xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2Darpariaethau sy'n ymwneud ag ysgolion cymunedol, ysgolion gwirfoddol a reolir, ysgolion arbennig cymunedol ac ysgolion meithrin a gynhelir

Diswyddo staff

17.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 18, os yw'r corff llywodraethu'n penderfynu y dylai unrhyw berson sydd wedi'i gyflogi neu wedi'i gymryd ymlaen gan yr awdurdod i weithio yn yr ysgol beidio â gweithio yno, mae'n rhaid iddo hysbysu'r awdurdod yn ysgrifenedig am ei benderfyniad a'r rhesymau drosto.

(2Os yw'r person o dan sylw wedi'i gyflogi neu wedi'i gymryd ymlaen i weithio dim ond yn yr ysgol (ac nad yw'n ymddiswyddo), cyn diwedd y cyfnod o bedwar diwrnod ar ddeg sy'n dechrau ar y dyddiad y mae'r hysbysiad o dan baragraff (1) yn cael ei roi, mae'n rhaid i'r awdurdod naill ai—

(a)rhoi iddo unrhyw rybudd i derfynu ei gontract gyda'r awdurdod sy'n ofynnol o dan y contract hwnnw, neu

(b)terfynu'r contract hwnnw heb roi rhybudd os yw'r amgylchiadau'n golygu bod gan yr awdurdod hawl i wneud hynny oherwydd ymddygiad y person.

(3Os nad yw'r person o dan sylw wedi'i gyflogi neu wedi'i gymryd ymlaen gan yr awdurdod i weithio dim ond yn yr ysgol, mae'n rhaid i'r awdurdod ei gwneud yn ofynnol iddo beidio â gweithio yn yr ysgol ar unwaith.

(4Os yw paragraff (3) yn gymwys, rhaid peidio â thalu'r un rhan o'r costau a dynnir gan yr awdurdod addysg lleol mewn perthynas ag enillion y person o dan sylw o gyfran yr ysgol o'r gyllideb, i'r graddau y maent yn ymwneud ag unrhyw gyfnod sy'n syrthio ar ôl i'w gyfnod hysbysu contractiol ddod i ben.

(5Mae'r cyfeiriad ym mharagraff (4) at gyfnod rhybuddio contractiol y person yn gyfeiriad at y cyfnod rhybuddio y byddai ei angen o dan ei gontract cyflogaeth gyda'r awdurdod er mwyn terfynu'r contract hwnnw pe bai rhybudd o'r fath wedi'i roi ar y dyddiad y cafodd yr hysbysiad o dan baragraff (1) ei roi.

(6Mae'n rhaid i'r corff llywodraethu—

(a)gwneud trefniadau i roi cyfle i unrhyw berson y mae'n bwriadu gwneud penderfyniad mewn perthynas ag ef o dan baragraff (1) gyflwyno sylwadau am y camau y mae'r corff llywodraethu'n bwriadu eu cymryd (gan gynnwys, os yw'r person yn dymuno, sylwadau ar lafar i unrhyw berson neu bersonau a benodir at y diben gan y corff llywodraethu), a

(b)rhoi sylw i unrhyw sylwadau sy'n cael eu cyflwyno gan y person.

(7Rhaid hefyd i'r corff llywodraethu wneud trefniadau i roi cyfle i unrhyw berson y mae wedi gwneud penderfyniad mewn perthynas ag ef o dan baragraff (1) apelio yn erbyn y penderfyniad cyn i'r corff llywodraethu hysbysu'r awdurdod addysg lleol amdano.

(8Nid oes dim ym mharagraffau (6) a (7) i fod yn gymwys i berson—

(a)sydd i fod i beidio â gweithio yn yr ysgol am y rheswm bod ei gontract cyflogaeth wedi dod i ben am fod amser wedi mynd heibio; a

(b)sydd heb gael ei gyflogi'n ddi-dor yn yr ysgol, o fewn ystyr Deddf Hawliau Cyflogaeth 1996, am gyfnod yr un mor hir o leiaf â'r cyfnod sydd am y tro wedi'i bennu yn adran 108(1) o'r Ddeddf honno(1).

(9Mae gan brif swyddog addysg yr awdurdod addysg lleol, neu ei gynrychiolydd, a'r pennaeth (ac eithrio os y pennaeth yw'r person o dan sylw) hawl i fod yn bresennol yn holl wrandawiadau'r pwyllgor disgyblu staff a'r pwyllgor apelau disgyblu, er mwyn rhoi cyngor(2).

(10Rhaid i'r pwyllgor disgyblu staff a'r pwyllgor apelau disgyblu ystyried unrhyw gyngor sy'n cael ei roi gan berson sydd â hawl i fod yn bresennol mewn gwrandawiadau o'r fath o dan baragraff (9) cyn gwneud penderfyniad o dan baragraff (1).

(11Rhaid i'r awdurdod addysg lleol beidio â diswyddo person sydd wedi'i gyflogi ganddo i weithio dim ond yn yr ysgol ac eithrio yn unol â'r darpariaethau ym mharagraffau (1) a (2).

(12Nid yw paragraff (11) yn gymwys mewn achos—

(a)lle mae'n ofynnol diswyddo'r person o dan sylw yn rhinwedd cyfarwyddyd sydd wedi'i roi o dan adran 142 o Ddeddf 2002 neu reoliadau sydd wedi'u gwneud o dan adran 19 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(3), neu

(b)lle mae'r person o dan sylw yn athro neu athrawes sy'n destun gorchymyn cofrestru amodol, gorchymyn atal neu orchymyn gwahardd sydd wedi'i wneud o dan Atodlen 2 i Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(4).

(1)

Fel y'i diwygiwyd gan erthygl 3 o Orchymyn Diswyddo Annheg a Datganiad o'r Rhesymau dros Ddiswyddo (Amrywio'r Cyfnod Cymhwyso) 1991 (O.S. 1999/1436).

(2)

Mae'r gofynion i sefydlu pwyllgor disgyblu staff a phwyllgor apeliadau disgyblu i'w rheoliad 55 o Reoliadau Llywodraeth Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005.

(3)

1998 p.30. Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003, O.S. 2003/543 (Cy.77) fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2004/872 (Cy.87).

(4)

Fel y'i diwygiwyd gan adran 148 o Ddeddf 2002, a pharagraffau 1 a 12 o Ran 1 o Atodlen 12 iddi.