Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

169Y weithdrefn sy'n gymwys i orchymyn cyfunoLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru gydymffurfio â'r adran hon cyn gwneud gorchymyn cyfuno i roi effaith i gynigion i gyfansoddi ardal llywodraeth leol newydd drwy gyfuno dwy neu dair o ardaloedd llywodraeth leol presennol (“y cynigion”).

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—

(a)yr awdurdodau lleol ar gyfer yr ardaloedd llywodraeth leol yr effeithir arnynt gan y cynigion,

(b)y cynghhorau cymuned yn yr ardaloedd llywodraeth leol yr effeithir arnynt gan y cynigion, ac

(c)unrhyw bersonau eraill (os oes rhai) y mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn debygol yr effeithir arnynt gan y cynigion.

(3)Os bydd Gweinidogion Cymru, yn dilyn yr ymgynghori hwnnw, yn dymuno bwrw ymlaen â'r cynigion, rhaid iddynt osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddogfen sydd—

(a)yn esbonio'r cynigion,

(b)yn eu nodi ar ffurf gorchymyn drafft, ac

(c)yn rhoi manylion yr ymgynghori o dan is-adran (2).

(4)Ni chaniateir i unrhyw ddrafft o orchymyn cyfuno i roi effaith i'r cynigion (“y gorchymyn drafft terfynol”) gael ei osod gerbron y Cynulliad yn unol ag adran 172(2)(b) tan ar ôl i'r cyfnod o 60 niwrnod, sy'n dechrau ar y diwrnod y cafodd y ddogfen ynglŷn â'r cynigion ei gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan is-adran (3), ddirwyn i ben.

(5)Wrth gyfrifo'r cyfnod a grybwyllwyd yn is-adran (4) rhaid peidio ag ystyried unrhyw amser pryd y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i ddiddymu neu wedi cymryd saib am fwy na phedwar diwrnod.

(6)Wrth baratoi'r gorchymyn drafft terfynol, rhaid i Weinidogion Cymru ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y cyfnod a grybwyllwyd yn is-adran (4).

(7)Os caiff y gorchymyn drafft terfynol ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 172(2)(b), rhaid bod gyda'r gorchymyn ddatganiad gan Weinidogion Cymru sy'n rhoi manylion—

(a)unrhyw sylwadau a ystyriwyd yn unol ag is-adran (6), a

(b)unrhyw newidiadau a wnaed i'r cynigion a oedd wedi eu cynnwys yn y ddogfen a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan is-adran (3) ac y mae effaith wedi ei rhoi iddynt yn y gorchymyn drafft terfynol.

(8)Nid oes dim yn yr adran hon sy'n gymwys i orchymyn o dan adran 162 sydd wedi ei wneud yn unswydd at y diben o ddiwygio gorchymyn cynharach o dan yr adran honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 169 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)