xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2004 Rhif 803 (Cy.83)

LLYFRGELLOEDD, CYMRU

Gorchymyn Diddymu Cyngor Ymgynghorol Llyfrgelloedd Cymru a Diwygiadau Canlyniadol 2004

Wedi'i wneud

17 Mawrth 2004

Yn dod i rym

1 Ebrill 2004

Mae adran 28(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(1) (“Deddf 1998”), a Rhan I o Atodlen 4 iddi, yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i drosglwyddo iddo ef ei hun swyddogaethau statudol y Cyngor a sefydlwyd i Gymru o dan adran 2 o Ddeddf Llyfrgelloedd ac Amgueddfeydd Cyhoeddus 1964(2).

Mae'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn bod swyddogaethau statudol y Cyngor, sef swyddogaethau cynghori'r Cynulliad Cenedlaethol ar y materion hynny sy'n gysylltiedig â darparu neu ddefnyddio cyfleusterau llyfrgelloedd boed o dan Ddeddf 1964 neu fel arall ac ar unrhyw gwestiynau y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn eu cyfeirio at y Cyngor, yn swyddogaethau sy'n gofyn am i gyngor gael ei roi i'r Cynulliad Cenedlaethol ei hun, ac felly yn dod o fewn adran 28(2)(a) o Ddeddf 1998.

Mae'r Cynulliad Cenedlaethol, trwy arfer ei bwerau o dan adran 28 o Ddeddf 1998, a Rhan 1 o Atodlen 4 iddi, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

(2)

1964 p. 75. Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan y Ddeddf wedi'u trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).