Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011

6Goruchwylwyr ar gludiant i ddysgwyrLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

Ar ôl adran 14E o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder—

14FGoruchwylwyr ar gludiant i ddysgwyr

(1)Caiff rheoliadau ddarparu ar gyfer goruchwylio dysgwyr sy'n defnyddio cludiant i ddysgwyr a ddarperir neu a sicrheir fel arall gan gorff perthnasol.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) (ymhlith pethau eraill)—

(a)rhoi pwerau i gorff perthnasol neu osod dyletswyddau arno;

(b)darparu ynghylch hyfforddiant i bersonau sy'n goruchwylio dysgwyr..

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 6 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 16(2)