xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
12.—(1) Rhaid i hawliad am daliad drwy lwfans presenoldeb, lwfans colled ariannol, lwfansau ar gyfer mynd i gynadleddau a chyfarfodydd, lwfansau teithio a lwfansau cynhaliaeth gynnwys datganiad, neu fod datganiad yn cyd-fynd â'r hawliad, wedi'i lofnodi gan yr aelod nad yw wedi gwneud ac na fydd yn gwneud unrhyw hawliad arall mewn perthynas â'r mater y mae'r hawliad yn ymwneud ag ef.
(2) Ni wneir taliad i berson o dan unrhyw ddarpariaeth o adran 176 o Ddeddf 1972 mewn perthynas â mater y gwnaed taliad yn ei gylch i'r person hwnnw yn unol â'r Rheoliadau hyn.
(3) Ni fydd gan berson sydd, yn y cyfnod a grybwyllir yn rheoliad 5 neu reoliad 6 —
(a)yn cyflawni dyletswydd wedi'i chymeradwyo neu ddyletswyddau wedi'u cymeradwyo fel aelod o fwy nag un corff,
(b)yn cyflawni dwy ddyletswydd wedi'i chymeradwyo neu fwy i'r un corff, neu
(c)â hawl i lwfans o dan adran 173 o Ddeddf 1972 ac i daliad o lwfans gymharol o dan unrhyw ddeddfiad arall,
yr hawl i daliadau o dan yr adran honno sydd yn eu cyfanswm yn fwy na'r swm a ragnodir gan reoliadau 5 neu 6 fel y bo'n briodol am y cyfnod hwnnw.
(4) Caiff corff sy'n talu lwfans o dan adran 173 o Ddeddf 1972 i berson am ddyletswydd wedi'i chymeradwyo fel y'i disgrifir ym mharagraff (3) ostwng swm y lwfans hwnnw gan swm unrhyw lwfans arall o dan adran 173 neu unrhyw lwfans cymharol o dan unrhyw ddeddfiad a delir gan gorff arall.