xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 6Rhedeg Ysgolion Newydd yn Gyffredinol

Adroddiadau a Gwybodaeth

35.—(1Rhaid i gorff llywodraethu dros dro ysgol newydd roi i'r awdurdod addysg lleol unrhyw adroddiadau mewn cysylltiad â chyflawni ei swyddogaethau y bydd yr awdurdod yn gofyn amdanynt (naill ai'n rheolaidd neu o dro i dro) at ddibenion arfer unrhyw un o swyddogaethau'r awdurdod.

(2Rhaid i bennaeth ysgol newydd roi i'r corff llywodraethu dros dro neu'r awdurdod addysg lleol unrhyw adroddiadau mewn cysylltiad â chyflawni ei swyddogaethau y bydd y corff hwnnw neu'r awdurdod yn gofyn amdanynt (naill ai'n rheolaidd neu o dro i dro) at ddibenion arfer unrhyw un o'u swyddogaethau.

(3Os caiff gofyniad o dan baragraff (2) ei osod ar y pennaeth gan yr awdurdod—

(a)rhaid i'r awdurdod hysbysu'r corff llywodraethu dros dro ynglŷn â'r gofyniad hwnnw; a

(b)rhaid i'r pennaeth roi copi i'r corff llywodraethu dros dro o unrhyw adroddiad a wneir ganddo wrth gydymffurfio â'r gofyniad.