Derbyn taliadau gwerth trosglwyddo
10.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) isod a pharagraffau (2) a (3) o reol 2 Rhan 10 (cyfrif gwasanaeth pensiynadwy), pan fo cais yn cael ei wneud yn briodol gan aelod o dan reol 8, caiff yr awdurdod dderbyn y taliad gwerth trosglwyddo.
(2) Os yw'r awdurdod yn derbyn y taliad, mae gan yr aelod hawlogaeth i gyfrif y cyfnod a gyfrifwyd yn unol â rheol 11 yn wasanaeth pensiynadwy at ddibenion y Cynllun hwn.
(3) Ni chaiff yr awdurdod dderbyn taliad gwerth trosglwyddo—
(a)os byddai'n cael ei dalu mewn ffordd heblaw o dan drefniadau trosglwyddo sector cyhoeddus,
(b)os byddai'n cael ei gymhwyso'n gyfan gwbl neu'n rhannol mewn perthynas â hawlogaeth yr aelod neu hawlogaeth ei briod neu hawlogaeth ei bartner sifil i gael pensiwn â lleiafswm gwarantedig, ac
(c)os yw'n llai na'r swm y mae ei angen at y diben hwnnw, fel y'i cyfrifir yn unol â'r canllawiau a'r tablau a baratoir gan Actiwari'r Cynllun at ddibenion y paragraff hwn.