RHAN IILwfansau Cynghorwyr
Dehongli
4.—(1) Dehonglir cyfeiriadau yn y Rhan hon at aelod o awdurdod sy'n gynghorydd fel cyfeiriadau at aelod etholedig o awdurdod a dehonglir cyfeiriadau at aelod nad yw'n gynghorydd fel cyfeiriadau at aelod sy'n aelod cyfetholedig o awdurdod.
(2) At ddibenion y Rhan hon bydd cyfnod swydd aelod o awdurdod sydd yn gynghorydd yn dechrau ar y dyddiad y mae'r aelod hwnnw'n gwneud datganiad ei fod yn derbyn y swydd honno o dan adran 83(4) o Ddeddf 1972.
Lwfansau presenoldeb
5.—(1) Y swm a ragnodwyd at ddibenion adran 173(1) o Ddeddf 1972 (Lwfans presenoldeb) yw £32.46 am unrhyw gyfnod nad yw'n fwy na 24 awr ac i'r diben hwn mae cyfnod o 24 awr yn dechrau am 3am.
(2) Ni fydd gan aelod hawl i daliad o fwy nag un lwfans presenoldeb mewn perthynas ag unrhyw gyfnod o 24 awr.
(3) Ni fydd gan aelod hawl i daliad o lwfans presenoldeb—
(a)o ran dyletswydd wedi'i chymeradwyo y mae gan yr aelod hwnnw hawl i daliad lwfans colled ariannol mewn perthynas â hi o dan adran 173 o Ddeddf 1972; neu
(b)pe bai taliad o'r fath yn groes i ddarpariaeth a wneir drwy neu o dan unrhyw ddeddfiad.
Lwfans colled ariannol
6. Y swm a ragnodir at ddibenion adran 173(4) o Ddeddf 1972 (lwfans colled ariannol) yw —
(a)am gyfnod nad yw'n fwy na 4 awr, £30.05;
(b)am gyfnod sy'n fwy na 4 awr ond nad yw'n fwy na 24 awr, £60.11;
(c)am gyfnod sydd yn fwy na 24 awr, y cyfanswm o £60.11 a'r swm hwnnw a bennir yn is-baragraff (a) neu (b) fel y bo'n briodol i nifer yr oriau y mae'r cyfnod yn fwy na 24 awr.