xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 1796 (Cy.171)

CEFN GWLAD, CYMRU

Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Mapiau Dros Dro a Therfynol) (Cymru) 2002

Wedi'u gwneud

9 Gorffennaf 2002

Yn dod i rym

1 Awst 2002

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 11 a 44 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000(1) drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Mapiau Dros Dro a Therfynol) (Cymru) 2002 ac maent yn dod i rym ar 1 Awst 2002.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn:

(2Yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae unrhyw gyfeiriad at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn, ac mae unrhyw gyfeiriad mewn rheoliad at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y pargraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y rheoliad hwnnw.

(3Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod sy'n cael ei ddatgan yn y Rheoliadau hyn yn gyfnod o ddyddiad penodol, nid yw'r dyddiad hwnnw i'w gynnwys ac os yw'r diwrnod neu'r diwrnod olaf y mae'n ofynnol gwneud rhywbeth arno o dan y Rheoliadau hyn, neu'n unol â hwy, yn ddydd Sul, yn Ddydd Nadolig, yn ddydd Gwener y Groglith, yn ŵ yl banc neu'n ddiwrnod sydd wedi'i bennu ar gyfer diolchgarwch neu alar cyhoeddus, bernir bod y gofyniad yn ymwneud â'r dydd cyntaf ar ôl hynny nad yw'n un o'r dyddiau uchod.

Ffurf mapiau dros dro

3.—(1At ddibenion cyflawni ei ddyletswydd i ddyroddi map dros dro o dan adran 5(d) neu (e) o'r Deddf, neu at unrhyw ddiben sy'n gysylltiedig â hynny, gall y Cyngor gynhyrchu a chyhoeddi copïau o'r map dros dro hwnnw ar unrhyw ffurf, gan gynnwys ffurf electronig, y mae'n penderfynu arni a bernir bod unrhyw gopi o'r fath a gyhoeddir gan y Cyngor neu gyda'i awdurdod yn union yr un fath â'r map dros dro oni ddangosir i'r gwrthwyneb.

(2Gall y Cyngor, er mwyn dangos bodolaeth a maint y tir adran 4(2) a ddangosir ar un neu ragor o fapiau dros dro, ac er mwyn trefnu bod copïau archwilio o'r map dros dro ar gael yn unol â rheoliad 4(2)(a) a (b), neu er mwyn cydymffurfio â chais o'r math y cyfeirir ato yn rheoliad 4(3)(d), gynhyrchu a chyhoeddi copïau o fapiau dros dro sy'n dangos y tir adran 4(2) hwnnw, a gallant fod ar raddfa sy'n llai nag 1:10,000 ond nid yn llai na 1:25,000.

(3Rhaid i gopïau o fapiau dros dro a gynhyrchir o dan baragraff (1):

(a)ddangos yn glir y dosbarthiadau o dir adran 4(2) a'r nodweddion eraill sy'n cael eu nodi, yn unol â rheoliadau 3(6) a 7(3) o'r Rheoliadau Mapiau Drafft, ar y map dros dro maent yn gopïau ohono, trwy ddefnyddio gwahanol liwiau, cysgodiad, llinellau a symbolau, ond nid oes angen i'r lliwiau (os oes rhai), cysgodiad, llinellau neu symbolau eraill a ddefnyddir i wneud hynny fod yn union yr un fath â'r rhai a ddefnyddir at y diben hwnnw ar y map dros dro hwnnw; a

(b)beidio â chael eu hystyried fel tystiolaeth o gynnwys y mapiau dros dro hynny.

Dyroddi mapiau dros dro

4.—(1Cymerir bod y Cyngor wedi cyflawni ei ddyletswydd yn unol ag adran 5(d) neu (e) o'r Ddeddf (fel y digwydd) i ddyroddi map dros dro pan fydd gyntaf yn cyhoeddi hysbysiad dyroddi'r map dros dro hwnnw yn unol â pharagraff (2)(c) o'r rheoliad hwn.

(2Nid oes hawl gan y Cyngor gyhoeddi hysbysiad dyroddi map dros dro nes ei fod:

(a)wedi gwneud unrhyw drefniadau sydd o fewn ei bŵ er i sicrhau bod copi o'r map dros dro hwnnw, ac, os cafodd y map drafft y'i seiliwyd arno ei gadarnhau gydag addasiadau, copi o'r datganiad addasiad map drafft, ar ffurf brintiedig ac, os yw'n bosibl, ar ffurf electronig, ar gael i'w archwilio gan aelodau o'r cyhoedd ar bob adeg resymol (yn ddarostyngedig, yn achos archwilio mewn swyddfeydd heblaw swyddfeydd ei hun, i unrhyw ofyniad ar gyfer gwneud apwyntiadau i wneud hynny a fynnir gan yr awdurdod perthasol) drwy gydol y cyfnod apêl:

(i)ym mhencadlys y Cyngor a swyddfa leol y Cyngor, sef y swyddfa agosaf at yr ardal y mae'r map dros dro yn ymwneud â hi heb gynnwys unrhyw swyddfa nad yw'n agored yn ystod oriau swyddfa arferol; a

(ii)ym mhencadlys pob awdurdod lleol perthnasol a phob awdurdod Parc Cenedlaethol perthnasol, os o gwbl;

(b)wedi anfon copi o'r map dros dro hwnnw, ynghyd ag unrhyw ddatganiad addasiad map dros dro sy'n perthyn iddo, naill ai ar ffurf brintiedig ar raddfa nad yw'n llai nag 1:25,000 neu, os yw'r Cyngor a'r sawl sydd i'w dderbyn yn cytuno, ar ffurf electronig, ynghyd â hysbysiad sy'n cynnwys yr union wybodaeth â'r hyn y mae'n ofynnol ei chynnwys yn hysbysiad dyroddi'r map dros dro hwnnw, i bob un o'r cyrff a bennir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn ac i unrhyw bersonau eraill y mae'n barnu eu bod yn briodol;

(c)wedi cyhoeddi'r hysbysiad dyroddi'r map dros dro hwnnw mewn o leiaf un papur newydd dyddiol sy'n cylchredeg drwy'r rhan gyfan honno o Gymru sy'n cynnwys yr ardal y mae'r map dros dro hwnnw yn ymwneud â hi ac unrhyw bapurau newydd neu gyhoeddiadau eraill y mae'n barnu eu bod yn briodol;

(ch)wedi anfon copi o hysbysiad dyroddi'r map dros dro hwnnw i bob un o'r llyfrgelloedd cyhoeddus a restrir yn Atodlen 2, gyda chais iddo gael ei arddangos i'r cyhoedd yn y llyfrgell honno;

(d)wedi anfon at y Cynulliad Cenedlaethol gopi o hysbysiad dyroddi'r map dros dro hwnnw ac wedi hysbysu'r Cynulliad Cendlaethol pryd ac ym mha bapur newydd y mae'n bwriadu cyhoeddi'r hysbysiad.

(3Rhaid i hysbysiad dyroddi map dros dro:

(a)nodi'r ardal y mae'r map dros dro yn ymwneud â hi;

(b)datgan a gafodd y map drafft y mae'r map dros dro yn perthyn iddo ei gadarnhau gydag addasiadau ai peidio;

(c)datgan mai effaith y map dros dro, yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau a wneir o ganlyniad i apeliadau sy'n ymwneud ag ef, yw dangos y darnau o dir adran 4(2) y bydd gan y cyhoedd y gallu i ymarfer yr hawl mynediad o dan adran 2 o'r Ddeddf, pan ddaw'r adran honno i rym, mewn perthynas â hwy, yn ddarostyngedig i'r eithriadau a'r cyfyngiadau y mae'r Ddeddf yn darparu ar eu cyfer;

(ch)datgan y gall unrhyw berson y mae ganddo fuddiant mewn unrhyw dir a ddangosir ar y map hwnnw fel tir comin cofrestredig neu fel tir agored, cyn diwedd cyfnod a bennir yn yr hysbysiad, sef cyfnod yn gorffen heb fod yn llai na thri mis ar ôl y dyddiad y cyhoeddwyd yn gyntaf hysbysiad dyroddi'r map dros dro hwnnw yn unol â pharagraff 2(c), apelio at y Cynulliad Cenedlaethol yn erbyn dangos y tir hwnnw ar y map fel tir comin cofrestredig neu dir agored, trwy anfon neu fynd â ffurflen apêl at y Cynulliad Cenedlaethol fel y bydd yn cael ei dderbyn gan y Cynulliad Cenedlaethol o fewn y cyfnod hwnnw;

(d)rhoi manylion o sut y gall person sy'n dymuno dod ag apêl felly gael hyd i ffurflen apêl;

(dd)datgan cyfeiriad y Cynulliad Cenedlaethol y dylid anfon neu fynd â ffurflen apêl iddo;

(e)rhoi manylion o sut y gall aelodau o'r cyhoedd archwilio'r map dros dro a'r datganiad addasiad map drafft, os cadarnhawyd y map draff y mae'r map dros dro yn perthyn iddo gydag addasiadau;

(f)datgan y gall unrhyw berson y mae ganddo fuddiant mewn unrhyw dir a ddangosir ar y map dros dro hwnnw fel tir adran 4(2), drwy gais ysgrifenedig i'r Cyngor sy'n nodi natur y buddiant hwnnw a'r tir y mae'n ymwneud ag ef, ac sy'n dod i law'r Cyngor cyn diwedd y cyfnod apêl, ei gwneud hi'n ofynnol i'r Cyngor ddarparu i'r person hwnnw, yn rhad ac am ddim, un copi o'r map dros dro neu o ddarn o'r map dros dro sy'n dangos y tir y mae'r cais yn ymwneud ag ef ac, os cafodd y rhan o'r map dros dro sy'n dangos y tir y mae'r cais yn ymwneud ag ef ei gadarnhau gydag addasiadau, gopi o'r datganiad addasiad map drafft neu o'r rhan ohono sy'n ymwneud â'r cais, a bod raid i'r copi neu'r copïau hynny fod ar ffurf brintiedig neu, os yw'r Cyngor a'r person hwnnw yn cytuno, ar ffurf electronig;

(ff)datgan y cyfeiriad y dylid anfon unrhyw gais o dan is-baragraff (f) ato.

(4Gall unrhyw hysbysiad sy'n cael ei gyhoeddi yn unol â pharagraff 2(c) neu sy'n cael ei anfon yn unol â pharagraff (2)(ch), yn ychwanegol at unrhyw wybodaeth y mae'n ofynnol ei chynnwys o dan baragraff (3), gynnwys unrhyw wybodaeth bellach y gŵ el y Cyngor yn dda.

Dyletswydd gyffredinol i roi gwybod i'r cyhoedd am ddarpariaethau mapiau dros dro

5.—(1Rhaid i'r Cyngor ystyried unrhyw gamau sy'n rhesymol er mwyn rhoi gwybod i'r cyhoedd am ddarpariaethau mapiau dros dro a rhoi'r camau hynny ar waith a rhaid iddo ystyried yn benodol a yw'n ddymunol:

(a)rhoi ar gael yn ystod y cyfnod dros dro, cyhyd â'i bod yn ymarferol, wybodaeth a fydd yn cael ei chyhoeddi ar unrhyw wefan y mae'n ei chynnal ar y rhyngrwyd sydd:

(i)yn cyfateb i'r hyn sy'n cael ei ddangos ar fapiau dros dro, ond yn cael ei arddangos trwy gyfrwng mapiau ar raddfa llai; a

(ii)yn cynnwys yr hyn sy'n cael ei gynnwys mewn unrhyw ddatganiadau addasiad map drafft sy'n ymwneud â hwy; a

(b)tynnu sylw'r rhai y mae'n ymddangos bod ganddynt fuddiant mewn tir a ddangosir fel tir adran 4(2) ar fap dros dro, drwy ba ddull bynnag sy'n briodol, y ffaith bod y map hwnnw wedi'i ddyroddi ac ym mhle y gellir ei archwilio.

(2Ni fydd y ddyletswydd sy'n cael ei gosod o dan baragraff (1) yn rhagfarnu dyletswyddau'r Cyngor o dan reoliad 4 ond ni fydd unrhyw fethiant ar ran y Cyngor i gyflawni'r ddyletswydd sy'n cael ei gosod gan baragraff (1) mewn perthynas â map dros dro yn annilysu dyroddi'r map dros dro hwnnw gan y Cyngor neu unrhyw gamau eraill y mae'n ofynnol i'r Cyngor neu'r Cynulliad Cenedlaethol eu cymryd o dan y Rheoliadau hyn.

Apeliadau gan bersonau y mae ganddynt fuddiant mewn tir sy'n cael ei gynnwys ar fap dros dro

6.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), ni all apêl gael ei gychwyn ond trwy anfon neu fynd â ffurflen apêl sydd wedi'i chwblhau at y Cynulliad Cenedlaethol fel ei bod yn dod i law cyn diwedd y cyfnod apêl.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3) gall apêl hefyd gael ei gychwyn trwy anfon neu fynd â ffurflen apêl wedi'i chwblhau fel ei bod yn dod i law ar ôl diwedd y cyfnod apêl os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried nad oedd hi'n rhesymol ymarferol i'r apelydd gydymffurfio â gofynion paragraff (1) ar yr amod bod y ffurflen apêl wedi'i chwblhau yn dod i law o fewn pa gyfnod bynnag ar ôl diwedd y cyfnod apêl y barna'r Cynulliad Cenedlaethol ei fod yn rhesymol.

(3Nid yw paragraph (2) yn gymwys i ffurflen apêl sy'n dod i law'r Cynulliad Cenedlaethol ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r Cyngor o dan reoliad 7(1) mewn perthynas â map dros dro neu darn o fap dros dro sy'n cynnwys y tir y mae'r ffurflen apêl yn ymwneud ag ef.

(4Os bydd person sy'n dymuno cychwyn apêl yn anfon datganiad ysgrifenedig o'r dymuniad hwnnw at y Cynulliad Cenedlaethol neu yn mynd ag ef ato, fel ei fod yn dod i law cyn diwedd y cyfnod apêl, bernir bod ffurflen apêl wedi'i chwblhau wedi dod i law cyn diwedd y cyfnod apêl, os bydd y person hwnnw yn anfon neu yn mynd ag un at y Cynulliad Cenedlaethol o fewn pa gyfnod bellach bynnag y bydd y Cynulliad Cenedlaethol trwy hysbysiad ysgrifenedig yn pennu.

(5Rhaid i ffurflen apêl wedi'i cwblhau gynnwys yr wybodaeth ganlynol:

(a)Enw, cyfeiriad a chod post yr apelydd;

(b)digon o fanylion am y tir y mae'r apêl yn ymwneud ag ef i wneud hi'n bosibl i adnabod y tir hwnnw, gan gynnwys copi o'r map dros dro neu ddarn ohono gyda ffiniau'r tir hwnnw wedi'u marcio arno'n glir;

(c)y manylion hynny a fydd yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol a'r Cyngor i ddeall seiliau'r apêl, a'r rheiny'n seiliau sydd o fewn adran 6(3)(a) neu (b) o'r Ddeddf;

(ch)natur buddiant yr apelydd yn y tir y mae'r apêl yn ymwneud ag ef;

(d)a yw'r apelydd yn dymuno cael ei glywed gan berson a apwyntiwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn cysylltiad â'r apêl (yn hytrach na bod yr apêl yn cael ei benderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig) ac, os felly, a yw'n dymuno cael ei glywed mewn ymchwiliad lleol neu, fel arall, mewn gwrandawiad.

(6Gall ffurflen apêl fod yn Gymraeg neu Saesneg ond os yw'r apelydd yn dymuno i'r apêl gael ei thrin yn gyfan gwbl neu'n rhannol trwy gyfrwng un o'r ddwy iaith heblaw'r un y mynegir yr hysbysiad apêl ynddi, dylai cais i'r perwyl hwnnw gael ei gynnwys yn yr hysbysiad apêl neu gael ei amgáu gyda'r hysbysiad.

Paratoi mapiau i'w dyroddi fel mapiau terfynol

7.—(1Os bydd pob apêl o dan adran 6 o'r Ddeddf a gychwynwyd yn unôl â rheoliad 6, mewn perthynas â:

(a)map dros dro; neu,

(b)os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn bwriadu cyfarwyddo'r Cyngor o dan adran 9(3) neu 9(4) o'r Ddeddf i ddyroddi rhan o fap dros dro fel map ar ffurf derfynol, rhan felly o fap dros dro,

naill ai wedi eu penderfynu neu wedi eu tynnu'n ôl, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r Cyngor o'r ffaith hwnnw.

(2Rhaid i'r Cyngor, pan fydd wedi derbyn hysbysiad o dan baragraff (1), ac yn unol â:

(a)unrhyw addasiad i fap dros dro y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi ei fynnu yn unol ag adran 6(4)(a) o'r Ddeddf;

(b)unrhyw gyfarwyddyd gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 9(3) neu 9(4) o'r Ddeddf y dylid dyroddi fel map terfynol fap sy'n cyfateb i ran o ardal map dros dro; a

(c)unrhyw benderfyniad gan y Cyngor o dan adran 9(1) neu 9(2) o'r Ddeddf y dylid dyroddi fel map terfynol fap sy'n cyfateb i ran o ardal map dros dro;

baratoi map neu fapiau sy'n seiliedig ar y map dros dro hwnnw, neu'r rhan honno o fap dros dro, y mae'r hysbysiad o dan baragraff (1) yn ymwneud ag ef, ar gyfer ei ddyroddi fel map terfynol yn unol ag adran 9(1), (2), (3) neu (4) (fel y digwydd).

Dyroddi mapiau terfynol

8.—(1Cymerir bod y Cyngor wedi cyflawni ei ddyletswydd yn unol ag adran 9(1), (2), (3) neu (4) o'r Ddeddf (fel y digwydd) i ddyroddi map terfynol pan fydd gyntaf yn cyhoeddi hysbysiad dyroddi'r map dros dro hwnnw yn unol â pharagraff (2)(ch) o'r rheoliad hwn.

(2Nid oes hawl gan y Cyngor gyhoeddi hysbysiad dyroddi map dros dro nes ei fod:

(a)wedi gwneud trefniadau ar gyfer cadw ym mhencadlys y Cyngor gopi printiedig o'r map terfynol wedi ei arnodi gyda datganiad mai ef yw'r copi o'r map terfynol a gedwir at ddibenion yr is-baragraff hwn;

(b)wedi gwneud unrhyw drefniadau sydd o fewn ei bŵ er i sicrhau bod copi o'r map terfynol hwnnw, ar ffurf brintiedig ac, os yw'n bosibl, ar ffurf electronig, ar gael i'w archwilio gan aelodau o'r cyhoedd ar bob adeg resymol (yn ddarostyngedig, yn achos archwilio mewn swyddfeydd heblaw swyddfeydd ei hun, i unrhyw ofyniad ar gyfer gwneud apwyntiadau i wneud hynny a fynnir gan yr awdurdod perthasol) drwy gydol y cyfnod apêl:

(i)ym mhencadlys y Cyngor a swyddfa leol y Cyngor, sef y swyddfa agosaf at yr ardal y mae'r map dros dro yn ymwneud â hi heb gynnwys unrhyw swyddfa nad yw'n agored yn ystod oriau swyddfa arferol; a

(ii)yn ystod y cyfnod o flwyddyn sy'n dechrau ar y dyddiad y dyroddwyd y map terfynol arno, ym mhencadlys pob awdurdod lleol perthnasol a phob awdurdod Parc Cenedlaethol perthnasol, os o gwbl;

(c)wedi anfon copi o'r map terfynol hwnnw, naill ai ar ffurf brintiedig ar raddfa nad yw'n llai nag 1:25,000 neu, os yw'r Cyngor a'r sawl sydd i'w dderbyn yn cytuno, ar ffurf electronig, ynghyd â hysbysiad sy'n cynnwys yr union wybodaeth â'r hyn y mae'n ofynnol ei gynnwys yn hysbysiad dyroddi'r map terfynol, i bob un o'r cyrff a bennir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn ac at unrhyw bersonau eraill y mae'n barnu eu bod yn briodol;

(ch)wedi cyhoeddi'r hysbysiad dyroddi'r map terfynol hwnnw, sy'n cydymffurfio â gofynion paragraff (3), mewn o leiaf un papur newydd dyddiol sy'n cylchredeg drwy'r rhan gyfan honno o Gymru sy'n cynnwys yr ardal y mae'r map terfynol hwnnw yn ymwneud â hi ac unrhyw bapurau newydd neu gyhoeddiadau eraill y mae'n barnu eu bod yn briodol;

(d)wedi anfon copi o hysbysiad dyroddi'r map terfynol hwnnw i bob un o'r llyfrgelloedd cyhoeddus a restrir yn Atodlen 2, gyda chais iddo gael ei arddangos i'r cyhoedd yn y llyfrgell honno;

(dd)wedi anfon at y Cynulliad Cenedlaethol gopi o'r map terfynol (neu os nad yw yn cael ei anfon drwy ddull electronig, ddau gopi) ynghyd â chopi o'r hysbysiad dyroddi sy'n ymwneud ag ef.

(3Rhaid i hysbysiad dyroddi map terfynol:

(a)nodi'r ardal y mae'r map terfynol yn ymwneud â hi;

(b)datgan mai effaith y map terfynol yw dangos y darnau o dir adran 4(2) y bydd gan y cyhoedd y gallu i ymarfer yr hawl mynediad o dan adran 2 o'r Ddeddf, pan ddaw'r adran honno i rym, mewn perthynas â hwy, yn ddarostyngedig i'r eithriadau a'r cyfyngiadau y mae'r Ddeddf yn darparu ar eu cyfer;

(c)rhoi manylion am sut y gall aelodau o'r cyhoedd archwilio copi o'r map terfynol a datgan mai trwy wneud apwyntiad o flaen llaw yn unig y gallant wneud hynny petaent yn dymuno gwneud hynny ar ôl diwedd y cyfnod o flwyddyn sy'n dechrau ar y dyddiad y dyroddwyd y map terfynol arno;

(ch)datgan y gall unrhyw berson, trwy gais ysgrifenedig at y Cyngor, fynnu i'r Cyngor ddarparu ar gyfer y person hwnnw un copi o'r map terfynol neu o ddarn o'r map terfynol sy'n ymwneud â rhan penodedig o'r map y mae'r cais yn ymwneud ag ef, sef copi neu gopïau y mae'n rhaid iddynt fod ar ffurf brintiedig neu, os yw'r Cyngor a'r person hwnnw yn cytuno, ar ffurf electronig;

(d)datgan bod dyletswydd y Cyngor i ddarparu copi o'r dogfennau a gyfeirir atynt yn is-baragraff (ch) yn ddyletswydd:

(i)yn achos cais ysgrifenedig gan berson sydd â buddiant mewn unrhyw dir a ddangosir ar y map terfynol fel tir adran 4(2), lle bo'r cais hwnnw yn nodi natur y buddiant hwnnw a'r tir y mae'n ymwneud ag ef, ac ar yr amod na wnaed cais blaenorol gan y person hwnnw, i ddarparu un copi o'r map neu ddarn ohono yn rhad ac am ddim; a

(ii)ym mhob achos arall, i ddarparu copi felly ar ôl derbyn tâl o ba bynnag ffi y mae'r Cyngor yn hawlio'n rhesymol;

(dd)datgan y cyfeiriad y dylid anfon unrhyw gais o dan is-baragraff (ch) iddo;

(e)datgan y dyddiad y dyroddwyd y map terfynol arNo.

(4Gall unrhyw hysbysiad sy'n cael ei gyhoeddi yn unol â pharagraff (2)(ch) neu sy'n cael ei anfon yn unol â pharagraff (2)(d), yn ychwanegol at unrhyw wybodaeth y mae'n ofynnol ei chynnwys o dan baragraff (3), gynnwys unrhyw wybodaeth bellach y gŵ el y Cyngor yn dda.

Dyletswydd gyffredinol i roi gwybod i'r cyhoedd am ddarpariaethau mapiau terfynol

9.—(1Rhaid i'r Cyngor ystyried unrhyw gamau sy'n rhesymol er mwyn rhoi gwybod i'r cyhoedd am gynnwys mapiau terfynol a rhoi'r camau hynny ar waith a rhaid iddo ystyried yn benodol a yw'n ddymunol:

(a)rhoi ar gael, cyhyd â'i bod yn ymarferol, wybodaeth a fydd yn cael ei chyhoeddi ar unrhyw wefan y mae'n ei chynnal ar y rhyngrwyd sydd yn cyfateb i'r hyn sy'n cael ei ddangos ar fapiau terfynol, ond yn cael ei arddangos trwy gyfrwng mapiau ar raddfa llai; a

(b)tynnu sylw'r rhai y mae'n ymddangos bod ganddynt fuddiant mewn tir a ddangosir fel tir adran 4(2) ar fap terfynol, drwy ba ddull bynnag sy'n briodol, at y ffaith bod y map hwnnw wedi'i ddyroddi ac ym mhle y gellir ei archwilio.

(2Ni fydd y ddyletswydd sy'n cael ei gosod o dan baragraff (1) yn rhagfarnu dyletswyddau'r Cyngor o dan reoliad 8, ond ni fydd unrhyw fethiant ar ran y Cyngor i gyflawni'r ddyletswydd sy'n cael ei gosod gan baragraff (1) mewn perthynas â map terfynol yn annilysu dyroddi'r map terfynol hwnnw gan y Cyngor neu unrhyw gamau eraill y mae'n ofynnol i'r Cyngor neu'r Cynulliad Cenedlaethol eu cymryd o dan y Rheoliadau hyn.

Yr hawl i archwilio ac i dderbyn copïau

10.  Lle bo gofyniad o dan y Rheoliadau hyn i'r Cyngor hysbysu unrhyw berson y gall dogfen gael ei harchwilio gan y person hwnnw neu fod yn rhaid darparu dogfen ar gyfer y person hwnnw yna, os bydd y person hwnnw wedi cydymffurfio ag unrhyw amod y mae'r gofyniad hwnnw yn ddarostyngedig iddo, rhaid i'r Cyngor rhoi effaith i'r gofyniad hwnnw.

Dogfennau ar ffurf electronig a defnydd o ddulliau electronig o gyfathrebu

11.—(1Rhaid i unrhyw fap neu ddogfen y mae'r Rheoliadau hyn yn awdurdodi neu yn gorchymyn y dylid eu paratoi, eu dyroddi neu eu rhoi ar gael ar gyfer cael eu harchwilio, ar ffurf electronig, fedru gael eu hadgynhyrchu ar ffurf brintiedig.

(2Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaethau o'r Rheoliadau hyn sy'n dynodi neu yn awdurdodi'r dull y mae'n rhaid ei ddefnyddio ar gyfer anfon map neu ddogfen arall o un person at berson arall, gall unrhyw ddogfen, gan gynnwys un y mae'r Rheoliadau hyn yn mynnu ei bod ar ffurf ysgrifenedig, gael ei hanfon, fel dull amgen i unrhyw ddull arall, drwy gyfrwng cyfathrebu electronig, ar yr amod bod gan y person sy'n anfon y ddogfen sail resymol i gredu y daw'r ddogfen i sylw'r person yr anfonir hi ato, mewn ffurf ddarllenadwy, o fewn amser rhesymol.

Diwygio'r Rheoliadau Mapiau Drafft

12.—(1Mae'r Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Mapiau Drafft) (Cymru) 2001(4) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn nhestun Saesneg Atodlen 1, dilëwch y geiriau “National Park authorities in Wales” ac, ar y llinell nesaf i lawr o'r geiriau “Ramblers' Association”, mewnosodwch y geiriau “relevant National Park authorities”.

(3Mae'r diwygiad a wneir gan baragraff (2) i effeithio'n unig ar fap drafft a ddyroddir ar y diwrnod y daw'r Rheoliadau hyn i rym neu ar ôl hynny.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)

John Marek

Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

9 Gorffennaf 2002

Rheoliadau 4(2)(b) a 8(2)(c)

ATODLEN 1CYRFF I GAEL EU HYSBYSU YN UNOL Å RHEOLIADAU 4(2)(b) AC 8(2)(c)

Rheoliadau 4(2)(ch) ac 8(2)(d)

ATODLEN 2LLYFRGELLOEDD CYHOEDDUS Y DYLID ANFON HYSBYSIAD IDDYNT YN UNOL Å RHEOLIAD 4(2)(ch) AC 8(2)(d)

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

O dan adran 11 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (“y Ddeddf”), gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) ddarparu, trwy reoliadau, y gweithdrefnau sydd i'w dilyn wrth baratoi mapiau a fydd yn dangos tir y bydd gan y cyhoedd hawl mynediad drosto, sef tir comin cofrestredig a thir agored y bydd hawl mynediad y cyhoedd o dan adran 2 o'r Ddeddf yn perthyn iddo.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer darparu a dyroddi mapiau mewn ffurfiau dros dro a therfynol (y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau hyn fel “mapiau dros dro” a “mapiau terfynol”).

Mae map dros dro yn fap a ddyroddwyd fel map drafft yn unol â Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Mapiau Drafft) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/4001) (Cy.329) (“y Rheoliadau Mapiau Drafft”), sydd wedi ei gadarnhau gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru (“y Cyngor”) gyda diwygiadau neu hebddynt ac sydd wedi ei ddyroddi mewn ffurf dros dro o dan adran 5(d) neu (e) o'r Ddeddf.

Mae Rheoliad 3 yn gosod allan y gweithdrefnau a'r gofynion ar gyfer paratoi mapiau dros dro gan y Cyngor o dan Rhan I o'r Ddeddf, gan gynnwys darpariaeth am ffurf a graddfa mapiau dros dro a'r gallu i baratoi a chyhoeddi copïau ar raddfeydd gwahanol, lle bo hynny'n briodol.

Mae Rheoliad 4 yn sefydlu gweithdrefnau ar gyfer dyroddi a chyhoeddi map dros dro. Pan fydd yn dyroddi map dros dro, rhaid i'r Cyngor hysbysu'r cyrff a restrir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn, i ddanfon hysbysiad i'r llyfrgelloedd cyhoeddus a restir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn ac i gyhoeddi hysbysiad o ddyroddi'r map dros dro yn y wasg.

Mae Rheoliad 5 yn rhoi dyletswydd ar y Cyngor i roi cyhoeddusrwydd cyffredinol i ddarpariaethau mapiau dros dro.

Mae Rheoliad 6 yn gosod allan y weithdrefn y mae'n rhaid i berson ddilyn os yw am gychwyn apêl yn erbyn dangos tir ar fap dros dro fel tir comin cofrestredig neu fel tir agored. Mae'r gweithdrefnau manwl sydd i'w dilyn wrth benderfynu apêl, ar ôl iddo gael ei gychwyn, yn cael eu cynnwys yn Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Gweithdrefnau Apêl) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/1794) (Cy.169).

Mae Rheoliadau 7 i 9 yn gosod allan y gweithdrefnau a'r gofynion ar gyfer paratoi, dyroddi a chyhoeddi mapiau terfynol gan y Cyngor.

Mae Rheoliad 10 yn delio gyda'r amryw ofynion a osodir ar y Cyngor o dan y Rheoliadau sy'n ymwneud ag archwilio mapiau a dogfennau eraill a chyflenwi copïau.

Mae Rheoliad 11 yn gwneud darpariaeth ar gyfer defnyddio dulliau cyfathrebu electronig at ddibenion y Rheoliadau.

Mae Rheoliad 12 yn gwneud mân ddiwygiad i'r Rheoliadau Mapiau Drafft sy'n ymwneud â'r cyrff y mae'n rhaid ymgynghori a hwy mewn perthynas â mapiau drafft.

(1)

2000 p.37. Mae adran 45(1) yn diffinio “regulations” yn Rhan I o'r Ddeddf (mewn perthynas â Chymru) fel rheoliadau a wnaed gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.