle Atodlen 3 (gwerthoedd talebau — trwsio), rhodder yr Atodlen 3 a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Darpariaeth Drosiannol

4.  Nid yw'r symiau a amnewidir gan reoliadau 2 a 3 yn gymwys ond mewn perthynas â thaleb a dderbynnir neu a ddefnyddir yn unol â rheoliad 12 neu reoliad 17 o'r Rheoliadau Optegol ar neu ar ôl 1 Ebrill 2008.

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

10 Mawrth 2008

Rheoliad 3(4)

YR ATODLENATODLEN 3 I'R RHEOLIADAU OPTEGOL FEL Y'I HAMNEWIDIR GAN Y RHEOLIADAU HYN

Regulation 19(2) and (3)

SCHEDULE 3VOUCHER VALUES REPAIR

(1)(2)
Nature of RepairLetter of Codes —Values
ABCDEFGHI
£££££££££
Repair or replacement of one lens11.0520.3032.8082.5024.0032.3543.9091.3584.65
Repair or replacement of two lenses22.1040.6065.60165.0048.0064.7087.80182.70169.30
Repair or replacement of:
The front of a frame11.3511.3511.3511.3511.3511.3511.3511.3511.35
A side of a frame6.756.756.756.756.756.756.756.756.75
The whole frame13.4013.4013.4013.4013.4013.4013.4013.4013.40.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 (“y Rheoliadau Optegol”) , sy'n darparu bod taliadau i'w gwneud drwy system dalebau o ran y costau a dynnwyd gan gategorïau penodol o bobl mewn cysylltiad â chyflenwi, ailosod a thrwsio teclynnau optegol.

Mae rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 19 er mwyn cynyddu gwerth adbrynu taleb a ddyroddir tuag at y gost o ailosod un lens gyffwrdd, a chynyddu mwyafswm y cyfraniad drwy daleb at gost trwsio ffrâm sbectol.

Mae rheoliad 3 a'r Atodlen yn diwygio'r Atodlenni i'r Rheoliadau Optegol i gynyddu gwerth talebau a ddyroddir tuag at gostau cyflenwi ac ailosod sbectolau a lensys cyffwrdd, i gynyddu gwerthoedd ychwanegol y talebau ar gyfer prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd a chategorïau arbennig o declynnau ac i gynyddu gwerth y talebau a ddyroddir tuag at y gost o drwsio ac ailosod teclynnau optegol. Tua 2.7% yw graddfa'r cynnydd yng ngwerth y talebau yn y Rheoliadau hyn.

(2)

O.S. 1997/818 fel y'i diwygiwyd.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill