Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Ardal Pysgodfeydd Môr De Cymru (Amrywio) 2003

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 3036 (Cy.284)

PYSGODFEYDD MÔR, CYMRU

Gorchymyn Ardal Pysgodfeydd Môr De Cymru (Amrywio) 2003

Wedi'u gwneud

26 Tachwedd 2003

Yn dod i rym

30 Tachwedd 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 1, a 2(1) a (5) o Ddeddf Rheoli Pysgodfeydd Môr 1966(1) ac a freiniwyd bellach ynddo(2), ar gais Cyngor Sir Penfro a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, ac wedi ymgynghori â phob awdurod lleol a fyddai yn cael ei effeithio, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardal Pysgodfeydd Môr De Cymru (Amrywio) 2003 a daw i rym ar 30 Tachwedd 2003.

(2Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y prif Orchymyn” yw'r gorchymyn a wnaed gan y Bwrdd Amaethyddiaeth a Physgodfeydd ar 27 Mehefin 1912(3) (a greodd Ardal Pysgodfeydd Môr De Cymru ac a sefydlodd bwyllgor pysgodfeydd lleol er mwyn rheoli'r pysgodfeydd môr o fewn yr Ardal honno).

Diwygiadau i'r prif Orchymyn

2.  Diwygir y prif Orchymyn yn unol ag erthyglau 3 i 5 isod.

3.  Yn lle erthygl 7 (cyfansoddiad y pwyllgor) rhoddir y canlynol —

7.  The committee shall be a joint committee of the county and county borough councils referred to in column 1 of the Schedule to this Order and shall consist of twenty one members appointed as follows —

(a)the number of members appointed by each constituent council shall be the number indicated in relation to the council in column 2 of the Schedule to this Order ;

(b)nine members appointed by the National Assembly for Wales;

(c)one member appointed by the Environment Agency..

4.  Yn lle erthygl 17 (treuliau) rhoddir y canlynol —

Expenses

17.  The expenses of the Committee, other than those which may be required to be incurred under section 17(2) of the Act, shall be chargeable jointly to the constituent councils in the proportions set out in Column 3 of the Schedule to this Order opposite the reference to each constituent council and shall be expenses for general county or county borough purposes..

5.  Yn lle'r Atodlen rhoddir yr Atodlen a welir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

26 Tachwedd 2003

Erthygl 5 Erthyglau 7 ac 17

ATODLEN

SCHEDULE

CONSTITUTION AND EXPENSES

Column 1Column 2Column 3
Constituent CouncilsNumber of MembersPercentage of expenses payable per financial year
Cardiff County Council13%
Carmarthenshire County Council224%
Pembrokeshire County Council224%
Swansea County Council224%
Bridgend County Borough Council18%
Neath Port Talbot County Borough Council211%
The Vale of Glamorgan County Borough Council16%

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn amrywio ymhellach Orchymyn a wnaed gan y Bwrdd Amaethyddiaeth a Physgodfeydd ar 27 Mehefin 1912 (fel y'i diwygiwyd) i sefydlu Ardal Pysgodfeydd Môr De Cymru.

Mae'r Gorchymyn yn amrywio cyfansoddiad y pwyllgor pysgodfeydd lleol ar gyfer yr ardal er mwyn darparu i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf dynnu'n ôl o'r pwyllgor. Er hynny, fe fydd ffiniau ardal môr yr Ardal Pysgodfeydd Môr yn parhau heb ei newid.

Mae nifer y cynrychiolwyr o bob cyngor a chyfraniad pob cyngor at dreuliau'r pwyllgor wedi' u pennu (erthyglau 3 a 4 a'r Atodlen).

(1)

1966 p.38, a ddiwygiwyd gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25) adran 102; gweler adran 20(1) ar gyfer y diffiniad o “the Minister”.

(2)

Trosglwyddwyd drwy O.S. 1978/272 swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o dan Ddeddf Rheoli Pysgodfeydd Môr 1966 i'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru. Trosglwyddwyd swyddogaethau hynny'r Ysgrifennydd Gwladol wedyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(3)

Rh.S a G. 1926/1121 fel y'i amrywiwyd gan O.S. 1953/443, 1973/2203 a 1996/618.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill