xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 1396 (Cy.110)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Trefniadau Asesu y Cwricwlwm Cenedlaethol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2005

Wedi'u gwneud

24 Mai 2005

Yn dod i rym

1 Gorffennaf 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 214 o Ddeddf Addysg 2002(1) a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 408, 563 a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996(2) ac a freiniwyd bellach yn y Cynulliad Cenedlaethol(3), ac ar ôl ymgynghori â'r personau hynny yr oedd ymgynghori â hwy yn ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol ei fod yn ddymunol yn unol ag adran 408(5) o Ddeddf Addysg 1996:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trefniadau Asesu y Cwricwlwm Cenedlaethol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2005.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb Heb Ganiatâd) (Cymru) 1999

2.—(1Diwygir Rheoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb Heb Ganiatâd) (Cymru) 1999(4) fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 3(1) —

(a)ym mharagraff (b) o'r diffiniad o “to achieve the core subject indicator” yn lle'r geiriau “NC tests” rhodder “teacher assessments”;

(b)yn y diffiniad o “level 5” yn lle'r geiriau “NC tests” rhodder “teacher assessments”; a

(c)hepgorer y diffiniad “NC tests”.

(3Yn rheoliad 5 —

(a)ym mharagraff (2) yn lle “NC tests” rhodder y geiriau “teacher assessments” ac yn lle “tests are administered” rhodder y geiriau “assessments are carried out”; ac

(b)ym mharagraff (3), ym mhob un o is-baragraffau (a), (b) ac (c) yn lle “NC tests to be administered” rhodder y geiriau “teacher assessments to be carried out”.

(4Yn rheoliad 9(3)(b)(i) yn lle “NC tests” rhodder “teacher assessments”.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 1999

3.—(1Diwygir Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 1999(5) fel a ganlyn —

(a)yn rheoliad 3(1) hepgorer y diffiniad o “NC tests” a “NC tasks”; ac

(b)yn Atodlen 3 hepgorer paragraff 20(6).

(2Nid yw'r diwygiad a wnaed gan baragraff (1)(b) i'w gymhwyso i wybodaeth y mae'n ofynnol ei chyhoeddi yn ystod blwyddyn cyhoeddi'r ysgol 2005-06 ynglŷn â blwyddyn adrodd yr ysgol 2004-05.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion) (Cymru) 2004

4.—(1Diwygir Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion) (Cymru) 2004(6) fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1) —

(a)hepgorer y diffiniadau o “asiantaeth farcio allanol” a “profion Cwricwlwm Cenedlaethol” a “thasgau Cwricwlwm Cenedlaethol”; ac

(b)yn y diffiniad o “pynciau perthnasol” hepgorer paragraffau (b) ac (c).

(3Yn rheoliad 2(4) hepgorer y geiriau “unrhyw gyrhaeddiad gan ddisgybl y penderfynir arno gan brawf Cwricwlwm Cenedlaethol neu dasg Cwricwlwm Cenedlaethol yn ystod blwyddyn ysgol flaenorol neu” a “cyrhaeddiad o'r fath neu” ac yn lle “roi” rhodder “rhoi”.

(4Hepgorer rheoliad 11.

(5Yn Atodlen 3 hepgorer paragraffau 4 a 5 a'r penawdau i'r paragraffau hynny.

Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) 2004

5.—(1Diwygir Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) 2004(7) fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1) —

(a)hepgorer y diffiniadau o “asiantaeth farcio allanol” a “profion Cwricwlwm Cenedlaethol” a “thasgau Cwricwlwm Cenedlaethol”; a

(b)yn y diffiniad o “pynciau perthnasol” hepgorer paragraffau (b) ac (c).

(3Yn rheoliad 7 hepgorer paragraffau (10)(b), (11), (12) a (13).

(4Yn Atodlen 2 —

(a)yn lle paragraff 1(1) rhodder y canlynol —

(1) Canlyniadau asesiad athrawon o lefel cyrhaeddiad disgybl mewn pwnc ym mhob un o'r pynciau perthnasol, a chanlyniadau asesiad athrawon o lefel cyrhaeddiad y disgybl ym mhob targed cyrhaeddiad mewn Saesneg neu, pan fydd y disgybl yn dilyn y rhaglen astudio a elwir “Cymraeg”, ym mhob targed cyrhaeddiad mewn Cymraeg.;

(b)yn lle paragraff 2(1) rhodder y canlynol —

(1) Canlyniadau asesiad athrawon o lefel cyrhaeddiad disgybl mewn pwnc ym mhob un o'r pynciau perthnasol, a chanlyniadau asesiad athrawon o lefel cyrhaeddiad y disgybl ym mhob targed cyrhaeddiad mewn Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth, a pan fydd disgybl yn dilyn y rhaglen astudio a elwir “Cymraeg”, mewn pob targed cyrhaeddiad mewn Cymraeg.; ac

(c)yn lle paragraff 3(1) rhodder y canlynol —

(1) Canlyniadau asesiad athrawon o lefel cyrhaeddiad disgybl mewn pwnc ym mhob un o'r pynciau perthnasol..

(5Yn Atodlen 3—

(a)ym mharagraff 1(2) mewnosoder ar ôl y geiriau “mathemateg a gwyddoniaeth,” y geiriau “ac a gyflawnodd bob un o'r lefelau cyrhaeddiad ym mhob targed cyrhaeddiad mewn Saesneg neu, pan fydd disgybl yn dilyn y rhaglen astudio a elwir “Cymraeg”, mewn pob targed cyrhaeddiad mewn Cymraeg,”;

(b)ym mharagraff 2(2) mewnosoder ar ôl y geiriau “pynciau perthnasol” y geiriau “, ac a gyflawnodd bob un o'r lefelau cyrhaeddiad ym mhob targed cyrhaeddiad mewn Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth, a phan fydd disgybl yn dilyn y rhaglen astudio a elwir “Cymraeg”, mewn pob targed cyrhaeddiad mewn Cymraeg,”; ac

(c)ym mharagraff 3 —

(i)yn is-baragraff (2) hepgorer y geiriau “a (lle bo'n gymwys) gan brofion y Cwricwlwm Cenedlaethol a thasgau'r Cwricwlwm Cenedlaethol”; ac

(ii)hepgorer is-baragraffau (5) a (6).

(6Yn Atodlen 4—

(a)ym mharagraff 1(2) mewnosoder ar ôl y geiriau “Mathemateg a Gwyddoniaeth,” y geiriau “ac a gyflawnodd bob un o'r lefelau cyrhaeddiad ym mhob targed cyrhaeddiad mewn Saesneg neu, pan fydd disgybl yn dilyn y rhaglen astudio a elwir “Cymraeg”, mewn pob targed cyrhaeddiad mewn Cymraeg,”;

(b)yn lle paragraff 2(2) rhodder y canlynol —

(2) Canrannau'r disgyblion hynny a gyflawnodd bob un o'r lefelau cyrhaeddiad yn y pynciau Cymraeg, Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth ac o ran yr ail gyfnod allweddol yn unig, canrannau'r disgyblion hynny a gyflawnodd bob un o'r lefelau cyrhaeddiad ym mhob targed cyrhaeddiad mewn, Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth a phan fydd y disgybl yn dilyn y rhaglen astudio a elwir “Cymraeg”, mewn pob targed cyrhaeddiad mewn Cymraeg, a ddangoswyd yn ôl penderfyniad asesiad athrawon.; ac

(c)hepgorer paragraff 2 (5) a (6).

Rheoliadau'r Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2) (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2004

6.  Hepgorer rheoliad 3(1)(a) o Reoliadau'r Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2) (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2004(8).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(9).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

24 Mai 2005

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliadau amrywiol sydd gan mwyaf yn ganlyniad i Orchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 3) (Cymru) 2005. Mae'r Gorchymyn hwnnw'n pennu'r trefniadau asesu i ddisgyblion ym mlwyddyn olaf y trydydd cyfnod allweddol. Mae'n disodli'r gofyniad i brofion gael eu rhoi i'r disgyblion hynny, fel y penderfynir ar eu lefelau cyrhaeddiad drwy asesiadau athrawon. Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi cyfeiriadau at asesiadau athrawon yn lle'r cyfeiriadau at y profion hyn ac yn gwneud diwygiadau canlyniadol eraill yn y Rheoliadau canlynol — Rheoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb Heb Ganiatâd) (Cymru) 1999, Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 1999, Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion) (Cymru) 2004 a Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) 2004.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) 2004 er mwyn pennu'n fanylach yr wybodaeth ar ganlyniadau asesiadau athrawon yng nghyfnodau allweddol 1, 2 a 3, y mae'n ofynnol eu cynnwys yn adroddiad blynyddol y pennaeth i rieni a disgyblion sy'n oedolion.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliadau'r Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2) (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2004 er mwyn hepgor paragraff a oedd mewn camgymeriad yn honni ei fod yn diwygio darpariaeth a oedd eisoes wedi cael ei dirymu gan Reoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) (Diwygio) 2004.

(1)

2002 p.32. I gael ystyr “regulations” gweler adran 212(1).

(2)

1996 p.56. Diwygiwyd adran 408 gan Ddeddf Addysg 1997 (p.44), Atodlen 7, paragraff 30, Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31), Atodlen 30, paragraffau 57 a 106, Deddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21), Atodlen 9, paragraff 57 a Deddf Addysg 2002 (p.32), Atodlen 21, paragraff 46. I gael ystyr “prescribed” a “regulations” gweler adran 579.

(3)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672, ac adran 211 o Ddeddf Addysg 2002.

(4)

O.S. 1999/1811 fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2004/2914 (Cy.253).