Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Dinas a Sir Abertawe) 2008

Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 1896 (Cy.180)

PRIFFYRDD, CYMRU

Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Dinas a Sir Abertawe) 2008

Gwnaed

15 Gorffennaf 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

17 Gorffennaf 2008

Yn dod i rym

1 Medi 2008

Gwneir y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan baragraff 8(1) o Atodlen 8 a pharagraff 3(1) o Atodlen 10 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004(1) ac a freiniwyd bellach yng Ngweinidogion Cymru(2).

Mae Cyngor Dinas a Sir Abertawe wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru wneud gorchymyn o dan y pwerau hyn mewn cysylltiad â rhan o'i ardal.

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â Heddlu De Cymru yn unol â gofynion paragraff 8(3) o Atodlen 8 a pharagraff 3(4) o Atodlen 10.

Yn unol â hynny, mae Gweinidogion Cymru'n gwneud y Gorchymyn hwn:

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Dinas a Sir Abertawe) 2008 a daw i rym ar 1 Medi 2008.

Dynodi ardal gorfodi sifil ac ardal gorfodi arbennig

2.  Mae Gweinidogion Cymru'n dynodi'r ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen yn—

(a)ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio; a

(b)ardal gorfodi arbennig.

Ieuan Wyn Jones

Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru.

15 Gorffennaf 2008

Erthygl 2

YR ATODLENArdal a ddynodir yn ardal gorfodi sifil ac yn ardal gorfodi arbennig

Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i'r cyfan o ddinas a sir Abertawe ac eithrio y darn o Draffordd yr M4 a'i ffyrdd ymuno ac ymadael sydd o fewn y ddinas a'r sir a'r A483 Fabian Way o'i chyffordd â'r A4067 hyd at y ffin â bwrdeistref sirol Castell-Nedd Port Talbot.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dynodi'r ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen yn ardal gorfodi sifil ac yn ardal gorfodi arbennig at ddibenion Rhan 6 o Deddf Rheoli Traffig 2004.

(2)

Mae'r pwerau hyn yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).