xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 3225 (Cy.237)

TWRISTIAETH, CYMRU

Gorchymyn Bwrdd Croeso Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu'r Bwrdd) 2005

Wedi'i wneud

22 Tachwedd 2005

Yn dod i rym drannoeth ei wneud

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 28 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(1) ac Atodlen 4 iddi, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdd Croeso Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu'r Bwrdd) 2005 a daw i rym drannoeth ei wneud.

(2Yn y Gorchymyn hwn:

Trosglwyddo swyddogaethau, eiddo, hawliau a rhwymedigaethau'r Bwrdd i'r Cynulliad

2.—(1Ar y dyddiad trosglwyddo mae swyddogaethau'r Bwrdd yn cael eu trosglwyddo i'r Cynulliad yn unol â darpariaethau Atodlenni 1 a 2 sy'n diwygio'r deddfiadau a'r offerynnau sy'n ymwneud â'r Bwrdd er mwyn:

(a)trosglwyddo ei swyddogaethau i'r Cynulliad, a

(b)gwneud darpariaeth sy'n ganlyniad i'r trosglwyddo neu sydd yn gysylltiedig neu'n atodol i hynny.

(2Yn rhinwedd y paragraff hwn, ar y dyddiad trosglwyddo trosglwyddir i'r Cynulliad a breinir ynddo yr holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau y mae gan y Bwrdd hawl iddynt neu y mae'n ddarostyngedig iddynt yn union o flaen y dyddiad hwnnw.

(3Mae'r hawliau a'r rhwymedigaethau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (2) uchod yn cynnwys rhai sy'n codi o dan contract cyflogi a wnaed rhwng cyflogai perthnasol a'r Bwrdd.

(4Mae Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 1981(2) yn gymwys i drosglwyddo swyddogaethau'r Bwrdd i'r Cynulliad boed ar wahân i'r ddarpariaeth hon ai peidio, y byddai cyflawni'r swyddogaethau hyn yn cael eu trin fel ymgymeriad o natur fasnachol at ddibenion y Rheoliadau hynny.

(5Mae tystysgrif a ddyroddwyd gan y Cynulliad bod unrhyw eiddo wedi'i drosglwyddo o dan baragraff (2) yn dystiolaeth bendant o'r trosglwyddiad.

(6Mae paragraff (2) yn cael effaith mewn perthynas â'r eiddo, hawliau neu rwymedigaethau y mae yn gymwys iddynt er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth (o ba natur bynnag) a fyddai'n atal trosglwyddo'r eiddo, yr hawliau neu'r rhwymedigaethau neu'n cyfyngu ar eu trosglwyddo heblaw gan y paragraff hwnnw.

Darpariaethau trosiannol

3.—(1Nid oes dim yn erthygl 2 nac Atodlenni 1 a 2 sy'n effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth sy'n cael ei wneud gan y Bwrdd neu mewn perthynas ag ef cyn bod ei swyddogaethau yn cael eu trosglwyddo.

(2Caniateir i unrhyw beth (gan gynnwys achos cyfreithiol) gael ei barhau gan y Cynulliad neu mewn perthynas â'r Cynulliad os yw—

(a)yn ymwneud ag unrhyw un o swyddogaethau'r Bwrdd neu ag unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau sy'n cael eu trosglwyddo o dan erthygl 2(2), a

(b)wrthi'n cael ei wneud gan y Bwrdd neu mewn perthynas ag ef pan fo'r swyddogaethau a enwyd yn cael eu trosglwyddo.

(3Mae unrhyw beth—

(a)a wnaed gan y Bwrdd at ddibenion unrhyw un o'i swyddogaethau neu mewn cysylltiad â'r swyddogaeth honno neu gan y Bwrdd at ddibenion unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau sy'n cael eu trosglwyddo o dan erthygl 2(2) neu mewn cysylltiad â hwy; a

(b)sy'n cael effaith yn union cyn bod ei swyddogaethau yn cael eu trosglwyddo,

i gael effaith fel petai wedi'i wneud gan y Cynulliad.

(4Mae'r Cynulliad yn cael ei roi yn lle'r Bwrdd mewn unrhyw offerynnau, contractau neu achosion cyfreithiol sy'n ymwneud—

(a)ag unrhyw un o swyddogaethau'r Bwrdd, a

(b)ag unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau sy'n cael eu trosglwyddo o dan erthygl 2(2),

ac sydd wedi'u gwneud neu wedi'u cychwyn cyn i'w swyddogaethau gael eu trosglwyddo.

(5Ar y dyddiad trosglwyddo, bydd rhwymedigaethau'r Bwrdd, y Cynulliad ac Archwilydd Cyffredinol Cymru y cyfeirir atynt isod a gynhywsir yn adran 6 o Ddeddf Datblygu Twristiaeth 1969(3) yn effeithiol o ran y flwyddyn ariannol 2005 i 2006 yn unig ond fel arall diddymir hwy:

(a)rhwymedigaeth y Bwrdd o dan adran 6(1) i baratoi datganiad o gyfrif, gyda'r arbediad bod y rhwymedigaeth yn cael ei throsglwyddo i'r Cynulliad,

(b)rhwymedigaeth y Cynulliad o dan adran 6(3) i drosglwyddo'r datganiad o gyfrif i Archwilydd Cyffredinol Cymru, ac

(c)rhwymedigaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan adran 6(4) i archwilio ac ardystio'r datganiad o gyfrif a gosod copïau o'r datganiad o gyfrif gerbron y Cynulliad ynghyd ag adroddiad arno.

Diddymu

4.  Ar ôl trosglwyddo ei swyddogaethau, eiddo, hawliau a rhwymedigaethau i'r Cynulliad yn unol ag Erthygl 2, daw bodolaeth y Bwrdd i ben.

Dirwyn i ben

5.  Rhaid i'r Bwrdd roi i'r Cynulliad yr holl wybodaeth a gwneud yr holl bethau eraill sy'n ymddangos i'r Cynulliad eu bod yn briodol er mwyn hwyluso trosglwyddo ei swyddogaethau i'r Cynulliad ac er mwyn hwyluso'i ddiddymiad yn unol â'r Gorchymyn hwn.

Diwygiadau i ddeddfwriaeth bresennol

6.—(1Diwygir darpariaethau Deddf Datblygu Twristiaeth 1969 a Deddf Twristiaeth (Ei Hyrwyddo Dramor) (Cymru) 1992(4) a bennir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn unol â'r Atodlen honno ar y dyddiad trosglwyddo.

(2Diwygir y deddfiadau a bennir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn yn unol â'r Atodlen honno ar y dyddiad trosglwyddo.

(3Mae'r diwygiadau i'r deddfiadau yn ymestyn i'r un graddau â'r ddarpariaeth yn y deddfiad sy'n cael ei ddiwygio.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

22 Tachwedd 2005

Erthygl 6(1)

ATODLEN 1

RHAN 1

Deddf Datblygu Twristiaeth 1969 (p.51)

Mae Deddf Datblygu Twristiaeth 1969 wedi'i diwygio fel a ganlyn.

1.  Yn adran 1 (Sefydlu Awdurdod Twristiaeth Prydeinig, Bwrdd Twristiaeth Lloegr, Bwrdd Twristiaeth yr Alban a Bwrdd Croeso Cymru)—

(1yn is-adran (1) yn lle “four” rhodder “three” ac yn lle “, the Scottish Tourist Board and the Wales Tourist Board” rhodder “and the Scottish Tourist Board”;

(2ym mharagraff (b) o is-adran (2), yn lle “the Chairman of the Wales Tourist Board” rhodder “a person appointed by the National Assembly for Wales”;

(3yn is-adran (3)—

(a)yn lle “Trade,” rhodder “Trade and”, a

(b)dileër “, and the Wales Tourist Board shall consist of a chairman and not more than six other members appointed by the Secretary of State for Wales”;

(4yn is-adran (6), yn lle “Trade,” rhodder “Trade and” a dileër “and, in relation to the Wales Tourist Board, the Secretary of State for Wales”; a

(5yn y pennawd, yn lle “, Scottish Tourist Board and Wales Tourist Board” rhodder “and Scottish Tourist Board”.

2.  Yn adran 2 (Swyddogaethau a phwerau cyffredinol)—

(1yn is-adran (1), yn lle “Wales Tourist Board” rhodder “National Assembly for Wales”;

(2yn is-adran (2), yn lle “and (4)” rhodder “, (4) and (4A)”, ar ôl “each Tourist Board” mewnosoder “and the National Assembly for Wales” ac ym mharagraff (e) ar ôl “Board” mewnosoder “or the National Assembly for Wales”;

(3yn is-adran (3), ar ôl “Tourist Boards” mewnosoder “or the National Assembly for Wales”;

(4ar ôl is-adran (4) ychwaneger—

(4A) The National Assembly for Wales shall also have no such power under this Act, except as provided by sections 3 and 4A.;

(5yn is-adran (5), yn lle “Wales Tourist Board” rhodder “National Assembly for Wales”, ar ôl “Boards” y tro cyntaf a'r ail dro yr ymddangosir mewnosoder “or the National Assembly for Wales” ac ar ôl y trydydd tro mewnosoder “and the National Assembly for Wales”;

(6yn is-adran (6)—

(a)ar ôl “each Tourist Board” mewnosoder “and the National Assembly for Wales”, a

(b)ar ôl “other Tourist Boards” mewnosoder “and, as appropriate, the National Assembly for Wales”;

(7ar ôl is-adran (7) ychwaneger—

(7A) The National Assembly for Wales may charge for its services and receive contributions towards its expenses in carrying out any of its functions under this Act as read with the Tourism (Overseas Promotion) (Wales) Act 1992(6); ac

(8ar ôl is-adran (8) ychwaneger—

(8A) The National Assembly for Wales may borrow money for the purposes of exercising its functions under this Act as read with the Tourism (Overseas Promotion)(Wales) Act 1992..

3.  Yn adran 3 (Cynlluniau cyffredinol o gymorth i brosiectau twristaidd)—

(1yn is-adran (1), yn lle “Wales Tourist Board” rhodder “National Assembly for Wales” ac ar ôl “Boards” mewnosoder “and the National Assembly for Wales”;

(2yn is-adran (4), ar ôl “a Tourist Board” mewnosoder “and the National Assembly for Wales”; a

(3yn is-adran (5), yn lle “Wales Tourist Board” rhodder “National Assembly for Wales”.

4.  Ar ôl adran 4 (Gweithredu prosiectau twristaidd penodol) ychwaneger—

4A  Execution of particular tourist projects: Wales

(1) The National Assembly for Wales shall have power—

(a)to give financial assistance for the carrying out of any project which in its opinion will provide or improve tourist amenities and facilities in Wales;

(b)to carry out any such project as aforesaid.

(2) Financial assistance under subsection (1) of this section may be given by way of grant or loan or, if the project is being or is to be carried out by a company incorporated in Great Britain, by subscribing for or otherwise acquiring shares or stock in the company or by any combination of those methods.

(3) In making a grant or loan under subsection (1)(a) of this section the National Assembly for Wales may impose such terms and conditions as it thinks fit, including conditions for the repayment of a grant in specified circumstances; and Schedule 2 to this Act shall have effect for securing compliance with conditions subject to which any such grant is made.

(4) The National Assembly for Wales shall not dispose of any shares or stock acquired by it by virtue of this section except after consultation with the company in which the shares or stock are held..

5.  Yn is-adran (1) o adran 5 (Dyletswyddau a phwerau amrywiol), yn lle “Wales Tourist Board” rhodder “National Assembly for Wales”.

6.  Yn adran 17 (Cofrestru llety twristaidd)—

(1yn is-adran (1), ar ôl “Boards” mewnosoder “and the National Assembly for Wales”;

(2yn is-adran (3), ym mharagraff (a) yn lle “Wales Tourist Board” rhodder “National Assembly for Wales”, ac ym mharagraff (c) ar ôl “any Tourist Board” mewnosoder “or the National Assembly for Wales” ac ar ôl “the Board” mewnosoder “or (as the case may be) the Assembly”;

(3yn is-adran (4), yn lle “Secretary of State for Wales” rhodder “National Assembly for Wales”; a

(4ar ôl is-adran (7), ychwaneger—

(7A) Subsection (7) applies in relation to the National Assembly for Wales if it is maintaining such a register as it applies in relation to a Tourist Board..

7.  Yn Atodlen 2 (Gorfodi amodau grant)—

(1ar ôl is-baragraff (1) o baragraff 1 ychwaneger—

(1A) Sub-paragraph (1) applies in relation to the National Assembly for Wales and any person who has received a grant from the Assembly (and any person acting on that person’s behalf) as it applies in relation to a Tourist Board and the corresponding persons.;

(2yn is-baragraff (1) o baragraff 2, ar ôl “Tourist Board” mewnosoder “or the National Assembly for Wales” ac ar ôl “the Board” mewnosoder “or (as the case may be) the Assembly”; a

(3yn is-baragraff (1) o baragraff 3, ar ôl “Tourist Board” mewnosoder “or the National Assembly for Wales”.

RHAN 2

Deddf Twristiaeth (Ei Hyrwyddo Dramor) (Cymru) 1992 (p.26)

Diwygir Deddf Twristiaeth (Ei Hyrwyddo Dramor) (Cymru) 1992 fel a ganlyn—

1.  Yn adran 1 (Pŵer Bwrdd Croeso Cymru i ymwneud y tu allan i'r DU â hyrwyddo twristiaeth yng Nghymru):

(1yn is-adran (1), yn lle “Wales Tourist Board” rhodder “National Assembly for Wales”;

(2dileër is-adran (2);

(3yn is-adran (3)(b), yn lle “Wales Tourist Board” rhodder “National Assembly for Wales”; a

(4yn y pennawd, yn lle “Wales Tourist Board” rhodder “National Assembly for Wales”.

Erthygl 6(2)

ATODLEN 2

RHAN 1

Deddfwriaeth Sylfaenol:

Deddf Anghymhwyso o Dŷ'r Cyffredin 1975 (p.24)

1.  Yn Atodlen 1 (Swyddi sy'n anghymhwyso o aelodaeth) i Ddeddf Anghymhwyso o Dŷ'r Cyffredin 1975, yn Rhan III, yn yr eitem sy'n ymwneud ag unrhyw aelod yn derbyn tâl o'r Awdurdod Dwristiaeth Brydeinig (etc), yn lle “, the Scottish Tourist Board or the Wales Tourist Board” rhodder “or the Scottish Tourist Board”.

Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 (p.74)

2.  Yn Rhan II o Atodlen 1A (Cyrff a phersonau eraill sy'n ddarostyngedig i ddyletswydd statudol gyffredinol) i Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1976 dileer yr eitem sydd yn ymwneud â Bwrdd Croeso Cymru.

Deddf Awdurdod Llundain Fwyaf 1999 (p.29)

3.  Yn Neddf Awdurdod Llundain Fwyaf 1999:

(1yn is-adran (5) o adran 378 (Dyletswydd yr Awdurdod i hyrwyddo twristiaeth) ar ôl paragraff (a) mewnosoder:

(aa)the National Assembly for Wales; a

(2yn is-adran (11) o adran 378:

(a)ar ddiwedd paragraff (c) mewnosoder “or”; a

(b)dileër paragraff (e) a'r gair “or” sy'n ei ragflaenu.

Deddf Safonau Gofal 2000 (p.14)

4.  Yn Atodlen 2A (Personau sy'n ddarostyngedig i adolygiad gan y Comisynydd o dan Adran 72B) i Ddeddf Safonau Gofal 2000, dileer paragraff 21.

Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (p.36)

5.  Yn Rhan VI o Atodlen 1 (Awdurdodau cyhoeddus) i Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, dileer “The Wales Tourist Board”.

Deddf Datblygu Rhyngwladol 2002 (p.1)

6.  Yn Neddf Datblygu Rhyngwladol 2002:

(1yn is-adran (4)(b) o adran 9 (Pwerau cyrff statudol), ar ôl “Welsh body” mewnosoder “other than the National Assembly for Wales”; a

(2yn Atodlen 1 (Cyrff statudol y mae adran 9 yn gymwys iddynt), yn lle “Wales Tourist Board” rhodder “National Assembly for Wales”.

Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (p.10)

7.  Yn Atodlen 3 (Awdurdodau rhestredig) i Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005, hepgorer “The Wales Tourist Board”.

RHAN 2

Is-ddeddfwriaeth:

Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) (Cyrff Cyhoeddus) 1975 (OS 1975/193)

1.  Yn yr Atodlen (Cyrff cenedlaethol neu gyrff sy'n perthyn i gyrff cenedlaethol) i Orchymyn Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) (Cyrff Cyhoeddus) 1975:

(1dileër “The Wales Tourist Board”; a

(2yn yr eitem sy'n dechrau â'r geiriau “A regional tourist board ... ... ... ...” hepgorer “or the Wales Tourist Board”.

Gorchymyn Cynlluniau Iaith Cymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 1996 (OS 1996/1898)

2.  Yn yr Atodlen i Orchymyn Cynlluniau Iaith Cymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 1996, dileer “Wales Tourist Board” a “Bwrdd Croeso Cymru”.

Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999(O.S. 1999/672)

3.  Yng Ngorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, yn Atodlen 1, yn yr eitem ar gyfer Deddf Datblygu Twristiaeth 1969—

(a)yn y frawddeg gyntaf (yn dilyn enw'r ddeddf), hepgorer y geiriau “in respect of all the functions vested in the Secretary of State for Wales by virtue of section 1(3) and (6).”;

(b)hepgorer yr ail frawddeg (sy'n cychwyn “The Treasury approval requirements under sections 2(8) etc”);

(c)hepgorer y pedwerydd frawddeg (sy'n cychwyn “The function of “the Minister of the Civil Service” etc”); ac

(ch)ac eithrio at ddibenion y datganiad o gyfrif ar gyfer y flwyddyn ariannol 2005 i 2006 y darperir ar ei gyfer yn erthygl 3(5) o'r Gorchymyn hwn, hepgorer yr ail frawddeg (sy'n cychwyn “The Treasury approval requirements under section 6(1) etc) a'r pedwerydd frawddeg (sy'n cychwyn “The functions of the Comptroller and Auditor General etc).

Gorchymyn Deddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 (Esemptio) 2001 (OS 2001/1201)

4.  Yn Rhan III o'r Atodlen (Personau sy'n esempt o ran gweithgaredd a reoleiddir a grybwyllir yn erthygl 5(1)) i Orchymyn Deddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 (Esemptio) 2001, dileer “The Wales Tourist Board”.

Rheoliadau a Chyfarwyddiadau Cyffredinol Arwyddion Traffig 2002 (OS 2002/3113)

5.  Yn rheoliad 4 (Dehongli- cyffredinol) o Reoliadau a Chyfarwyddiadau Cyffredinol Arwyddion Traffig 2002—

(a)yn y diffiniad o “tourist destination”, yn lle “Wales Tourist Board” rhodder “National Assembly for Wales”;

(b)yn y diffiniad o “Tourist Information Centre”, yn lle “England or Wales Tourist Boards” rhodder “England Tourist Board, National Assembly for Wales”; ac

(c)yn y diffiniad o “Tourist Information Point”, ar ôl “tourist board” mewnosoder “or the National Assembly for Wales”.

Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) 2003 (OS 2003/437)

6.  Yn yr Atodlen (Swyddi sy'n anghymhwyso deiliaid o aelodaeth y Cynulliad Cenedlaethol) i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) 2003, dileer “The Wales Tourist Board”.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae adran 28 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 yn rhoi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (y “Cynulliad”) bwerau i ddiwygio cyrff cyhoeddus penodol yng Nghymru, sef y cyrff a restrir yn Atodlen 4 i'r Ddeddf honno. Mae'r adran yn cynnwys y pŵer i drosglwyddo swyddogaethau ac i ddiddymu cyrff o'r fath pan fo'u holl swyddogaethau wedi'u trosglwyddo.

Mae'r Gorchymyn hwn yn trosglwyddo swyddogaethau, eiddo, hawliau a rhwymedigaethau Bwrdd Croeso Cymru (y “Bwrdd”) i'r Cynulliad, yn darparu ar gyfer trosglwyddo staff o'r Bwrdd i'r Cynulliad ac yn gwneud darpariaethau canlyniadol, cysylltiedig, trosiannol ac atodol priodol. Mae hefyd yn diddymu'r Bwrdd.

Mae erthygl 2 yn darparu ar gyfer trosglwyddo swyddogaethau'r Bwrdd i'r Cynulliad ar 1 Ebrill 2006. Mae'r Erthygl hon yn darparu hefyd ar gyfer trosglwyddo staff, eiddo, hawliau a rhwymedigaethau'r Bwrdd i'r Cynulliad. Trosglwyddir staff ar sail yr egwyddorion a sefydlwyd gan Reoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 1981 (O.S. 1981/1794).

Mae erthygl 3 yn gwneud darpariaethau trosiannol penodol ynglŷn â'r eiddo, yr hawliau a'r rhwymedigaethau hynny ac ar gyfer rhoi'r Cynulliad yn lle'r Bwrdd ym mhob offeryn, contract neu achos cyfreithiol perthnasol. Mae hefyd yn darparu bod adroddiad o gyfrif y Bwrdd ar gyfer y flwyddyn ariannol 2005-2006 i'w baratoi gan y Cynulliad. Rhaid anfon adroddiad o gyfrif y Bwrdd ar gyfer 2005-2006 at Archwilydd Cyffredinol Cymru a'i osod wedyn gerbron y Cynulliad ynghyd ag adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn y dull arferol.

Mae erthygl 4 yn darparu bod y Bwrdd yn cael ei ddiddymu yn union ar ôl i swyddogaethau, eiddo, hawliau a rhwymedigaethau'r Bwrdd gael eu trosglwyddo i'r Cynulliad.

Mae erthygl 5 yn gweud darpariaeth ffurfiol i adlewyrchu cydweithio rhwng y Cynulliad a'r Bwrdd er mwyn hwyluso trosglwyddiad y swyddogaethau.

Mae erthygl 6 yn dwyn i rym ar 1 Ebrill 2006 Atodlenni 1 a 2 i'r Gorchymyn, sy'n diwygio deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth o ganlyniad i drosglwyddo swyddogaethau a diddymu'r Bwrdd ac yn gysylltiedig â hynny. I Ddeddf Datblygu Twristiaeth 1969 ac i Ddeddf Twristiaeth (Ei Hyrwyddo Dramor) (Cymru) 1992 y gwneir y newidiadau mwyaf sylweddol. Dirymwyd cyfeiriadau diangen at Fwrdd Croeso Cymru.

(2)

O.S. 1981/1794, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Diwygio'r Undebau Llafur a Hawliau Cyflogaeth 1993 (p.19), gan Ddeddf Gwaith Dociau 1989 (p.13) a chan Offerynnau Statudol 1987/442, 1995/2587, 1998/1658, 1999/1925, 1999/2402 a 1999/2587.