Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

RHAN 2DARPARIAETHAU ERAILL SY'N GYMWYS PAN FO REFFERENDWM YN OFYNNOL

Cynigion amlinellol wrth gefn rhag ofn y gwrthodir newid mewn refferendwm

9(1)Mae'r paragraff hwn yn gymwys i awdurdod lleol os gweithrediaeth maer a chabinet yw'r ffurf arfaethedig ar weithrediaeth (a'i bod yn unol â hynny'n ddarostyngedig i gymeradwyaeth mewn refferendwm).

(2)Rhaid i'r awdurdod lleol lunio amlinelliad o'r cynigion wrth gefn (“cynigion amlinellol wrth gefn”) y mae'n bwriadu eu rhoi ar waith os gwrthodir y cynigion i newid i weithrediaeth maer a chabinet mewn refferendwm, a rhaid iddo'i gymeradwyo drwy benderfyniad.

(3)Cynigion yw cynigion wrth gefn ar gyfer gwneud newid i drefniadau gweithrediaeth sy'n darparu ar gyfer gweithrediaeth arweinydd a chabinet (Cymru).

(4)Mae paragraff 2(2) yn gymwys i'r cynigion amlinellol wrth gefn fel y mae'n gymwys i gynigion o dan y paragraff hwnnw.

(5)Rhaid i'r cynigion amlinellol wrth gefn gynnwys amserlen mewn cysylltiad â rhoi ar waith (yn unol â pharagraff 11) gynigion manwl wrth gefn os digwydd na chymeradwyir newid i weithrediaeth maer a chabinet yn y refferendwm.

(6)Rhaid i'r awdurdod lleol gydymffurfio ag is-baragraff (2) ar yr adeg y mae'n cydymffurfio â pharagraff 2(1).

(7)Rhaid i'r awdurdod lleol anfon copi o'r cynigion amlinellol wrth gefn y mae wedi eu cymeradwyo at Weinidogion Cymru.

(8)Rhaid i'r awdurdod lleol gydymffurfio ag is-baragraff (7) ar yr adeg y mae'n cydymffurfio â pharagraff 2(3).

Camau gweithredu os gwrthodir newid mewn refferendwm

10(1)Mae'r paragraff hwn yn gymwys i awdurdod lleol—

(a)os gweithrediaeth maer a chabinet yw'r ffurf arfaethedig ar weithrediaeth, a

(b)os nad yw'r ffurf arfaethedig yn cael ei chymeradwyo yn y refferendwm ar newid i'r ffurf honno ar weithrediaeth.

(2)Rhaid i'r awdurdod lleol gyhoeddi hysbysiad—

(a)sy'n crynhoi cynigion yr awdurdod lleol a oedd yn destun y refferendwm,

(b)sy'n datgan bod refferendwm ar gynigion yr awdurdod lleol wedi gwrthod y cynigion hynny,

(c)sy'n nodi cynigion amlinellol wrth gefn yr awdurdod lleol, a

(d)sy'n datgan bod yr awdurdod, o dan y cynigion amlinellol wrth gefn, yn bwriadu gweithredu gweithrediaeth arweinydd a chabinet (Cymru).

(3)Rhaid i'r awdurdod lleol gydymffurfio ag is-baragraff (2) cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl y refferendwm.

(4)Rhaid i'r awdurdod lleol lunio cynigion manwl wrth gefn sy'n seiliedig ar y cynigion amlinellol wrth gefn, a rhaid iddo eu cymeradwyo drwy benderfyniad.

(5)Mae paragraffau 2(2), 3 a 7(2) a (3) yn gymwys i'r cynigion manwl wrth gefn fel y maent yn gymwys i gynigion o dan baragraff 2.

(6)Rhaid i'r awdurdod lleol anfon copi o'r cynigion manwl wrth gefn at Weinidogion Cymru.

(7)Rhaid i'r awdurdod lleol gydymffurfio ag is-baragraff (6) o fewn y cyfnod o dau fis sy'n dechrau ar ddiwrnod y refferendwm.

Yr amserlen ar gyfer rhoi ar waith gynigion manwl wrth gefn

11Mae'n rhaid i'r amserlen mewn cysylltiad â rhoi ar waith y cynigion manwl wrth gefn fod yn un sy'n sicrhau bod yr awdurdod lleol yn newid i weithrediaeth arweinydd a chabinet (Cymru) cyn pen y cyfnod o chwe mis sy'n dechrau ar y diwrnod y mae'r awdurdod lleol yn anfon copi o'r cynigion at Weinidogion Cymru, a heb fod yn hwyrach na hynny.

Rhoi ar waith gynigion manwl wrth gefn

12Rhaid i'r awdurdod lleol roi ar waith ei gynigion manwl wrth gefn yn unol â'r amserlen sydd wedi ei chynnwys yn y cynigion.