Rheoliadau Lleoli Plant (Cymru) 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Trefniadau ar gyfer Lleoli Plant (Cyffredinol) 1991 o ran Cymru. Mae'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth ar gyfer y trefniadau i leoli plant gan awdurdodau lleol, cyrff gwirfoddol a phersonau sy'n cadw cartrefi preifat i blant yng Nghymru. Caiff y lleoliadau fod gyda rhieni maeth, mewn cartrefi cymunedol, cartrefi gwirfoddol i blant neu gartrefi preifat i blant ac o dan drefniadau eraill (ond nid mewn cartref a ddarperir yn unol â threfniadau a wneir gan y Cynulliad o dan adran 82(5) o Ddeddf Plant 1989).

Mae rheoliad 4 yn darparu ar gyfer gwneud trefniadau i letya a chynnal plant, i hybu eu lles ac i gynllunio lleoliadau.

Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth ar gyfer y materion i'w hystyried gan awdurdod cyfrifol pan fydd yn gwneud trefniadau i leoli plentyn, gan gynnwys y gweithdrefnau i'w dilyn pan fo lleoliad y tu allan i'r ardal lle y mae plentyn fel arfer yn byw yn cael ei ystyried. Mae'r rheoliad hefyd ym rhoi awdurdod cyfrifol o dan ddyletswydd i wneud cofnod ysgrifenedig o'r rhesymau dros y camau a gymerir ganddo o dan y rheoliad.

Mae rheoliad 6 yn darparu bod yr awdurdod cyfrifol yn hysbysu pobl benodol o'r trefniadau ar gyfer lleoli plentyn, ac mae'n pennu cyfnod o amser y mae'n rhaid gwneud yr hysbysiad oddi mewn iddo, ynghyd â gofyniad bod yn rhaid i'r awdurdod cyfrifol, pan fo hynny'n briodol, ofyn i gyrff penodol i roi'r gwaith o drosglwyddo cofnodion perthnasol ar droed.

Mae rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff gwirfoddol a'r personau hynny sy'n cadw cartrefi preifat i blant hybu cyswllt rhwng plentyn a phobl benodol.

Mae rheoliad 8 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cyfrifol wneud trefniadau ar gyfer asesu iechyd plentyn, ar gyfer darparu gwasanaethau gofal iechyd yn ystod cyfnod y lleoliad ac ar gyfer cofrestru'r plentyn gyda meddyg teulu a deintydd.

Mae rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cyfrifol gadw cofnod achos ysgrifenedig ar gyfer pob plentyn y mae'n ei leoli, ac yn darparu ar gyfer y math o wybodaeth i'w chadw yn y cofnod hwnnw.

Mae rheoliad 10 yn darparu ar gyfer faint o amser y mae'n rhaid cadw cofnod achos ac ar gyfer diogelwch a chyfrinachedd y cofnodion hynny.

Mae rheoliad 11 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol, corff gwirfoddol a pherson sy'n cadw cartref preifat i blant, gadw cofrestr yn cynnwys manylion yr holl blant a leolir ganddynt.

Mae rheoliad 12 yn ei gwneud yn ofynnol i gorff gwirfoddol neu berson sy'n cadw cartref preifat i blant, ddarparu bod swyddogion achosion teuluol ar gyfer Cymru neu swyddogion y gwasanaeth yn cael gweld cofnodion.

Mae rheoliad 13 yn darparu ar gyfer y trefniadau sydd i'w gwneud rhwng awdurdod lleol ac awdurdod ardal, pan fydd awdurdod lleol yn trefnu i'r awdurdod ardal gyflawni rhai o'i swyddogaethau mewn cysylltiad â phlentyn sydd yn derbyn gofal gan yr awdurdod lleol.

Mae rheoliad 14 yn darparu ar gyfer cymhwyso'r Rheoliadau i leoliadau tymor byr.

Mae rheoliad 15 yn dirymu Rheoliadau Trefniadau Lleoli Plant (Cyffredinol) 1991 o ran Cymru.