xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Mae'r Offeryn Statudol hwn wedi ei ailargraffu i gywiro'r hyn a gafodd ei hepgor o'r tabl gorchmynion cychwyn yn y nodyn esboniadol ac fe'i dosberthir yn rhad ac am ddim i bawb y mae'n hysbys iddynt ei dderbyn.
Offerynnau Statudol Cymru
GWASANAETHAU CYMORTH GWLADOL, CYMRU
Wedi'i wneud
26 Mawrth 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 64(6) a 70(2) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001(1), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1.—(1) Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2003.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, cyfeirir at Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 fel y “Ddeddf”.
(3) Mae'r gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
2. 1 Ebrill 2003 yw'r diwrnod penodedig i ddarpariaethau'r Ddeddf a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2).
D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
26 Mawrth 2003
Erthygl 2
Darpariaethau'r Ddeddf | Pwnc |
---|---|
Adran 53 | Diystyru adnoddau wrth benderfynu'r angen am lety preswyl |
Adran 54 i'r graddau na chafodd ei dwyn i rym eisoes gan adran 70(2) | Preswylydd a.y.y.b. yn ariannu llety drutach |
Adran 55 | Pŵer i awdurdodau lleol arwystlo tir yn lle cymryd cyfraniadau |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Y Gorchymyn hwn yw'r pumed Gorchymyn Cychwyn a wnaed o dan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (y “Ddeddf”) mewn perthynas â Chymru.
Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu mai 1 Ebrill 2003 fydd y diwrnod y mae adrannau canlynol y Ddeddf yn dod i rym yng Nghymru. Mae'r darpariaethau yn caniatáu newidiadau i'r ffordd y mae awdurdodau lleol yn codi tâl am lety preswyl o dan Ran 3 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948.
Mae adran 53 yn rhoi'r pŵer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wneud rheoliadau i benderfynu pa ran o adnoddau person a gaiff eu diystyru wrth benderfynu a oes angen llety arno neu beidio.
Mae adran 54 yn caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wneud rheoliadau sy'n galluogi i daliadau ychwanegol gael eu gwneud, gan neu ar ran preswylydd, ar gyfer llety sy'n costio mwy nag a fyddai awdurdod lleol fel arfer yn disgwyl ei dalu.
Mae adran 55 yn caniatáu i awdurdod lleol wneud cytundeb (“cytundeb talu gohiriedig”) â pherson y mae angen llety arno i adael i'r person hwnnw beidio â gwneud taliadau am y llety ond i gronni dyled a gaiff ei sicrhau drwy arwystl ar gartref y person hwnnw.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Y Ddarpariaeth | Dyddiad Cychwyn | O.S. Rhif |
---|---|---|
Adran 3 | 1 Gorffennaf 2002 (yn rhannol) | 2002/1475 |
Adran 5 | 1 Gorffennaf 2002 | 2002/1475 |
Adran 11 | 1 Rhagfyr 2002 | 2002/1475 |
Adran 13 | 17 Mawrth 2003 | 2003/713 |
Adran 16 | 26 Awst 2002 | 2002/1919 |
Adran 19 — 26 | 1 Gorffennaf 2002 | 2002/1475 |
Adran 27 | 26 Awst 2002 | 2002/1919 |
Adran 28 — 39 | 1 Gorffennaf 2002 | 2002/1475 |
Adran 41 — 43 | 1 Gorffennaf 2002 | 2002/1475 |
Adran 49 | 3 Rhagfyr 2001 (yn rhannol) | 2001/3807 |
Adran 50(1) | 8 Ebrill 2002 | 2001/3752 |
Adran 50 (2) i (10) | 19 Rhagfyr 2001 | 2001/3807 |
Adran 51 | 8 Tachwedd 2001 | 2001/3752 |
Adran 52 | 8 Tachwedd 2001 | 2001/3752 |
Adran 67(1) ac Atodlen 5 | 1 Ebrill 2002, 1 Gorffennaf 2002 a 26 Awst 2002 (yn rhannol) | 2002/1095, 2002/1475 a 2002/1919 |
Adran 67(2) ac Atodlen 6 | 1 Ebrill 2002, 15 Ebrill 2002, 1 Gorffennaf 2002 a 26 Awst 2002 (yn rhannol) | 2002/1095, 2002/1312, 2002/1475 a 2002/1919 |
Atodlen 2 | 1 Gorffennaf 2002 | 2002/1475 |
Atodlen 3 | 1 Gorffennaf 2002 | 2002/1475 |
Mae amryw o ddarpariaethau'r Ddeddf wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2001/2804 (C.95); O.S. 2001/3167 (C.101); O.S. 2001/3294 (C.107); O.S. 2001/3619 (C.117); O.S. 2001/3752 (C.122); O.S. 2001/3738 (C.121); O.S. 2001/4149 (C.133); O.S. 2002/1095 (C.26); O.S. 2002/1312 (C.36) ac O.S. 2002/2363 (C.77).