xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn, a wnaed yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn rhoi effaith gydag addasiadau i gynigion gan Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru. Effaith y cynigion hynny fydd bod yr ardaloedd yng nghymuned Llandudoch yn Sir Ceredigion (a ddangoswyd â llinellau croes duon ac a farciwyd A ar fap ffiniau A ac a ddangoswyd â llinellau croes duon ac a farciwyd B ar fap ffiniau B, y cyfeirir atynt yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn) yn cael eu trosglwyddo o Sir Ceredigion i Sir Benfro ar ôl i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.

Cafodd printiau o'r mapiau ffiniau eu hadneuo a gellir eu harchwilio yn ystod oriau swyddfa arferol yn swyddfeydd Cyngor Sir Ceredigion ym Mhenmorfa, Aberaeron, Ceredigion; Cyngor Sir Penfro yn Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro a swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd (Yr Is-adran Moderneiddio Llywodraeth Leol).

Mae Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 (fel y'u diwygiwyd) y cyfeirir atynt yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn cynnwys darpariaethau cysylltiedig, canlyniadol, trosiannol ac atodol ynghylch effaith gorchmynion megis y gorchymyn hwn a'u gweithredu.