xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LLYWODRAETHU YSGOLION

PENNOD 2HYFFORDDIANT I LYWODRAETHWYR A CHLERCOD A DARPARU CLERCOD

22Gwybodaeth a hyfforddiant i lywodraethwyr ysgolion a gynhelir

(1)Rhaid i awdurdod lleol yng Nghymru sicrhau y darperir, yn rhad ac am ddim, i bob llywodraethwr unrhyw wybodaeth y mae'r awdurdod lleol yn barnu ei bod yn briodol mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau llywodraethwr.

(2)Mae'r ddyletswydd hon yn gymwys i'r graddau nad yw'n ofynnol fel arall i'r awdurdod lleol sicrhau bod y cyfryw wybodaeth yn cael ei darparu.

(3)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol yng Nghymru sicrhau y darperir, yn rhad ac ddim, hyfforddiant rhagnodedig i lywodraethwyr rhagnodedig ysgolion a gynhelir.

(4)Caniateir i hyfforddiant gael ei ragnodi drwy gyfeirio at ddogfen a gyhoeddir, fel a bennir yn y rheoliadau, gan Weinidogion Cymru.

(5)Nid yw gofynion rheoliadau o dan is-adran (3) yn lleihau effaith y ddyletswydd a ganlyn.

(6)Rhaid i awdurdod lleol yng Nghymru sicrhau bod unrhyw hyfforddiant y mae'n barnu ei fod yn angenrheidiol yn cael ei roi ar gael i bob llywodraethwr, yn rhad ac am ddim, er mwyn i swyddogaethau'r llywodraethwr gael eu cyflawni'n effeithiol.

(7)Yn yr adran hon, ystyr “llywodraethwr” yw llywodraethwr ysgol a gynhelir yn ardal yr awdurdod lleol.

(8)Yn adran 22 o Ddeddf Addysg 2002, ar ôl “authority” mewnosoder “in England”.

23Dyletswydd awdurdodau lleol i ddarparu clercod i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir

(1)Rhaid i awdurdod lleol yng Nghymru hysbysu, o dro i dro, bob corff y mae'n ofynnol iddo benodi clerc i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yn ardal yr awdurdod lleol o dan adran 23 o Ddeddf Addysg 2002 y caiff y corff hwnnw ofyn i'r awdurdod ddarparu person i'w benodi'n glerc.

(2)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol yng Nghymru ddarparu person i'w benodi os gwneir cais.

(3)Caiff y rheoliadau (ymhlith pethau eraill)—

(a)rhoi pŵer i awdurdod lleol godi ffi am ddarparu person (gan gynnwys pŵer i godi ffioedd gwahanol mewn achosion gwahanol);

(b)rhagnodi'r person y mae'n rhaid i'r ffi gael ei thalu drwyddo;

(c)darparu ar gyfer eithriadau ac esemptiadau.

24Hyfforddiant i glercod cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys mewn perthynas â chorff y mae'n ofynnol iddo benodi clerc i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru o dan adran 23 o Ddeddf Addysg 2002.

(2)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i'r corff sicrhau bod person a benodir yn glerc wedi cwblhau hyfforddiant rhagnodedig yn ôl safon ragnodedig.

(3)Caiff y rheoliadau—

(a)gwahardd penodi person nad yw wedi cwblhau'r hyfforddiant yn ôl y safon ofynnol;

(b)darparu bod person a benodwyd yn glerc, ac nad yw wedi cwblhau'r hyfforddiant, yn cwblhau'r hyfforddiant yn ôl y safon ofynnol o fewn cyfnod rhagnodedig;

(c)darparu ar gyfer terfynu penodiad clerc nad yw'n cwblhau'r hyfforddiant yn ôl y safon ofynnol o fewn y cyfnod hwnnw;

(d)rhagnodi hyfforddiant a safonau drwy gyfeirio at ddogfen a gyhoeddir, fel a bennir yn y rheoliadau, gan Weinidogion Cymru;

(e)darparu ar gyfer eithriadau ac esemptiadau.

25Dyletswydd awdurdodau lleol i sicrhau bod hyfforddiant ar gael i glercod

(1)Rhaid i awdurdod lleol yng Nghymru sicrhau bod unrhyw hyfforddiant y mae'r awdurdod yn barnu ei fod yn angenrheidiol yn cael ei roi ar gael i bob person sy'n cael ei benodi'n glerc i alluogi'r corff a benododd y clerc o dan adran 23 o Ddeddf Addysg 2002 i gydymffurfio ag unrhyw ofyniad o dan adran 24 o'r Mesur hwn.

(2)Caiff awdurdod lleol yng Nghymru godi ffi am unrhyw hyfforddiant a ddarperir (a chaiff godi ffioedd gwahanol mewn achosion gwahanol).

(3)Yn yr adran hon, ystyr “clerc” yw clerc i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yn ardal yr awdurdod lleol.