xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
28.—(1) Rhaid i'r person cofrestredig, ar ran awdurdod lleoli plentyn, gadw cofnod ar ffurf adroddiad mewn perthynas â phob plentyn sy'n cael ei letya yn y cartref plant, a hwnnw—
(a)yn cynnwys yr wybodaeth, y dogfennau a'r cofnodion a bennir yn Atodlen 3 mewn perthynas â'r plentyn hwnnw;
(b)yn cael ei gadw yn gyfoes; ac
(c)yn cael ei lofnodi a'i ddyddio gan awdur pob cofnod ysgrifenedig.
(2) Rhaid peidio â datgelu'r cofnod a grybwyllir ym mharagraff (1) i unrhyw berson ac eithrio yn unol â'r canlynol—
(a)unrhyw ddeddfiad yr awdurdodir cael gweld cofnodion o'r fath odano; neu
(b)unrhyw orchymyn llys sy'n awdurdodi cael gweld cofnodion o'r fath.
(3) Rhaid i'r cofnod a grybwyllir ym mharagraff (1)—
(a)cael ei gadw'n ddiogel yn y cartref plant gyhyd ag y bo'r plentyn y mae'n ymwneud ag ef yn cael ei letya yno; a
(b)cael ei ddanfon wedi hynny i awdurdod lleoli'r plentyn(1).
(4) Rhaid i'r person cofrestredig gadw y cofnod a bennir yn Atodlen 4 yn y cartref plant neu, os yw'r cartref yn cau, rhaid iddo ei gadw mewn man arall a threfnu iddo fod ar gael i'w archwilio gan y Cynulliad Cenedlaethol, os bydd yn gofyn amdano.
(5) Rhaid cadw cofnod y cyfeirir ato ym mharagraff (4) am o leiaf bymtheng mlynedd o ddyddiad y cofnodiad diwethaf, ac eithrio cofnodion am fwydlenni, y mae angen eu cadw am flwyddyn yn unig.
(6) Nid yw'r rheoliad hwn na rheoliad 29 yn rhagfarnu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys darpariaeth mewn is-ddeddfwriaeth) nac unrhyw reol gyfreithiol am gofnodion neu wybodaeth.
29.—(1) Os bydd unrhyw un o'r digwyddiadau a restrir yng ngholofn 1 o'r tabl yn Atodlen 5 yn digwydd mewn perthynas â chartref plant, rhaid i'r person cofrestredig yn ddi-oed hysbysu'r personau a nodir mewn perthynas â'r digwyddiad yng ngholofn 2 o'r tabl.
(2) Dim ond os yw'n angenrheidiol y mae'n rhaid i hysbysiad o dan baragraff (1) gynnwys enw plentyn.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig yn ddi-oed hysbysu rhiant unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref o unrhyw ddigwyddiad arwyddocaol sy'n effeithio ar les y plentyn oni bai nad yw'n rhesymol ymarferol gwneud hynny neu y byddai'n rhoi lles y plentyn mewn risg.
(4) Rhaid i unrhyw hysbysiad a roddir yn unol â'r rheoliad hwn ac a roddir ar lafar gael ei gadarnhau yn ysgrifenedig.
O dan Reoliadau Trefniadau ar gyfer Lleoli Plant (Cyffredinol) 1991 (O.S. 1991/890), rhaid i'r awdurdod cyfrifol mewn perthynas â phlentyn sydd wedi'i leoli mewn cartref plant ddal eu gafael ar eu cofnodion achos (sy'n cynnwys unrhyw adroddiad yn eu meddiant ynghylch lles y plentyn) am bymtheg a thrigain o flynyddoedd ar ôl marwolaeth y plentyn neu, os yw'r plentyn yn marw cyn cyrraedd deunaw oed, am bymtheng mlynedd o ddyddiad y farwolaeth.