xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 3305 (Cy.292)

IECHYD PLANHIGION, CYMRU

Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2007

Gwnaed

22 Tachwedd 2007

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

23 Tachwedd 2007

Yn dod i rym

18 Rhagfyr 2007

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 2 a 3(1) o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967(1), ac a freiniwyd ynddynt(2) bellach;

Mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(3) ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i'r cyfeiriadau yn y Gorchymyn canlynol at Benderfyniadau penodol i gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y'u diwygir o dro i dro:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2007; mae'n gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 18 Rhagfyr 2007.

Diwygiadau i Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006

2.  Mae Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006(4) wedi'i ddiwygio fel a ganlyn.

Atal Rhynchophorus ferrugineus (Olivier) rhag cael ei gyflwyno i'r Gymuned Ewropeaid a'i ledaenu oddi mewn iddi

3.—(1Yn erthygl 2(1), yn y man priodol, mewnosoder—

“Decision 2007/365/EC” means Commission Decision 2007/365/EC on emergency measures to prevent the introduction into and the spread within the Community of Rhynchophorus ferrugineus (Olivier)(5), as amended from time to time;.

(2Yn Rhan A o Atodlen 1, ar ôl eitem 34 o “Insects, mites and nematodes”, ychwaneger—

35.  Rhynchophorus ferrugineus (Olivier).

(3Yn Rhan A o Atodlen 4, ar ôl eitem 57, mewnosoder—

57a.Plants, other than fruit or seeds, having a diameter of the stem at the base of over 5cm of the species listed in Article 1(b) of Decision 2007/365/EC originating in any third countryWithout prejudice to the requirements in item 57, the plants, including those collected from natural habitats, shall be accompanied by an official statement that the plants meet the requirements of paragraph (a), (b) or (c) of point 1 of the Annex to Decision 2007/365/EC.

(4Yn Rhan B o Atodlen 4, ar ôl eitem 6, mewnosoder—

6a.Plants, other than fruit or seeds, having a diameter of the stem at the base of over 5cm of the species listed in Article 1(b) of Decision 2007/365/ECThe plants shall be accompanied by an official statement that they have been grown in accordance with the specifications in paragraph (a), (b), (c) or (d) of point 2 of the Annex to Decision 2007/365/EC.

(5Yn Rhan A o Atodlen 5, Rhan A o Atodlen 6 a Rhan A o Atodlen 7, ar ôl eitem 1 mewnosoder—

1a.  Plants, other than fruit or seeds, having a diameter of the stem at the base of over 5cm of the species listed in Article 1(b) of Decision 2007/365/EC..

Atal Gibberella circinata Nirenberg & O'Donnell rhag cael ei gyflwyno i'r Gymuned Ewropeaidd a'i ledaenu oddi mewn iddi

4.—(1Yn erthygl 2(1), yn y man priodol, mewnosoder—

“Decision 2007/433/EC” means Commission Decision 2007/433/EC on provisional emergency measures to prevent the introduction into and the spread within the Community of Gibberella circinata Nirenberg & O'Donnell(6), as amended from time to time;.

(2Yn Rhan A o Atodlen 1, ar ôl eitem 17 o “Fungi”, ychwaneger—

18.  Gibberella circinata Nirenberg & O'Donnell.

(3Yn Rhan A o Atodlen 4, ar ôl eitem 2, mewnosoder—

2a.Plants intended for planting, including seeds and cones for propagation purposes, of the genera and species referred to in Article 1(2) of Decision 2007/433/EC, originating in any third countryWithout prejudice to the requirements in items 1, 2 and 3, the plants shall be accompanied by an official statement that— they originate in a place of production which is registered and supervised by the national plant protection organisation in the country of origin; and they meet the requirements of paragraph (a), (b) or (c) of point I of Annex I to Decision 2007/433/EC.

(4Yn Rhan B o Atodlen 4, ar ôl eitem 1, mewnosoder—

1a.Plants intended for planting, including seeds and cones for propagation purposes, of the genera and species referred to in Article 1(2) of Decision 2007/433/ECWithout prejudice to the requirements in item 7 of Part A of Schedule 6, the plants shall be accompanied by an official statement that they have been grown in accordance with the specifications in paragraph (a), (b) or (c) of point II of Annex I to Decision 2007/433/EC.

(5Yn Rhan A o Atodlen 5, ar ôl eitem 1, mewnosoder—

1b.  Seeds and cones, intended for propagating, of the genera and species referred to in Article 1(2) of Decision 2007/433/EC..

(6Yn Rhan A o Atodlen 6 a Rhan A o Atodlen 7, ar ôl eitem 1 mewnosoder—

1b.  Plants intended for planting, including seeds and cones intended for propagating, of the genera and species referred to in Article 1(2) of Decision 2007/433/EC..

Atal rhag cyflwyno a lledaenu firoid y gloronen bigfain

5.—(1Yn erthygl 2(1), yn y man priodol, mewnosoder —

“Decision 2007/410/EC” means Commission Decision 2007/410/EC on measures to prevent the introduction into and spread within the Community of Potato spindle tuber viroid(7), as amended from time to time;.

(2Yn Rhan A o Atodlen 4, ar ôl eitem 37, mewnosoder—

37a.Plants, intended for planting,including seeds, of the genera and species referred to in Article 1 of Decision 2007/410/EC, originating in any third country

The plants shall be accompanied by an official statement that—

(a)

they originate in and have been grown throughout their life in a place of production which is registered and supervised by the national plant protection organisation in the country of origin; and

(b)

they meet the requirements of paragraph (a), (b), (c) or (d) of point 1 of the Annex to Decision 2007/410/ EC.

(3Yn Rhan B o Atodlen 4, ar ôl eitem 20, mewnosoder—

20a.Plants, intended for planting, including seeds, of the genera and species referred to in Article 1 of Decision 2007/410/ECThe plants shall be accompanied by an official statement that they have been grown throughout their life or since their introduction into the European Community in a place of production which meets the requirements of paragraph (a), (b), (c) or (d) of point 2 of the Annex to Decision 2007/410/EC.

(4Yn Rhan A o Atodlen 6 a Rhan A o Atodlen 7—

(a)ar ôl eitem 3, mewnosoder—

3a.  Plants, intended for planting, including seeds, other than those in item 3, of the genera and species referred to in Article 1 of Decision 2007/410/EC.; a

(b)yn lle eitem 7(b) rhodder—

(b)plants of Solanaceae, other than seeds and other than those in items 3 and 3a, intended for planting;.

Mesurau mewn cysylltiad â ffrwythau sitrws penodol

6.—(1Yn erthygl 2(1), yn y man priodol, mewnosoder—

“Decision 2004/416/EC” means Commission Decision 2004/416/EC on temporary emergency measures in respect of certain citrus fruits originating in Argentina or Brazil(8), as amended from time to time;.

(2Yn Rhan A o Atodlen 4—

(a)yn ail golofn eitemau 15 a 17, ar ôl “third country”, ychwaneger “, other than Brazil”;

(b)ar ôl eitem 15, ychwaneger—

15a.Fruits of Citrus L., Fortunella Swingle or Poncirus Raf., originating in BrazilWithout prejudice to the requirements in items 14, 16 and 18, the fruits shall be accompanied by an official statement that they meet the requirements of paragraph (a) or (b) of point 1 and of point 3 of the Annex to Decision 2004/416/EC.

(c)yn nhrydedd golofn eitem 16, yn lle “15, 17”, rhodder “15, 15a, 17, 17a”;

(ch)ar ôl eitem 17, ychwaneger—

17a.Fruits of Citrus L., other than Citrus aurantium L., Fortunella Swingle or Poncirus Raf., originating in BrazilWithout prejudice to the requirements in items 14, 16 and 18, the fruits shall be accompanied by an official statement that they meet the requirements of paragraph (a) or (b) of point 2 and of point 3 of the Annex to Decision 2004/416/EC; and

(d)yn nhrydedd golofn eitem 18, yn lle “17”, rhodder “17a”.

Diwygiadau amrywiol

7.  Yn—

(a)erthygl 2(1), yn lle'r diffiniad o ““Directive 2000/29/EC”, rhodder ““Directive 2000/29/EC” means Council Directive 2000/29/EC on protective measures against the introduction into the Community of organisms harmful to plants or plant products and against their spread within the Community(9);”; a

(b)Rhan B o Atodlen 7, yn eitem 3, yn lle “or Sorbus L.”, rhodder “, Sorbus L. or Vitis L.”.

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

22 Tachwedd 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1643) (“y prif Orchymyn”) er mwyn gweithredu'r offerynnau isod—

(a)Penderfyniad y Comisiwn 2007/365/EC ar fesurau brys i atal Rhynchophorus ferrugineus (Olivier) rhag cael ei gyflwyno i'r Gymuned a'i ledaenu oddi mewn iddi (OJ Rhif L 139, 31.5.2007, t. 24);

(b)Penderfyniad y Comisiwn 2007/433/EC ar fesurau brys dros dro i atal Gibberella circinata Nirenberg & O'Donnell rhag cael ei gyflwyno i'r Gymuned a'i ledaenu oddi mewn iddi (OJ Rhif L 161, 22.6.2007, t. 66);

(c)Penderfyniad y Comisiwn 2007/410/EC ar fesurau i atal firoid y gloronen bigfain rhag cael ei gyflwyno i'r Gymuned a'i ledaenu oddi mewn iddi (OJ Rhif L 155, 15.6.2007, t. 71);

(ch)Penderfyniad y Comisiwn 2004/416/EC ar fesurau brys dros dro mewn cysylltiad â ffrwythau sitrws penodol sy'n tarddu o'r Ariannin neu Frasil (OJ Rhif L 151, 30.4.2004, t. 76), fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2007/347/EC (OJ Rhif L 130, 22.5.2007, t. 46); a

(d)Cyfarwyddeb y Comisiwn 2007/41/EC yn diwygio Atodiadau penodol i Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ar fesurau gwarchod rhag cyflwyno i'r Gymuned organeddau sy'n niweidiol i blanhigion neu i gynhyrchion planhigion ac yn erbyn eu lledaenu oddi mewn i'r Gymuned (OJ Rhif L 169, 29.6.2007, t. 51).

Mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68) ac mae cyfeiriadau at y Penderfyniadau a restrir yn (a), (b) ac (c) i'w dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y'u diwygir o dro i dro.

Mae erthyglau 3, 4 a 5 yn gwneud amryw o ddiwygiadau i Atodlenni 1, 4, 5, 6 a 7 i'r prif Orchymyn er mwyn cymhwyso'r cyfyngiadau ar lanio yng Nghymru a symud oddi mewn iddi ddeunyddiau planhigion penodol (a ddisgrifir ym mhob erthygl) o drydydd gwledydd a rhannau eraill o'r Gymuned Ewropeaidd a'r gofynion am dystysgrifau ffytoiechydol a phasbortau planhigion i'r deunyddiau planhigion a restrir er mwyn atal, yn ôl eu trefn, y plâu planhigion canlynol rhag cael eu cyflwyno i Gymru a'u lledaenu oddi mewn iddi: Rhynchophorus ferrugineus (Olivier), Gibberella circinata Nirenberg & O'Donnell, firoid y gloronen bigfain.

Mae erthygl 6 yn diwygio Atodlen 4 i'r prif Orchymyn er mwyn cymhwyso gofynion arbennig mewn cysylltiad â ffrwythau sitrws penodol sy'n tarddu o Frasil.

Mae erthygl 7 yn diwygio'r diffiniad o “Directive 2000/29/EC” er mwyn ymgorffori ynddo Gyfarwyddeb y Comisiwn 2007/41/EC ac mae'n ychwanegu Vitis L. at y rhestr o blanhigion yn Rhan B o Atodlen 7 i'r prif Orchymyn y mae'n ofynnol iddynt gael pasbort planhigion os ydynt i gael eu hanfon i barth gwarchod mewn rhan arall o'r Gymuned Ewropeaidd.

Ni luniwyd asesiad effaith reoleiddiol llawn ar gyfer yr offeryn hwn.

(1)

1967 p. 8; diwygiwyd adrannau 2(1) a 3(1) gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68), adran 4(1) ac Atodlen 4, paragraff 8.

(2)

Mae adran 1(2)(b) o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967 yn darparu mai'r awdurdod cymwys yng Nghymru a Lloegr at ddibenion y Ddeddf honno yw'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd. Yn rhinwedd Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272), erthygl 2(1) ac Atodlen 1, trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o dan Ddeddf Iechyd Planhigion 1967, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Trosglwyddwyd swyddogaethau Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Mae'r swyddogaethau a drosglwyddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 p.32 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(3)

1972 p. 68. Mae Atodlen 2, paragraff 1A, a fewnosodwyd gan Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51), adran 28, yn darparu ar gyfer cynnwys mewn is-ddeddfwriaeth gyfeiriadau at offerynnau'r Gymuned Ewropeaidd fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y'u diwygir o dro i dro.

(5)

OJ Rhif L 139, 31.5.2007, t. 24.

(6)

OJ Rhif L 161, 22.6.2007, t. 66.

(7)

OJ Rhif L 155, 15.6.2007, t. 71.

(8)

OJ Rhif L 151, 30.4.2004, t. 76, a ddiwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2007/347/EC, OJ Rhif L 130, 22.5.2007, t. 46.

(9)

OJ Rhif L 169, 10.7.2000, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2007/41/EC, OJ Rhif L 169, 29.6.2007, t. 51.