xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i dai amlfeddiannaeth yng Nghymru ond nid ydynt yn gymwys i flociau o fflatiau a droswyd y mae adran 257 o Ddeddf Tai 2004 yn gymwys iddynt. Mae'r adran honno yn gymwys i adeiladau a gafodd eu trosi'n fflatiau hunangynhaliol ac sy'n fflatiau hunangynhaliol pan nad oedd y gwaith adeiladu a wnaed mewn cysylltiad â'r trosiad yn cydymffurfio â'r safonau adeiladu priodol ac nad yw o hyd yn cydymffurfio â hwy, ac mae llai na dwy ran o dair o'r fflatiau hunangynhaliol wedi'u perchen-feddiannu.

Mae'r Rheoliadau yn gosod dyletswyddau ar y person sy'n rheoli tŷ amlfeddiannaeth o ran—

Mae rheoliad 10 yn gosod dyletswyddau ar feddianwyr tŷ amlfeddiannaeth at ddibenion sicrhau bod y person sy'n ei reoli yn gallu cyflawni'r dyletswyddau a osodir ar y rheolwr gan y Rheoliadau hyn yn effeithiol.

Mae person sy'n methu â chydymffurfio â'r Rheoliadau hyn yn cyflawni tramgwydd o dan adran 234(3) o Ddeddf Tai 2004, a gellir ei gosbi ar gollfarn ddiannod â dirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Mae arfarniad rheoliadol o'r effaith y bydd y Rheoliadau hyn yn eu cael ar gael oddi wrth yr Uned Sector Preifat, yr Adran Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ (ffôn: 02920825111; e-bost HousingIntranet@wales.gsi.gov.uk).