xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Casglu dirwyon

10.—(1Os gosodir dirwy gan lys ynadon ar berson sydd â gofal cwch pysgota a gollfernir gan y llys o dramgwydd o dan y Gorchymyn hwn neu o dan unrhyw ddarpariaeth gyfatebol, caiff y llys—

(a)dyroddi gwarant atafaelu yn erbyn y cwch a oedd yn gysylltiedig â'r tramgwydd a gafodd ei gyflawni a'i offer pysgota a'i ddalfa ac unrhyw eiddo gan y person a gollfarwnyd at godi'r swm ar gyfer y ddirwy; a

(b)gorchymyn dal gafael yn y cwch a'i offer a'i ddalfa am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis ar ôl dyddiad y collfarniad neu hyd nes y telir y ddirwy neu hyd nes y codir y swm ar gyfer y ddirwy yn unol ag unrhyw warant o'r fath, p'un bynnag sy'n digwydd gyntaf.

(2Mae adrannau 77(1) a 78 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980(1) (gohirio dyroddi gwarantau atafaelu a diffygion ynddynt) yn gymwys i warant atafaelu a ddyroddir o dan yr erthygl hon fel y maent yn gymwys i warant atafaelu a ddyroddir o dan Ran III o'r Ddeddf honno.

(3Pan fydd gorchymyn, o ran dirwy ynghylch tramgwydd o dan y Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol, o dan Erthygl 95 o Orchymyn Llysoedd Ynadon (Gogledd Iwerddon) 1981(2) neu adran 222 o Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (yr Alban) 1995(3) (y mae'r ddwy yn ymwneud â throsglwyddo dirwyon o un awdurdodaeth i un arall) yn pennu ardal cyfiawnder lleol yng Nghymru, mae'r erthygl hon yn gymwys fel pe bai'r ddirwy wedi cael eu gosod gan lys yn yr ardal cyfiawnder lleol honno.

(1)

1980 p. 43. Diwygiwyd adran 78 gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982 (p.48), adrannau 37 a 46, a Deddf y Llysoedd 2003 (p.39), adran 109(1) ac Atodlen 8 paragraff 219(a).