xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Blaenau Gwent a Chaerffili (Tredegar a Rhymni) 2002.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 6 Ebrill 2002, sef y diwrnod penodedig at ddibenion y Rheoliadau, ond at ddibenion pob achos sy'n arwain at etholiad neu'n ymwneud ag etholiad sydd i'w gynnal ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw daw'r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff ei wneud.
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “Blaenau Gwent” (“Blaenau Gwent”) yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent;
ystyr “Caerffili” (“Caerphilly”) yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili;
ystyr “y map ffiniau” (“the boundary map”) yw'r map a baratowyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac a farciwyd “Map o Orchymyn Blaenau Gwent a Chaerffili (Tredegar a Rhymni) 2002” a sydd wedi'i hadneuo yn unol a Rheoliadau 5 o'r Rheoliadau;
ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 fel y'u diwygiwyd (1).
3. Caiff y rhan honno o gymuned Rhymni sydd yng Nghaerffili ac a ddangosir â llinellau du ar y map ffiniau ei gwahanu oddi wrth y fwrdeistref sirol a'r gymuned honno a bydd yn ffurfio rhan o gymuned Tredegar ym Mlaenau Gwent.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Lywodraeth Leol, Cyllid a Chymunedau
5 Mawrth 2002