Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Addysg (Cyraeddiadau Disgyblion Unigol) (Gwybodaeth) (Cymru) (Diwygio) 2002

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 46 (Cy.5)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Cyraeddiadau Disgyblion Unigol) (Gwybodaeth) (Cymru) (Diwygio) 2002

Wedi'u gwneud

14 Ionawr 2002

Yn dod i rym

4 Chwefror 2002

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan nad oes neb yr oedd yn ymddangos iddo y byddai'n ddymunol ymgynghori â hwy, yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 408 a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996(1) ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2).

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyraeddiadau Disgyblion Unigol) (Gwybodaeth) (Cymru) (Diwygio) 2002 a deuant i rym ar 4 Chwefror 2002.

Diwygio Rheoliadau

2.—(1Mae Rheoliadau Addysg (Cyraeddiadau Disgyblion Unigol) (Gwybodaeth) (Cymru) 1997(3) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1), yn lle diffiniadau “NC tests” (yn y ddau le) ac “NC tasks” rhowch—

  • “NC tests” and “NC tasks” mean, respectively, National Curriculum tests and National Curriculum tasks administered to pupils in accordance with the statutory arrangements;.

(3Yn rheoliad 3(11) hepgorwch “first”.

(4Yn rheoliad 7(2)(a)(ii) hepgorwch “grant-maintained school, a grant-maintained special school or a”.

(5Yn Atodlen 1, yn lle is-baragraff (2) o baragraff 1 rhowch—

  • The results of teacher assessment of the pupil’s level in the attainment targets in English entitled ‘Speaking and Listening’, ‘Reading’ and ‘Writing’, and in the attainment targets in Welsh entitled ‘Oral (Speaking, Viewing and Listening)’, ‘Reading’ and ‘Writing’..

(6Yn Atodlen 2, yn is-baragraff (2) o baragraff 1 hepgorwch y geiriau o “and by NC tests” i ddiwedd yr is-baragraff hwnnw, a hepgorwch y cyfan o is-baragraff (5) o'r paragraff hwnnw.

(7Yn Atodlen 3, yn is-baragraff (1) o baragraff 1 yn lle “Welsh Office” rhowch “National Assembly for Wales”.

(8Yn Atodlen 3, yn is-baragraff (2) o baragraff 1 yn lle “shown (in every case) both as determined by teacher assessment and by NC tests”, rhowch “as determined by teacher assessment”, a hepgorwch is-baragraff (5) o'r paragraff hwnnw.

Llofndowyd ar ran Cynulliad Cenedlethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)

Rhodri Morgan

Prif Ysgrifennydd y Cynulliad Cenedlaethol

14 Ionawr 2002

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Cyraeddiadau Disgyblion Unigol) (Gwybodaeth) (Cymru) 1997 er mwyn tynnu darpariaethau sy'n ymwneud â phrofion o'r enw “standard task assessments” — gweler rheoliad 2(1) — (3), (5) — (6) ac (8). Arferai'r profion hynny gael eu rhoi i ddisgyblion 7 oed ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 1 o'r Cwricwlwm Cenedlaethol, ond cawsant eu diddymu o 2002 ymlaen — gweler Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Trefniadau Asesu ar gyfer Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cyfnod Allweddol 1) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/45 (Cy.4)). Maent hefyd yn dileu cyfeiriad at ysgolion a gynhelir â grant ac ysgolion arbennig a gynhelir â grant (nad ydynt yn bodoli mwyach) ac yn rhoi cyfeiriad at “the National Assembly for Wales” yn lle cyfeiriad at “the Welsh Office” — gweler rheoliadau 2(4) a (7).

(1)

1996 p.56. Diwygiwyd adran 408 gan baragraff 30(a) o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997 (p.44) a chan baragraff 106 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31); ac fe'i diwygiwyd gan baragraff 57 o Atodlen 9 i Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21). I gael ystyr “regulations” a “prescribed” gweler adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996.

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill