xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
PRIFFYRDD, CYMRU
Wedi'u gwneud
17 Rhagfyr 2002
Yn dod i rym
1 Ionawr 2003
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gweithfeydd Stryd (Ffioedd Archwilio) (Diwygio) (Cymru) 2002 ac maent yn dod i rym ar 1 Ionawr 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
2. Yn rheoliad 3(1) o Reoliadau Gweithfeydd Stryd (Ffioedd Archwilio) (Diwygio) 1992(3) amnewidir am y ffigur “£15.50” yno y ffigur “£20”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
17 Rhagfyr 2002
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cynnydd o £15.50 i £20 yn y ffi sy'n daladwy gan ymgymerwyr am archwiliadau o'u gwaith gan awdurdodau lleol yng Nghymru o dan reoliad 3(1) o Reoliadau Gweithfeydd Stryd (Ffioedd Archwilio) 1992 (O.S.1992/1688).
Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru: gweler Erthygl 2 o Orchymyn Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.
O.S. 1992/1688; diwygiwyd rheoliad 3(1) gan O.S. 1998/978 ac O.S. 2001/ 2681 (Cy.222 ).