Enwi, cychwyn a chymhwyso
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2005 sy'n dod i rym ar 30 Mehefin 2005 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2005
2. Diwygier Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2005(1) fel a ganlyn —
yn y diffiniad o “Reoliad y Comisiwn” ar ôl “Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 455/2004” mewnosoder “, Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 655/2004(2), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 683/2004”(3).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Mehefin 2005