xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 2914 (Cy.211)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005

Wedi'u gwneud

18 Hydref 2005

Yn dod i rym

yn unol â rheoliad 1(1)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 19(2) a (3), 20(2) a (3), 21(3), 23, 210(7) a 214 (1) a (2) o Ddeddf Addysg 2002(1), yn gwneud y rheoliadau canlynol—

RHAN 1Cyflwyniad

Teitl, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 31 Hydref 2005, ar wahân i baragraff (2) o reoliad 2, a rheoliad 38 ac Atodlen 6, a ddeuant i rym ar 1 Ionawr 2006.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.

Dirymiadau, arbedion a diwygiadau

2.—(1Dirymir drwy hyn Reoliadau Addysg (Llywodraethu Ysgolion) (Trawsnewid i Fframwaith Newydd) 1998(2).

(2Dirymir Rheoliadau Addysg (Llywodraethu Ysgolion) (Cymru) 1999(3) yn effeithiol o 1 Ionawr 2006, ac eithrio'r darpariaethau canlynol sy'n parhau mewn grym yn achos pob ysgol a gynhelir hyd nes y gwneir offeryn llywodraethu newydd i'r ysgol yn unol â rheoliad 33—

(3Diwygir paragraff (1) o reoliad 31 o Reoliadau Addysg (Ysgolion Newydd) (Cymru) 1999(4), drwy roi'r geiriau “Part 5 of the Government of Maintained Schools (Wales) Regulations 2005” yn lle'r geiriau “Schedule 12 to the 1998 Act”.

Dehongli

3.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

dehonglir “athro neu athrawes ysgol” (“school teacher”) yn unol ag adran 122 o Ddeddf 2002;

ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996(5);

ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(6);

ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002;

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod heblaw dydd Sadwrn, dydd Sul neu ddiwrnod sy'n ŵyl banc o fewn ystyr “bank holiday” yn Neddf Bancio a Deliadau Ariannol 1971(7).

(2Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn—

(a)at y corff llywodraethu neu at gorff llywodraethu ysgol yn gyfeiriad at gorff llywodraethu unrhyw ysgol a gynhelir y mae'r ddarpariaeth yn berthnasol iddi;

(b)at lywodraethwr yn gyfeiriad at aelod o gorff llywodraethu unrhyw ysgol y mae'r ddarpariaeth yn berthnasol iddi;

(c)at yr awdurdod addysg lleol yn gyfeiriad at yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol.

(3Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn—

(a)at reoliad, Rhan neu Atodlen â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad, Rhan neu'r Atodlen sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn;

(b)at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y rheoliad neu'r Atodlen y mae'r cyfeiriad yn ymddangos ynddynt;

(c)at is-baragraff â rhif yn gyfeiriad at yr is-baragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y paragraff y mae'r cyfeiriad yn ymddangos ynddo.

RHAN 2Categorïau Llywodraethwyr

Rhiant-lywodraethwyr

4.—(1Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “rhiant-lywodraethwr” (“parent governor”) yw—

(a)person a etholir yn unol â pharagraffau 4 i 9 o Atodlen 1 yn llywodraethwr gan rieni disgyblion cofrestredig yn yr ysgol ac sydd ei hun yn rhiant o'r fath pan gaiff ei ethol, neu

(b)person a benodir yn rhiant-lywodraethwr yn unol â pharagraffau 10 i 12 o Atodlen 1.

(2Anghymhwysir person rhag bod yn rhiant-lywodraethwr yn unol â pharagraffau 10 i 12 o Atodlen 1 os yw—

(a)yn aelod etholedig o'r awdurdod addysg lleol;

(b)yn cael ei gyflogi gan yr awdurdod addysg lleol mewn cysylltiad â'i swyddogaethau fel awdurdod addysg lleol; neu

(c)yn cael ei dalu i weithio yn yr ysgol am fwy na 500 awr mewn unrhyw gyfnod o ddeuddeg mis yn dechrau ar 1 Awst ac yn gorffen ar 31 Gorffennaf,

os nad yw'n rhiant i ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol.

(3Nid anghymhwysir person rhag parhau i fod yn rhiant-lywodraethwr pan beidia â bod yn rhiant disgybl cofrestredig yn yr ysgol neu pan beidia â bodloni unrhyw rai o'r gofynion a nodir ym mharagraffau 11 a 12 o Atodlen 1 (yn ôl fel y digwydd) onis anghymhwysir fel arall o dan y Rheoliadau hyn.

(4Mae Atodlen 1 yn gymwys i ethol a phenodi rhiant-lywodraethwyr.

Athro-lywodraethwyr

5.—(1Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “athro-lywodraethwr” (“teacher governor”) yw person—

(a)a etholir yn unol ag Atodlen 2 yn llywodraethwr gan athrawon ysgol yn yr ysgol, a

(b)sydd ei hun yn athro neu athrawes ysgol o'r fath pan etholir ef neu hi.

(2Pan fydd yn gorffen gweithio yn yr ysgol anghymhwysir athro-lywodraethwr rhag parhau i ddal swydd fel llywodraethwr o'r fath.

Staff-lywodraethwyr

6.—(1Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “staff-lywodraethwr” (“staff governor”) yw person—

(a)a etholir yn unol ag Atodlen 2 yn llywodraethwr gan bersonau a gyflogir i weithio yn yr ysgol ond nid fel athrawon ysgol, a

(b)sydd ei hun yn berson a gyflogir yn y cyfryw fodd pan etholir ef;

ac at y diben hwn, ystyr “a gyflogir” (“employed”) yw a gyflogir o dan gontract cyflogaeth neu gontract am wasanaethau.

(2Pan fo offeryn llywodraethu ysgol feithrin a gynhelir yn gwneud darpariaeth yn unol â rheoliad 14(3), ystyr “staff-lywodraethwr” (“staff governor”) yw person—

(a)a etholir yn unol ag Atodlen 2 yn llywodraethwr gan bersonau a gyflogir i weithio yn yr ysgol, a

(b)sydd ei hun yn berson a gyflogir yn y cyfryw fodd pan etholir ef;

ac at y diben hwn, ystyr “a gyflogir” (“employed”) yw a gyflogir o dan gontract cyflogaeth neu gontract am wasanaethau.

(3Pan fydd yn gorffen gweithio yn yr ysgol anghymhwysir staff-lywodraethwr ysgol rhag parhau i ddal swydd fel llywodraethwr o'r fath.

Llywodraethwyr AALl

7.—(1Yn y Rheoliadau hyn ystyr “llywodraethwr AALl” (“LEA governor”) yw person a benodir yn llywodraethwr gan yr awdurdod addysg lleol.

(2Anghymhwysir person rhag cael ei benodi na pharhau i ddal swydd fel llywodraethwr AALl ysgol os yw'n gymwys i fod yn athro- lywodraethwr neu'n staff-lywodraethwr i'r ysgol.

Llywodraethwyr cymunedol

8.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “llywodraethwr cymunedol” (“community governor”) yw person a benodir yn llywodraethwr gan y corff llywodraethu ac sydd—

(a)

yn berson sy'n byw neu'n gweithio yn y gymuned a wasanaethir gan yr ysgol, neu

(b)

yn berson sydd, ym marn y corff llywodraethu, yn ymrwymedig i lywodraeth dda a llwyddiant yr ysgol;.

ystyr “llywodraethwr cymunedol ychwanegol” (“additional community governor”) yw llywodraethwr a benodir yn unol â rheoliad 20.

(2Anghymhwysir person rhag cael ei benodi na pharhau i ddal swydd fel llywodraethwr cymunedol ysgol os yw—

(a)yn ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol;

(b)yn gymwys i fod yn athro-lywodraethwr neu'n staff-lywodraethwr i'r ysgol.

(3Anghymhwysir person rhag cael ei benodi'n llywodraethwr cymunedol ysgol os yw'n aelod etholedig o'r awdurdod addysg lleol.

(4Nid yw paragraffau (2) a (3) yn gymwys yn achos llywodraethwr cymunedol ychwanegol.

Llywodraethwyr sefydledig

9.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “llywodraethwr sefydledig” (“foundation governor”) yw person a benodir yn llywodraethwr ac eithrio gan yr awdurdod addysg lleol ac—

(a)

pan fo gan yr ysgol gymeriad crefyddol arbennig(8), a benodir at ddiben sicrhau y diogelir ac y datblygir y cymeriad hwnnw,

(b)

pan fo ymddiriedolaeth yn ymwneud â'r ysgol, a benodir at ddiben sicrhau y rhedir yr ysgol yn unol â'r ymddiriedolaeth honno, neu

(c)

pan nad oes gan yr ysgol gymeriad crefyddol a phan nad oes ymddiriedolaeth yn ymwneud â hi, a benodir yn llywodraethwr sefydledig i'r ysgol;

ystyr “llywodraethwr sefydledig ex officio” (“ex officio foundation governor”) yw llywodraethwr sefydledig sy'n ddeiliad swydd y mae ganddo hawl i fod yn llywodraethwr sefydledig yn rhinwedd y swydd honno;

ystyr “dirprwy lywodraethwr” (“substitute governor”) yw llywodraethwr sefydledig a benodir i weithredu yn lle llywodraethwr sefydledig ex officio

(a)

sy'n anfodlon neu'n methu â gweithredu fel llywodraethwr,

(b)

sydd wedi ei ddiswyddo fel llywodraethwr o dan reoliad 27(2), neu

(c)

os yw'r swydd sy'n rhoi bod i swydd llywodraethwr o'r fath yn wag.

(2Anghymhwysir llywodraethwr sefydledig ex officio, pan beidia â dal y swydd y mae ei swydd fel llywodraethwr yn deillio ohoni, rhag parhau i ddal swydd fel llywodraethwr o'r fath.

Llywodraethwyr partneriaeth

10.—(1Yn y Rheoliadau hyn ystyr “llywodraethwr partneriaeth” (“partnership governor”) yw person a enwebir yn llywodraethwr partneriaeth ac a benodir yn llywodraethwr o'r fath yn unol ag Atodlen 3.

(2Anghymhwysir person rhag cael ei enwebu na'i benodi'n llywodraethwr partneriaeth ysgol os yw—

(a)yn rhiant disgybl cofrestredig yn yr ysgol ;

(b)yn ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol;

(c)yn gymwys i fod yn athro-lywodraethwr neu staff-lywodraethwr i'r ysgol;

(ch)yn aelod etholedig o'r awdurdod addysg lleol; neu

(d)yn cael ei gyflogi gan yr awdurdod addysg lleol mewn perthynas â'i swyddogaethau fel awdurdod addysg lleol.

Noddwr-lywodraethwyr

11.  Yn y Rheoliadau hyn ystyr “noddwr-lywodraethwr” (“sponsor governor”) yw person a enwebir yn noddwr-lywodraethwr ac a benodir yn llywodraethwr o'r fath gan y corff llywodraethu yn unol ag Atodlen 4.

Llywodraethwyr cynrychioliadol

12.  Yn y Rheoliadau hyn ystyr “llywodraethwr cynrychioliadol” (“representative governor”) yw person a benodir yn llywodraethwr o'r fath yn unol â pharagraffau (4) neu (5) o reoliad 15.

RHAN 3CYFANSODDIAD CYRFF LLYWODRAETHU

Ysgolion Cymunedol

13.—(1Rhaid i gorff llywodraethu ysgol gymunedol gynnwys y canlynol—

(a)y pennaeth, onid yw'n ymddiswyddo yn unol â rheoliad 26(1);

(b)llywodraethwyr ym mhob un o'r categorïau a bennir yng ngholofn gyntaf y tabl isod, yn y niferoedd a bennir ym mha un bynnag o'r colofnau eraill sy'n berthnasol i'r ysgol.

TABL

Categori llywodraethwrYsgol uwchradd-arferolYsgol uwchradd-dewis os oes llai na 600 o ddisgyblion cofrestredigYsgol gynradd-arferolYsgol gynradd-dewis os oes llai na 100 o ddisgyblion cofrestredig
Rhiant- Lywodraethwyr654 neu 53
Llywodraethwyr AALl543 neu 42
Athro- Lywodraethwyr221 neu 21
Staff- lywodraethwyr1111 neu 0
Llywodraethwyr Cymunedol543 neu 42

(2Mae'r dewis o fod â chorff llywodraethu llai â chyfansoddiad yn unol â'r trydydd neu'r bumed golofn ar gael—

(a)yn achos ysgol uwchradd, pan fo gan yr ysgol lai na 600 o ddisgyblion cofrestredig, a

(b)yn achos ysgol gynradd, pan fo gan yr ysgol lai na 100 o ddisgyblion cofrestredig.

(3Yn achos y dewisiadau a bennir ym mhedwaredd golofn y tabl, rhaid i gyfansoddiad corff llywodraethu ysgol gynradd y mae'r golofn honno'n gymwys iddi adlewyrchu un ai pob dewis cyntaf neu bob ail ddewis.

Ysgolion Meithrin a Gynhelir

14.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i gorff llywodraethu ysgol feithrin a gynhelir gynnwys y canlynol—

(a)y pennaeth, onid yw'n ymddiswyddo yn unol â rheoliad 26(1);

(b)llywodraethwyr ym mhob un o'r categorïau a bennir yng ngholofn gyntaf y tabl isod, yn y niferoedd a bennir ym mha un bynnag o golofnau 2 neu 3 sy'n berthnasol i'r ysgol.

TABL

Categori llywodraethwrArferolDewis os oes llai na 100 o ddisgyblion cofrestredig
Rhiant- Lywodraethwyr4 neu 53
Llywodraethwyr AALl3 neu 42
Athro- Lywodraethwyr1 neu 21
Staff- lywodraethwyr11 neu 0
Llywodraethwyr Cymunedol3 neu 42

(2Mae'r dewis o fod â chorff llywodraethau llai â chyfansoddiad yn unol â'r trydydd golofn ar gael yn achos ysgol feithrin a gynhelir pan fo gan yr ysgol lai na 100 o ddisgyblion cofrestredig.

(3Gall offeryn llywodraethu ysgol feithrin a gynhelir ddarparu ar gyfer un categori o staff-lywodraethwr yn hytrach na'r ddau gategori o athro-lywodraethwr a staff-lywodraethwr, yn y niferoedd hynny, heb fod yn llai nag un, a fo'n cael eu pennu yn yr offeryn llywodraethu.

(4Yn achos y dewisiadau a bennir yn ail golofn y tabl, rhaid i gyfansoddiad corff llywodraethu ysgol feithrin a gynhelir y mae'r golofn honno'n gymwys iddi adlewyrchu un ai pob dewis cyntaf neu bob ail ddewis.

Ysgolion arbennig cymunedol

15.—(1Rhaid i gorff llywodraethu ysgol arbennig gymunedol gynnwys y canlynol—

(a)y pennaeth, onid yw'n ymddiswyddo yn unol â rheoliad 26(1),

(b)yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), llywodraethwyr ym mhob un o'r categorïau a bennir yng ngholofn gyntaf y tabl isod, yn y niferoedd a bennir un ai yn yr ail neu'r trydydd golofn.

TABL

Categori llywodraethwrArferolDewis os oes llai na 100 o ddisgyblion cofrestredig
Rhiant- Lywodraethwyr4 neu 53
Llywodraethwyr AALl3 neu 42
Athro- Lywodraethwyr1 neu 21
Staff- lywodraethwyr11 neu 0
Llywodraethwyr Cymunedol3 neu 42

(2Mae'r dewis o fod â chorff llywodraethu llai â chyfansoddiad yn unol â thrydydd golofn y tabl felly ar gael pa un a oes gan yr ysgol lai na 100 o ddisgyblion cofrestredig ai peidio.

(3Yn achos y dewisiadau a bennir yn ail golofn y tabl, rhaid i gyfansoddiad corff llywodraethu ysgol arbennig gymunedol y mae'r golofn honno'n gymwys iddi adlewyrchu un ai pob dewis cyntaf neu bob ail ddewis.

(4Pan fo ysgol arbennig gymunedol wedi'i sefydlu mewn ysbyty rhaid i'r awdurdod addysg lleol ddynodi'n gorff priodol—

(a)un bwrdd iechyd lleol neu fwy nag un bwrdd i weithredu ar y cyd, neu

(b)Ymddiriedolaeth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol,

y mae gan yr ysgol y cysylltiad agosaf ag ef a rhaid i'r corff priodol benodi llywodraethwr cynrychioliadol i gymryd lle un o'r nifer o lywodraethwyr cymunedol a bennir ym mha un bynnag o'r ail neu'r trydydd golofn o'r tabl sy'n gymwys i'r ysgol.

(5Pan nad yw ysgol arbennig gymunedol wedi'i lleoli mewn ysbyty—

(a)caiff yr awdurdod addysg lleol ddynodi un sefydliad gwirfoddol neu fwy nag un sefydliad o'r fath i weithredu ar y cyd, yn sefydliad gwirfoddol priodol sy'n ymwneud â materion y trefnir yr ysgol yn arbennig ar eu cyfer, a

(b)pan fydd sefydliad gwirfoddol priodol wedi ei ddynodi felly, rhaid iddo benodi llywodraethwr cynrychioliadol i gymryd lle un o'r nifer o lywodraethwyr cymunedol a bennir ym mha un bynnag o'r ail neu'r trydydd golofn o'r tabl sy'n gymwys i'r ysgol.

Ysgolion sefydledig

16.—(1Rhaid i gorff llywodraethu ysgol sefydledig gynnwys y canlynol—

(a)y pennaeth, onid yw'n ymddiswyddo yn unol â rheoliad 26(1);

(b)llywodraethwyr ym mhob un o'r categorïau a bennir yng ngholofn gyntaf y tabl isod, yn y niferoedd a bennir ym mha un bynnag o'r colofnau eraill sy'n berthnasol i'r ysgol.

TABL

Categori llywodraethwrYsgol uwchradd-arferolYsgol uwchradd-dewis os oes llai na 600 o ddisgyblion cofrestredigYsgol gynradd-arferolYsgol gynradd-dewis os oes llai na 100 o ddisgyblion cofrestredig
Rhiant- Lywodraethwyr765 neu 64
Llywodraethwyr AALl2222
Athro- Lywodraethwyr2211
Staff- lywodraethwyr1111 neu 0
Llywodraethwyr Sefydledig543 neu 42
Llywodraethwyr Cymunedol3211

(2Pan nad oes gan yr ysgol sefydliad, mae'r cyfeiriad at lywodraethwyr sefydledig yn y golofn gyntaf i'w ddarllen fel cyfeiriad at lywodraethwyr partneriaeth.

(3Mae'r dewis o fod â chorff llywodraethu llai â chyfansoddiad yn unol â'r trydydd neu'r bumed golofn ar gael—

(a)yn achos ysgol uwchradd, pan fo gan yr ysgol lai na 600 o ddisgyblion cofrestredig, a

(b)yn achos ysgol gynradd, pan fo gan yr ysgol lai na 100 o ddisgyblion cofrestredig.

(4Yn achos y dewisiadau a bennir ym mhedwaredd golofn y tabl, rhaid i gyfansoddiad corff llywodraethu ysgol gynradd y mae'r golofn honno'n gymwys iddi adlewyrchu un ai'r ddau ddewis cyntaf neu'r ddau ail ddewis.

Ysgolion arbennig sefydledig

17.—(1Rhaid i gorff llywodraethu ysgol arbennig sefydledig gynnwys y canlynol—

(a)y pennaeth, onid yw'n ymddiswyddo yn unol â rheoliad 26(1),

(b)llywodraethwyr ym mhob un o'r categorïau a bennir yng ngholofn gyntaf y tabl isod, yn y niferoedd a bennir un ai yn yr ail neu yn y trydydd golofn.

TABL

Categori llywodraethwrArferolDewis os oes llai na 100 o ddisgyblion cofrestredig
Rhiant- Lywodraethwyr5 neu 64
Llywodraethwyr AALl22
Athro- Lywodraethwyr11
Staff- lywodraethwyr11 neu 0
Lywodraethwyr Sefydledig3 neu 42
Llywodraethwyr Cymunedol11

(2Pan nad oes gan yr ysgol sefydliad, mae'r cyfeiriad at lywodraethwyr sefydledig yn y golofn gyntaf i'w ddarllen fel cyfeiriad at lywodraethwyr partneriaeth.

(3Mae'r dewis o fod â chorff llywodraethu llai â chyfansoddiad yn unol â thrydydd golofn y tabl felly ar gael pa un a oes gan yr ysgol lai na 100 o ddisgyblion cofrestredig ai peidio.

(4Yn achos y dewisiadau a bennir yn ail golofn y tabl, rhaid i gyfansoddiad corff llywodraethu ysgol arbennig sefydledig y mae'r golofn honno'n gymwys iddi adlewyrchu un ai'r ddau ddewis cyntaf neu'r ddau ail ddewis.

Ysgolion gwirfoddol a reolir

18.—(1Rhaid i gorff llywodraethu ysgol wirfoddol a reolir gynnwys y canlynol—

(a)y pennaeth, onid yw'n ymddiswyddo yn unol â rheoliad 26(1),

(b)llywodraethwyr ym mhob un o'r categorïau a bennir yng ngholofn gyntaf y tabl isod, yn y niferoedd a bennir ym mha un bynnag o'r colofnau eraill sy'n berthnasol i'r ysgol.

TABL

Categori llywodraethwrYsgol uwchradd-arferolYsgol uwchradd-dewis os oes llai na 600 o ddisgyblion cofrestredigYsgol gynradd-arferolYsgol gynradd-dewis os oes llai na 100 o ddisgyblion cofrestredig
Rhiant- Lywodraethwyr654 neu 53
Llywodraethwyr AALl4332
Athro- Lywodraethwyr2211
Staff- lywodraethwyr1111 neu 0
Llywodraethwyr Sefydledig543 neu 42
Llywodraethwyr Cymunedol2211

(2Mae'r dewis o fod â chorff llywodraethu llai â chyfansoddiad yn unol â'r drydedd neu'r bumed golofn ar gael—

(a)yn achos ysgol uwchradd, pan fo gan yr ysgol lai na 600 o ddisgyblion cofrestredig, a

(b)yn achos ysgol gynradd, pan fo gan yr ysgol lai na 100 o ddisgyblion cofrestredig.

(3Yn achos y dewisiadau a bennir yn y bedwaredd golofn, rhaid i gyfansoddiad corff llywodraethu ysgol gynradd y mae'r golofn honno'n gymwys iddi adlewyrchu un ai'r ddau ddewis cyntaf neu'r ddau ail ddewis.

Ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir

19.—(1Rhaid i gorff llywodraethu ysgol wirfoddol a gynorthwyir gynnwys y canlynol—

(a)y pennaeth, onid yw'n ymddiswyddo yn unol â rheoliad 26(1),

(b)llywodraethwyr ym mhob un o'r categorïau a bennir yng ngholofn gyntaf y tabl isod, niferoedd a bennir ym mha un bynnag o'r colofnau eraill sy'n berthnasol i'r ysgol, ac

(c)cynifer o lywodraethwyr sefydledig fel y bydd mwy ohonynt nag o'r llywodraethwyr eraill a grybwyllir ym mharagraffau (a) i (b)—

(i)tri yn fwy, yn achos ysgol y mae'r ail golofn yn gymwys iddi, neu

(ii)dau yn fwy, yn achos unrhyw ysgol arall.

TABL

Categori llywodraethwrYsgol uwchradd-arferolYsgol uwchradd-dewis os oes llai na 600 o ddisgyblion cofrestredigYsgol gynradd-arferolYsgol gynradd-dewis os oes llai na 100 o ddisgyblion cofrestredig
Rhiant- Lywodraethwyr321 neu 21
Llywodraethwyr AALl211 neu 21
Athro- Lywodraethwyr2211
Staff- lywodraethwyr1111 neu 0

(2Mae'r dewis o fod â chorff llywodraethu llai â chyfansoddiad yn unol â'r drydedd neu'r bumed golofn ar gael—

(a)yn achos ysgol uwchradd, pan fo gan yr ysgol lai na 600 o ddisgyblion cofrestredig, a

(b)yn achos ysgol gynradd, pan fo gan yr ysgol lai na 100 o ddisgyblion cofrestredig.

(3Yn achos y dewisiadau a bennir yn y bedwaredd golofn, rhaid i gyfansoddiad corff llywodraethu ysgol gynradd y mae'r golofn honno'n gymwys iddi adlewyrchu un ai'r ddau ddewis cyntaf neu'r ddau ail ddewis.

(4Rhaid i'r llywodraethwyr sefydledig sy'n ofynnol o dan is-baragraff (1)(c) gynnwys—

(a)o leiaf dri llywodraethwr sydd, pan benodir hwy, yn rhieni i ddisgyblion cofrestredig yn yr ysgol, yn achos ysgol y mae'r ail golofn yn gymwys iddi, neu

(b)o leiaf ddau lywodraethwr o'r fath yn achos unrhyw ysgol arall.

Ysgolion cynradd a gynhelir

20.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i—

(a)unrhyw ysgol gymunedol, wirfoddol neu sefydledig sy'n ysgol gynradd, a

(b)unrhyw ysgol feithrin a gynhelir,

sy'n gwasanaethu ardal sydd ag un neu fwy o gynghorau cymuned.

(2Mae rhaid i offeryn llywodraethu ysgol ddarparu ar gyfer cynnwys yn y corff llywodraethu (yn ychwanegol at y llywodraethwyr sy'n ofynnol yn rhinwedd rheoliadau 13, 14, 16, 18 a 19, yn ôl fel y digwydd) un llywodraethwr cymunedol a enwebir gan y cyngor cymuned.

(3Os yw ysgol yn gwasanaethu ardal sydd â dau neu ragor o gynghorau cymuned, caiff y corff llywodraethu geisio enwebiadau gan un neu ragor o'r cynghorau hynny.

Hysbysu swyddi gwag a phenodiadau

21.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), pan fo swydd aelod penodedig o'r corff llywodraethu yn mynd yn wag, rhaid i glerc y corff llywodraethu cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol roi gwybod yn ysgrifenedig am y ffaith honno i'r person sydd â'r hawl i benodi neu enwebu person i'r swydd honno.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i glerc y corff llywodraethu, o leiaf ddeufis cyn y dyddiad y daw tymor swydd aelod penodedig i ben, roi gwybod yn ysgrifenedig am y ffaith honno i'r person sydd â'r hawl i benodi neu enwebu person i'r swydd honno.

(3Nid fydd paragraffau (1) a (2) uchod yn gymwys pan fo'r person sydd â'r hawl i benodi person i'r swydd dan sylw eisoes wedi rhoi gwybod yn ysgrifenedig i glerc y corff llywodraethu pwy yw'r person a benodwyd neu a enwebwyd.

(4Pan fo unrhyw berson ar wahân i gorff llywodraethu yn penodi neu'n enwebu person i'w benodi i'r corff llywodraethu, rhaid iddo roi gwybod yn ysgrifenedig am y penodiad neu'r enwebiad i glerc y corff llywodraethu gan nodi enw'r person a benodir neu a enwebir felly ynghyd â'i breswylfa arferol.

(5At ddiben y rheoliad hwn, ystyr “aelod penodedig” (“appointed member”) yw—

(a)llywodraethwr sefydledig;

(b)llywodraethwr AALl;

(c)llywodraethwr cymunedol (gan gynnwys llywodraethwr cymunedol ychwanegol);

(ch)llywodraethwr cynrychioliadol;

(d)noddwr-lywodraethwr; ac

(dd)llywodraethwr partneriaeth.

Cyd-benodiadau

22.  Os—

(a)yw offeryn llywodraethu ysgol yn darparu ar gyfer penodi un neu ragor o'r llywodraethwyr gan bersonau sy'n gweithredu ar y cyd, a

(b)os yw'r personau hynny'n methu â chytuno ar benodiad,

bydd y penodiad yn cael ei wneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'n unol â chyfarwyddyd a roddir gan y Cynulliad Cenedlaethol hwnnw.

Gormod o lywodraethwyr

23.—(1Pan fo gan ysgol a gynhelir fwy o lywodraethwyr o gategori arbennig na'r nifer y mae offeryn llywodraethu'r ysgol yn darparu ar eu cyfer, rhaid i gynifer o lywodraethwyr o'r categori hwnnw ag sy'n ofynnol i ddileu'r gormodedd beidio â dal swydd yn unol â pharagraffau (2) a (3) oni fydd nifer digonol yn ymddiswyddo.

(2Penderfynir pa lywodraethwyr a fydd yn peidio â dal swydd ar sail hynafedd, a'r llywodraethwyr sydd â'r cyfnod cyfredol byrraf fel llywodraethwr o unrhyw gategori yn yr ysgol fydd y cyntaf i beidio â dal swydd.

(3Pan fo angen dewis at ddiben paragraff (2) un neu ragor o lywodraethwyr o blith nifer sydd â'r un hynafedd, rhaid gwneud hynny drwy fwrw coelbren.

(4At ddibenion y rheoliad hwn, caiff llywodraethwyr cymunedol ychwanegol eu trin fel categori o lywodraethwyr ar wahân.

RHAN 4Cymwysterau a deiliadaeth swyddi

Cymwysterau ac anghymwysiadau

24.  Mae Atodlen 5 yn nodi'r amgylchiadau pan fo person yn gymwys neu'n anghymwys i ddal swydd neu i barhau mewn swydd fel llywodraethwr.

Cyfnod swydd

25.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (7) bydd llywodraethwr yn dal swydd am gyfnod penodol o bedair blynedd o ddyddiad ei ethol neu ei benodi.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw lywodraethwr sy'n bennaeth yr ysgol, nac i unrhyw lywodraethwr sefydledig ex officio, a gaiff ddal swydd cyhyd ag y mae'n dal y swydd y mae ei swydd fel llywodraethwr yn deillio ohoni.

(3Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw lywodraethwr sefydledig y pennir cyfnod ei swydd gan y person a'i penododd, hyd at uchafswm o 4 blynedd.

(4Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw lywodraethwr ychwanegol, llywodraethwr sefydledig ychwanegol nac aelod gweithredol interim a benodir o dan adrannau 16(9), 16A(10), 18(11) neu 18A(12) o Ddeddf 1998 y pennir cyfnod ei swydd gan y person a'i penododd, hyd at uchafswm o 4 blynedd.

(5Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw riant-lywodraethwr ysgol feithrin a gynhelir a fydd yn dal swydd am gyfnod penodol o ddwy flynedd o ddyddiad ei ethol neu ei benodi.

(6Caiff dirprwy lywodraethwr ddal swydd hyd y cynharaf o'r canlynol—

(a)diwedd pedair blynedd o'r dyddiad y daw ei benodiad i rym;

(b)y dyddiad y bydd y llywodraethwr gwreiddiol (ond yw wedi ei ddiswyddo o dan reoliad 27 (2)) yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i glerc y corff llywodraethu yn nodi y gall weithredu fel llywodraethwr sefydledig a'i fod yn fodlon gwneud hynny; neu

(c)y dyddiad y bydd person ar wahân i'r llywodraethwr gwreiddiol yn cymryd y swydd y mae swydd y llywodraethwr sefydledig ex officio yn bodoli o'i herwydd.

(7Nid yw'r rheoliad hwn yn rhwystro llywodraethwr rhag—

(a)cael ei ethol neu ei benodi am gyfnod pellach, ac eithrio fel y darperir fel arall yn y Rheoliadau hyn;

(b)ymddiswyddo yn unol â rheoliad 26(1);

(c)cael ei ddiswyddo o dan reoliadau 27 i 29; neu

(ch)cael ei anghymhwyso, yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn, rhag dal neu barhau i ddal swydd.

(8Yn y rheoliad hwn ystyr “y llywodraethwr gwreiddiol” (“the original governor”) yw'r llywodraethwr sefydledig ex officio y penodir y dirprwy lywodraethwr i weithredu yn ei le.

Ymddiswyddo

26.—(1Caiff llywodraethwr ymddiswyddo ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i glerc y corff llywodraethu.

(2Caiff y pennaeth dynnu ei ymddiswyddiad yn ôl ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i glerc y corff llywodraethu.

(3Caiff llywodraethwr sefydledig ex officio ymddiswyddo fel llywodraethwr naill ai'n barhaol neu dros dro, ond ni fydd ei ymddiswyddiad yn niweidio swydd llywodraethwr ex officio ei olynydd yn y swydd y mae ei swydd fel llywodraethwr ex officio yn deillio ohoni.

Diswyddo llywodraethwyr AALl, llywodraethwyr sefydledig, llywodraethwyr cynrychioliadol llywodraethwyr cymunedol ychwanegol a noddwr-lywodraethwyr

27.—(1Caiff y person a'i penododd ddiswyddo unrhyw lywodraethwr AALl, llywodraethwr sefydledig neu lywodraethwr cynrychioliadol, a rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig o hynny i glerc y corff llywodraethu ac i'r llywodraethwr a ddiswyddir.

(2Caiff y person a enwir yn yr offeryn llywodraethu fel y person sydd â'r hawl i'w ddiswyddo, ddiswyddo unrhyw lywodraethwr sefydledig ex officio, a rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig o hynny i glerc y corff llywodraethu ac i'r llywodraethwr a ddiswyddir.

(3Caiff y person a'i henwebodd ddiswyddo unrhyw lywodraethwr cymunedol ychwanegol neu noddwr-lywodraethwr, a rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig i glerc y corff llywodraethu ac i'r llywodraethwr a ddiswyddir.

Diswyddo llywodraethwyr cymunedol

28.  Caiff y corff llywodraethu ddiswyddo unrhyw lywodraethwr cymunedol (ac eithrio llywodraethwr cymunedol ychwanegol) yn unol â'r weithdrefn a nodir yn rheoliad 30.

Diswyddo rhiant-lywodraethwyr penodedig a llywodraethwyr partneriaeth

29.  Caiff y corff llywodraethu ddiswyddo unrhyw riant-lywodraethwr a benodwyd gan y corff llywodraethu o dan baragraffau 10 i 12 o Atodlen 1 neu unrhyw lywodraethwr partneriaeth yn unol â'r weithdrefn a nodir yn rheoliad 30.

Y weithdrefn ar gyfer diswyddo llywodraethwyr gan y corff llywodraethu

30.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â diswyddo llywodraethwr yn unol â rheoliad 28 neu 29.

(2Ni fydd penderfyniad a gaiff ei basio mewn cyfarfod o'r corff llywodraethu i ddiswyddo llywodraethwr yn effeithiol oni bai—

(a)fod y llywodraethwr neu'r llywodraethwyr sy'n cynnig ei ddiswyddo, cyn i'r corff llywodraethu benderfynu diswyddo'r llywodraethwr, yn nodi yn y cyfarfod hwnnw eu rhesymau dros wneud hynny ac y rhoddir cyfle i'r llywodraethwr y cynigir ei ddiswyddo wneud datganiad i ymateb; ac

(b)y pennir mater diswyddo'r llywodraethwr fel eitem benodol o fusnes ar agenda'r cyfarfod.

(3Ar ôl pasio penderfyniad i ddiswyddo llywodraethwr rhaid i'r corff llywodraethu roi gwybod yn ysgrifenedig i'r person a ddiswyddir y rhesymau dros y diswyddo.

RHAN 5Offeryn Llywodraethu

Dehongli “awdurdod esgobaethol priodol” a “corff crefyddol priodol”

31.  Yn y Rhan hon,

Y ddyletswydd i ystyried canllawiau

32.  Mewn perthynas â gwneud offerynnau llywodraethu, y materion i ymdrin â hwy mewn offerynnau o'r fath, ffurf offerynnau o'r fath, ac adolygu ac amrywio offerynnau o'r fath, rhaid i gyrff llywodraethu ac awdurdodau addysg lleol ystyried unrhyw ganllawiau a roddir o bryd i'w gilydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cynnwys a ffurf yr offeryn llywodraethu

33.—(1Rhaid i offeryn llywodraethu ysgol a gynhelir nodi—

(a)enw'r ysgol;

(b)y categori o ysgol y perthyn yr ysgol iddo;

(c)enw corff llywodraethu'r ysgol;

(ch)y cyfansoddiad a fydd i'r corff llywodraethu yn unol â Rhan 3, gan bennu—

(i)nifer y llywodraethwyr ym mhob categori o lywodraethwr,

(ii)y categorïau o bersonau, o'u plith neu o blith eu haelodau, yr awdurdodir enwebu unrhyw lywodraethwr cymunedol ychwanegol neu noddwr-lywodraethwr ar gyfer ei benodi gan y Rheoliadau hyn; a

(iii)cyfanswm nifer aelodau'r corff llywodraethu;

(d)pan fo cyfnod swydd categori o lywodraethwr i fod yn llai na phedair blynedd, cyfnod y swydd honno;

(dd)pan fo gan ysgol lywodraethwyr sefydledig—

(i)enw unrhyw un sydd â'r hawl i benodi llywodraethwyr o'r fath ac, os oes mwy nag un person o'r fath â'r hawl i benodi, y sail ar gyfer gwneud penodiadau o'r fath,

(ii)manylion unrhyw swydd llywodraethwr sefydledig sydd i'w dal ex officio gan ddeiliad swydd a enwir, a

(iii)enw unrhyw un sydd â'r hawl i ddiswyddo unrhyw lywodraethwr sefydledig ex officio a phenodi unrhyw ddirprwy lywodraethwr;

(e)pan fo'r ysgol yn ysgol arbennig gymunedol, enw unrhyw gorff priodol neu sefydliad gwirfoddol priodol sydd â'r hawl i enwebu person i'w benodi'n llywodraethwr cynrychioladol o dan reoliad 15(4) neu (5);

(f)pan fo ymddiriedolaeth yn gysylltiedig â'r ysgol, y ffaith honno;

(ff)pan fo ysgol yn ysgol sefydledig neu'n ysgol wirfoddol a ddynodir o dan adran 69(3) o Ddeddf 1998 fel un sy'n meddu ar gymeriad crefyddol, disgrifiad o ethos crefyddol yr ysgol; ac

(g)y dyddiad y daw'r offeryn llywodraethu i rym, na chaiff fod cyn 1 Ionawr 2006.

(2Rhaid i'r ffordd y cyfansoddir y corff llywodraethu, fel y nodir yn unol ag is-baragraff (1) (ch), gydymffurfio â darpariaethau'r Rheoliadau hyn fel y maent yn gymwys i ysgol yn y categori y perthyn yr ysgol iddo.

(3Pan fo'n berthnasol, at ddibenion Rhan 3, penderfynu faint o ddisgyblion cofrestredig sydd yn yr ysgol, penderfynir y nifer honno fel pe ar y dyddiad y gwneir yr offeryn.

(4Rhaid i'r offeryn llywodraethu (yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth statudol) gydymffurfio ag unrhyw ymddiriedolaeth sy'n gysylltiedig â'r ysgol.

Y weithdrefn ar gyfer gwneud offeryn

34.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (6), rhaid i'r corff llywodraethu baratoi drafft o'r offeryn llywodraethu a'i gyflwyno i'r awdurdod addysg lleol.

(2Pan fo gan ysgol lywodraethwyr sefydledig, rhaid i'r corff llywodraethu beidio â chyflwyno'r drafft i'r awdurdod addysg lleol hyd nes y bydd wedi ei gymeradwyo gan—

(a)y llywodraethwyr sefydledig;

(b)unrhyw ymddiriedolwyr o unrhyw ymddiriedolaeth sy'n gysylltiedig â'r ysgol;

(c)yn achos un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru neu'r Eglwys Gatholig Rufeinig, yr awdurdod esgobaethol priodol; ac

(ch)yn achos unrhyw ysgol arall a ddynodir o dan adran 69(3) o Ddeddf 1998 fel un sy'n meddu ar gymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol.

(3Pan geir y drafft rhaid i'r awdurdod addysg lleol ystyried a yw'n cydymffurfio â'r holl ddarpariaethau statudol cymwys, ac—

(a)os yw'n fodlon bod y drafft yn cydymffurfio fel hynny, neu

(b)os oes cytundeb rhyngddo, y corff llywodraethu ac (os oes gan yr ysgol lywodraethwyr sefydledig) y personau a grybwyllir ym mharagraff (2) y dylid diwygio'r drafft i unrhyw raddau a bod y drafft diwygiedig yn cydymffurfio â phob un o'r darpariaethau statudol sy'n gymwys,

rhaid i'r offeryn llywodraethu gael ei wneud ganddo ar ffurf y drafft neu (yn ôl fel y digwydd) ar ffurf y drafft diwygiedig.

(4Os bydd y personau a restrir ym mharagraff (2), yn achos ysgol sydd â llywodraethwyr sefydledig, ar unrhyw adeg yn anghytuno â'r drafft, caiff unrhyw un neu unrhyw rai o'r personau hynny ei gyfeirio at Gynulliad Cenedlaethol Cymru a rhaid i'r Cynulliad roi cyfarwyddyd fel y gwêl yn dda gan ystyried, yn arbennig, y categori o ysgol y perthyn yr ysgol iddo.

(5Os nad yw'r naill na'r llall o is-baragraffau (a) a (b) o baragraff (3) yn gymwys yn achos ysgol nad oes ganddi lywodraethwyr sefydledig, rhaid i'r awdurdod addysg lleol—

(a)roi gwybod i'r corff llywodraethu pam nad yw'n fodlon â'r offeryn llywodraethu drafft, a

(b)rhoi cyfle rhesymol i'r corff llywodraethu ddod i gytundeb ag ef ynghylch diwygio'r drafft;

a rhaid iddo wneud yr offeryn llywodraethu naill ai ar ffurf drafft diwygiedig y bydd ef a'r corff llywodraethu yn cytuno yn ei gylch neu (yn niffyg cytundeb o'r fath) ar ffurf fel y gwêl yn dda gan ystyried, yn arbennig, y categori o ysgol y perthyn yr ysgol iddo.

(6Yn achos ysgol feithrin a gynhelir, rhaid i'r awdurdod addysg lleol baratoi a gwneud yr offeryn llywodraethu cyntaf.

Adolygu offerynnau llywodraethu

35.—(1Caiff y corff llywodraethu neu'r awdurdod addysg lleol adolygu'r offeryn llywodraethu ar unrhyw adeg wedi iddo gael ei wneud.

(2Os bydd y corff llywodraethu neu'r awdurdod addysg lleol yn penderfynu wedi unrhyw adolygiad y dylid amrywio'r offeryn llywodraethu, rhaid i'r corff llywodraethu neu (yn ôl fel y digwydd) yr awdurdod addysg lleol roi gwybod i'r llall am yr amrywiad a gynigir ganddo ynghyd â'i resymau dros gynnig amrywiad o'r fath.

(3Pan fo'r corff llywodraethu wedi derbyn hysbysiad o dan baragraff (2), rhaid iddo hysbysu'r awdurdod addysg lleol a yw'n fodlon â'r amrywiad a gynigir ai peidio ac, os nad yw'n fodlon, am ba resymau.

(4Pan fo gan ysgol lywodraethwyr sefydledig, rhaid i'r corff llywodraethu beidio â rhoi i'r awdurdod addysg lleol—

(a)unrhyw hysbysiad o dan baragraff (2), na

(b)hysbysu'r awdurdod o dan baragraff (3) ei fod yn fodlon â'r amrywiad a gynigir gan yr awdurdod,

oni fo'r personau a restrir yn rheoliad 34(2) wedi cymeradwyo'r amrywiad a gynigir.

(5Os—

(a)yw y corff llywodraethu neu'r awdurdod addysg lleol, pa un bynnag sy'n cael hysbysiad o dan baragraff (2), yn cytuno â'r amrywiad a gynigir, neu

(b)oes cytundeb rhwng yr awdurdod addysg lleol, y corff llywodraethu ac (os oes gan yr ysgol lywodraethwyr sefydledig) y personau eraill a restrir yn rheoliad 34(2) y dylid gwneud rhyw amrywiad arall yn hytrach,

rhaid i'r awdurdod addysg lleol amrywio'r offeryn llywodraethu yn unol â hynny.

(6Os bydd, yn achos ysgol sydd â llywodraethwyr sefydledig, y personau a restrir yn rheoliad 34(2) ar unrhyw adeg yn anghytuno â'r amrywiad a gynigir, caiff unrhyw un neu unrhyw rai o'r personau hynny ei gyfeirio at Gynulliad Cenedlaethol Cymru; ac o gyfeirio felly, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol Cymru roi cyfarwyddyd fel y gwêl yn dda gan ystyried, yn arbennig, y categori o ysgol y perthyn yr ysgol iddo.

(7Os nad yw is-baragraffau (a) na (b) o baragraff (5) yn gymwys yn achos ysgol nad oes ganddi lywodraethwyr sefydledig, rhaid i'r awdurdod addysg lleol—

(a)rhoi gwybod i'r corff llywodraethu y rhesymau—

(i)pam nad yw'n fodlon â'r amrywiad a gynigir gan y corff llywodraethu, neu yn ôl fel y digwydd,

(ii)pam y mae'n dymuno mynd ymlaen â'i amrywiad ei hun, a

(b)rhoi cyfle rhesymol i'r corff llywodraethu ddod i gytundeb ag ef mewn perthynas â'r amrywiad;

a rhaid i'r offeryn llywodraethu gael ei amrywio ganddo naill ai yn y modd y cytunwyd arno rhyngddo a'r corff llywodraethu neu (yn niffyg cytundeb o'r fath) mewn modd fel y gwêl yn dda gan ystyried, yn arbennig, y categori o ysgol y perthyn yr ysgol iddo.

(8Ni ddylid ystyried bod dim yn y rheoliad hwn yn golygu ei bod yn ofynnol i'r awdurdod addysg lleol amrywio'r offeryn llywodraethu os na chred ei bod yn briodol gwneud hynny.

(9Pan amrywir offeryn llywodraethu o dan y rheoliad hwn—

(a)rhaid i'r offeryn nodi'r dyddiad y daw'r amrywiad i rym; a

(b)mae rheoliad 33(3) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw amrywiad sy'n ymwneud â'r ffordd y mae'r corff llywodraethu i'w gyfansoddi fel petai'n cyfeirio at y dyddiad y gwneir yr amrywiad yn hytrach na'r dyddiad y gwneir yr offeryn.

Gofynion eraill yn ymwneud ag offerynnau llywodraethu

36.—(1Rhaid i'r awdurdod addysg lleol sicrhau y darperir yn rhad ac am ddim i'r personau a nodir ym mharagraff (2)—

(a)copi o offeryn llywodraethu'r ysgol, a

(b)os gwneir unrhyw amrywiad i offeryn llywodraethu ysgol, fersiwn gyfunol o'r offeryn llywodraethu yn ymgorffori pob amrywiad a wnaed gan yr awdurdod addysg lleol (ac eithrio unrhyw amrywiadau nad ydynt bellach mewn grym).

(2I'r personau canlynol y dylid darparu'r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1)—

(a)pob aelod o gorff llywodraethu'r ysgol;

(b)y pennaeth, pa un a yw'r pennaeth yn aelod o'r corff llywodraethu ai peidio;

(c)ymddiriedolwyr unrhyw ymddiriedolaeth sy'n gysylltiedig â'r ysgol;

(ch)yn achos un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru neu'r Eglwys Gatholig Rufeinig, yr awdurdod esgobaethol priodol; a

(d)yn achos unrhyw ysgol arall a ddynodir o dan adran 69(3) o Ddeddf 1998 fel un sy'n meddu ar gymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol.

Y ddyletswydd i sicrhau bod offerynnau llywodraethu yn cael eu gwneud

37.  Rhaid i awdurdod addysg lleol wneud offeryn llywodraethu yn unol â'r Rheoliadau hyn—

(a)ar gyfer pob ysgol feithrin a gynhelir ganddo, erbyn 31 Mawrth 2006 fan bellaf, a

(b)ar gyfer pob ysgol arall a gynhelir ganddo, erbyn 31 Awst 2008 fan bellaf.

RHAN 6Darpariaeth Drosiannol

Darpariaeth drosiannol

38.  Mae Atodlen 6 i gael effaith at ddiben parhau cyfnod swydd llywodraethwyr pan newidir i offeryn llywodraethu a wneir yn unol â'r Rheoliadau hyn.

RHAN 7Penodi swyddogion, eu swyddogaethau, a'u diswyddo

Ethol y cadeirydd a'r is-gadeirydd

39.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) ac i adran 18 o Ddeddf 1998(13) (Pŵer Cynulliad Cenedlaethol Cymru i benodi llywodraethwyr ychwanegol), rhaid i'r corff llywodraethu ethol cadeirydd ac is-gadeirydd o blith ei aelodau yn flynyddol.

(2Nid yw llywodraethwr y telir iddo am weithio yn yr ysgol neu sy'n ddisgybl yn yr ysgol yn gymwys i fod yn gadeirydd neu'n is-gadeirydd corff llywodraethu'r ysgol honno.

(3Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6), bydd y cadeirydd neu'r is-gadeirydd yn dal swydd hyd nes y bydd ei olynydd wedi ei ethol yn unol â pharagraff (1).

(4Caiff y cadeirydd neu'r is-gadeirydd ymddiswyddo ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i glerc y corff llywodraethu.

(5Daw swydd y cadeirydd neu'r is-gadeirydd i ben—

(a)pan fydd yn peidio â bod yn aelod o'r corff llywodraethu;

(b)os telir iddo am weithio yn yr ysgol dan sylw;

(c)os diswyddir ef yn unol â rheoliad 41 neu os cymerir ei le gan gadeirydd a enwebwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 18 o Ddeddf 1998; neu

(ch)yn achos yr is-gadeirydd, os etholir ef yn unol â pharagraff (6) i lenwi swydd wag y cadeirydd.

(6Pan ddaw swydd y cadeirydd neu'r is-gadeirydd yn wag, rhaid i'r corff llywodraethu yn ei gyfarfod nesaf ethol un o'u plith i lenwi'r swydd honno, yn ddarostyngedig i baragraff (2) ac i adran 18 o Ddeddf 1998.

(7Rhaid cynnal unrhyw etholiad a ymleddir i fod yn gadeirydd neu is-gadeirydd drwy bleidlais gudd.

(8Pan fydd y cadeirydd yn absennol o unrhyw gyfarfod neu os bydd swydd y cadeirydd yn wag ar y pryd, bydd yr is-gadeirydd yn gweithredu fel cadeirydd ym mhob diben.

(9Os bydd yr is-gadeirydd yn yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (8) yn absennol o'r cyfarfod neu os bydd swydd yr is-gadeirydd yn wag ar y pryd, rhaid i'r corff llywodraethu ethol un o'u plith i weithredu fel cadeirydd at ddibenion y cyfarfod hwnnw, yn ddarostyngedig i baragraff (2).

(10Bydd clerc y corff llywodraethu yn gweithredu fel cadeirydd yn ystod y rhan honno o unrhyw gyfarfod yr etholir y cadeirydd ynddi.

Dirprwyo swyddogaethau i'r cadeirydd neu'r is-gadeirydd mewn achosion brys

40.—(1Bydd gan y cadeirydd bŵer, pan fo'r amgylchiadau ym mharagraff (2) yn gymwys yn ei farn ef, i arfer unrhyw swyddogaethau o eiddo'r corff llywodraethu y gellir eu dirprwyo o dan reoliad 50(1).

(2Yr amgylchiadau hynny yw y byddai oedi cyn arfer y swyddogaeth yn debygol o fod yn ddifrifol niweidiol i fuddiannau—

(a)yr ysgol;

(b)unrhyw ddisgybl yn yr ysgol, neu ei riant; neu

(c)person sy'n gweithio yn yr ysgol.

(3Ym mharagraff (2), ystyr “oedi” (“delay”) yw oedi am gyfnod sy'n ymestyn y tu hwnt i'r dyddiad cynharaf y byddai'n rhesymol ymarferol cynnal cyfarfod o'r corff llywodraethu, neu o bwyllgor y dirprwywyd y swyddogaeth dan sylw iddo.

(4Pan ymddengys i'r is-gadeirydd—

(a)fod yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (2) yn gymwys, a

(b)na fyddai'r cadeirydd (oherwydd bod y swydd yn wag neu am reswm arall) yn gallu arfer y swyddogaeth dan sylw cyn i'r niwed y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw ddigwydd,

darllenir y cyfeiriad at y cadeirydd ym mharagraff (1) fel pe bai'n gyfeiriad at yr is-gadeirydd.

Diswyddo'r cadeirydd neu'r is-gadeirydd

41.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), caiff y corff llywodraethu drwy benderfyniad ddiswyddo'r cadeirydd, onis enwebwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 18 o Ddeddf 1998.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), caiff y corff llywodraethu drwy benderfyniad ddiswyddo'r is-gadeirydd.

(3Ni fydd penderfyniad i ddiswyddo'r cadeirydd neu'r is-gadeirydd yn effeithiol oni fo'r mater wedi ei bennu fel eitem o fusnes ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod, y rhoddwyd hysbysiad ohono yn unol â rheoliad 45(7).

(4Cyn i'r corff llywodraethu benderfynu diswyddo'r cadeirydd neu'r is-gadeirydd, rhaid i'r llywodraethwr sy'n cynnig ei ddiswyddo ddatgan yn y cyfarfod hwnnw ei resymau dros wneud hynny a rhaid rhoi cyfle i'r cadeirydd neu'r is-gadeirydd (yn ôl fel y digwydd) ymateb drwy wneud datganiad, cyn mynd allan o'r cyfarfod.

Penodi a diswyddo clerc y corff llywodraethu

42.—(1Ni fydd y rheoliad hwn yn amharu ar unrhyw hawliau a chyfrifoldebau a all fod gan y clerc o dan unrhyw gontract â'r corff llywodraethu neu â'r awdurdod addysg lleol.

(2Rhaid i'r corff llywodraethu benodi clerc i'r corff llywodraethu.

(3Ni chaiff clerc y corff llywodraethu fod—

(a)yn llywodraethwr;

(b)yn aelod nad yw'n llywodraethwr o unrhyw un o bwyllgorau'r corff llywodraethu;

nac

(c)yn bennaeth yr ysgol.

(4Er gwaethaf paragraff (2) caiff y corff llywodraethu, os metha'r clerc â mynychu un o'u cyfarfodydd, benodi unrhyw un o'u plith (ond nid y pennaeth) i weithredu fel clerc at ddibenion y cyfarfod hwnnw.

(5Caiff y corff llywodraethu ddiswyddo clerc y corff llywodraethu.

(6Os nad oes gan yr ysgol ar unrhyw adeg gyllideb ddirprwyedig(14), caiff yr awdurdod addysg lleol ddiswyddo clerc y corff llywodraethu a phenodi dirprwy, ar yr amod bod yr awdurdod addysg lleol yn ymgynghori â'r corff llywodraethu cyn gweithredu fel hynny.

Swyddogaethau clerc y corff llywodraethu

43.—(1Rhaid i glerc y corff llywodraethu—

(a)gynnull cyfarfodydd y corff llywodraethu yn unol â rheoliad 45;

(b)mynychu cyfarfodydd y corff llywodraethu a sicrhau bod cofnodion y trafodion yn cael eu cynhyrchu yn unol â rheoliad 47(1);

(c)cadw cofrestr o aelodau'r corff llywodraethu ac adrodd am unrhyw leoedd gwag wrth y corff llywodraethu;

(ch)cadw cofrestr o bresenoldeb llywodraethwyr mewn cyfarfodydd ac adrodd ar unrhyw ddiffyg presenoldeb wrth y corff llywodraethu;

(d)rhoi a derbyn hysbysiadau yn unol â

rheoliadau 21 (Hysbysu swyddi gwag a phenodiadau), 26 (Ymddiswyddo), 27 (Diswyddo llywodraethwyr), 39(4) (Ymddiswyddiad y cadeirydd neu'r is-gadeirydd) a 45(4) (cynnull cyfarfodydd) o, a pharagraff 13 o Atodlen 5 (Hysbysiad o anghymhwyso) i, y Rheoliadau hyn.

(dd)adrodd wrth y corff llywodraethu fel sy'n ofynnol ar gyflawni ei swyddogaethau; ac

(e)cyflawni pa swyddogaethau eraill bynnag a benderfynir gan y corff llywodraethu o bryd i'w gilydd.

(2Caiff clerc y corff llywodraethu ddarparu cyngor iddo ar ei swyddogaethau a gweithdrefnau.

RHAN 8Cyfarfodydd a thrafodion cyrff llywodraethu

Hawl personau i fynychu cyfarfodydd y corff llywodraethu

44.  —Yn ddarostyngedig i reoliad 63 o, ac Atodlen 7 i, y Rheoliadau hyn mae gan y personau canlynol yr hawl i fynychu unrhyw un o gyfarfodydd y corff llywodraethu—

(a)yn ddarostyngedig i reoliad 49, llywodraethwr;

(b)pennaeth yr ysgol, boed yn llywodraethwr neu beidio;

(c)clerc y corff llywodraethu; ac

(ch)personau eraill y bo'r corff llywodraethu yn penderfynu yn eu cylch.

Cynnull cyfarfodydd y corff llywodraethu

45.—(1Rhaid i'r corff llywodraethu gynnal un cyfarfod o leiaf yn ystod pob tymor ysgol.

(2Rhaid i gyfarfodydd y corff llywodraethu gael eu cynnull gan y clerc ac, heb amharu ar baragraff (3), wrth arfer y swyddogaeth hon rhaid i'r clerc gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan—

(a)y corff llywodraethu; neu

(b)y cadeirydd, i'r graddau nad yw unrhyw gyfarwyddyd o'r fath yn anghyson ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir o dan is-baragraff (a).

(3Caiff unrhyw dri aelod o'r corff llywodraethu ofyn am gyfarfod drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r clerc sy'n cynnwys crynodeb o'r busnes sydd i'w drafod; a rhaid i'r clerc gynnull cyfarfod cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

(4Yn ddarostyngedig i baragraffau (5), (6) a (7), rhaid i'r clerc roi hysbysiad ysgrifenedig o'r cyfarfod, copi o'r agenda, ac unrhyw adroddiadau neu bapurau eraill sydd i'w hystyried yn y cyfarfod o leiaf bum niwrnod gwaith clir ymlaen llaw i—

(a)pob llywodraethwr;

(b)y pennaeth (boed yn llywodraethwr neu beidio); ac

(c)yr awdurdod addysg lleol.

(5Pan fo'r cadeirydd yn penderfynu hynny, ar y sail bod materion sy'n galw am sylw brys, bydd yn ddigon i'r hysbysiad ysgrifenedig am y cyfarfod nodi'r ffaith honno ac i'r hysbysiad, y copi o'r agenda, yr adroddiadau a'r papurau eraill sydd i'w hystyried gael eu rhoi o fewn cyfnod byrrach yn ôl ei gyfarwyddyd.

(6Mae'r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gyfarfod lle bo—

(a)diswyddo'r cadeirydd neu'r is-gadeirydd,

(b)atal unrhyw lywodraethwr,

(c)diswyddo llywodraethwr cymunedol neu noddwr-lywodraethwr, neu

(ch)penderfyniad i gyflwyno hysbysiad i ddirwyn yr ysgol i ben o dan adran 30 o Ddeddf 1998

i gael ei ystyried.

(7Pan fo paragraff (6) yn gymwys—

(a)rhaid rhoi hysbysiad ysgrifenedig o'r cyfarfod, copi o'r agenda ac unrhyw adroddiadau neu bapurau eraill i'w hystyried yn y cyfarfod o leiaf saith niwrnod gwaith clir ymlaen llaw; a

(b)nid yw pŵer y cadeirydd i roi cyfarwyddyd i gynnal cyfarfod o fewn cyfnod byrrach yn gymwys.

(8Caiff yr is-gadeirydd arfer swyddogaethau'r cadeirydd yn y rheoliad hwn yn absenoldeb y cadeirydd neu os bydd swydd y cadeirydd yn wag.

(9Ni chaiff cyfarfod o'r corff llywodraethu ei annilysu oherwydd nad yw unrhyw berson wedi cael hysbysiad ysgrifenedig o'r cyfarfod neu gopi o'r agenda.

Cworwm a thrafodion y corff llywodraethu

46.—(1Y cworwm ar gyfer cyfarfod o'r corff llywodraethu ac ar gyfer unrhyw bleidlais ar unrhyw fater mewn cyfarfod o'r fath yw hanner (wedi ei dalgrynnu i fyny i rif cyfan) aelodaeth y corff llywodraethu heb gynnwys unrhyw leoedd gwag nac unrhyw lywodraethwyr sydd wedi eu hatal o'r cyfarfod hwnnw yn unol â rheoliad 49.

(2Rhaid i bob cwestiwn sydd i'w benderfynu mewn cyfarfod o'r corff llywodraethu gael ei ddyfarnu drwy fwyafrif o bleidleisiau'r llywodraethwyr sy'n bresennol ac yn pleidleisio ar y mater.

(3Pan fo'r pleidleisiau wedi eu rhannu'n gyfartal bydd gan y cadeirydd neu, yn ôl fel y digwydd, y person sy'n gweithredu fel cadeirydd at ddibenion y cyfarfod (ar yr amod bod person o'r fath yn llywodraethwr) ail bleidlais neu bleidlais fwrw.

(4Ni fydd unrhyw benderfyniad i gyflwyno hysbysiad i gau'r ysgol o dan adran 30 o Ddeddf 1998 yn effeithiol, pa un a gymerir ef gan y corff llywodraethu ynteu gan bwyllgor, oni chaiff ei gadarnhau gan y corff llywodraethu mewn cyfarfod a gynhelir heb fod yn llai na 28 diwrnod wedi'r cyfarfod y gwnaed y penderfyniad ynddo ac—

(a)oni bennir y mater yn eitem o fusnes ar agenda'r ddau gyfarfod; a

(b)oni roddir hysbysiad o'r ail gyfarfod yn unol â rheoliad 45(7).

(5Ni chaiff trafodion corff llywodraethu ysgol eu hannilysu gan—

(a)unrhyw le gwag ymhlith ei aelodau;

(b)unrhyw ddiffyg wrth ethol, penodi nac enwebu unrhyw lywodraethwr;

(c)unrhyw ddiffyg wrth benodi'r cadeirydd neu'r is-gadeirydd; neu

(ch)y ffaith bod gan yr ysgol fwy o lywodraethwyr o gategori arbennig nag y darperir ar eu cyfer gan yr offeryn llywodraethu(15).

Cofnodion a phapurau

47.—(1Rhaid i'r clerc (neu'r person a benodir i weithredu fel clerc at ddiben y cyfarfod yn unol â rheoliad 42(4)) sicrhau bod cofnodion trafodion cyfarfod o'r corff llywodraethu'n cael eu llunio a'u llofnodi (yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth y corff llywodraethu) gan y cadeirydd (neu gan y person sy'n gweithredu fel cadeirydd) yn y cyfarfod nesaf.

(2Rhaid i gofnodion y trafodion gael eu rhoi mewn llyfr a gedwir at y diben gan y clerc a gellir eu rhoi ar dudalennau rhyddion wedi eu rhifo'n olynol; ond os gwneir hynny rhaid i'r person sy'n llofnodi'r cofnodion dorri llythrennau'i enw ar bob tudalen.

(3Rhaid i'r person sy'n gweithredu fel clerc y corff llywodraethu at ddibenion unrhyw gyfarfod ysgrifennu'n union cyn y nodyn sy'n cofnodi'r cyfarfod hwnnw yn y llyfr neu ar y tudalennau a ddefnyddir at y diben hwnnw enwau'r aelodau hynny o'r corff llywodraethu ac unrhyw berson arall a oedd yn bresennol yn y cyfarfod dan sylw.

(4Rhaid i'r corff llywodraethu ddarparu copi o gofnodion drafft neu wedi'u llofnodi o gyfarfod penodol i'r awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol dan sylw os caiff gais gan yr awdurdod dan sylw.

Cyhoeddi cofnodion a phapurau

48.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i'r corff llywodraethu, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, drefnu bod copi ar gael i'w archwilio yn yr ysgol, gan unrhyw berson â diddordeb, o—

(a)agenda pob cyfarfod;

(b)cofnodion wedi'u llofnodi o bob cyfarfod o'r fath;

(c)unrhyw adroddiad neu bapur arall a ystyriwyd mewn unrhyw gyfarfod o'r fath; ac

(ch)cofnodion drafft unrhyw gyfarfod, os cymeradwywyd hwy gan y person sy'n gweithredu fel cadeirydd y cyfarfod hwnnw.

(2Caiff y corff llywodraethu dynnu allan o unrhyw eitem y mae angen trefnu iddi fod ar gael yn unol â pharagraff (1) unrhyw ddeunydd yn ymwneud ag—

(a)person a enwir sy'n gweithio, neu y bwriedir y dylai weithio, yn yr ysgol; neu

(b)disgybl yn yr ysgol sy'n cael ei enwi, neu un sy'n gwneud cais am le yn yr ysgol; neu

(c)unrhyw fater arall y mae'r corff llywodraethu yn fodlon y dylai aros yn gyfrinachol oherwydd ei natur.

(3Rhaid i bob tudalen o gopïau a gyhoeddir o unrhyw gofnodion drafft o drafodion cyfarfodydd a gymeradwywyd gan y cadeirydd nodi eu bod yn gofnodion drafft.

Atal llywodraethwyr

49.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2), (3) a (4), caiff y corff llywodraethu drwy benderfyniad atal llywodraethwr o'r cyfan neu o rai o gyfarfodydd y corff llywodraethu, neu o bwyllgor, am gyfnod penodol o hyd at 6 mis am un neu ragor o'r rhesymau canlynol—

(a)bod y llywodraethwr, ac yntau'n berson y telir iddo am weithio yn yr ysgol, yn destun achos disgyblu mewn perthynas â'i gyflogaeth;

(b)bod y llywodraethwr yn destun achos mewn unrhyw lys neu dribiwnlys, y gallai ei ganlyniad olygu y caiff ei anghymhwyso rhag parhau i ddal swydd fel llywodraethwr o dan Atodlen 5;

(c)bod y llywodraethwr wedi gweithredu mewn modd sy'n anghyson ag ethos neu gymeriad crefyddol yr ysgol ac wedi dwyn neu'n debygol o ddwyn anfri ar yr ysgol neu ar y corff llywodraethu neu ar ei swydd; neu

(ch)bod y llywodraethwr wedi torri ei ddyletswydd o gyfrinachedd i'r ysgol neu i unrhyw aelod o'r staff neu i unrhyw ddisgybl yn yr ysgol.

(2Ni fydd penderfyniad i atal llywodraethwr o'i swydd yn effeithiol oni fo'r mater wedi ei bennu fel eitem o fusnes ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod, y rhoddwyd hysbysiad ohono yn unol â rheoliad 45(7).

(3Cyn y cymerir pleidlais ar benderfyniad i atal llywodraethwr, rhaid i'r llywodraethwr sy'n cynnig y penderfyniad ddatgan yn y cyfarfod ei resymau dros wneud hynny, a rhaid rhoi cyfle i'r llywodraethwr sy'n destun y penderfyniad wneud datganiad yn ymateb cyn mynd allan o'r cyfarfod yn unol â pharagraff 2(2) o Atodlen 7.

(4Ni ddylid darllen dim yn y rheoliad hwn fel petai'n effeithio ar hawl llywodraethwr a ataliwyd—

(a)i gael hysbysiad o gyfarfodydd y corff llywodraethu, ac agendâu ac adroddiadau neu bapurau eraill ar eu cyfer, na

(b)i fynychu cyfarfod o'r corff llywodraethu a gynullir yn unol â rheoliad 30 i ystyried ei ddiswyddo

yn ystod cyfnod ei ataliad.

(5Ni ddylid darllen dim yn y rheoliad hwn fel petai'n rhwystro corff llywodraethu rhag atal llywodraethwr a ataliwyd o dan baragraff (1) am gyfnod neu gyfnodau pellach, pa un a yw am yr un rheswm â'r atal gwreiddiol ai peidio, a bydd paragraffau (1) i (4) yn gymwys i bob ataliad.

(6Ni chaiff llywodraethwr ei anghymhwyso rhag parhau i ddal swydd o dan baragraff 5 o Atodlen 5 am beidio â mynychu unrhyw gyfarfod o'r corff llywodraethu tra bydd wedi ei atal o dan y rheoliad hwn.

Dirprwyo swyddogaethau

50.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 51 o'r Rheoliadau hyn, rheoliad 3(2) o Reoliadau Cymeriad Crefyddol Ysgolion (Gweithdrefn Ddynodi) 1998(16) a rheoliad 7 o Reoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cylch Gwaith) (Cymru) 2000(17), caiff y corff llywodraethu ddirprwyo unrhyw rai o'i swyddogaethau i—

(a)pwyllgor;

(b)unrhyw lywodraethwr; neu

(c)y pennaeth (boed lywodraethwr neu beidio).

(2Pan fo corff llywodraethu wedi dirprwyo swyddogaethau ni fydd hyn yn rhwystro'r corff llywodraethu rhag arfer y swyddogaethau hynny.

(3Rhaid i'r corff llywodraethu adolygu'n flynyddol y modd yr arferir swyddogaethau a ddirprwywyd ganddo.

Cyfyngiadau ar ddirprwyo a phwyllgorau penodedig

51.—(1Ni chaiff y corff llywodraethu ddirprwyo o dan reoliad 50(1) ei swyddogaethau o dan y rheoliadau canlynol—

(a)y rhai hynny yn Rhan 2 (categorïau o lywodraethwyr);

(b)y rhai hynny yn Rhan 3 (cyfansoddiad cyrff llywodraethu);

(c)y rhai hynny yn Rhan 4 (diswyddo llywodraethwyr);

(ch)y rhai hynny yn Rhan 5 (offerynnau llywodraethu);

(d)rheoliadau 39 a 41 (ethol a diswyddo cadeirydd ac is-gadeirydd);

(dd)rheoliad 42 (penodi a diswyddo clerc y corff llywodraethu);

(e)rheoliad 49 (atal llywodraethwyr);

(f)rheoliad 50 (dirprwyo swyddogaethau);

(ff)rheoliad 54 (sefydlu pwyllgorau)

ac ni chaiff ychwaith ddirprwyo ei swyddogaethau mewn perthynas â phanelau dethol pennaeth a dirprwy pennaeth o dan baragraff 6 o Atodlen 16 a pharagraffau 7 a 30 o Atodlen 17 i Ddeddf 1998.

(2Ni chaiff y corff llywodraethu ddirprwyo i unigolyn o dan reoliad 50(1)—

(a)y swyddogaethau yn:

(i)adrannau 28, 29, 30 a 31 o Ddeddf 1998, a pharagraff 10(4) yn Atodlen 6 iddi (Newid neu cau ysgolion a gynhelir);

(ii)adrannau 28(18) a 31 o Ddeddf 1998 fel y maent yn effeithiol yn rhinwedd Rheoliadau a wnaed o dan Atodlen 8 i Ddeddf 1998 mewn perthynas â chynigion o dan yr Atodlen honno (Newid categori ysgolion a gynhelir);

(iii)cynllun a wnaed gan yr awdurdod lleol o dan adran 48(1) o Ddeddf 1998, i'r graddau y mae'n ei gwneud yn ofynnol i'r corff llywodraethu gymeradwyo cynllun cyllideb ffurfiol cyntaf y flwyddyn ariannol;

(iv)adran 61(1) i (3) o Ddeddf 1998 (polisïau disgyblaeth ysgolion);

(v)adrannau 88, 89(19), 89A(20) 90(8) a 91 o Ddeddf 1998 (sy'n ymwneud â phenderfynu ar drefniadau derbyn i ysgolion), adran 90(1) o Ddeddf 1998 (sy'n ymwneud â chyfeirio gwrthwynebiadau ynghylch trefniadau derbyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru), adran 93 o Ddeddf 1998 ac Atodlen 23 iddi (sy'n ymwneud â phennu niferoedd derbyn ac amrywio niferoedd safonol), neu adran 94(21) o Ddeddf 1998 i'r graddau y mae'n ymwneud â phenderfynu ynghylch trefniadau apêl gan y corff llywodraethu;

(vi)adran 63 o Ddeddf 1998 (targedau mynychu ysgol);

(vii)adran 439(7) o Ddeddf 1996 (gorchmynion mynychu ysgol);

(viii)adran 95(2) a 97(3) o Ddeddf 1998 (apêl yn erbyn penderfyniad awdurdod addysg lleol i dderbyn plentyn a chyfeiriad i'r Cynulliad mewn cysylltiad â chyfarwyddyd a wneir gan awdurdod addysg lleol i dderbyn plentyn); na'r

(b)swyddogaethau y mae'n rhaid eu dirprwyo i'r pwyllgorau a enwir yn rheoliadau 55 i 57.

Adrodd wrth y corff llywodraethu yn dilyn arfer swyddogaethau dirprwyedig

52.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo unrhyw swyddogaeth o eiddo'r corff llywodraethu wedi ei dirprwyo i'r canlynol neu'n arferadwy fel arall gan y canlynol—

(a)llywodraethwr (gan gynnwys y cadeirydd neu'r is-gadeirydd);

(b)y pennaeth (boed yn llywodraethwr neu beidio); neu

(c)pwyllgor.

(2Rhaid i unrhyw unigolyn neu bwyllgor y dirprwywyd swyddogaeth corff llywodraethu iddo neu sydd fel arall wedi arfer swyddogaeth corff llywodraethu, adrodd wrth y corff llywodraethu ynghylch unrhyw gam a gymerwyd neu benderfyniad a wnaed mewn perthynas ag arfer y swyddogaeth honno.

RHAN 9Pwyllgorau cyrff llywodraethu

Cymhwyso'r Rhan hon

53.  Nid yw'r Rhan hon yn gymwys mewn perthynas â phanelau dethol penaethiaid a dirprwy benaethiaid a sefydlwyd o dan Atodlen 16 neu 17 i Ddeddf 1998.

Sefydlu pwyllgorau'r corff llywodraethu

54.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i bwyllgorau'r corff llywodraethu yn ddarostyngedig i reoliadau 55, 56 a 57.

(2Y corff llywodraethu sydd i benderfynu beth fydd cyfansoddiad, aelodaeth a chylch gwaith unrhyw bwyllgor y penderfyna ei sefydlu a'u hadolygu'n flynyddol.

(3Rhaid i'r corff llywodraethu benodi cadeirydd yn flynyddol ar bob pwyllgor neu raid i'r pwyllgor ei ethol, yn ôl penderfyniad y corff llywodraethu.

(4Rhaid i bwyllgor ethol aelod o'r pwyllgor hwnnw i weithredu fel cadeirydd yn absenoldeb y cadeirydd a benodwyd o dan baragraff (3).

(5Ni chaiff unrhyw un a gyflogir i weithio yn yr ysgol, na'r un o ddisgyblion cofrestredig yr ysgol, weithredu fel cadeirydd pwyllgor.

(6Caiff y corff llywodraethu ddiswyddo cadeirydd unrhyw bwyllgor ar unrhyw adeg.

(7Caiff aelodaeth pwyllgor gynnwys personau nad ydynt yn llywodraethwyr a'r corff llywodraethu bydd yn penderfynu i ba raddau y bydd gan aelodau o'r fath hawl i bleidleisio.

(8Rhaid i fwyafrif yr aelodau ar unrhyw bwyllgor fod yn llywodraethwyr.

Y pwyllgor disgyblu a diswyddo staff a'r pwyllgor apelau disgyblu a diswyddo

55.—(1Rhaid i swyddogaethau canlynol corff llywodraethu ysgol gael eu dirprwyo i bwyllgor, a elwir yn bwyllgor disgyblu a diswyddo staff—

(i)mewn ysgol gymunedol, ysgol wirfoddol a reolir neu ysgol arbennig gymunedol, y penderfyniad cychwynnol o dan baragraff 25 yn Atodlen 16 i Ddeddf 1998 y dylai unrhyw un a gyflogir gan yr awdurdod addysg lleol i weithio yn yr ysgol orffen gweithio yno;

(ii)mewn ysgol sefydledig, ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol arbennig sefydledig, y penderfyniad cychwynnol y dylid terfynu contract cyflogaeth person a gyflogir i weithio yn yr ysgol â'r corff llywodraethu neu na ddylid adnewyddu ei gontract (ac eithrio pan fo'r diswyddo yn unol â chyfarwyddyd yr awdurdod addysg lleol o dan adran 55(5) o Ddeddf 1998); a

(iii)gwrando ar sylwadau mewn perthynas â phenderfyniad y mae'n rhaid ei ddirprwyo o dan y paragraff hwn.

(2Rhaid dirprwyo gwrandawiad unrhyw apêl mewn perthynas â phenderfyniad y mae'n rhaid ei ddirprwyo o dan baragraff (1) i bwyllgor, a elwir yn bwyllgor apelau disgyblu a diswyddo.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (9), rhaid i'r pwyllgor disgyblu a diswyddo staff gynnwys o leiaf dri llywodraethwr.

(4Rhaid i'r pwyllgor apelau disgyblu a diswyddo gynnwys o leiaf gynifer o lywodraethwyr â'r pwyllgor disgyblu a diswyddo staff y mae ei benderfyniad yn destun apêl.

(5Mae'r cworwm ar gyfer cyfarfod o'r pwyllgor disgyblu a diswyddo staff a'r pwyllgor apelau disgyblu a diswyddo ac unrhyw bleidlais ar unrhyw fater yn y pwyllgorau yr un nifer ag isafswm y gofynion ar gyfer cyfansoddiad y pwyllgorau hynny a bennir yn y rheoliad hwn.

(6Pan fo'r pwyllgor apelau disgyblu a diswyddo yn ystyried apêl yn erbyn penderfyniad pwyllgor disgyblu a diswyddo staff, ni chaiff unrhyw aelod o'r pwyllgor disgyblu a diswyddo staff y mae ei benderfyniad yn destun apêl gymryd rhan yn nhrafodion y pwyllgor apelau disgyblu a diswyddo.

(7Ni chaiff pennaeth yr ysgol fod yn aelod o'r pwyllgor disgyblu a diswyddo staff nac o'r pwyllgor apelau disgyblu a diswyddo.

(8Ni fydd gan unrhyw aelod o'r pwyllgor disgyblu a diswyddo staff na'r pwyllgor apelau disgyblu a diswyddo nad yw'n llywodraethwr hawl i bleidleisio yn unrhyw drafodion y pwyllgor dan sylw.

(9Pan nad yw'n rhesymol ymarferol i'r pwyllgor disgyblu a diswyddo staff a'r pwyllgor apelau disgyblu a diswyddo gynnwys tri llywodraethwr yr un, caiff y pwyllgor disgyblu a diswyddo staff gynnwys dau lywodraethwr.

Pwyllgor disgyblu a gwahardd disgyblion

56.—(1Rhaid i gorff llywodraethu ysgol sefydlu pwyllgor, a elwir yn bwyllgor disgyblu a gwahardd disgyblion, i gyflawni'r swyddogaethau a roddwyd iddo gan neu o dan reoliadau a wnaed o dan adran 52(3) a (4) o Ddeddf 2002 (Gwahardd disgyblion)(22).

(2Rhaid i'r pwyllgor disgyblu a gwahardd disgyblion gynnwys naill ai dri neu bump o lywodraethwyr, ond nid y pennaeth.

(3Y cworwm ar gyfer cyfarfod o'r pwyllgor disgyblu a gwahardd disgyblion ac unrhyw bleidlais ar unrhyw fater gerbron y pwyllgor yw tri aelod o'r pwyllgor.

(4Caiff cadeirydd y pwyllgor disgyblu a gwahardd disgyblion arfer unrhyw swyddogaeth a roddwyd i'r corff llywodraethu gan neu o dan reoliadau a wnaed o dan adran 52(3) a (4) o Ddeddf 2002 (Gwahardd disgyblion) mewn achos—

(a)pan fo disgybl wedi ei wahardd am gyfnod penodol mewn amgylchiadau lle y byddai, o ganlyniad i'r gwaharddiad, yn colli cyfle i sefyll unrhyw arholiad cyhoeddus; a

(b)pan fo'n ymddangos i'r cadeirydd na fyddai'n ymarferol cynnal cyfarfod â chworwm o'r pwyllgor at unrhyw ddiben y cyfeirir ato mewn rheoliadau o'r fath cyn y deuai'r amser i'r disgybl sefyll yr arholiad hwnnw.

Pwyllgor derbyniadau

57.—(1Os corff llywodraethu ysgol yw'r awdurdod derbyn ar gyfer yr ysgol honno rhaid iddo sefydlu pwyllgor, a elwir yn bwyllgor derbyniadau, i arfer ei bwerau i benderfynu a ddylid derbyn unrhyw blentyn i'r ysgol.

(2Rhaid i bwyllgor a sefydlir o dan baragraff (1) gynnwys—

(a)pennaeth yr ysgol (y bydd ganddo hawl i bleidleisio pa un a yw'n llywodraethwr ai peidio); a

(b)o leiaf ddau lywodraethwr arall

(3Yn achos ysgol sydd â mwy nag un pennaeth, dehongler y cyfeiriad ym mharagraff (2)(a) at y pennaeth fel cyfeiriad at un o'r penaethiaid.

(4Mae'r cworwm ar gyfer y pwyllgor derbyniadau ac unrhyw bleidlais ar unrhyw fater yn y pwyllgor yr un fath â'r isafswm sy'n ofynnol ar gyfer aelodaeth y pwyllgor a bennir yn y rheoliad hwn.

Clercod pwyllgorau

58.—(1Rhaid i'r corff llywodraethu benodi clerc i bob pwyllgor a sefydlir yn unol â rheoliadau 55 i 57 a chaiff benodi clerc i unrhyw bwyllgor arall a sefydlir ganddo.

(2Ni cheir penodi pennaeth yr ysgol yn glerc o dan baragraff (1).

(3Er gwaethaf paragraff (1) caiff y pwyllgor, os metha'r clerc â mynychu un o'u cyfarfodydd, benodi unrhyw un o'u plith (ond nid y pennaeth) i weithredu fel clerc at ddibenion y cyfarfod hwnnw.

(4Caiff y corff llywodraethu ddiswyddo unrhyw glerc a benodir i unrhyw bwyllgor o'i eiddo ar unrhyw adeg.

(5Rhaid i glerc a benodir i bwyllgor y corff llywodraethu—

(a)cynnull cyfarfodydd y pwyllgor;

(b)mynychu cyfarfodydd y pwyllgor a sicrhau y llunnir cofnodion o'r trafodion; ac

(c)cyflawni pa swyddogaethau eraill bynnag mewn perthynas â'r pwyllgor hwnnw a benderfynir gan y corff llywodraethu o bryd i'w gilydd.

Hawl personau i fynychu cyfarfodydd pwyllgorau

59.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) ac Atodlen 7 i'r Rheoliadau hyn bydd gan y canlynol yr hawl i fynychu unrhyw gyfarfod o bwyllgor—

(a)unrhyw aelod o'r pwyllgor, ar yr amod nad yw'n llywodraethwr a ataliwyd yn unol â rheoliad 49;

(b)pennaeth yr ysgol, pa un a yw'n aelod o'r pwyllgor ai peidio;

(c)clerc y pwyllgor; ac

(ch)personau eraill y bo'r corff llywodraethu neu'r pwyllgor yn penderfynu yn eu cylch.

(2Caiff pwyllgor wahardd aelod nad yw'n llywodraethwr o unrhyw ran o'i gyfarfod y mae ganddo fel arall hawl i'w fynychu pan fo'r busnes o dan ystyriaeth yn ymwneud ag aelod unigol o'r staff neu â disgybl.

(3Nid yw paragraff (1)(b) yn gymwys mewn perthynas â'r pwyllgorau y cyfeirir atynt yn rheoliadau 55 a 56 nac mewn perthynas ag unrhyw bwyllgor neu banel dethol sy'n arfer unrhyw swyddogaeth o dan Atodlenni 16 neu 17 i Ddeddf 1998.

Cyfarfodydd pwyllgorau

60.  Yn ddarostyngedig i baragraff (2) rhaid i glerc i bwyllgor gynnull cyfarfodydd y pwyllgor hwnnw a mae'n rhaid iddo, wrth arfer y swyddogaeth hon, gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan—

(a)y corff llywodraethu;

(b)cadeirydd y pwyllgor hwnnw, i'r graddau nad yw unrhyw gyfarwyddyd o'r fath yn anghyson ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir o dan is-baragraff (a).

(2Oni phenodwyd clerc, rhaid i'r cadeirydd gynnull cyfarfodydd pwyllgorau a mae'n rhaid iddo, wrth arfer y swyddogaeth hon, gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan y corff llywodraethu.

(3Yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddyd a roddir yn unol â pharagraffau (1) neu (2), rhaid i'r clerc roi, o leiaf bum niwrnod gwaith ymlaen llaw, i bob aelod o'r pwyllgor ac i'r pennaeth (pa un a yw'n aelod o'r pwyllgor ai peidio)—

(a)hysbysiad ysgrifenedig o'r cyfarfod,

(b)copi o agenda'r cyfarfod, ac

(c)unrhyw adroddiadau neu bapurau eraill sydd i'w hystyried yn y cyfarfod;

ond bydd yn ddigon pan fo cadeirydd y pwyllgor yn penderfynu hynny, ar y sail bod materion sy'n galw am sylw brys, i'r hysbysiad ysgrifenedig am y cyfarfod nodi'r ffaith honno ac i'r hysbysiad, yr agenda, a'r adroddiadau neu'r papurau eraill sydd i'w hystyried yn y cyfarfod gael eu rhoi o fewn cyfnod byrrach yn ôl ei gyfarwyddyd neu ei benderfyniad ef (yn ôl fel y digwydd).

(4Nid annilysir trafodion pwyllgor gan—

(a)unrhyw le gwag ymhlith ei aelodau; na

(b) unrhyw ddiffyg wrth benodi unrhyw aelod o'r pwyllgor.

(5Yn ddarostyngedig i reoliadau 55(5), 56(3) a 57(4), y cworwm ar gyfer cyfarfod o bwyllgor ac ar gyfer unrhyw bleidlais ar unrhyw fater mewn cyfarfod o'r fath yw hanner (wedi ei dalgrynnu i fyny i rif cyfan) aelodaeth y pwyllgor heb gynnwys unrhyw leoedd gwag.

(6Ni cheir cymryd pleidlais ar unrhyw fater mewn cyfarfod o bwyllgor oni fo mwyafrif aelodau'r pwyllgor sy'n bresennol yn llywodraethwyr.

(7Dyfernir ynghylch pob mater sydd i'w benderfynu mewn cyfarfod o bwyllgor gan fwyafrif o bleidleisiau aelodau'r pwyllgor sy'n bresennol ac yn pleidleisio ar y mater.

(8Pan fo'r pleidleisiau wedi eu rhannu'n gyfartal bydd gan y person sy'n gweithredu fel cadeirydd at ddibenion y cyfarfod ail bleidlais neu bleidlais fwrw, ar yr amod bod y cyfryw berson yn llywodraethwr.

Cofnodion cyfarfodydd pwyllgorau

61.—(1Rhaid i glerc pwyllgor neu'r person sy'n gweithredu fel clerc at ddibenion y cyfarfod lunio cofnodion o drafodion cyfarfod o bwyllgor; a rhaid i gadeirydd cyfarfod nesaf y pwyllgor eu llofnodi (yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth y pwyllgor).

(2Rhaid i unrhyw bwyllgor corff llywodraethu ddarparu copi i'w awdurdod addysg lleol o gofnodion drafft neu gofnodion wedi'u llofnodi unrhyw gyfarfod o'i eiddo o gael cais gan yr awdurdod hwnnw.

Cyhoeddi cofnodion a phapurau

62.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i'r pwyllgor, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, drefnu bod copi ar gael i'w archwilio yn yr ysgol, gan unrhyw un â diddordeb, o—

(a)agenda pob cyfarfod o'r pwyllgor ;

(b)cofnodion wedi'u llofnodi o bob cyfarfod o'r fath; ac

(c)unrhyw adroddiad neu bapur arall a ystyriwyd mewn unrhyw gyfarfod o'r fath.

(2Caiff y pwyllgor dynnu allan o unrhyw eitem y mae angen trefnu ei fod ar gael yn unol â pharagraff (1) unrhyw ddeunydd yn ymwneud ag—

(a)person a enwir sy'n gweithio, neu y bwriedir y dylai weithio, yn yr ysgol;

(b)disgybl yn yr ysgol sy'n cael ei enwi, neu un sy'n gwneud cais am le yn yr ysgol;

(c)unrhyw fater arall y mae'r pwyllgor yn fodlon y dylai aros yn gyfrinachol oherwydd ei natur.

RHAN 10

Cyfyngiadau ar bersonau rhag cymryd rhan mewn trafodion

63.—(1Yn y rheoliad hwn ac yn Atodlen 7—

(a)ystyr “person perthnasol” (“relevant person”) yw llywodraethwr, aelod o bwyllgor nad yw'n llywodraethwr, y pennaeth (boed yn llywodraethwr neu beidio) neu unrhyw berson a benodir yn glerc y corff llywodraethu neu bwyllgor; a

(b)mae unrhyw gyfeiriad at “gyfarfod o'r ysgol” (“meeting of the school”) yn gyfeiriad at gyfarfod o'r corff llywodraethu neu o bwyllgor, gan gynnwys panel dethol a sefydlwyd o dan Atodlenni 16 neu 17 i Ddeddf 1998.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (4)—

(a)pan fo gwrthdaro posibl mewn perthynas ag unrhyw fater rhwng buddiannau person perthnasol a buddiannau'r corff llywodraethu;

(b)pan fo angen gwrandawiad teg a phan fo unrhyw amheuaeth resymol am allu person perthnasol i weithredu'n ddiduedd mewn perthynas ag unrhyw fater; neu

(c)pan fo i berson perthnasol fuddiant ariannol mewn unrhyw fater;

rhaid i'r person hwnnw, os yw'n bresennol mewn cyfarfod o'r ysgol lle mae'r mater yn cael ei ystyried, ddatgelu'r buddiant sydd iddo, mynd allan o'r cyfarfod a pheidio â phleidleisio ar y mater dan sylw.

(3Ni ddylid dehongli dim yn y rheoliad hwn nac yn Atodlen 7 fel pe'n atal—

(a)y corff llywodraethu, neu bwyllgor, rhag—

(i)caniatáu i berson sydd yn eu tyb hwy yn gallu rhoi tystiolaeth fynychu unrhyw wrandawiad a gynhelir ganddynt ar unrhyw fater a chyflwyno ei dystiolaeth; neu

(ii)clywed sylwadau gan berson perthnasol sy'n gweithredu mewn swyddogaeth ar wahân i swyddogaeth person perthnasol; neu

(b)person perthnasol rhag ymrwymo i gontract â'r corff llywodraethu y mae ganddo hawl i elwa oddi wrtho.

(4Ni fydd yn ofynnol i berson sy'n gweithredu fel clerc i gyfarfod o'r ysgol fynd allan o gyfarfod yn rhinwedd y rheoliad hwn nac Atodlen 7 oni fo ei benodiad i swydd, ei dâl neu achos disgyblu yn ei erbyn o dan ystyriaeth, ond pe bai'r rheoliad hwn neu Atodlen 7 fel arall wedi ei gwneud yn ofynnol iddo fynd allan, ni chaiff weithredu mewn unrhyw swyddogaeth ac eithrio swyddogaeth clerc.

(5Os oes unrhyw anghydfod ynghylch a yw'n ofynnol i berson perthnasol yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu Atodlen 7, fynd allan o gyfarfod o'r ysgol a pheidio â phleidleisio, bydd y llywodraethwyr eraill sy'n bresennol yn y cyfarfod yn penderfynu ynghylch y mater hwnnw.

(6Mae Atodlen 7 yn gwneud darpariaeth ynghylch buddiannau ariannol a mathau eraill penodedig o wrthdaro rhwng buddiannau.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(23)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

18 Hydref 2005

(Rheoliad 4)

ATODLEN 1Ethol a phenodi rhiant-lywodraethwyr

1.  Yn yr Atodlen hon ystyr “awdurdod priodol” (“appropriate authority”) yw—

(a)mewn perthynas ag ysgol gymunedol, ysgol arbennig gymunedol, ysgol feithrin a gynhelir neu ysgol wirfoddol a reolir, yr awdurdod addysg lleol; a

(b)yn ddarostyngedig i baragraff 3, mewn perthynas ag ysgol wirfoddol a gynorthwyir, ysgol sefydledig neu ysgol arbennig sefydledig, y corff llywodraethu.

2.  Os yr awdurdod addysg lleol yw'r awdurdod priodol mewn perthynas ag ysgol, caiff yr awdurdod hwnnw ddirprwyo i bennaeth yr ysgol unrhyw rai o'i swyddogaethau o dan yr Atodlen hon.

3.  Yr awdurdod addysg lleol fydd yr awdurdod priodol mewn perthynas ag ysgol o fewn paragraff 1(b) os bydd y corff llywodraethu a'r awdurdod addysg lleol yn cytuno ynghylch hynny.

4.  Yn ddarostyngedig i baragraffau 5 i 9 rhaid i'r awdurdod priodol wneud yr holl drefniadau angenrheidiol i ethol rhiant-lywodraethwyr.

5.  Yr awdurdod priodol sydd i benderfynu, at ddibenion ethol rhiant-lywodraethwyr, unrhyw gwestiwn ynghylch a yw person yn rhiant disgybl cofrestredig yn yr ysgol.

6.  Yn achos y pŵer a osodir gan baragraff 4—

(a)nid yw'n cynnwys pŵer i osod unrhyw ofynion ynghylch yr isafswm o bleidleisiau y mae angen eu bwrw i ymgeisydd gael ei ethol, ond

(b)mae'n cynnwys y pŵer i wneud darpariaeth ynghylch dyddiadau cymhwyso.

7.  Rhaid cynnal unrhyw etholiad a ymleddir drwy bleidlais gudd.

8.—(1Rhaid i'r trefniadau a wneir o dan baragraff 4 ddarparu bod pawb sydd â'r hawl i bleidleisio yn cael cyfle i wneud hynny drwy'r post.

(2At ddibenion is-baragraff (1), mae “post” (“post”) yn cynnwys danfon drwy law.

(3Caiff y trefniadau a wneir o dan baragraff 4 ddarparu i bawb y mae ganddo neu ganddi hawl i bleidleisio gael cyfle i wneud hynny drwy gyfrwng electronig.

9.  Pan ddaw lle'n wag i riant-lywodraethwr, rhaid i'r awdurdod priodol gymryd y camau hynny sy'n rhesymol ymarferol i sicrhau bod pob un y mae'n gwybod ei fod yn rhiant disgybl cofrestredig yn yr ysgol—

(a)yn cael gwybod am y lle gwag a'i bod yn ofynnol ei lenwi drwy etholiad;

(b)yn cael gwybod bod ganddo hawl i sefyll fel ymgeisydd a phleidleisio yn yr etholiad; ac

(c)yn cael cyfle i wneud hynny.

10.  Rhaid sicrhau'r nifer o riant-lywodraethwyr sy'n ofynnol drwy ychwanegu rhiant-lywodraethwyr a benodir gan y corff llywodraethu, os daw un neu ragor o lefydd ar gyfer rhiant-lywodraethwyr yn wag a naill ai—

(a)bod y nifer o rieni sy'n sefyll i'w hethol yn llai na nifer y lleoedd gwag;

(b)bod o leiaf 50 y cant o'r disgyblion cofrestredig yn yr ysgol yn lletywyr ac y byddai, ym marn yr awdurdod priodol, yn anymarferol ethol rhiant-lywodraethwyr; neu

(c)yn achos ysgol sy'n ysgol arbennig gymunedol neu'n ysgol arbennig a sefydlwyd mewn ysbyty, y byddai, ym marn yr awdurdod priodol, yn anymarferol ethol rhiant-lywodraethwyr.

11.—(1Ac eithrio pan fo paragraff 12 yn gymwys, rhaid i'r corff llywodraethu benodi'n rhiant-lywodraethwr—

(a)rhiant disgybl cofrestredig yn yr ysgol; neu

(b)pan nad yw'n rhesymol ymarferol gwneud hynny, rhiant plentyn sydd o oedran ysgol gorfodol, neu yn achos ysgol feithrin a gynhelir, sydd o oedran neu o dan oedran ysgol gorfodol.

12.—(1Pan fo'r ysgol yn ysgol arbennig gymunedol neu'n ysgol arbennig sefydledig, rhaid i'r corff llywodraethu benodi—

(a)rhiant disgybl cofrestredig yn yr ysgol; neu

(b)rhiant plentyn sydd o oedran ysgol gorfodol ac sydd ag anghenion addysgol arbennig; neu

(c)rhiant person o unrhyw oedran sydd ag anghenion addysgol arbennig; neu

(ch)rhiant plentyn o oedran ysgol gorfodol.

(2Dim ond os nad yw'n rhesymol ymarferol penodi person y cyfeirir ato yn yr is-baragraff sy'n union o'i flaen y caiff y corff llywodraethu benodi person y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) (b), (c) neu (ch).

(Rheoliadau 5 a 6)

ATODLEN 2Ethol athro-lywodraethwyr a staff-lywodraethwyr

1.  Yn yr Atodlen hon mae'r un ystyr i “awdurdod priodol” (“appropriate authority”) ag yn Atodlen 1.

2.  Os bydd awdurdod addysg lleol yn awdurdod priodol mewn perthynas ag ysgol, caiff yr awdurdod hwnnw ddirprwyo i bennaeth yr ysgol unrhyw rai o'i swyddogaethau o dan yr Atodlen hon.

3.  Yn ddarostyngedig i baragraffau 4 i 6 rhaid i'r awdurdod priodol wneud yr holl drefniadau angenrheidiol i ethol athro-lywodraethwyr a staff-lywodraethwyr.

4.  Yr awdurdod priodol sydd i benderfynu at ddibenion ethol athro-lywodraethwyr neu staff-lywodraethwyr a yw person yn athro neu athrawes ysgol neu'n cael ei gyflogi fel arall i weithio yn yr ysgol.

5.  Yn achos y pŵer a roddir gan baragraff 3—

(a)nid yw'n cynnwys pŵer i osod unrhyw ofynion ynghylch yr isafswm o bleidleisiau y mae angen eu bwrw i ymgeisydd gael ei ethol ond

(b)mae'n cynnwys y pŵer i wneud darpariaeth ynghylch dyddiadau cymhwyso, mae'n cynnwys y pŵer i wneud darpariaeth ynghylch dyddiadau cymhwyso.

6.  Rhaid cynnal unrhyw etholiad a ymleddir drwy bleidlais gudd.

(Rheoliad 10)

ATODLEN 3Penodi llywodraethwyr partneriaeth

1.  Pan fo angen llywodraethwr partneriaeth, rhaid i'r corff llywodraethu geisio enwebiadau gan rieni disgyblion cofrestredig yn yr ysgol, a chan bersonau eraill yn y gymuned a wasanaethir gan yr ysgol y credant eu bod yn briodol.

2.  Ni chaiff unrhyw berson enwebu i'w benodi, na phenodi, person yn llywodraethwr partneriaeth oni fyddai'r person hwnnw'n gymwys i'w benodi gan y corff llywodraethu yn llywodraethwr cymunedol.

3.—(1Yn achos ysgol arbennig sefydledig heb sefydliad, rhaid i'r corff llywodraethu benodi o leiaf un person sydd â phrofiad o addysg i blant ag anghenion addysgol arbennig yn llywodraethwr partneriaeth, onid oes diffyg enwebai cymwys sydd â phrofiad o'r fath.

(2Wrth geisio enwebiadau ar gyfer llywodraethwr partneriaeth mewn ysgolion arbennig sefydledig, rhaid i'r corff llywodraethu gymryd camau i sicrhau bod personau sy'n gwneud enwebiadau yn ymwybodol o'r gofyniad ym mharagraff (1).

4.  Yn ddarostyngedig i baragraff 5(2), ni chaiff unrhyw lywodraethwr enwebu person i'w benodi'n llywodraethwr partneriaeth.

5.—(1Rhaid i'r corff llywodraethu benodi'r nifer o lywodraethwyr partneriaeth sydd eu hangen yn ôl yr offeryn llywodraethu o blith enwebeion cymwys.

(2Os yw'r nifer o enwebeion cymwys yn llai na'r nifer o leoedd gwag, ceir cwblhau'r nifer o lywodraethwyr partneriaeth sydd eu hangen â phobl a ddetholir gan y corff llywodraethu.

6.  Pan fo'r corff llywodraethu yn gwneud penodiad o dan baragraff 5(2), ar ôl gwrthod unrhyw berson a enwebwyd o dan baragraff 1, rhaid iddo roi rhesymau ysgrifenedig dros ei benderfyniad i'r awdurdod addysg lleol ac i'r person a wrthodwyd.

7.  Rhaid i'r corff llywodraethu wneud pob trefniant angenrheidiol ar gyfer enwebu a phenodi llywodraethwyr partneriaeth a phenderfynu ynghylch pob mater arall yn ymwneud â'u henwebu a'u penodi.

(Rheoliad 11)

ATODLEN 4Penodi Noddwr-lywodraethwyr

1.  Yn yr Atodlen hon, ystyr “noddwr” (“sponsor”) mewn perthynas ag ysgol yw—

(a)person sy'n rhoi neu sydd wedi rhoi cymorth ariannol sylweddol (sydd at y dibenion hyn yn cynnwys buddiant mewn da) i'r ysgol ar wahân i gymorth sy'n unol â rhwymedigaeth statudol; neu

(b)unrhyw berson arall (nad yw wedi ei gynrychioli fel arall ar y corff llywodraethu) sy'n darparu neu sydd wedi darparu gwasanaethau sylweddol i'r ysgol.

2.  Pan fo gan yr ysgol un neu ragor o noddwyr, caiff y corff llywodraethu benderfynu y bydd yr offeryn llywodraethu yn darparu i'r corff llywodraethu benodi'r nifer hwnnw o noddwr-lywodraethwyr, heb fod yn fwy na dau, a enwebir yn unol â pharagraff 3.

3.  Rhaid i'r corff llywodraethu geisio enwebiadau ar gyfer penodiadau o'r fath gan y noddwr neu (yn ôl fel y digwydd) gan unrhyw un neu ragor o'r noddwyr.

(Rheoliad 24)

ATODLEN 5Cymwysterau ac anghymwysiadau

Cyffredinol

1.  Nid yw unrhyw berson yn gymwys i fod yn llywodraethwr onid yw'n 18 oed neu drosodd ar ddyddiad ei ethol neu ei benodi.

2.  Ni chaiff unrhyw berson ar unrhyw adeg ddal mwy nag un swydd llywodraethwr yn yr un ysgol.

3.  Ac eithrio fel y darperir fel arall yn y rheoliadau hyn, nid yw'r ffaith bod person yn gymwys i'w ethol neu ei benodi'n llywodraethwr o gategori arbennig mewn ysgol yn ei anghymhwyso rhag cael ei ethol neu ei benodi neu rhag parhau'n llywodraethwr o unrhyw gategori arall yn yr ysgol honno.

Anhwylder meddyliol

4.  Anghymhwysir person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd fel llywodraethwr ysgol ar unrhyw adeg pan fo'n agored i gael ei gadw'n gaeth o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983(24) neu o dan unrhyw ail-ddeddfiad neu addasiad deddfwriaethol o'r Ddeddf honno sydd mewn grym o bryd i'w gilydd.

Diffyg mynychu cyfarfodydd

5.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw lywodraethwr nad yw'n llywodraethwr yn rhinwedd ei swydd.

(2Os bydd llywodraethwr heb ganiatâd y corff llywodraethu, wedi methu â mynychu cyfarfodydd y corff am gyfnod di-dor o chwe mis yn cychwyn ar ddyddiad y cyfarfod cyntaf o'i fath y methodd â'i fynychu, bydd y llywodraethwr hwnnw, pan ddaw'r cyfnod hwnnw i ben, wedi ei anghymwyso rhag parhau i ddal swydd llywodraethwr yn yr ysgol honno.

(3Pan fo llywodraethwr wedi anfon ymddiheuriad at glerc y corff llywodraethu cyn cyfarfod nad yw'n bwriadu ei fynychu, rhaid i gofnodion y cyfarfod gofnodi a oedd y corff llywodraethu wedi cytuno i'r absenoldeb ai beidio, a rhaid anfon copi o'r cofnodion at y llywodraethwr dan sylw i'w breswylfa arferol.

(4Nid yw llywodraethwr a anghymhwyswyd rhag bod yn llywodraethwr ysgol o dan is-baragraff (2) yn gymwys i'w enwebu, i'w ethol neu i'w benodi yn llywodraethwr o unrhyw gategori yn yr ysgol honno yn ystod y deuddeg mis cyntaf ar ôl ei anghymwyso o dan is-baragraff (2).

Methdalu

6.  Anghymhwysir person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd llywodraethwr mewn ysgol—

(a)os yw wedi ei ddyfarnu'n fethdalwr neu os yw ei stad wedi ei hatafaelu ac yntau (yn y naill achos neu'r llall) heb ei ryddhau o fethdaliad ac os nad yw'r gorchymyn methdalu wedi ei ddirymu neu ei ddad-wneud; neu

(b)os yw wedi gwneud compownd neu drefniant â'i gredydwyr, neu wedi rhoi gweithred ymddiriedaeth i'w gredydwyr, ac yntau heb ei ryddhau mewn perthynas â hynny.

Anghymwyso cyfarwyddwyr cwmnïau

7.  Anghymhwysir person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd llywodraethwr ysgol ar unrhyw adeg pan fydd yn destun—

(a)gorchymyn anghymwyso neu ymgymeriad anghymwyso o dan Ddeddf Anghymwyso Cyfarwyddwyr Cwmnïau 1986(25),

(b)gorchymyn anghymwyso o dan Rhan 2 o Orchymyn Cwmnïau (Gogledd Iwerddon) 1989(26),

(c)ymgymeriad anghymwyso a dderbyniwyd o dan Orchymyn Anghymwyso Cyfarwyddwyr Cwmnïau (Gogledd Iwerddon) 2002(27),

(ch)gorchymyn a wnaed o dan adran 429(2)(b) o Ddeddf Methdaliad 1986(28) (methu â thalu o dan orchymyn gweinyddu llys sirol).

Anghymwyso ymddiriedolwyr elusennau

8.  Anghymhwysir person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd llywodraethwr ysgol os yw—

(a)wedi ei ddiswyddo fel ymddiriedolwr elusen drwy orchymyn a wnaed gan y Comisiynwyr Elusennau neu'r Uchel Lys ar sail unrhyw gamymddygiad neu gamreoli yr oedd yn gyfrifol amdano neu'n ymwybodol ohono wrth weinyddu'r elusen, neu y cyfrannodd ato neu a hwylusodd drwy ei ymddygiad; neu

(b)os yw wedi ei ddiswyddo, o dan adran 7 o Ddeddf Diwygio'r Gyfraith (Darpariaethau Amrywiol) (Yr Alban) 1990(29) (pwerau'r Llys Sesiwn i ymdrin â rheoli elusennau), rhag ymwneud â rheoli neu reolaeth ar unrhyw gorff.

Personau y gwaherddir eu cyflogi neu y cyfyngir ar eu cyflogi

9.  Anghymhwysir person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd llywodraethwr mewn ysgol ar unrhyw adeg pan fydd—

(a)wedi ei gynnwys yn y rhestr o athrawon a'r sawl sy'n gweithio gyda phlant neu bersonau ifanc y gwaherddir eu cyflogi neu y cyfyngir arnynt o dan adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999(30);

(b)yn destun cyfarwyddyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 142 o Ddeddf 2002;

(c)wedi ei anghymhwyso rhag gweithio gyda phlant o dan adrannau 28 a 29 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llysoedd 2000(31); neu

(ch)yn rhinwedd gorchymyn a wnaed o dan adran 470 neu adran 471 o Ddeddf 1996(32), wedi ei anghymhwyso rhag bod yn berchennog unrhyw ysgol annibynnol neu rhag bod yn athro neu'n weithiwr cyflog mewn unrhyw ysgol.

Collfarnau troseddol

10.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (6) isod, anghymhwysir person rhag dal swydd, neu barhau i ddal swydd llywodraethwr ysgol pan fydd unrhyw un o is-baragraffau (2) i (4) neu (6) isod yn gymwys iddo.

(2Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i berson os yw—

(a)o fewn cyfnod o bum mlynedd a ddaw i ben ar y dyddiad yn union cyn y dyddiad y byddai ei benodi neu ei ethol yn llywodraethwr fel arall wedi dod i rym neu, yn ôl fel y digwydd, y dyddiad y byddai fel arall wedi dod yn llywodraethwr yn rhinwedd ei swydd, neu

(b)ers ei benodi neu ei ethol yn llywodraethwr neu, yn ôl fel y digwydd, ers iddo ddod yn llywodraethwr yn rhinwedd ei swydd,

wedi ei gael yn euog, yn y Deyrnas Unedig neu yn rhywle arall, o unrhyw drosedd ac wedi ei ddedfrydu i garchar (pa un a yw'r ddedfryd yn ataliedig ai peidio) am gyfnod nad yw'n llai na thri mis heb fod dewis talu dirwy.

(3Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i berson os cafwyd ef, o fewn cyfnod o 20 mlynedd a ddaw i ben ar y dyddiad yn union cyn y dyddiad y byddai ei benodi neu ei ethol yn llywodraethwr fel arall wedi dod i rym neu, yn ôl fel y digwydd, y dyddiad y byddai fel arall wedi dod yn llywodraethwr yn rhinwedd ei swydd, yn euog fel y disgrifiwyd uchod o unrhyw drosedd a'i ddedfrydu i garchar am gyfnod nad yw'n llai na dwy flynedd a hanner.

(4Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i berson os yw ar unrhyw adeg wedi ei gael yn euog fel y disgrifiwyd uchod o unrhyw drosedd ac wedi ei ddedfrydu i garchar am gyfnod nad yw'n llai na phum mlynedd.

(5At ddibenion is-baragraffau (2) i (4) uchod, rhaid diystyru unrhyw gollfarn gan lys y tu allan i'r Deyrnas Unedig neu gerbron llys o'r fath, am drosedd na fyddai, pe bai'r ffeithiau a arweiniodd at y drosedd wedi digwydd yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig, yn cael ei hystyried yn drosedd yn ôl y gyfraith sydd mewn grym yn y rhan honno o'r Deyrnas Unedig.

(6Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i berson os yw—

(a)o fewn cyfnod o bum mlynedd a ddaw i ben ar y dyddiad yn union cyn y dyddiad y byddai ei benodi neu ei ethol yn llywodraethwr fel arall wedi dod i rym neu, yn ôl fel y digwydd, y dyddiad y byddai fel arall wedi dod yn llywodraethwr yn rhinwedd ei swydd, neu

(b)ers ei benodi neu ei ethol yn llywodraethwr neu, yn ôl fel y digwydd, ers iddo ddod yn llywodraethwr yn rhinwedd ei swydd,

wedi ei gael yn euog o dan adran 547 o Ddeddf 1996(33) neu o dan adran 85A o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(34) (niwsans neu aflonyddwch ar safle addysgol) o drosedd ac wedi ei ddedfrydu i dalu dirwy.

Llywodraethwyr mwy na dwy ysgol

11.—(1Ni chaiff unrhyw berson ddal swydd llywodraethwr mewn mwy na dwy ysgol ar unrhyw adeg.

(2At ddibenion is-baragraff (1) nid ystyrir swyddi llywodraethwyr ex officio, swyddi llywodraethwyr y mae Rheoliadau Ysgolion Newydd a Gynhelir (Cymru) 2005(35) yn gymwys iddynt nac unrhyw benodiad o dan adrannau 16, 16A, 18 neu 18A o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.

Gwrthod gwneud cais am dystysgrif cofnodion troseddol

12.  Anghymhwysir person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd llywodraethwr ar unrhyw adeg pan fydd yn gwrthod cais gan y corff llywodraethu i wneud cais o dan adran 113 o Ddeddf yr Heddlu 1997(36) am dystysgrif cofnodion troseddol.

Hysbysu'r clerc

13.  Os—

(a)yw person, yn rhinwedd unrhyw un o'r paragraffau 6 i 11, wedi ei anghymhwyso rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd fel llywodraethwr ysgol; a

(b)mae'n llywodraethwr neu bwriedir ei fod yn llywodraethwr,

rhaid iddo roi gwybod i glerc y corff llywodraethu am y ffaith honno.

(Rheoliad 38)

ATODLEN 6Darpariaethau Trosiannol

1.  Yn yr Atodlen hon—

ystyr “corff llywodraethu cyfredol” (“current governing body”) yw corff llywodraethu a gyfansoddwyd o dan offeryn llywodraethu sydd yn effeithiol cyn 31 Hydref 2005; ac

ystyr “llywodraethwr cyfredol” (“current governor”) yw unrhyw berson a benodir neu a etholir i swydd fel aelod o gorff llywodraethu cyfredol ar 31 Hydref 2005 neu cyn hynny, ond nid unrhyw un a ailbenodir neu a ailetholir i swydd o'r fath wedi'r dyddiad hwnnw.

2.  Ar y dyddiad y daw offeryn llywodraethu a wnaed yn unol â'r Rheoliadau hyn yn effeithiol, neu ar ôl y dyddiad hwnnw, bydd llywodraethwr cyfredol yn parhau'n llywodraethwr yn y categori cyfatebol o lywodraethwr sy'n ofynnol o dan yr offeryn llywodraethu, fel pe bai wedi'i benodi neu ei ethol i gategori o'r fath yn unol â'r Rheoliadau hyn, hyd yn oed os nad yw'n cydymffurfio â'r gofynion perthnasol a osodir gan y Rheoliadau hyn ar gyfer llywodraethwr yn y categori hwnnw.

3.  At ddibenion paragraff 2, y canlynol fydd y categorïau cyfatebol—

Categori'r llywodraethwr cyfredolCategori'r llywodraethwr o dan y Rheoliadau hyn
Llywodraethwr cyfetholedigLlywodraethwr cymunedol
Llywodraethwr cyfetholedig ychwanegol a benodwyd o dan baragraff 15(4) o Atodlen 9 i Ddeddf 1998Llywodraethwr Cymunedol Ychwanegol
Llywodraethwr cyfetholedig ychwanegol a benodwyd o dan baragraff 2 o Atodlen 1 i Reoliadau 1999Noddwr-lywodraethwr
Llywodraethwr cynrychioliadolLlywodraethwr cynrychioliadol
Llywodraethwr sefydledig (gan gynnwys llywodraethwr sefydledig ex officio a dirprwy lywodraethwr)Llywodraethwr sefydledig (gan gynnwys llywodraethwr sefydledig ex officio a dirprwy lywodraethwr)
Llywodraethwr AALlLlywodraethwr AALl
Rhiant-lywodraethwrRhiant-lywodraethwr
Llywodraethwr partneriaethLlywodraethwr partneriaeth
Staff-lywodraethwrStaff-lywodraethwr
Athro-lywodraethwrAthro-lywodraethwr
Pennaeth (llywodraethwr ex officio)Pennaeth (ex officio)

4.  Bydd llywodraethwr cyfredol yn dal swydd llywodraethwr yn y categori cyfatebol o lywodraethwr o dan y Rheoliadau hyn hyd nes—

(a)y byddai cyfnod y swydd a oedd yn gymwys ar y dyddiad y'i hetholwyd neu y'i penodwyd yn llywodraethwr cyfredol wedi dod i ben,

(b)y bydd yn ymddiswyddo,

(c)y caiff ei anghymhwyso rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd llywodraethwr o dan y Rheoliadau hyn, neu

(ch)31 Awst 2008

pa un bynnag yw'r cynharaf.

5.  Nid yw'r Atodlen hon yn atal llywodraethwr cyfredol rhag—

(a)cael ei ethol neu ei benodi'n llywodraethwr yn unrhyw gategori sy'n ofynnol o dan yr offeryn llywodraethu am gyfnod pellach, ac eithrio fel y darperir fel arall yn y Rheoliadau hyn; neu

(b)cael ei ddiswyddo o dan reoliadau 27 i 29.

6.  Wrth gyfrifo'r nifer o lywodraethwyr sy'n ofynnol ym mhob categori o dan yr offeryn llywodraethu, rhaid cynnwys llywodraethwr cyfredol a fydd yn parhau'n llywodraethwr wedi i offeryn llywodraethu a wnaed yn unol â'r Rheoliadau hyn ddod i rym.

(Rheoliad 63)

ATODLEN 7Cyfyngiadau ar bersonau rhag cymryd rhan yn nhrafodion y corff llywodraethu neu ei bwyllgorau

Buddiannau ariannol

1.—(1At ddibenion rheoliad 63(2), mae buddiant ariannol mewn contract, contract arfaethedig neu fater arall yn cynnwys achos—

(a)pan fo person perthnasol wedi ei enwebu neu ei benodi i swydd gan berson y gwnaed y contract ag ef neu y bwriedir gwneud y contract ag ef; neu

(b)pan fo person perthnasol yn bartner i berson y gwnaed y contract ag ef neu y bwriedir gwneud y contract ag ef; neu

(c)pan fo gan berthynas i berson perthnasol (gan gynnwys ei briod, ei bartner sifil o fewn ystyr “civil partner” yn Neddf Partneriaethau Sifil 2004(37) neu rywun sy'n byw gyda'r person hwnnw fel petai'n briod neu'n bartner sifil iddo), a'r person hwnnw'n gwybod hynny, fuddiant o'r fath neu y câi ei drin fel petai ganddo fuddiant o'r fath.

(2At ddibenion rheoliad 63(2) ni chaiff person perthnasol ei drin fel petai iddo fuddiant ariannol mewn unrhyw fater—

(a)ar yr amod nad yw ei fuddiant yn y mater yn fwy na buddiant cyffredinol y rhai hynny y telir iddynt am weithio yn yr ysgol;

(b)yn unig oherwydd iddo gael ei enwebu neu ei benodi i'r swydd gan unrhyw gorff cyhoeddus, neu ei fod yn aelod o gorff o'r fath, neu'n cael ei gyflogi gan gorff o'r fath; neu

(c)yn unig oherwydd ei fod yn aelod o gorfforaeth neu gorff arall os nad oes iddo unrhyw fuddiant ariannol mewn unrhyw warantau o eiddo'r gorfforaeth honno neu gorff arall.

(3Ni rwystrir llywodraethwr, oherwydd ei fuddiant ariannol yn y mater, rhag ystyried a phleidleisio ynghylch cynigion i'r corff llywodraethu gymryd yswiriant i ddiogelu'r aelodau rhag rhwymedigaethau yr ânt iddynt sy'n deillio o'u swydd, ac ni rwystrir y corff llywodraethu, oherwydd buddiannau ariannol ei aelodau, rhag sicrhau yswiriant o'r fath a thalu'r premiymau.

(4Ni rwystrir llywodraethwr rhag ystyried neu bleidleisio ynghylch unrhyw gynnig sy'n ymwneud â lwfansau sydd i'w talu'n unol â Rheoliadau Lwfansau Llywodraethwyr (Cymru) 2005(38) oherwydd bod iddo fuddiant mewn taliadau o lwfansau o'r fath i aelodau'r corff llywodraethu'n gyffredinol, ond rhaid i aelod o gorff llywodraethu neu o unrhyw bwyllgor o gorff llywodraethu fynd allan o gyfarfod pan ystyrir neu trafodir a ddylai ef gael lwfans arbennig, swm unrhyw daliad neu unrhyw gwestiwn ynghylch lwfans sydd wedi cael ei dalu iddo, a rhaid iddo beidio â phleidleisio arno.

Swydd llywodraethwr, cadeirydd, is-gadeirydd neu glerc

2.—(1Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys pan fo person perthnasol yn bresennol mewn cyfarfod o'r corff llywodraethu ac un o'r canlynol yn fater i'w ystyried—

(a)ei benodiad, ei ailbenodiad, ei ataliad dros dro neu ei ddiswyddiad ei hun fel aelod o'r corff llywodraethu neu bwyllgor;

(b)ei benodiad neu ei ddiswyddiad ei hun fel clerc, cadeirydd neu is-gadeirydd y corff llywodraethu neu fel clerc neu gadeirydd pwyllgor;

(c)os yw'n noddwr-lywodraethwr, unrhyw benderfyniad o dan baragraff 2 o Atodlen 4 ynghylch y ddarpariaeth yn yr offeryn llywodraethu ar gyfer noddwr-lywodraethwyr.

(2Mewn unrhyw achos pan fo is-baragraff (1) yn gymwys, ymdrinir â buddiannau'r person perthnasol at ddibenion rheoliad 63(2) fel pe baent yn gwrthdaro â buddiannau'r corff llywodraethu.

Arfarnu neu dalu i bersonau sy'n gweithio yn yr ysgol

3.—(1Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys pan fo person perthnasol y telir iddo am weithio yn yr ysgol ac eithrio fel pennaeth yn bresennol mewn cyfarfod o'r ysgol lle bo talu neu werthuso perfformiad unrhyw berson penodol a gyflogir i weithio yn yr ysgol dan ystyriaeth.

(2Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys pan fo pennaeth ysgol yn bresennol mewn cyfarfod o'r ysgol lle bo talu iddo neu werthuso ei berfformiad ei hun dan ystyriaeth.

(3Mewn unrhyw achos lle bo is-baragraff (1) neu (2) yn gymwys, ymdrinir â buddiannau'r person perthnasol at ddibenion rheoliad 63(2) fel pe baent yn gwrthdaro â buddiannau'r corff llywodraethu.

Penodi Staff

4.  Pan fo person perthnasol a gyflogir i weithio mewn ysgol yn bresennol mewn cyfarfod o'r ysgol a phenodi olynydd i'r person hwnnw dan ystyriaeth, rhaid iddo adael y cyfarfod pan ystyrir neu pan drafodir y mater dan sylw, a rhaid iddo beidio â phleidleisio ar unrhyw gwestiwn yn ymwneud â'r mater hwnnw.

Personau sy'n aelodau o fwy nag un corff llywodraethu

5.  Nid ystyrir dan unrhyw amgylchiadau y ffaith bod person yn llywodraethwr neu'n aelod o bwyllgor corff llywodraethu mewn mwy nag un ysgol yn achos o wrthdaro rhwng buddiannau at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn nodi'r trefniadau newydd ar gyfer cyfansoddiad cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir, gan gynnwys ysgolion meithrin a gynhelir, yng Nghymru. Ar ôl 31 Hydref 2005, rhaid i gyfansoddiad corff llywodraethu pob ysgol newydd gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Ar ôl 1 Medi 2008, rhaid i gyfansoddiad pob corff llywodraethu sy'n bodoli eisoes gydymffurfio â'r rheoliadau hyn, ond tan y dyddiad hwnnw gallant ddewis naill ai cadw eu hofferynnau llywodraethu presennol ynteu fabwysiadu offeryn llywodraethu newydd yn unol â'r Rheoliadau hyn.

Mae Rhan 1 yn darparu i'r Rheoliadau ddod i rym ar 31 Hydref 2005 a 1 Ionawr 2006, yn nodi'r Rheoliadau sydd i gael eu dirymu neu eu diwygio (yn bennaf Rhannau I i III a Rhan VIII o Reoliadau Addysg (Llywodraethu Ysgolion) (Cymru) OS 1999/2242 (Cy. 2)) ac yn cynnwys y darpariaethau dehongli.

Mae Rhan 2 yn disgrifio'r gwahanol gategorïau o lywodraethwyr. Mae rheoliad 4 ac Atodlen 1 yn ymdrin â rhiant-lywodraethwyr ac yn nodi ar ba sail y gall unigolyn fod yn gymwys i sefyll i'w ethol ac i bleidleisio dros riant-lywodraethwr neu gael ei benodi'n rhiant-lywodraethwr.

Mae rheoliad 5 yn ymdrin ag athro-lywodraethwyr a rheoliad 6 â staff-lywodraethwyr nad ydynt yn athrawon. Mae'r pennaeth yn llywodraethwr yn rhinwedd ei swydd ond gall ymddiswyddo o fod yn llywodraethwr (neu dynnu ei ymddiswyddiad yn ôl) ar unrhyw adeg. Mae Atodlen 2 yn ymdrin â'r broses o ethol athro-lywodraethwyr a staff-lywodraethwyr.

Mae rheoliad 7 yn ymdrin â phenodi llywodraethwyr AALl.

Mae rheoliad 8 yn nodi pwy sy'n gymwys i gael ei benodi'n llywodraethwr cymunedol. Mae rheoliad 9 yn ymdrin â phenodi llywodraethwyr sefydledig, gan gynnwys llywodraethwyr sefydledig ex officio a dirprwy lywodraethwyr. Mae rheoliad 10 ac Atodlen 3 yn ymdrin â'r broses enwebu ar gyfer llywodraethwyr partneriaeth, ac â'u penodi.

Mae rheoliad 11 yn darparu ar gyfer penodi noddwr-lywodraethwyr ac Atodlen 4 yn ymdrin â'r broses ar gyfer eu penodi.

Mae rheoliad 12 a pharagraffau (4) a (5) o reoliad 15 yn darparu ar gyfer llywodraethwyr cynrychioliadol mewn ysgolion arbennig cymunedol.

Mae Rhan 3 yn nodi'r egwyddorion cyffredinol a fydd yn penderfynu maint ag aelodaeth cyrff llywodraethu ysgolion. Mae rheoliadau 13 hyd 19 yn nodi'r gofynion penodol ar gyfer cyfansoddiad cyrff llywodraethu pob categori o ysgol.

Mae rheoliad 20 yn gwneud darpariaeth ar gyfer llywodraethwyr cymunedol ychwanegol ar gyfer ysgolion cynradd cymunedol a gwirfoddol ac ysgolion meithrin a gynhelir sy'n gwasanaethu ardaloedd lle ceir un neu ragor o gynghorau cymuned.

Mae rheoliad 21 yn nodi'r gofynion y mae'n rhaid i berson sy'n dymuno arfer y pŵer o enwebu neu benodi llywodraethwr eu dilyn. Os bydd unrhyw anghydfod rhwng personau y mae ganddynt hawl ar y cyd i enwebu neu benodi llywodraethwr, gwneir y penodiad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru dan reoliad 22. Mae rheoliad 23 yn gwneud darpariaeth ar gyfer diswyddo llywodraethwyr pan fydd gormod ohonynt.

Mae Rhan 4 yn ymdrin â chymwysterau a chyfnod swyddi. Mae rheoliad 24 ac Atodlen 5 yn nodi'r amgylchiadau pan fydd llywodraethwr yn cael ei anghymwyso rhag sefyll i'w ethol, cael ei benodi neu barhau mewn swydd fel llywodraethwr.

Mae rheoliad 25 yn darparu mai 4 blynedd fydd uchafswm cyfnod swydd llywodraethwr (â rhai eithriadau). Os digwydd bod llywodraethwr sefydledig ex officio yn methu ag ymgymryd â'i swydd neu'n anfodlon gwneud hynny, gellir penodi dirprwy lywodraethwr. Mae rheoliad 26 yn nodi'r weithdrefn ar gyfer ymddiswyddo fel llywodraethwr. Mae rheoliadau 27 i 29 yn darparu ar gyfer diswyddo llywodraethwyr sydd wedi eu penodi (yn hytrach na'u hethol) i'w swyddi.

Mae Rhan 5 yn ymdrin â'r weithdrefn ar gyfer gwneud, adolygu ac amrywio offerynnau llywodraethu a chynnwys offerynnau. Bydd offeryn llywodraethu cyntaf ysgol feithrin a gynhelir yn cael ei baratoi a'i wneud gan yr AALl. Mae rheoliad 32 yn nodi'r ddyletswydd i ystyried canllawiau a roddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn hyn o beth. Mae rheoliad 36 yn nodi'r ddyletswydd i ddarparu copïau o'r offeryn llywodraethu i bob aelod o'r corff llywodraethu, y pennaeth, ymddiriedolwyr yr ysgol (os oes rhai) a'r awdurdod esgobaethol neu gorff crefyddol priodol arall (yn achos ysgolion ffydd). Mae rheoliad 37 yn gosod dyletswydd ar AALl i sicrhau bod gan bob ysgol a gynhelir ganddynt offeryn llywodraethu sy'n cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn erbyn 31 Mawrth 2006 yn achos ysgol feithrin a 31 Awst 2008 yn achos ysgolion eraill.

Mae Rhan 6 ac Atodlen 6 yn galluogi llywodraethwyr a benodwyd neu a etholwyd i'w swyddi cyn neu ar 31 Hydref 2005 i barhau mewn swydd pan ddaw offeryn llywodraethu a wnaed yn unol â'r Rheoliadau hyn i rym.

Mae Rhan 7 yn ymdrin â phenodi a diswyddo swyddogion y corff llywodraethu, ac â'u swyddogaethau. Mae rheoliad 40 yn ymdrin â dirprwyo swyddogaethau i'r cadeirydd neu'r is-gadeirydd mewn achosion brys. O dan reoliad 42 mae'n ofynnol i'r corff llywodraethu benodi clerc i'r corff llywodraethu, ac mae gan y corff llywodraethu y pwer i ddiswyddo'r clerc ar unrhyw adeg. Mae rheoliad 43 yn nodi swyddogaethau clerc y corff llywodraethu.

Mae Rhan 8 yn darparu ar gyfer cyfarfodydd a thrafodion y corff llywodraethu. Mae'r Rhan hon yn cynnwys darpariaethau ar gyfer mynediad i gyfarfodydd, cynnull cyfarfodydd, cworwm, cofnodion a chyhoeddi cofnodion. Rhaid i benderfyniadau ar bob mater gael eu gwneud drwy bleidlais mwyafrif y llywodraethwyr.

Mae rheoliad 49 yn nodi'r amgylchiadau y gellir atal llywodraethwr rhag dod i gyfarfodydd am hyd at 6 mis. Mae rheoliadau 50 hyd 52 yn ymwneud â dirprwyo swyddogaethau corff llywodraethu.

Mae Rhan 9 yn ymdrin â sefydlu pwyllgorau cyrff llywodraethu ac â thrafodion pwyllgorau o'r fath, gan gynnwys trefniadau clercio, cynnull cyfarfodydd, cworwm, pleidleisio a chyhoeddi cofnodion.

Mae Rhan 10 ac Atodlen 7 yn ymdrin â gwrthdaro rhwng buddiannau a'r amgylchiadau pan fo'n rhaid i lywodraethwyr ac eraill sydd fel arall â hawl i fynychu cyfarfodydd y corff llywodraethu neu ei bwyllgorau fynd allan a pheidio â phleidleisio. Yr egwyddor gyffredinol yw pan fo gwrthdaro rhwng buddiannau person o'r fath a buddiannau'r corff llywodraethu, neu pan fo egwyddorion cyfiawnder naturiol yn mynnu gwrandawiad teg a phan fo unrhyw amheuaeth resymol ynghylch gallu'r person hwnnw i weithredu'n ddiduedd, y dylai fynd allan o'r cyfarfod a pheidio â phleidleisio.

Paratowyd arfarniad rheoliadol o'r Rheoliadau hyn a gellir ei weld ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru (www.cymru.gov.uk). Mae modd cael copïau o Is-adran Rheolaeth Ysgolion yr Adran Hyfforddiant ac Addysg, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(4)

O.S. 1999/2243; diwygir y rheoliad hwn hefyd gan reoliad 8 yn Rheoliadau Deddf Addysg 2002 (Darpariaethau Trosiannol etc (Cymru) 2005, O.S. 2005/2913 (Cy. 210).

(8)

Fel y dynodir drwy Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 69(3) o Ddeddf 1998. Gweler Gorchymyn Dynodi Ysgolion sydd â Chymeriad Crefyddol (Cymru) 1999, O.S. 1999/1814 a Gorchymyn Dynodi Ysgolion sydd â Chymeriad Crefyddol a Diwygiadau (Cymru) 2004, O.S. 2004/1734 (Cy. 177).

(9)

Diwygiwyd gan adran 56 o Ddeddf 2002 ac Atodlen 5 iddi.

(10)

Rhoddwyd i mewn yn rhagolygol gan adran 57 o Ddeddf 2002.

(11)

Diwygiwyd gan adran 56 o Ddeddf 2002.

(12)

Rhoddwyd i mewn yn rhagolygol gan adran 58 o Ddeddf 2002.

(13)

Diwygiwyd gan adran 56 o Ddeddf 2002.

(14)

Gweler adran 39(2) o Ddeddf 2002.

(15)

Gweler adran 20(1) o Ddeddf 2002 a rheoliad 22.

(16)

O.S. 1998/2535 fel y'i diwygiwyd mewn perthynas â Chymru gan O.S. 1999/2243.

(18)

Diwygiwyd gan adran 154 o Ddeddf 2002.

(19)

Diwygiwyd gan baragraff 5 o Atodlen 4 i Ddeddf 2002.

(20)

Rhoddwyd i mewn gan adran 47(2) o Ddeddf 2002. Noder hefyd y diddymir adran 93 o, ac Atodlen 23 i, Ddeddf 1998 gan Ddeddf 2002.

(21)

Diwygiwyd gan adran 50 o, a pharagraff 8 o Atodlen 4 i, Ddeddf 2002.

(22)

Gweler y Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 2003, O.S. 2003/3227 (Cy. 308) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/1805 (Cy. 193).

(24)

1983 p.20.

(25)

1986 p.46.

(29)

1990 p.40; trosglwyddwyd swyddogaethau'r Arglwydd Adfocad o dan yr adran hon i'r Ysgrifennydd Gwladol drwy Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (yr Arglwydd Adfocad a'r Ysgrifennydd Gwladol) 1999 (O.S. 1999/678).

(30)

1999 p.14; fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Safonau Gofal 2000 (2000 p.14).

(31)

2000 p.43.

(32)

Wedi'i diddymu gan Ddeddf 2002.

(33)

Fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf 1998 a chan adran 206 o Ddeddf 2002 ac Atodlen 20 iddi.

(34)

1992 p.13; a roddwyd i mewn gan adran 206 o Ddeddf 2002 ac Atodlen 20 iddi.

(36)

1997 c. 50; fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Amddiffyn Plant 1999, Deddf Safonau Gofal 2000 a Deddf 2002.