Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol) (Pensiynau) (Cymru) 2003

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 2963 (Cy.280)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol) (Pensiynau) (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud

18 Tachwedd 2003

Yn dod i rym

1 Ionawr 2004

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 18(3A), 3(D) a 3(G) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989(1) ac a freiniwyd bellach yn y Cynulliad Cenedlaethol yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999(2) i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol) (Pensiynau) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2004.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “aelodau” (“members”) yw cynghorwyr awdurdod gan gynnwys maer etholedig awdurdod sy'n gweithredu trefniadau gweithrediaeth gwahanol ar ffurf sy'n cynnwys maer etholedig;

ystyr “awdurdod” (“authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

ystyr “lwfansau cyfrifoldeb arbennig” (“special responsibility allowances” ) yw lwfansau fel y'u diffinnir yn rheoliad 8 o Reoliadau 2002;

ystyr “lwfansau sylfaenol” (“basic allowances”) yw lwfansau fel y'u diffinnir yn rheoliad 7 o Reoliadau 2002;

ystyr “Rheoliadau 2002” (“the 2002 Regulations”) yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol) (Cymru) 2002(3).

Pensiynau

3.—(1Caiff awdurdod —

(a)penderfynu pa aelodau o'r awdurdod sydd â'r hawl i bensiynau yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn Llywodraeth Leol 1997(4); a

(b)darparu mewn perthynas â'r aelodau hynny y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (a) fod lwfansau sylfaenol a lwfansau cyfrifoldeb arbennig yn cael eu trin fel symiau y mae pensiynau yn daladwy mewn perthynas â hwy.

(2Rhaid i awdurdod, wrth iddo wneud unrhyw benderfyniad yn unol â'r rheoliad hwn, wneud hynny yn unig ar gyfer aelod sydd wedi'i gymeradwyo'n gyntaf gan Banel Taliadau Annibynnol Cymru fel un sy'n gymwys i gael hawl o'r fath, o dan reoliad 5.

Panel Taliadau Annibynnol Cymru

4.—(1Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru benodi panel taliadau annibynnol dros dro, a elwir Panel Taliadau Annibynnol Cymru yn unol â'r Rheoliad hwn ar gyfer pob awdurdod.

(2Rhaid i Banel Taliadau Annibynnol Cymru fodoli am gyfnod o chwe mis gan ddechrau o ddyddiad ei sefydlu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(3Rhaid i Banel Taliadau Annibynnol Cymru gynnwys o leiaf dri aelod a benodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan gynnwys un aelod a benodwyd yn gadeirydd.

(4Ni chaiff unrhyw un o'r aelodau a benodir yn unol â pharagraff (3) fod —

(a)yn aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Ty'r Cyffredin, Ty'r Arglwyddi, Senedd Ewrop, awdurdod, cyngor tref neu gyngor cymuned; neu

(b)wedi'i anghymhwyso(5) rhag bod neu ddod yn aelod o awdurdod ac eithrio fel swyddog sy'n cael ei gyflogi gan awdurdod lleol.

(5Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru dalu'r treuliau y mae Panel Taliadau Annibynnol Cymru yn eu tynnu wrth gyflawni ei swyddogaethau a chaiff dalu aelodau'r panel y lwfansau neu'r treuliau y bydd yn penderfynu arnynt.

(6Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drefnu bod cymorth gweinyddol priodol ar gael i Banel Taliadau Annibynnol Cymru.

Argymhellion Panel Taliadau Annibynnol Cymru

5.—(1Rhaid i Banel Taliadau Annibynnol Cymru lunio adroddiad mewn perthynas â phob awdurdod, gan gyflwyno argymhellion ynghylch pa aelodau awdurdod a ddylai gael hawl i bensiynau yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn Llywodraeth Leol 1997.

(2Caiff Panel Taliadau Annibynnol Cymru, wrth gyflawni ei swyddogaethau o dan baragraff (1), ofyn i unrhyw gorff neu berson am wybodaeth neu gyngor.

(3Caiff Panel Taliadau Annibynnol Cymru gyflwyno gwahanol argymhellion ynglyn â phob un o'r awdurdodau y mae'n arfer ei swyddogaethau mewn perthynas â hwy.

Cyhoeddusrwydd ar gyfer argymhellion Panel Taliadau Annibynnol Cymru

6.—(1Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru anfon copi o'r adroddiad a wneir o dan reoliad 5(1) i bob awdurdod cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl iddo gael yr adroddiad.

(2Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru:

(a)cyhoeddi'r manylion am yr adroddiad a wneir o dan reoliad 5(1) mewn un neu ragor o bapurau newydd sy'n cylchredeg ledled Cymru; a

(b)cynnwys yn y cyhoeddiad o dan is-baragraff (a) ddatganiad y bydd copïau o'r adroddiad ar gael i aelodau'r cyhoedd ym mhrif swyddfeydd yr awdurdodau ar yr adegau a bennir gan yr awdurdodau hynny.

(3Rhaid i bob awdurdod sicrhau bod y canlynol yn cael ei wneud cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cael adroddiad Panel Taliadau Annibynnol Cymru o dan reoliad 5(1):

(a)bod copïau ar gael i'w harchwilio gan aelodau'r cyhoedd ym mhrif swyddfa'r awdurdod ar yr adegau rhesymol a bennir gan yr awdurdod; a

(b)bod copi yn cael ei ddarparu i unrhyw berson sy'n gofyn amdano ac sy'n talu i'r awdurdod y ffi resymol y bydd yr awdurdod yn penderfynu arni.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

18 Tachwedd 2003

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae adran 18(3A) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, fel y'i mewnosodwyd gan adran 99(7) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, yn darparu'r pwer i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud Rheoliadau a gaiff wneud darpariaeth ar gyfer neu mewn cysylltiad â galluogi cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol i benderfynu pa rai o'u haelodau sydd â hawl i bensiynau ac i drin lwfans sylfaenol neu lwfans cyfrifoldeb arbennig fel symiau y mae pensiynau'n daladwy mewn perthynas â hwy. Mae'r pŵ er hwn bellach wedi'i freinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999.

Mae Rheoliad 3 o'r Rheoliadau hyn yn galluogi cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru i benderfynu pa aelodau (sydd yn gynghorwyr) sydd â'r hawl i bensiynau yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn Llywodraeth Leol 1997 (fel y'u diwygiwyd). Pan fydd awdurdodau yn defnyddio'u disgresiwn i dderbyn aelodau i gynlluniau pensiwn, rhaid iddynt wneud darpariaeth ar gyfer lwfansau sylfaenol a lwfansau cyfrifoldeb arbennig i gael eu trin fel rhai pensiynadwy a rhaid iddynt ystyried unrhyw argymhellion sy'n cael eu gwneud gan Banel Taliadau Annibynnol Cymru yn unol â rheoliad 5 o ran pa aelodau sydd â'r hawl i fudd-daliadau o'r fath.

Mae Rheoliad 4 yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i sefydlu panel annibynnol dros dro ar gyfer taliadau, a elwir Panel Taliadau Annibynnol Cymru, am gyfnod o chwe mis (rheoliad 4(2)). Bydd y panel yn cynnwys nid llai na thri aelod (rheoliad 4(3)), y dylai un ohonynt gael ei benodi'n gadeirydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Ni fydd y panel yn cynnwys aelodau sy'n aelodau o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Tŷ'r Cyffredin, Tŷ'r Arglwyddi, Senedd Ewrop, cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol, cyngor tref neu gyngor cymuned (rheoliad 4(4)(a)). Ni ddylai'r panel ychwaith fod ag unrhyw aelodau sydd wedi'u hanghymhwyso rhag bod neu ddod yn aelod o gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol (rheoliad 4(4)(b)) ac eithrio swyddog sy'n cael ei gyflogi gan awdurdod lleol. Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru dalu lwfansau a threuliau ar gyfer Panel Taliadau Annibynnol Cymru a darparu cymorth gweinyddol priodol (rheoliadau 4(5) a (6)).

Mae Rheoliad 5 yn nodi swyddogaethau Panel Taliadau Annibynnol Cymru. Bydd y panel yn llunio adroddiad sy'n argymell pa aelodau cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol sydd â'r hawl i gael pensiynau o dan Reoliadau Cynlluniau Pensiwn Llywodraeth Leol 1997. Wrth gyflawni'r swyddogaeth hon caiff y panel ofyn i unrhyw gorff neu unrhyw berson am wybodaeth neu gyngor (rheoliad 5(2)). Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn anfon copi o adroddiad y panel i bob cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol (rheoliad 5(4)).

O dan reoliad 6 bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cyhoeddi'r manylion am adroddiad y panel ym mhapurau newydd Cymru. Bydd pob cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol yn trefnu bod yr adroddiad ar gael i'r cyhoedd ei archwilio (rheoliad 6(3)(a)) a threfnu bod copi ar gael am y ffi resymol y bydd yr awdurdod yn penderfynu arni (rheoliad 6(3)(b)).

(1)

p.42. Mewnosodwyd is-adrannau (3A), (3D) a (3G) o adran 18 gan adran 99 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22).

(5)

Gweler Adran 80 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.70) ac adrannau 79 a 83(11) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill