Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Asiantaethau Nyrsys (Cymru) (Diwygio) 2003

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 3054 (Cy.292)

NYRSYS, BYDWRAGEDD AC YMWELWYR IECHYD, CYMRU

Rheoliadau Asiantaethau Nyrsys (Cymru) (Diwygio) 2003

Wedi'u gwneud

26 Tachwedd 2003

Yn dod i rym

1 Rhagfyr 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 4(6), 16(3), 22(1) a (2)(b), 25, 34(1), 35 a 118(5) — (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000(1) drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:—

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asiantaethau Nyrsys (Cymru) (Diwygio) 2003 a deuant i rym ar 1 Rhagfyr 2003.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i asiantaethau nyrsys yng Nghymru yn unig.

Diwygio Rheoliadau Asiantaethau Nyrsys (Cymru) (Diwygio) 2003

2.  Diwygir Rheoliadau Asiantaethau Nyrsys (Cymru) 2003(2) fel a ganlyn:—

  • yn rheoliad 12(1) (Ffitrwydd y nyrsys sy'n cael eu cyflenwi gan asiantaeth) yn lle isbaragraff (ch) rhodder y canlynol:—

    (ch)bod gwybodaeth lawn a boddhaol ar gael amdano/amdani —

    (i)ac eithrio lle mae paragraff (3) yn gymwys, mewn perthynas â phob mater a bennir ym mharagraffau 1 i 4 a 6 i 13 o Atodlen 3;

    (ii)lle mae paragraff (3) yn gymwys, mewn perthynas â phob mater a bennir ym mharagraffau 1 i 3 a 5 i 13 o Atodlen 3.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

26 Tachwedd 2003

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Asiantaethau Nyrsys (Cymru) (Diwygio) 2003 (“Rheoliadau 2003”).

Mae Rheoliad 12 o Reoliadau 2003 yn ei gwneud yn ofynnol bod rhaid i'r person sydd wedi'i gofrestru o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 mewn perthynas ag asiantaeth nyrsys sicrhau na fydd unrhyw nyrs yn cael ei chyflenwi gan yr asiantaeth oni bai ei bod yn “ffit”. Un o ofynion ffitrwydd yw bod yn rhaid i wybodaeth a dogfennau penodol fod ar gael mewn perthynas â'r nyrsys hyn. Ymhlith y dogfennau y mae'n rhaid iddynt fod ar gael y mae tystysgrifau record droseddol a roddir naill ai o dan adran 113 neu 115 o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac adroddiad o wiriad gan yr heddlu.

Mae'r diwygiadau i Reoliadau 2003 yn darparu nad oes rhaid i wiriad gan yr heddlu fod ar gael ond lle bydd cais wedi'i wneud am dystysgrif o dan Ddeddf yr Heddlu ond nad yw'r dystysgrif wedi'i rhoi.

(1)

2000 p.14. Mae'r pwerau yn arferadwy gan y Gweinidog priodol, a ddiffinnir yn adran 121(1) fel y'i darllenir gydag adran 5(1)(b), mewn perthynas â Chymru fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill