xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2004 Rhif 3241 (Cy.283)

TIR, CYMRU

YMDDYGIAD GWRTHGYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Gwrychoedd neu Berthi Uchel (Ffioedd) (Cymru) 2004

Wedi'u gwneud

8 Rhagfyr 2004

Yn dod i rym

31 Rhagfyr 2004

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd iddo gan adran 68(7)(b) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (“y Ddeddf”)(1), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwrychoedd neu Berthi Uchel (Ffioedd) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2004.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i gŵynion a wneir, mewn perthynas â gwrychoedd neu berthi sydd wedi'u lleoli yng Nghymru(2), o dan adran 68 o'r Ddeddf i awdurdod perthnasol(3) ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym neu ar ôl y dyddiad hwnnw.

Uchafswm rhagnodedig

2.  Rhaid i'r ffi a bennir gan yr awdurdod perthnasol o dan adran 68(1)(b) o'r Ddeddf beidio â bod yn fwy na £320.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

8 Rhagfyr 2004

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rhan 8 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 yn rhoi'r pŵer i awdurdodau lleol ymdrin â chwynion ynghylch gwrychoedd neu berthi uchel sy'n effeithio'n andwyol ar y mwynhad a gaiff cymydog o'i eiddo.

Caiff perchennog neu feddiannydd eiddo domestig wneud cwyn os bod uchder gwrych neu berth a leolir ar dir y mae person arall yn berchen arno neu'n ei feddiannu yn effeithio'n andwyol ar y mwynhad rhesymol a gaiff y perchennog neu'r meddiannydd o'r eiddo hwnnw.

Rhaid gwneud cwyn i'r awdurdod lleol y mae'r tir y mae'r gwrych neu'r berth wedi'u lleoli arno yn ei ardal a rhaid amgáu gyda'r gŵyn ffi a bennir gan yr awdurdod lleol (yn ddarostyngedig i uchafswm a ragnodir mewn rheoliadau a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â gwrychoedd neu berthi sydd wedi'u lleoli yng Nghymru).

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi'r uchafswm hwnnw.

(2)

Gweler adran 66 o'r Ddeddf ar gyfer ystyr “high hedge”.

(3)

Mae adran 65(5) o'r Ddeddf yn diffinio'r “relevant authority” fel yr awdurdod lleol y mae'r tir y mae'r gwrych neu'r berth uchel wedi'u lleoli arno yn ei ardal. Mae adran 82 o'r Ddeddf yn diffinio “local authority”, mewn perthynas â Chymru, fel y sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol.