xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Cynghorau Cymuned) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2. Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “awdurdod” (“authority”) yw cyngor cymuned;
ystyr “blwyddyn” (“year”) yw deuddeng mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth;
ystyr “Deddf 1972” (“the 1972 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972;
ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000;
ystyr “Rheoliadau 1991” (“the 1991 Regulations”) yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau Aelodau) 1991 fel y'u diwygiwyd(1);
ystyr “Rheoliadau 2001” (“the 2001 Regulations”) yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau Aelodau) (Diwygio) (Cymru) 2001(2).
3. Rhagnodir Cynghorau Cymuned yn awdurdodau perthnasol at ddibenion adran 100(1)(b) o Ddeddf 2000.
O.S. 1991/351, a ddiwygiwyd gan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau Aelodau) (Diwygio) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/2781 (Cy.234)).